Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@siryfflint.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

49.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

50.

Cofnodion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlygodd y Cynghorydd Sean Bibby wall ar dudalen 6 y cofnodion a bod angen newid ‘Nant Y Gro’ i ‘Nant Y Coed’.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad a restrir uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024 fel cofnod cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi.

51.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.

 

Awgrymodd un newid, sef bod yr adroddiad ar Gyllideb Cronfa’r Cyngor 2025/26 yn cael ei ddwyn ymlaen a’i gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith; 

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c         Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

52.

Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2 2023) a’r wybodaeth ddiweddaraf am Diffyg Atgyweirio Tai (HDR) pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am y Safonau Gosod Eiddo Gwag a chostau diffyg atgyweirio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a’r Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r Safonau Ansawdd Tai Cymru newydd (SATC 2 2023), y safonau gosod eiddo gwag a rhwymedigaethau’r Cyngor mewn perthynas â chyflawni’r safonau newydd.

 

Cytunwyd y byddai copi o’r ohebiaeth i denantiaid yngl?n â’r broses o adrodd am ddiffyg atgyweirio a’r risgiau i denantiaid wrth benodi cyfreithiwr ar sail ‘dim llwyddiant/dim ffi’ yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau er gwybodaeth a hefyd yn cael ei ychwanegu at dudalen cyfryngau cymdeithasol y Cyngor

 

Byddai’r argymhellion a’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen buddsoddi cyfalaf yng ngham nesaf ei chyflwyno wrth symud tuag at gydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru a’r gofynion newydd wedi’u diweddaru; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwasanaeth Asedau Tai i barhau i reoli protocol Diffyg Atgyweirio Tai ar ran y Cyngor, gan sicrhau bod y rhwymedigaethau a roddir ar y Cyngor yn cael eu bodloni.

53.

Darparu llety Safle Tramwy ar gyfer y Gymuned Sipsiwn Roma Teithwyr yn Sir y Fflint pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Diweddaru ar ddarparu safle tramwy priodol yn Sir y Fflint a fframio rhai o'r heriau a'r ystyriaethau sydd eu hangen i fodloni'r gofynion statudol nawr ac yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a’r Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth Gynllunio adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) ar y cyd a oedd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu safle tramwy priodol yn Sir y Fflint ac yn amlinellu rhai o’r heriau a’r ystyriaethau gofynnol i fodloni’r gofynion statudol yn awr ac yn y dyfodol.

 

Byddai’r argymhellion a’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig yn cynnwys darpariaeth ar gyfer safle tramwy ar raddfa fach yn Sir y Fflint.

54.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Dlodi Bwyd pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo a’r gwaith sydd wedi ei gynllunio mewn perthynas â maes blaenoriaeth tlodi bwyd.  A hefyd amlygu’r rôl gadarnhaol mae Sir y Fflint wedi ei chwarae wrth ddatblygu partneriaethau, cefnogi sefydliadau eraill a hwyluso gweithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith presennol a chynlluniedig i ymateb i faes blaenoriaeth tlodi bwyd.   Amlygodd yr adroddiad y rôl gadarnhaol yr oedd Sir y Fflint wedi ei chwarae wrth ddatblygu partneriaethau, cefnogi sefydliadau eraill a hwyluso gweithredu.

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Brockley am restr o Ganolfannau Croeso Cynnes a Chanolbwyntiau Cymunedol ar draws y sir, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ddosbarthu’r ddolen i wefan y Cyngor lle’r oedd y wybodaeth hon yn cael ei dangos a’i diweddaru i Aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Byddai’r argymhellion a’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd y gwaith mewn perthynas â mynd i’r afael â thlodi bwyd yn Sir y Fflint; a 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi defnyddio’r gronfa wrth gefn a glustnodwyd er mwyn parhau i ddarparu’r rhaglen tlodi bwyd hyd at fis Mawrth 2026.

55.

Cofrestr Risgiau Gorfforaethol pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        I adolygu Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol a’r Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) a oedd yn amlinellu’r broses o nodi ac asesu risgiau, gwerthuso eu canlyniad posibl, a’u lliniaru i sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu cyflawni.  Y nod oedd lleihau difrifoldeb eu canlyniad a pha mor debygol ydyn nhw o ddigwydd pan fo modd.

 

Cytunwyd bod yr adborth canlynol gan y Pwyllgor yn cael ei basio ymlaen at y Tîm Perfformiad:-

 

  • Dim ond risgiau sy’n berthnasol i’r Pwyllgor y dylid eu cyflwyno mewn adroddiadau yn y dyfodol; a
  • Bod y risg - RCF09 - Buddsoddiad Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai - yn cael ei hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai a Chymunedau a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod adroddiad Cofrestr Risgiau Gorfforaethol y Cyngor, yn enwedig y risg

RHC09 – Adnoddau i Gwrdd â Rhwymedigaethau Digartrefedd, yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau yngl?n â’r trefniadau ar waith i reoli risg RHC09 – Adnoddau i Gwrdd â Rhwymedigaethau Digartrefedd.

 

56.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28) 2024/25 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Adolygu a monitro perfformiad canol blwyddyn y Cyngor, gan gynnwys camau gweithredu a mesurau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) a oedd yn darparu crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2024/25 ar ganol y flwyddyn (Chwarter 2).  Roedd yr adroddiad hwn yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau oedd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2024/25;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion / mesurau perfformiad Cynllun y Cyngor 2024/25; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

57.

Rheoli Cartrefi Gwag pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio (eitem rhif 10 ar y rhaglen).

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad.

58.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.