Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant y Cyngor. |
|||
Pwrpas: I Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Mehefin a 17 Gorffennaf.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith bresennol a’r dogfennau OlrhainCamauGweithredu.
Cynghorodd yr Hwylusydd y byddai’r adroddiadau blynyddol canlynol yn cael eu hychwanegu i’r Rhaglen Waith yn y cyfarfod:-
Gofynnodd y Cynghorydd Helen Brown i ychwanegu’r adroddiadau canlynol i’r Rhaglen Waith er ystyriaeth y Pwyllgor yng nghyfarfodydd y dyfodol:-
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w cwblhau.
|
|||
Pwrpas: Cyflwyno’r diweddariad gweithredol diweddaraf ar gasglu rhent tai ac amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Adennill Dyled Corfforaethol i gryfhau’r broses orfodi rhent. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael adroddiad ar ddiweddariad gweithredol ar gyfer cyfraddau casglu rhent tai, gan gynnwys sefyllfa derfynol diwedd blwyddyn rhent 2023/24, a safle presennol 2024/25.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Helen Brown, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i siarad â’r Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) yn dilyn cyfarfod i drafod pa setiau data ynghylch colledion Treth y Cyngor y gellir eu darparu mewn adroddiadau diweddaru yn y dyfodol.
Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael, Dave Barnes i ddarparu dadansoddiad o ddiddymiadau hefyd, a fyddai’n cynnwys gwybodaeth o’r rhesymau am y diddymiadau mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dale Selvester, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i adolygu pa setiau data y gellir eu darparu ynghylch effaith ariannol o beidio casglu cyfraddau d?r erbyn hyn.
Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cynghorydd Dale Selvester, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i ddarparu dadansoddiad dienw o rhai o’r achosion o ôl-ddyledion uchaf mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd darparu enghraifft o Gontract Tenantiaeth i’r Pwyllgor. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) i ddarparu hyn yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi sefyllfa derfynol diwedd blwyddyn 2023/24 a’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer casgliadau rhent 2024/25.
|
|||
Costau Byw a Diwygio’r Gyfundrefn Les PDF 206 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r gwaith sy’n cael ei wneud i liniaru’r effeithiau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) adroddiadi ddarparu gwybodaeth am effeithiau Diwygio’r Gyfundrefn Les, a’r argyfwng costau byw ar breswylwyr, a’r ystod o fesurau sy’n cael eu gweithredu i helpu’r sawl a effeithir arnynt er mwyn ceisio, pan fo’n bosibl, lliniaru’r effeithiau negyddol.
Argymhellodd y Cynghorydd Helen Brown argymhelliad ychwanegol, sef llythyr gan y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, i’w anfon at y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn gofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i dynnu’r dreth ystafell wely greulon, a fyddai’n tynnu pobl allan o’r argyfwng costau byw.
Yn dilyn cwestiwn am y lwfans tanwydd gaeaf, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) y byddai’n anfon dolen i wefan y Cyngor yn dangos gwybodaeth a lleoliadau canolfannau clyd ledled y Sir i’r Pwyllgor, ar ôl y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les a’r argyfwng costau byw yn eu cael, ac y byddant yn parhau i’w cael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru a’r Cyngor i liniaru'r effeithiau
(c) Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn gofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i dynnu’r dreth ystafell wely greulon, a fyddai’n tynnu pobl allan o’r argyfwng costau byw.
|
|||
Pwrpas: Ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023-24, gan nodi perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2023-24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Perfformiad Busnes yr adroddiad sy’n nodi dadansoddiad o berfformiad y Cyngor yn erbyn Amcanion Lles, Blaenoriaethau, ac is flaenoriaethau ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 Cynllun y Cyngor (2023-28). Roedd Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn darparu crynodeb o berfformiad hefyd, mewn perthynas â meysydd canolbwyntio eraill y Cyngor, h.y. Gweithgarwch Partneriaeth a Chydweithio, yn ogystal â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24, wedi’i gyfuno ag adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24, gan nodi’r perfformiad a gyflawnwyd.
|
|||
Rheoli Cartrefi Gwag PDF 128 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad. |
|||
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: None. |