Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel Tenant y Cyngor. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Waith bresennol i’w hystyried gan sôn am y diwygiadau canlynol a oedd wedi’u gwneud ers y cyfarfod diwethaf:-
Mewn perthynas â chamau heb eu cwblhau o’r cyfarfodydd blaenorol, dywedodd yr Hwylusydd bod llythyr yn gofyn, ar lefel genedlaethol, i Lywodraeth Cymru (LlC) annog rhieni i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim wedi cael ei anfon i Lywodraeth Cymru ac y byddai copi o’r ymateb yn cael ei ddosbarthu ar ôl ei dderbyn. Roedd yr holl gamau a oedd yn ymwneud â’r Gofrestr Tai Cyffredin (Un Llwybr Mynediad at Dai - ULlMaD) wedi cael eu cwblhau.
Cytunodd yr Hwylusydd i ddosbarthu copi o’r llythyr a anfonwyd i Lywodraeth Cymru, at yr Aelod Cabinet yn dilyn y cyfarfod.
Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer dderbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Kevin Rush y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith.
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu heb eu cwblhau. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru: Gwasanaethau Digartrefedd – Cyngor Sir y Fflint PDF 103 KB Pwrpas: Rhannu canfyddiadau adolygiad Archwilio Cymru ar Atal Digartrefedd yng Nghyngor Sir y Fflint gyda’r Pwyllgor a cheisio cymeradwyaeth i ddarparu ymateb sefydliadol ffurfiol i Archwilio Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad a oedd yn amlinellu proses yr adolygiad gan Archwilio Cymru ac yn rhannu’r canfyddiadau yn eu hargymhellion ar gyfer y Cyngor yngl?n â’r dull lleol ar gyfer digartrefedd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu ymateb y Cyngor i’r argymhellion hynny.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal broses adolygu Archwilio Cymru a oedd yn cynnwys adolygu dogfennau, cyfweliadau gydag uwch swyddogion allweddol ac Aelodau Etholedig, a grwpiau ffocws gyda staff rheng flaen sy’n uniongyrchol gysylltiedig â darparu gwasanaethau digartrefedd. Roedd canfyddiadau cyffredinol yr arolwg fel a ganlyn: roedd y Cyngor yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, ond nid oedd hyn yn gynaliadwy gyda’r lefel bresennol o gyllid.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal y tri argymhelliad ar gyfer y Cyngor yn dilyn yr adolygiad o Wasanaethau Digartrefedd yn Sir y Fflint, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd ymateb y Cyngor i adroddiad Archwilio Cymru a’r tri argymhelliad ynghlwm wrth Atodiad 2 yr adroddiad.
Canmolodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio yr adroddiad cadarnhaol a dderbyniwyd er gwaethaf yr amgylchedd heriol presennol.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin swyddogion ar adroddiad cadarnhaol. Soniodd am y diffyg eiddo ar gael i letya pobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref ond dywedodd bod y Tîm Gwasanaethau Digartrefedd yn gwneud gwaith ardderchog o ystyried y cyfyngiadau yr oeddent yn eu hwynebu.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi adroddiad Archwilio Cymru ar Wasanaethau Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint; a
(b) Cefnogi’r ymatebion awgrymedig i argymhellion Archwilio Cymru. |
|
Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Phobl sy'n Cysgu Allan a'r Polisi Digartrefedd PDF 153 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad blynyddol am y gwaith sy’n cael ei wneud i leihau digartrefedd a’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu i bobl sy’n cysgu allan, ynghyd â’r Polisi Digartrefedd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i gynnig cipolwg ar ddigartrefedd a phobl sy’n cysgu allan ar gyfer 2023 a oedd yn cynnwys fersiwn ddrafft o’r Polisi Llety Digartrefedd er mwyn adolygu a chymeradwyo.
Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal ddiweddariad manwl ar y Gwasanaeth Digartrefedd Statudol. Dywedodd fod dyletswyddau’r Awdurdod Lleol wedi’u hamlinellu yn Rhan 2 Deddf Tai Cymru 2014, o ran atal digartrefedd a rheoli digartrefedd pan oedd yn digwydd. Yn adran 6 yr adroddiad roedd gwybodaeth am y dyletswyddau o fewn y ddeddfwriaeth (Eich Helpu i Ddeall Deddf Tai Cymru 2014).
Mewn perthynas â chyllid, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal, er bod swm sylweddol o’r cyllid wedi cael ei ddarparu ar gyfer gweithgarwch atal drwy’r Grant Cymorth Tai, nid oedd modd ariannu gwasanaethau statudol drwy’r Grant Cymorth Tai. Felly, Cronfa'r Cyngor oedd prif ffynhonnell y cyllid ar gyfer darparu gwasanaethau digartrefedd statudol.
Mae’r galw am wasanaethau yn parhau i fod yn uchel a chyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn amlinellu data a oedd yn ymwneud â’r canlynol:-
Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal ddiweddariad manwl ar heriau’r farchnad dai, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at y tabl a amlinellwyd yn Atodiad 1 yn dangos yr amserlen perygl o ddigartrefedd. Mewn perthynas â phobl sy’n cyflwyno eu hunain fel rhai ‘digartref ar y diwrnod’, gofynnodd a oedd y bobl hynny eisoes yn hysbys i’r Cyngor, er enghraifft, a oeddent wedi cysylltu gyda’r Cyngor o’r blaen ac yn awr wedi cyrraedd sefyllfa dai nad oedd yn gallu parhau. Cyfeiriodd hefyd at y tabl a oedd wedi’i amlinellu yn Atodiad 1 a oedd yn dangos y galwadau digartrefedd brys y tu allan i oriau a gofynnodd a oedd dadansoddiad wedi cael ei gynnal o pam yr oedd rhai misoedd yn waeth na’i gilydd .
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod y gwasanaeth yn gweithredu’n rhagweithiol gyda data ac yn gweithio gyda’r gwasanaeth TG i wella systemau a swyddogaethau adrodd. Roedd dadansoddiad pellach o ganran y bobl a oedd yn cyflwyno eu hunain fel rhai ‘digartref ar y diwrnod’ yn cael ei gynnal a fyddai’n cynorthwyo’r gwasanaeth yn y dyfodol. Mewn perthynas â’r data ar alwadau digartrefedd brys y tu allan i oriau, roedd canfyddiad y gallai tywydd poeth waethygu tensiynau o fewn cartrefi, ac roedd y hysbys bod adroddiadau o gam-drin domestig yn aml yn cynyddu yn ystod twrnameintiau chwaraeon, lle’r oedd cyfraddau yfed alcohol yn cynyddu hefyd. Roedd angen dadansoddiad pellach o’r data hwn i gael gwell dealltwriaeth o’r amrywiadau mewn niferoedd yn ystod misoedd gwahanol.
Gwnaeth yr Aelod Cabinet sylw am y data a oedd yn ddefnyddiol ac wedi galluogi data cymharol gyda gweddill Cymru. Cytunodd bod y data deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru yn flaengar a dywedodd ei bod ... view the full Cofnodion text for item 79. |
|
Diweddariad am y System Trefnu Adnoddau Deinamig PDF 792 KB Pwrpas: Rhoi trosolwg a diweddariad ar y System Trefnu Adnoddau Deinamig, y newidiadau a wnaed i’r gwasanaeth yn ystod camau profi’r cyfnod peilot a’r mesurau newydd sydd wedi’u rhoi ar waith i wella bodlonrwydd cwsmeriaid yn gyffredinol o ran y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg a diweddariad ar y meddalwedd System Cofrestru Adnoddau Deinamig, y newidiadau a wnaed i’r gwasanaeth yn ystod camau profi’r cyfnod peilot a’r mesurau newydd a roddwyd ar waith i wella cyfraddau bodlonrwydd cwsmeriaid cyffredinol o ran y gwasanaeth oedd yn cael ei ddarparu.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y gwaith a oedd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad yn ategu ac yn cyd-fynd yn llwyr â’r gwaith oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i wella’r cynnig ar-lein gan y gwasanaeth tai, i’w gwneud yn haws ac yn fwy syml i gwsmeriaid weld diffygion a rhoi gwybod am waith atgyweirio a chefnogi’r hyn mae cwsmeriaid ei eisiau – gwasanaeth apwyntiadau cyfleus i gwblhau gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd wedi cael ei gyflawni hyd yma, yn ogystal ag amlinellu cam nesaf cynllun peilot y System Cofrestru Adnoddau Dynamig.
Roedd cyfarfodydd adolygu wedi cael eu cynnal gyda’r cynllunydd arweiniol a’r gweithredwyr sy’n gweithio ar y cynllun peilot ar hyn o bryd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod hyn wedi rhoi cyfle i gael adborth ar feysydd a oedd wedi gweithio’n dda a meysydd a oedd angen gwelliannau pellach.
Croesawodd y Cynghorydd David Evans yr adroddiad a dywedodd y byddai’n ddifyr gweld sut y bydd cam nesaf y System Cofrestru Adnoddau Deinamig yn dod yn ei flaen. Gofynnodd a oedd y system hon ar gyfer y portffolio Tai yn unig neu os oedd modd i bortffolios eraill ddefnyddio’r system. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y system wedi bod yn canolbwyntio ar y gwasanaeth atgyweiriadau a chynnal a chadw, gyda’r bwriad i gyflwyno apwyntiadau archwiliadau i’r system yn ddiweddarach. Dywedodd bod y portffolio Gwasanaethau Stryd yn meddu ar ei system ei hun ond byddai gweithdai / sesiynau briffio staff i ddangos y System Cofrestru Adnoddau Deinamig yn cael eu trefnu ar gyfer bob portffolio ar draws y Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Threw yngl?n â chostau contractau, dywedodd yr Uwch Reolwr bod costau contractau wedi cael eu darparu mewn adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor ond y byddai’n cael y wybodaeth hon ac yn ei rhannu gyda’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r swyddogion am yr adroddiad a dywedodd bod hysbysu tenantiaid yngl?n â phryd y byddai gweithwyr yn ymweld â’u cartrefi i wneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn welliant cadarnhaol i’r gwasanaeth.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor gael gweld sut yr oedd y System Cofrestru Adnoddau Deinamig yn gweithio ar ôl ei gwneud yn gwbl weithredol.
Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd David Evans y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r camau peilot a’r cam nesaf ym mhrofion y System Cofrestru Adnoddau Deinamig cyn i’r Cyngor newid i System Cofrestru Adnoddau Deinamig cwbl weithredol. |
|
Rheoli Cartrefi Gwag PDF 129 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.
Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, a dywedodd fod 33 eiddo wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Amlinellodd hefyd y wybodaeth ganlynol, fel a gyflwynwyd yn y nodyn briffio:-
· Nifer yr eiddo mawr gwag · Cyfanswm nifer yr eiddo gwag a oedd wedi gostwng i 227 · Perfformiad y contractwyr presennol · Y prif resymau dros derfynu contractau
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Dave Hughes ar eiddo anodd eu gosod, awgrymodd y Rheolwr Gwasanaeth y dylid diwygio’r wybodaeth am gyfanswm yr unedau gwag mewn nodiadau briffio yn y dyfodol i ddangos faint ohonynt oedd yn rhai anodd eu gosod.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cadeirydd ar ystyried cynnwys eiddo anodd eu gosod yn yr Adolygiad o Dai Gwarchod, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai eiddo anodd eu gosod yn cael eu rhoi drwy’r matrics a gytunwyd i weld oes oedd modd eu gwella/ailwampio i gydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod eiddo galw isel yn cael eu blaenoriaethu fel rhan o’r Adolygiad o Dai Gwarchod ac y byddai adroddiad cynnydd ar yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd David Evans, os oedd y galw am eiddo yn isel ac roedd arnynt angen mân welliannau, oni ddylai’r Cyngor fynd ati i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl er mwyn gallu dyrannu’r eiddo? Dywedodd y Prif Swyddog fod y rhan fwyaf o’r eiddo galw isel yn llety gwarchod. Un o’r dewisiadau i’w hystyried oedd ail-ddynodi’r eiddo ond er mwyn gwneud hyn roedd angen cynnal proses gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod wedi adolygu’r data o’r 12 mis diwethaf ac, ar ôl rhoi ystyriaeth i’r eiddo a oedd yn anodd eu gosod, roedd nifer yr eiddo gwag wedi gostwng o 32 dros y 12 mis diwethaf. Mynegodd bryderon y byddai’n cymryd oddeutu 7 mlynedd i leihau’r ôl-groniad o eiddo gwag ar y gyfradd bresennol. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i leihau’r nifer yn gynt a pha adnoddau ychwanegol oedd eu hangen i leihau’r ôl-groniad yn sylweddol. Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am yr angen i derfynu trefniadau gydag un o’r contractwr a’r posibilrwydd o benodi contractwr arall, ond fe amlinellodd yr angen i sicrhau bod digon o staff ar gael oherwydd dim ond nifer penodol o bobl oedd yn gallu rheoli ac archwilio’r gwaith a oedd yn cael ei gyflawni. Cytunodd bod nifer yr eiddo gwag yn uchel ond roedd yn disgwyl y byddai’r nifer yn gostwng i lai na 200 erbyn yr haf a dywedodd bod y gwariant ar hyn o bryd rhwng £12,000 a £15,000 ar bob eiddo i sicrhau eu bod yn cydymffurfio cyn iddynt gael eu gosod.
Mewn ymateb i bryderon pellach a godwyd gan y Cynghorydd Evans, dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod ... view the full Cofnodion text for item 81. |
|
Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol. |