Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant y Cyngor. |
|
Pwrpas: I cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2025 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith (eitem rhif 4 ar y rhaglen) i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu oedd i’w cwblhau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w cwblhau. |
|
Asesiad o Anghenion y Farchnad Dai Leol Pwrpas: Cyflwyno’r Asesiad o Anghenion y Farchnad Dai Leol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad (eitem 5 ar y rhaglen)a oedd yn amlinellu canfyddiadau’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol.
Holodd y Cynghorydd Gillian Brockley faint a dalwyd i ARC4 i gynorthwyo gyda’r broses o ddatblygu’r Asesiad. Cytunodd Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflawni Strategol y byddai’n gwirio’r ffigwr ac yn darparu ymateb yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. |
|
Diweddariad Digartrefedd Pwrpas: Darparu diweddariad misol i'r Pwyllgor ar ystadegau digartrefedd ar draws y Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Tai ac Atal yr adroddiad misol ar ddigartrefedd (eitem rhif 6 ar y rhaglen) a oedd yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor ar y galw presennol gyda data ar gyfer llety digartrefedd a’r rhai sy’n datgan eu bod yn ddigartref.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Ted Palmer at y trosolwg o lety digartrefedd fesul mis yn Nhabl 8, a holodd faint o’r rhai a oedd mewn llety brys, y ganolfan ddigartrefedd a llety dros dro ym mis Ebrill 2024, sy’n parhau i fod yn y llety uchod ym mis Chwefror 2025. Eglurodd Uwch Reolwr Atal a Thai - Tai ac Asedau y byddai’n ymchwilio’r data ac yn darparu dadansoddiad o’r wybodaeth yn dilyn y cyfarfod.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Ted Palmer at y lleoliadau y tu allan i’r sir fesul mis, yn Nhabl 10, a holodd faint o’r rhai a oedd mewn lleoliadau y tu allan i’r sir ym mis Ebrill 2024 a oedd yn parhau i fod yn yr un lleoliad ym mis Chwefror 2025. Eglurodd Uwch Reolwr Atal a Thai - Tai ac Asedau y byddai’n ymchwilio’r data er mwyn darparu dadansoddiad yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |