Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant y Cyngor. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 13 Medi a 11 Hydref 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Medi a 11 Hydref i’w cymeradwyo.
13.09.2023
Awgrymwyd bod y gair ‘properties’ yn cael ei ddiwygio i ‘prioritised’ ym mhedwerydd paragraff tudalen 12 y cofnodion Saesneg.
Yn amodol ar y diwygiad a awgrymwyd, cafodd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Medi ac 11 Hydref 2023 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad a awgrymwyd, cymeradwyo’r cofnodion a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried a dywedodd fod y Rhaglen wedi’i diweddaru gydag adroddiadau ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, yn dilyn cyfarfod gyda’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar ôl y cyfarfod blaenorol.
O ran y gweithdy arfaethedig i’r holl Aelodau ar adsefydlu a cheisio lloches, dywedodd yr Hwylusydd fod gweithdy wedi’i drefnu ar gyfer 23 Tachwedd, 2023.
Rhoddodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol hefyd, a dywedodd fod mwyafrif y camau gweithredu wedi’u cwblhau.
Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer dderbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd David Evans y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol. |
|
Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai PDF 180 KB Pwrpas: Ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024/25 a’r Achos Busnes ar gyfer y CRT. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol - Masnachol a Thai Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25.
Cafwyd cyflwyniad manwl yn amlinellu’r meysydd canlynol:-
Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin, er ei bod yn deall bod angen cynyddu lefelau rhent, roedd hi’n pryderu am y cynnydd arfaethedig o ran costau erialau, amlinellodd y gost bresennol a dywedodd nad oedd gan ddeiliaid contract ganiatâd i gaffael eu herialau eu hunain er mwyn dod â’r costau i lawr. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Asedau nad oedd gan ddeiliaid contract ganiatâd i osod eu herialau eu hunain oherwydd bod angen cydymffurfio â rheolau iechyd a diogelwch. Roedd cost yr erial yn cynnwys pecyn eang a oedd yn cynnwys Sky, radio FM ac ati. Lluniwyd cytundeb rhwng y Cyngor a chwmni sawl blwyddyn yn ôl, a hwn oedd y mwyaf cost-effeithiol ar y bryd ar gyfer hurbwrcasu ar rent. Byddai’r contract yn dod i ben dros y blynyddoedd nesaf a byddai dewisiadau eraill yn cael eu hystyried i helpu i leihau costau. Gellid adolygu costau erialau ar wahân.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y wybodaeth a restrir yn yr adran am Safon Ansawdd Tai Cymru 2 (SATC2) a gofynnodd a oedd nifer o’r gwelliannau wedi’u cyfrif fel rhan o’r gwaith a wnaed dan Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Soniodd am y taliadau gwasanaeth a gofynnodd a oedd swyddogion yn teimlo bod tenantiaid yn cael gwerth am arian a rhoddodd enghraifft lle’r oedd pobl nad oeddent yn denantiaid yn defnyddio gwasanaethau mewn lleoliad yn ei ward. Mynegodd bryder am y cynnydd o ran rhent a oedd yn ormodol yn ei farn ef yn ystod yr argyfwng costau byw presennol ac a fyddai’n effeithio ar denantiaid sy’n gweithio’n galed nad oeddent yn gymwys i gael cymorth â budd-daliadau.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Asedau fod nifer o’r gwelliannau ar gyfer SATC2 wedi’u cynnwys yn rhaglen gynnal a chadw bresennol SATC. Byddai SATC yn canolbwyntio ar fesurau datgarboneiddio i leihau costau rhedeg i denantiaid, a byddai hyn yn cael ei ariannu trwy incwm rhent. Bu llawer iawn o fuddsoddiad mewn stoc tai dros y blynyddoedd blaenorol ond roedd LlC yn gofyn i Awdurdodau Lleol symud at waith effeithlonrwydd ynni bellach a chynhyrchu cynllun busnes i fodloni eu rhaglen datgarboneiddio. O ran taliadau gwasanaeth, cynigiwyd bod adolygiad yn cael ei gynnal ar bob ardal golchi cymunedol ar draws y Sir.
O ran y sylwadau am y cynnydd arfaethedig i renti, dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod angen cydbwyso buddsoddiad a fforddiadwyedd a dyma un o’r ... view the full Cofnodion text for item 47. |
|
Pwysau ar y Gyllideb Digartrefedd - Papur Opsiynau PDF 115 KB Pwrpas: Cyflwyno mesurau lliniaru arfaethedig sy’n cael eu harchwilio gyda’r golwg i leihau’r pwysau cyllidebol mewn perthynas â llety brys. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal adroddiad i amlinellu dewisiadau a oedd wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb digartrefedd.
Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’. Yn ogystal â’r ddarpariaeth hon yn y gyllideb ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys. Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb. Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn ffiniau Sir y Fflint a thu hwnt, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a rhandai.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, yn Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Medi 2023, argymhellwyd bod adroddiad ar wahân yn cael ei baratoi yn ôl gofynion Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, i ymhelaethu ar y rhesymau dros y gorwariant sylweddol ar y gyllideb digartrefedd a’r mesurau lliniaru a oedd yn cael eu rhoi ar waith.
Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’. Yn ogystal â’r ddarpariaeth hon yn y gyllideb ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys. Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb. Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn ffiniau Sir y Fflint a thu hwnt, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a rhandai.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod dewisiadau wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb digartrefedd, fel a ganlyn:-
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a darparu adborth am bob un o’r dewisiadau, fel a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Dewis 1
Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal am y cynigion dan ddewis 1, a oedd yn ymwneud â’r dewisiadau ar gyfer cyflymu’r adolygiad o dai gwarchod.
Codwyd nifer o bryderon am yr effaith bosibl y gallai lleihau’r trothwy oedran ei chael ar bobl ... view the full Cofnodion text for item 48. |
|
Pwrpas: Cyflwyno’r diweddariad gweithredol diweddaraf ar gasglu rhent tai ac amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Adennill Dyled Corfforaethol i gryfhau’r broses orfodi rhent. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Refeniw a Chaffael y diweddariad gweithredol diweddaraf ar gasglu rhent tai, dadansoddiad o ôl-ddyledion o fwy na £5,000 a chynigion i gryfhau'r broses adennill dyled trwy ddiwygio’r Polisi Adennill Dyledion Corfforaethol a chymryd camau trwy’r llys yn awtomatig yn erbyn deiliaid contract y mae arnynt gyfwerth â 12 wythnos o rhent heb ei dalu a/neu £1,500, ac nad oeddent yn rhoi sylw i’w taliadau rhent wythnosol a’u hôl-ddyledion.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod casglu rhent tai yn dal i fod yn faes sy’n peri risg, ond roedd cyfanswm ôl-ddyledion rhent hyd at wythnos 27 yn dod i £2.6 miliwn o’i gymharu â £2.7 miliwn yr un wythnos yn y flwyddyn flaenorol, sy’n welliant o £100,000.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cytunwyd yn ystod cyfarfod Pwyllgor mis Gorffennaf 2023 i ddarparu dadansoddiad manwl i Aelodau o’r deiliaid contract yr oedd arnynt fwy na £5,000 o rhent heb ei dalu i’r Cyngor. Dangoswyd y wybodaeth hon ym mhwynt 1.04 yr adroddiad.
O ran y Polisi Dyledion Corfforaethol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, er bod camau trwy’r llys yn cael eu cymryd fel dewis olaf, roedd angen cynyddol i fabwysiadu dull mwy masnachol i gasglu ôl-ddyledion rhent er mwyn sicrhau bod colledion wrth gasglu yn cael eu lleihau ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn nodi newidiadau arfaethedig i rannau o’r Polisi Dyledion Corfforaethol o ran casglu rhent tai. Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi o ran y trothwy ar gyfer camau cyfreithiol ar gyfer rhent tai.
Cwestiynodd y Cadeirydd nifer y tenantiaid a oedd mewn ôl-ddyledion o rhwng £200 a £500 a gofynnodd a oedd hyn yn cynnwys tenantiaid a oedd yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol. Eglurodd Swyddogion, os oedd tenantiaid yn talu bob mis trwy Ddebyd Uniongyrchol, y gallai hyn ddangos fel bod arnynt £250 ond ni fyddent mewn ôl-ddyledion, a siarad yn fras, gellid diystyru'r golofn gyntaf ar gyfer tenantiaid yr oedd arnynt rhwng £200 a £500.
Gofynnwyd cwestiynau am gostau ychwanegol cymryd camau trwy’r llys ac a ellid adennill y costau ychwanegol. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’n darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am yr atodlen o ffioedd llys ar ôl y cyfarfod.
Gwnaed sylwadau o ran a oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ffaith fod tenantiaid a gaiff eu troi allan yn dod yn ddigartref, ac yna bod rhaid darparu llety dros dro iddynt, ynghyd â’r goblygiad o ran cost sydd ynghlwm â hynny. Eglurodd Swyddogion waith y Panel Adolygu Achosion sy’n mynd trwy broses drylwyr a dim ond pan fyddai pob dewis wedi cael ystyriaeth y byddai’r Cyngor yn symud ymlaen i droi tenantiaid allan. Roedd trefniadau diogelu y tu hwnt i’r Polisi Dyledion Corfforaethol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd nad oedd unrhyw un o’r tenantiaid a gafodd eu troi allan wedi’u hailgartrefu gan y Cyngor.
Cafodd argymhelliad (a), fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Antony Wren. Cafodd argymhelliad (b) fel y’i hamlinellwyd ... view the full Cofnodion text for item 49. |
|
Pwrpas: Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai’r ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.
Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, a dywedodd fod 29 eiddo wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Amlinellodd hefyd y wybodaeth ganlynol, fel a gyflwynwyd yn y nodyn briffio:-
Fel a ofynnwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, darparodd y Rheolwr Gwasanaeth wybodaeth am nifer yr eiddo gwag newydd a faint a oedd wedi’u cwblhau yn ôl ardal dosbarth cyfalaf, fel a amlinellwyd yn y nodyn briffio.
Gan ymateb i gwestiwn am fath o eiddo, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod 5 eiddo 4 ystafell wely ar hyn o bryd, ond bod angen gwaith buddsoddi mawr, a oedd wedi achosi oedi wrth iddynt gael eu dychwelyd i’w dyrannu. Dywedodd hefyd eu bod yn parhau i gynyddu dyraniad cyflenwyr trwy reolaeth ofalus a monitro cyson.
Gan ymateb i gwestiwn o ran cynyddu nifer y contractwyr, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y fframwaith wedi’i ddatblygu ar gyfer 6 chontractwr felly ni fyddai’n bosibl cynyddu’r nifer ar hyn o bryd. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod y Sefydliad Llafur Uniongyrchol mewnol yn parhau i weithio ar 25–30 eiddo. Roedd contractwyr allanol wedi cynyddu eu llwyth gwaith o 50 eiddo gwag i 60 eiddo gwag ar gyfartaledd.
Mynegodd y Cynghorydd David Evans bryderon am nifer yr eiddo gwag heb ymyrraeth ddigon cyflym.
Awgrymodd y Cynghorydd Geoff Collett fod y Pwyllgor yn symud oddi wrth drefn o gael y nodyn briffio bob mis ac awgrymodd fod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf bob chwarter. Roedd y Cadeirydd yn teimlo bod angen parhau i fonitro nifer yr eiddo gwag bob mis, ac roedd y Pwyllgor yn cefnogi hyn.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol. |