Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Mel Buckley gysylltiad personol yn eitem rhif 7 ar y rhaglen (Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Adolygu’r Strategaeth Newid Hinsawdd yn ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned) fel trefnydd Pride y Fflint. |
|
Cynigion Cloi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Cynghorydd Allan Marshall ei resymau dros symud y cynnig i ohirio’r cyfarfod ac eiliwyd hyn gan Y Cynghorydd Ron Davies. O’i roi i bleidlais, cafodd y cynnig ei golli. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd eglurhad ar y penderfyniadau ar gyfer cofnod 27.
Er mwyn cywirdeb, cytunwyd y dylai cofnod 28 adlewyrchu na dderbyniwyd y Rhaglen Waith.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Ystyried yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) ar gynnydd gyda chamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol ynghyd â diweddariad ar lafar.
Mewn perthynas â nifer o gamau sydd heb eu cwblhau, cytunodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon i gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ddiweddaru’r ddogfen ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Diweddariad Allyriadau Carbon Cyngor Sir y Fflint 2023-24 Pwrpas: Hysbysu’r Pwyllgor ar ôl troed carbon y Cyngor ar gyfer 2023-24 yn dilyn cyflwyno data i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) ar ganlyniadau cyfrifiad ôl-troed carbon y Cyngor ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024, yn cynnwys ystadegau cymharu.
Cytunodd y Swyddog Prosiect i fynd ar ôl ymatebion gan y Gwasanaethau Stryd i’r cwestiynau canlynol (i’w cynnwys yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu):
Cytunodd y Swyddog Prosiect i anfon e-bost at y Pwyllgor hefyd gydag ymateb i gwestiwn y Cadeirydd ar gyfran y gwariant SIC na ellir ei fapio sydd â dim gwerth o allyriadau yn dychwelyd.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad, a’r cynnydd a wnaed yn y flwyddyn ddiwethaf i wella prosesau casglu data mewn perthynas ag ôl-troed carbon y Cyngor; a
(b) Bod ymatebion i’r cwestiynau a godwyd yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor. |
|
Ariannu Gweithredu Hinsawdd Pwrpas: Hysbysu’r Pwyllgor ar sut mae prosiectau hinsawdd wedi cael eu hariannu hyd yn hyn, a’r dewisiadau ar gyfer ariannu prosiectau yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) ar ariannu prosiectau newid hinsawdd hyd yma a darparu dewisiadau posibl ar gyfer prosiectau’r dyfodol i helpu’r Cyngor i ddod yn Gyngor Di-Garbon Net erbyn 2030.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Allan Marshall ar incwm tariff cyflenwi trydan ym mharagraff 1.02 yr adroddiad, byddai’r swyddog yn cysylltu â’r tîm Ynni i gadarnhau manylion penodol data ar b?er a gynhyrchir gan araeau solar ffotofoltäig a chyfraddau talu. Byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Diweddariad Adolygu Strategaeth Newid Hinsawdd Pwrpas: Diweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd presennol gyda’r adolygiad strategaeth newid hinsawdd, penawdau allweddol a negeseuon o ymgysylltiad mewnol ac allanol, a’r camau nesaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon yr adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) ar gynnydd gydag amrywiaeth o weithgareddau o fewn yr adolygiad Strategaeth Newid Hinsawdd, ynghyd â phrif benawdau, negeseuon o ymgysylltiad allanol a mewnol. Roedd y camau nesaf yn cynnwys gweithdy a awgrymwyd ym mis Chwefror i alluogi’r Pwyllgor i adolygu’r Strategaeth Ddrafft cyn ei hystyried yn ffurfiol ym mis Mawrth.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r statws a’r cynnydd gydag adolygu’r strategaeth Newid Hinsawdd, themâu a negeseuon allweddol, newidiadau arfaethedig ac amserlenni ar gyfer y strategaeth ddrafft. |
|
Diweddariad ar Ymchwiliadau Pwrpas: Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar Ymchwiliadau Llifogydd a Phensiynau’r Pwyllgor a thrafod y camau nesaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r adroddiad drafft ar Ymchwiliad y Pwyllgor i lifogydd d?r wyneb yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach yn y mis.
Ynghylch yr Ymchwiliad Pensiynau, nodwyd dyddiad dros dro o 21 Chwefror ar gyfer sesiynau tystiolaeth ar lafar. Byddai’r Cadeirydd yn cadarnhau dros e-bost i’r Pwyllgor unwaith y bydd lleoliad wedi’i gytuno arno. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Cwblhau Rhaglen Waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith bresennol i’w hystyried.
Cytunwyd y byddai’r eitemau canlynol yn cael eu cynnwys:
Cytunodd y Cadeirydd i gysylltu â Swyddogion i drefnu’r eitemau.
Ar y sail honno, cefnogwyd y Rhaglen Waith.
PENDERFYNWYD:
Bod y Rhaglen Waith yn cael ei derbyn gyda’r eitemau ychwanegol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |