Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

12.

Ymchwiliad Cyhoeddus i Lifogydd - Clywed tystiolaeth ar lafar gan D?r Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor, roedd Dominic Scott o D?r Cymru yn bresennol i ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau.  Cytunodd edrych ar faterion penodol a godwyd gan y Cynghorwyr Geoff Collett, Fran Lister/Ron Davies, David Healey a Roz Mansell a byddai’n ymateb yn unol â hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Scott am fynychu a dywedodd y byddai copi o’r adroddiad yn ymwneud â’r Ymchwiliad yn cael ei rannu.  Dywedodd Mr. Scott bod modd i Aelodau’r Pwyllgor anfon e-bost yn uniongyrchol ato gydag unrhyw faterion pellach yn hyn o beth.

13.

Cofnodion pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024 yn gofnod cywir.

14.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Ystyried yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar gynnydd y camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol a nododd fod y drydedd eitem o gyfarfod mis Mawrth wedi dod i ben.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

15.

Adolygu'r Cylch Gorchwyl pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon adroddiad ar y Cylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru.

 

Eglurwyd y byddai angen cyflwyno'r Cylch Gorchwyl i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd cyn ceisio cymeradwyaeth gan y Cyngor llawn i’w fabwysiadu'n ffurfiol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Allan Marshall anfon e-bost at y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ynghylch materion fformatio yn y Cyfansoddiad a byddai'n cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn yr e-bost.

 

Yn dilyn trafodaeth, cynigodd y Cadeirydd a'r Cynghorydd David Healey amcanion sylfaenol ychwanegol ar gyfer y Cylch Gorchwyl.  Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gyda'r awgrym i ymgorffori’r amcanion sylfaenol ychwanegol a ganlyn:

 

·         Gweithio i sicrhau cyd-gyfrifoldeb ar draws portffolios ar gyfer newid hinsawdd, gan gynnwys cynghori a chynorthwyo pwyllgorau eraill ar draws y Cyngor.

·         Ymgymryd â gwaith i liniaru effaith newid hinsawdd ar drigolion, y Cyngor a busnesau.

16.

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am statws cyfredol cynlluniau gweithredu’r rhaglen, gan gynnwys meysydd risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen - Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon adroddiad ar statws presennol cynlluniau gweithredu’r rhaglen gan gynnwys meysydd risg.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad, gan gydnabod pryderon ynghylch mynediad at gyllid i gefnogi gweithgareddau parhaus.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd cyfredol Cynlluniau Gweithredu'r Strategaeth Newid Hinsawdd, meysydd risg / agored i niwed a chamau gweithredu i liniaru'r risgiau hyn.

17.

Risg hinsawdd - Gwres Eithafol pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar effeithiau gwres eithafol a chymeradwyo’r argymhelliad er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i’r effeithiau hyn yn y cynlluniau addasu a risgiau hinsawdd lleol a rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, adroddiad ar effeithiau gwres eithafol a gofynnodd am gymeradwyaeth i argymhelliad i sicrhau ystyriaeth briodol o’r effeithiau hynny o fewn cynlluniau risg hinsawdd ac addasu lleol a rhanbarthol.

 

Cytunodd y Rheolwr Rhaglen - Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon i gyflwyno pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau:

 

·         Cyfathrebu â rhieni ar fesurau lliniaru i leihau effaith gwres eithafol ar ddysgwyr mewn ysgolion.

·         Awgrym i greu gwaharddiad ar gynnau tân mewn ardaloedd gwledig yn ystod tywydd sych.

·         Addysgu’r cyhoedd am ddatrysiadau effeithiol i fynd i’r afael â gwres eithafol mewn cartrefi heb ddefnyddio systemau aerdymheru.

·         Ystyried mesurau lleihau gwres wrth adeiladu cartrefi newydd.

·         Y posibilrwydd o ddefnyddio canolfannau cymunedol fel canolfannau oeri ar gyfer yr henoed a phobl sy’n agored i niwed yn ystod tywydd eithriadol o boeth.

 

Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith i nodi risgiau penodol o effaith gwres eithafol ar y cyhoedd ac ar wasanaethau, yn lleol ac yn rhanbarthol; a

 

(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi datblygu cynllun gweithredu i liniaru effaith y risgiau a nodwyd, yn lleol ac yn rhanbarthol.

18.

Diweddariad ar Ymchwiliadau

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar ymholiadau cyhoeddus a phenderfynu ar y camau nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai Aelodau a oedd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod yr Ymchwiliadau i Lifogydd yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Pwyllgor mewn cyfarfod anffurfiol i drafod y dystiolaeth a dderbyniwyd, cyn paratoi adroddiad ffurfiol.

 

Byddai dyddiad ar gyfer gwrando ar dystiolaeth lafar ar gyfer yr Ymchwiliad Pensiynau yn cael ei drefnu.

19.

Eitemau a Phwrpas Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 60 KB

Pwrpas:        Cwblhau Rhaglen Waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Rhaglen Waith bresennol i’w hystyried a chytunwyd ar y canlynol:

 

·         Cyfarfod mis Tachwedd - Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cerbydau fflyd a chynlluniau trosglwyddo cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV).

·         Cyfarfod mis Ionawr - Strategaeth Parcio Ceir ac astudiaeth dichonoldeb ar gyfer gosod toeau solar dros feysydd parcio.

·         Cyfarfod mis Tachwedd - ôl troed carbon y Cyngor.

·         I'w drefnu - Cyfleoedd cynhyrchu gwres gweithfeydd mwyngloddio yn Sir y Fflint a mwyngloddio plwm yn nhwnnel Milwr.

 

Atgoffodd y Cadeirydd bod disgwyl i Aelodau'r Cabinet fod yn bresennol i ateb cwestiynau ar adroddiadau yn ymwneud â'u meysydd portffolio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cytuno ar y Rhaglen Waith.

20.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.