Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

19.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

20.

Cofnodion pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Carolyn Preece a Dan Rose.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

21.

Ymgynghoriad Strategaeth Wres Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 4 MB

Pwrpas:        Trafod Strategaeth Wres Llywodraeth Cymru a chofnodi sylwadau i’w cynnwys yn yr ymateb cydlynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon, Strategaeth Gwres i Gymru Ddrafft, Llywodraeth Cymru (LlC) sydd â’r nod o ddatblygu system wresogi wedi’i datgarboneiddio i gyflawni ei dargedau sero net.   Roedd sleidiau’r cyflwyniad yn rhoi amlinelliad o’r amcanion a’r cwestiynau sy’n rhan o’r ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal ar y strategaeth ar hyn o bryd. Fe anogwyd yr Aelodau i anfon eu sylwadau at y Rheolwr Rhaglen erbyn 30 Medi, i’w cynnwys yn yr ymateb cydlynol a fyddai’n cael ei gyflwyno i LlC.

 

Mewn ymateb i’r cyfeiriad a wnaed at ddefnyddio pyllau glo segur fel ffynhonnell wres, awgrymodd y Cynghorydd Allan Marshall y gellid cynnwys echdynnu d?r o nentydd ac afonydd ar gyfer oeri d?r yn y moroedd yn yr ymateb.

 

Er bod y Cynghorydd Steve Copple yn canmol y Strategaeth ddrafft, mynegodd bryderon ynghylch lefel y cyllid sydd ei angen ar gyfer gweithredu cynlluniau. Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen sicrwydd y byddai’r mecanwaith ariannu yn rhan o’r ymateb ac y byddai mwy o wybodaeth am hyn yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor pan fyddai ar gael.

 

Canmolwyd LlC am lefel y manylder yn y ddogfen hon gan y Cadeirydd.   Siaradodd am gynlluniau gwresogi cymunedol, lle’r oedd ffioedd gwasanaeth yn cael eu pennu gan gwmnïau, a dywedodd, heb strwythur cyfreithiol a ffefrir, y gallai awdurdodau lleol ddod yn asiantiaid arweiniol gyda chefnogaeth y cyllid perthnasol. Tynnodd sylw hefyd at yr angen am eglurder o ran cyfrifoldeb am fuddsoddi i uwchraddio rhwydweithiau ynni er mwyn sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio’n briodol.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr ymatebion a gyflwynir gan yr Aelodau erbyn diwedd y mis yn cael eu casglu gan y Rheolwr Rhaglen ar gyfer llywio ymateb drafft i’w ddirprwyo i’r Cadeirydd ar ran y Pwyllgor.

 

Cynigiwyd y dull hwn gan y Cynghorydd Mared Eastwood, a ofynnodd i’r ymateb drafft gael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor, a chafodd hyn ei gefnogi.

22.

Adolygu cyfleusterau arlwyo - prydau llysieuol a gynigiwyd gan y Cynghorwyr Rose a Preece pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar y ddarpariaeth ysgol bresennol a’r gwaith parhaus gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i adolygu’r canllawiau statudol presennol ar fwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar y ddarpariaeth bresennol mewn ysgolion a’r gwaith sydd ar y gweill gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i adolygu’r canllawiau statudol presennol ar fwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir.

 

Wrth gynnig yr argymhelliad, rhoddodd y Cynghorydd Dan Rose wybodaeth gefndir ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece.

 

Mewn ymateb i sylwadau, eglurodd y Cadeirydd fod llythyr wedi’i anfon at ysgolion yn annog disgyblion i ymgysylltu â’r Pwyllgor ar faterion cyffredinol.

 

Gan gydnabod effaith allyriadau o ffermydd, dywedodd y Cynghorydd David Healey ei bod hi’n bwysig cydnabod rôl economaidd amaethyddiaeth a thynnodd sylw at enghreifftiau lleol, ac ychwanegodd y byddai ymgysylltu â ffermwyr yn helpu i gyflawni arferion cynaliadwy. Trafododd sensitifrwydd prydau ysgol a phwysigrwydd sicrhau bod modd i ddewisiadau bwyd ddiwallu anghenion pob disgybl.

 

Gan siarad o blaid cael dewis ehangach o brydau ysgol, gofynnodd y Cynghorydd Mared Eastwood sut y byddai effaith dewisiadau bwyd yn cael ei mesur. Fe ychwanegodd fod protein anifeiliaid sydd wedi’u magu yn gynaliadwy yn fwy ecogyfeillgar na phrotein planhigion, o ran maeth.

 

Holodd y Cynghorydd Steve Copple ynghylch manteision cyflwyno dewis pryd heb gig mewn ysgolion unwaith y mis ac a fyddai hyn yn fwy cost effeithiol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Cynghorydd Healey nad oedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Cabinet ac mai ei farn ef ei hun y bu iddo ei fynegi.

 

Gan fod yr argymhelliad wedi’i gynnig a’i eilio, cafodd ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r gwaith sydd ar y gweill gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i adolygu’r canllawiau statudol presennol ar fwyta’n iach mewn ysgolion a gynhelir.

23.

Gwrthbwyso carbon - plannu coed, a gynigiwyd gan y Cynghorwyr Mansell ac Ibbotson pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar statws presennol gwrthbwyso carbon o fewn asedau tir Sir y Fflint, a chefnogi datblygiad siart lif dadansoddi penderfyniad defnydd tir er mwyn rheoli ei asedau tir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon yr adroddiad ar statws presennol gwrthbwyso carbon o fewn asedau tir Sir y Fflint a cheisio cymorth i lunio siart lif dadansoddi penderfyniad defnydd tir er mwyn rheoli ei asedau tir.

 

Er bod y Cyngor wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau allyriadau carbon o’i asedau a’i wasanaethau i gefnogi’r amcan di-garbon net a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC), derbyniwyd y byddai allyriadau gweddillol o hyd na fyddai modd cael gwared arnynt. Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen drosolwg o’r cyfleoedd sy’n cael eu harchwilio gan y Cyngor ar gyfer gwrthbwyso carbon, fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Dan Rose, a siaradodd o blaid y rhaglen plannu coed. Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd y Rheolwr Rhaglen y gellid ystyried darn o dir gan y Cyngor lle mae’r brydles bresennol yn dirwyn i ben ar gyfer defnydd arall. Gan gyfeirio at adran 1.08 yn yr adroddiad a chyfradd goroesi coed chwip, cadarnhaodd bod allyriadau carbon gweithgareddau plannu newydd yn cael eu cyfrifo yn ôl arwynebedd tir at ddibenion adrodd i LlC. Mewn ymateb i’r sylwadau ar fesur effaith y carbon sy’n cael ei storio ar laswelltiroedd a dolydd, dywedodd, er nad oedd canllawiau adrodd LlC yn adlewyrchu’r ystod eang o fathau o dir ar hyn o bryd, fod hyn yn cael ei ddatblygu ar gyfer y cylch adrodd nesaf, er mwyn cael adroddiad cliriach ar ansawdd y tir y mae’n berchen arno.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Preece ynghylch posibilrwydd defnyddio tir y Cyngor i dyfu coed cywarch, a allai amsugno mwy o garbon.

 

Pan ofynnodd y Cadeirydd am y broses o gael gwared ar y tir, dywedodd y Rheolwr Rhaglen y dylid ystyried pob ased fesul achos, o ran ei nodweddion unigol er mwyn penderfynu ar y defnydd gorau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Allan Marshall at sylwadau ynghylch glaswelltir a thrafododd y posibilrwydd o dorri a phrosesu rhai lleiniau glas i’w defnyddio fel cyflyrwr pridd ar gyfer cynlluniau tai.

 

Tynnodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) sylw at yr argymhelliad a fyddai’n caniatáu ailgyflwyno’r siart lif i’r Pwyllgor yn y dyfodol.   Yna, rhoddodd enghraifft o’r ystyriaethau a’r blaenoriaethau sy’n gwrthdaro wrth ystyried defnydd arall ar gyfer tir y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o lunio siart lif dadansoddi penderfyniad defnydd tir er mwyn rheoli ei asedau tir.

24.

Diweddariad ar Ymchwiliadau

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar ymholiadau cyhoeddus a phenderfynu ar y camau nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon fod y 12 ymateb i Ymchwiliad Cronfa Bensiynau Clwyd a’r 13 ymateb i’r Ymchwiliad Llifogydd yn cael eu cynnwys mewn dwy ddogfen ar wahân i’w rhannu â’r Pwyllgor. Gofynnwyd i’r Aelodau gofio, oni bai y nodir yn wahanol, bod yr ymatebion i’w defnyddio yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus ac nad oeddent i’w rhannu’n allanol.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor adolygu’r dystiolaeth cyn ystyried y camau nesaf dros e-bost. Cytunodd â chais y Cynghorydd Copple am weithdy a dywedodd y byddai trefniadau hefyd yn cael eu cytuno dros e-bost.

25.

Eitemau a Phwrpas Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas:        Cwblhau’r Rhaglen Her yr Hinsawdd ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ystyried y rhaglen gwaith i’r dyfodol bresennol, fe awgrymwyd yr eitemau canlynol gan y Rheolwr Rhaglen:

 

·         Gwahodd y cyd-swyddog arweiniol Caffael Carbon Isel i fynychu cyfarfod mis Tachwedd ar gyfer trafod datgarboneiddio’r gadwyn gyflenwi.

·         Adroddiad Cynnydd Ôl Troed Carbon.

·         Y gallu i addasu i hinsawdd sy’n newid, nodi’r risgiau i’r Cyngor a’r sir ehangach - ei ddarparu fel gweithdy ar wahân i Aelodau.

·         Ymweliadau safle posibl ar gyfer y Pwyllgor, er enghraifft ffermydd solar, canolfan gompostio ym Maes Glas, Parc Adfer, prosiectau plannu coed.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dan Rose y dylai’r gweithdy ar Ymaddasu i Newid Hinsawdd gynnwys gwybodaeth gan unrhyw sefydliadau perthnasol ar eu hymgysylltiad â chynghorau yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, rhoddwyd gwybod i’r Cadeirydd nad oedd yr eitem ar gynllunio wrth gefn ar gyfer gwres eithafol wedi cael ei chadarnhau eto ar gyfer mis Tachwedd. Gofynnodd hefyd am adroddiad ym mis Tachwedd ar y posibilrwydd o osod pibelli ceblau i alluogi aelwydydd heb lefydd parcio oddi ar y stryd i wefru cerbydau trydan mewn modd diogel, fel y trafodwyd yng nghyfarfod mis Mawrth.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Mared Eastwood, byddai eitem ar weithio gyda thrydydd partïon ar osod rhagor o fannau gwefru mewn meysydd parcio yn cael ei threfnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei mabwysiadu.

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.