Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Mared Eastwood y Cynghorydd Allan Marshall yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rob Davies.

 

Gan nad oedd yna enwebiadau eraill, fe’i cymeradwywyd ar ôl cynnal pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Allan Marshall yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Mared Eastwood ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

4.

Estyn allan i'r gymuned ehangach ar Newid Hinsawdd pdf icon PDF 775 KB

Pwrpas:        Trafod cynnwys y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu drafft ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd a chytuno ar ddull i’r Pwyllgor ymgysylltu â’r cyhoedd a phobl ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Healey fersiwn ddrafft o’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd er mwyn cytuno ar y dull o ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn benodol, pobl ifanc.   Croesawodd benodiad diweddar Ben Turpin fel Swyddog Prosiect yn y tîm Newid Hinsawdd.

 

Rhannodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon gyflwyniad am y Cynllun drafft oedd yn manylu ei bwrpas, Egwyddorion Arweiniol a chydymffurfio a Chydraddoldeb, Cynhwysiant a Safonau’r Gymraeg.  Fe nodwyd grwpiau budd-ddeiliaid a lefelau  ymgysylltu a byddai gweithgareddau’n cael eu monitro gan y tîm Newid Hinsawdd gyda chynlluniau gweithredu i gyd-fynd a fyddai’n esblygu i ategu llwyddiant y rhaglen.

 

Gwahoddwyd y Pwyllgor i awgrymu gweithgareddau eraill o dan y penawdau canlynol, yn ogystal â’r rheini a amlinellwyd yn y cyflwyniad.

 

Eiriolaeth ac Ymgysylltu

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chrissy Gee at ymarfer drws i ddrws blaenorol a fu’n llwyddiannus yn annog mwy o breswylwyr i ailgylchu.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Healey y dylid dewis ardaloedd targed lle y byddai’n ddymunol i breswylwyr newid ymddygiad.   Tra bod gwybodaeth ar gael ar y wefan, roedd yn teimlo y gallai’r neges gael ei darparu mewn modd mwy hygyrch drwy gyfrwng graffig ar steil cart?n, allai apelio at fwy o bobl.   Fe soniodd hefyd am yr ymarfer blaenorol o rannu negeseuon pwysig o fewn gohebiaeth Treth y Cyngor.

 

Cafodd pwysigrwydd ymgysylltu â’r cyhoedd ei gydnabod gan y Cynghorydd Bernie Attridge a awgrymodd y gallai’r tîm Cyfathrebu fod yn rhan o gefnogi digwyddiadau cymunedol, ymweld ag ysgolion ac ati, er mwyn cyrraedd preswylwyr nad oedd yn defnyddio gwefan y Cyngor.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mared Eastwood erthyglau wedi’u hysgrifennu’n barod a chlipiau i wrando arnynt y gallai Aelodau eu llwytho i’w tudalennau gwe/newyddlenni er mwyn lledaenu neges gyson.   Fe awgrymodd hefyd fwrdd dathlu i hyrwyddo cyflawniadau wrth leihau carbon.

 

Fe awgrymodd y Cynghorydd Steve Copple y gallai Cynghorau Tref a Chymuned gynorthwyo i ledaenu’r prif negeseuon ac y gallai cefnogwyr Newid Hinsawdd enwebedig ar lefel leol helpu gyda chyhoeddusrwydd mewn ysgolion a digwyddiadau.

 

Ar ôl siarad am y camau yr oedd wedi’u cymryd i fesur ei gyfradd ailgylchu ei hun, gofynnodd y Cynghorydd Allan Marshall a oedd hi’n bosibl i gyhoeddi data amser-real ar y wefan i ddangos ardaloedd sy’n perfformio’n dda ac yn wael.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Hodge y byddai ymarfer casglu sbwriel yn ei ardal yn helpu i ymgysylltu gyda phobl iau a chodi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol.   Roedd yn cefnogi defnyddio posteri i dynnu sylw at fentrau amgylcheddol, ar yr amod eu bod yn cael eu diweddaru er mwyn cynnal diddordeb, ac awgrymodd eu bod yn creu masgot ailgylchu Sir y Fflint mewn steil cart?n.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Dan Rose bwysigrwydd dyfynnu ystadegau er mwyn atgyfnerthu prif negeseuon, fel y dangoswyd yng nghyflwyniad rheoli mannau agored a rannwyd yn y gweithdy ym mis Ionawr.   Dywedodd y gallai cyhoeddi data ailgylchu ardal achosi problemau yn sgil y demograffeg amrywiol ac awgrymodd y gallai’r Cyngor ymgysylltu gyda phartneriaid presennol megis Bionet ar ddigwyddiadau lleol.

 

Roedd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Ynni thermol trwy ddefnyddio hen byllau glo pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        Y Cynghorydd Allan Marshall i arwain y drafodaeth ar ynni thermol a’r posibiliadau yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Allan Marshall ei adroddiad am ynni thermol yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod blaenorol am ddefnydd posibl ar gyfer d?r ffo Nhwnnel Milwr ar gyfer cynllun hydrodrydanol.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad at strategaethau ynni adnewyddadwy, goblygiadau cost pympiau gwres a’r ynni a arbedwyd drwy leihau tymheredd llif y bwyler.   Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu mynediad posibl at ffynonellau ynni geothermol ar draws Sir y Fflint, ac fe anfonwyd dolenni i ddeunyddiau a gyhoeddwyd er mwyn cefnogi hyn.   Rhannwyd gwybodaeth am systemau storio ynni disgyrchiant allai fod yn addas ar gyfer chwareli nad ydynt yn cael eu defnyddio.

 

I gloi, cynigiodd y Cynghorydd Marshall bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi i nodi’r adroddiad ac ymestyn eu sgôp am yr hyn oedd yn cynrychioli systemau dal ynni adnewyddadwy yn Sir y Fflint.

 

Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Steve Copple a gefnogodd yr awgrym bod y Cyngor yn edrych ar yr argyfwng ynni ymhellach.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Preece at gyfarfod diweddar oedd wedi hyrwyddo enghreifftiau o arfer da o fentrau ynni oedd yn cael eu gweithredu gan Gynghorau eraill.

 

Wrth groesawu’r adroddiad, croesawodd y Cynghorydd David Healey ystyriaeth bellach o ffynonellau ynni geothermol a môr-lynnoedd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Marshall i’r Pwyllgor am ei sylwadau.  Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn argymell i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi i nodi’r adroddiad uchod ac ymestyn eu sgôp am yr hyn oedd yn cynrychioli systemau dal ynni adnewyddadwy yn Sir y Fflint.

6.

Cynnydd Ymholiadau Newid Hinsawdd

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynghylch y cynnydd â’r Ymholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Rheolwr Rhaglen ar gyfer Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon ddiweddariad am gynnydd gydag ymholiadau oedd wedi cael eu heffeithio gan broblemau ag adnoddau.

 

Roedd y sgôp wedi cael ei gymeradwyo’n flaenorol gan y Pwyllgor, yn cynnwys awydd i geisio cael ymatebion gan y cyhoedd.   Yn sgil hyn, fe fydd y lansiad yn cael ei addasu i fodloni safonau cynwysoldeb, gan sicrhau bod yna gyfleoedd i bawb gyfrannu.   Bydd y wybodaeth a chais am wybodaeth yn cael ei hyrwyddo ar y wefan yn fewnol ac yn allanol.  Yn ogystal â’i ddosbarthu i Aelodau Etholedig, byddai manylion yn cael eu cyhoeddi gyda rhwydweithiau proffesiynol ac yn cael eu cynnwys ar e-fwletin Newid Hinsawdd a chyfryngau cymdeithasol ar y cyd â datganiad i’r wasg.

7.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ystyried y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a hysbysu'r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Gofynnodd y Rheolwr Rhaglen bod Aelodau sydd wedi cyflwyno testunau i’w hystyried yn y dyfodol hefyd yn darparu’r pwrpas ar gyfer yr eitemau hynny.

8.

Aelodau'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.