Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote attendance meeting

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

8.

Datgan Cysylltiad

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Datganodd y Cynghorydd Copple gysylltiad personol fel cyn-weithiwr i Shell ac roedd yn derbyn cyfraniad pensiwn.

 

            Datganodd y Cynghorydd Hodge gysylltiad personol fel cyn-weithiwr i BP ac roedd yn derbyn cyfraniad pensiwn.  

 

            Dywedodd y Cadeirydd y byddai gan Gynghorwyr a oedd yn aelodau o Gronfa Bensiynau Clwyd gysylltiad personol a fyddai'n cael ei nodi gan y Gwasanaethau Democrataidd.

 

 

9.

Cofnodion pdf icon PDF 89 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir gan y Cynghorydd Mared Eastwood ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gillian Brockley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

10.

Trosolwg o'r Rhaglen Newid Hinsawdd a Chynnydd

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Reolwr y Rhaglen – Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yr adroddiad a rhoddodd gyflwyniad a oedd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar y sleidiau a ganlyn:-

 

·         Cyd-destun – ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ymrwymodd Cyngor Sir y Fflint i ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd a dod yn garbon niwtral erbyn 2030

·         Cyflawniadau hyd yma

·         Datblygiad y Strategaeth - Llinell sylfaen

·         Datblygiad y Strategaeth - Ymgysylltu

·         Bwriad y Strategaeth yw bod yn ddi-garbon net

·         Strategaeth Newid Hinsawdd

·         Cynllun Gweithredu Di-garbon Net

·         Adnodd Staff Presennol ar gyfer y Rhaglen

·         Strwythur Llywodraethu

·         Adroddiad Cynnydd 2021/22

·         Argymhellion

·         Blaenoriaethau ar gyfer 2023/24

 

            Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet y Rheolwr Rhaglen am y gwaith yr oedd wedi'i wneud.  Roedd angen i'r Pwyllgor fod yn ymwybodol o lwyth gwaith y Rheolwr Rhaglen a'i phrentis. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Eastwood, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen yn gyntaf fod y cynnydd mewn caffael yn uniongyrchol gysylltiedig â'r cynnydd mewn gwariant ar gyfer 2021/22.  Gan gyfeirio at yr ysgol sero net, rhoddodd drosolwg o’r gofynion a roddwyd ar waith wrth adeiladu’r ysgol er mwyn sicrhau ffigurau carbon mwy cywir ac mai dyma’r ffigurau a fyddai’n cael eu hadrodd yn hytrach na gwerth gwariant y contract. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose, eglurodd y Rheolwr Rhaglen fod y term “o'r ffynnon i'r tanc” yn cyfeirio at yr allyriadau o ddrilio a chludo olew cyn iddo gael ei werthu mewn gorsafoedd petrol.  Unwaith y byddai llai o ddefnydd o danwydd ffosil yna byddai'r allyriadau “o'r ffynnon i'r tanc” hefyd yn lleihau.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) at bwynt y Cynghorydd Eastwood ar danwydd hydrogen, gan ddweud bod safle cynhyrchu hydrogen fel rhan o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi’i gyrchu ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yn canolbwyntio ar ddefnyddio hydrogen ar gyfer cerbydau.  Oherwydd nifer y busnesau ar y parc roedd awydd i newid gyda ffocws ar Hydrogen Gwyrdd.  Eglurodd os oedd ynni adnewyddadwy yn cael ei ddefnyddio i greu'r hydrogen, nid oedd unrhyw sgil-gynnyrch o garbon deuocsid, ac amlinellodd y gwahaniaethau rhwng hydrogen glas a gwyrdd.   Awgrymodd y gellid ystyried hyn fel eitem ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Copple ar arfer gorau, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen y ceisir arfer gorau bob amser, gan ddarparu manylion y sefydliadau yr oedd yn ymwneud â hwy lle rhennir enghreifftiau o arfer gorau.  Yn ogystal, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gweithio i ddatblygu pecyn cymorth caffael y gallai pob awdurdod lleol ei ddefnyddio.  Byddai hyn fodd bynnag yn gofyn am swyddog penodedig i weithio gyda'r comisiynwyr a'r gadwyn gyflenwi i gael gwell dealltwriaeth o'u hallyriadau carbon.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mansell, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen mai’r ffigur gwaelodlin ar gyfer allyriadau oedd ar gyfer 2018/19.  Roedd data 2019/20 cyn Covid.  Roedd data 2020/21 yn dangos bod llai o deithio a defnydd swyddfa yn ystod y pandemig. Yn 2021/22 yn dod allan o’r pandemig, roedd data wedi gweld rhywfaint o gynnydd mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Cynnig - Ôl Troed Carbon Gweithio Gartref pdf icon PDF 52 KB

Derbyn cynnig yngl?n â Ôl Troed Carbon Gweithio Gartref

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd y cynnig gan y Cadeirydd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Brockley.

 

            Teimlai'r Cynghorydd Eastwood fod yna sawl datganiad am yr hyn yr oedd Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud a'r hyn nad ydoedd, ond nad oedd adroddiad gan swyddogion i'w gefnogi.  Teimlai y gofynnwyd i'r Pwyllgor wneud argymhelliad ar ddatganiadau di-sail heb unrhyw wybodaeth am y goblygiadau o ran adnoddau neu gostau, ac felly ni allai gefnogi'r cynnig gan na allai fod yn hyderus bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi'i chasglu.

 

            Teimlai'r Cynghorydd Copple fod gan y Pwyllgor lwyth gwaith mawr ac nid oedd yn si?r pa mor bwysig oedd yr agwedd hon.   Teimlai fod gan weithio gartref fanteision o ran lleihau allyriadau carbon ond gofynnodd a oedd pethau pwysicach y dylai'r Pwyllgor ganolbwyntio arnynt.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Marshall â'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Eastwood. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Rose ei fod wedi ymchwilio i sut, fel un oedd yn gweithio gartref ei hun, roedd hyn wedi effeithio ar ei ôl troed carbon ei hun.  Ni allai ddod o hyd i unrhyw fudd i unigolyn yn gweithio o gartref o ystyried y costau gwresogi uwch ar gyfer eiddo person sengl yn erbyn eiddo sawl person.  Yr unig fantais fyddai pe bai person arall hefyd yn gweithio gartref.  Eglurodd mai'r hyn oedd yn cael ei awgrymu oedd cael gwybodaeth fwy cywir am y polisïau gweithio gartref ac ysgrifennu at Lywodraeth Cymru (LlC).  Roedd yn hapus i gefnogi'r ceisiadau hynny gan fod angen eglurhad ac roedd yn rhywbeth y gallai'r Pwyllgor hwn awgrymu y dylid gweithredu arno i sicrhau bod y ffigurau cywir o ran olion traed carbon yn cael eu hadrodd.

 

            Gwnaeth y Prif Swyddog sylwadau ar argymhelliad 3 a dywedodd nad oedd y swyddfa fodern yn Nh? Dewi Sant yn Ewlo wedi'i chynllunio i'r holl weithlu ddychwelyd.  Nid oedd digon o le ond gallai gymryd 70% o'r gweithlu.   Eglurodd fod y Polisi Gweithio Hybrid yn gofyn i reolwyr gael cydbwysedd rhwng angen busnes ac anghenion y person sy'n gweithio o gartref.  Derbyniodd fod ôl troed carbon gweithio gartref a gweithio hybrid yn bwysig ond roedd yn fwy cymhleth i'w reoli ac nid yr ôl troed carbon oedd yr unig elfen.  Awgrymodd y dylai'r Pwyllgor ystyried y Polisi Gweithio Hybrid diweddaraf a chytunodd i rannu hwn gyda'r Aelodau.

 

            Roedd gan y Cynghorydd Mansell bryderon bod swyddfeydd yn cael eu gwresogi gyda dim ond ychydig o bobl ynddynt.

 

            Eglurodd y Cynghorydd Eastwood ei phryderon ynghylch y cynnig ond ychwanegodd ei bod yn hapus i gefnogi'r eitem oedd yn cael ei rhoi ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. 

 

            Eglurodd y Cynghorydd Rose nad oedd y cynnig yn awgrymu newid i'r Polisi Gweithio Hybrid ond ei fod i sicrhau bod y data yn gywir o fewn y Polisi.  Dywedodd pe bai arolwg yn cael ei gynnal gyda staff i gasglu'r wybodaeth ofynnol, yna byddai hynny'n ddigonol at y diben hwn.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at yr argymhellion gan ddweud nad oedd yr effaith ar allyriadau carbon wrth deithio i'r gwaith  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Cynnig - Cyngor nad yw'n Argraffu pdf icon PDF 55 KB

Derbyn cynnig yngl?n â Cyngor nad yw’n Argraffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Rose fel cynigydd y cynnig hwn i siarad.   Diolchodd y Cynghorydd Rose i’r Rheolwr Isadeiledd TG am y wybodaeth yr oedd wedi’i darparu a oedd wedi helpu i nodi’r 4.9 miliwn o dudalennau a oedd wedi’u hargraffu gan y Cyngor yn 2022.  Nid oedd wedi gofyn am nifer y llythyrau a anfonwyd ond am yr adolygiad o'r hyn a argraffwyd a fyddai'n effeithio ar gostau cyllidol ar gyfer incwm papur a phost hefyd.  Dywedodd fod llythyr 10g a anfonwyd yn gyfrifol am 280g o garbon pe bai'r derbynnydd yn ei ailgylchu a rhoddodd enghraifft o lythyr diangen a anfonwyd yn ddiweddar at yr holl Aelodau.  Roedd 70 o argraffwyr xerox o fewn y Cyngor yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd ac roedd am sicrhau bod gostyngiad yn yr ôl troed carbon yn cael ei ystyried yn yr adolygiad hwn ac nid y sail cost yn unig.

 

            Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at yr eithriadau ar gyfer argraffu a theimlai y gellid cynnwys mwy.  Cyfeiriodd at gorff sy'n hyrwyddo twristiaeth o fewn Sir y Fflint a dywedodd fod y taflenni a argraffwyd ganddynt yn amlygu'r agweddau treftadaeth o fewn Sir y Fflint y gellid eu gosod mewn ardaloedd y tu allan i'r sir i ddenu twristiaeth. 

 

            Byddai'r Cynghorydd Eastwood wedi croesawu adroddiad swyddog ar hyn i ddeall faint o bapur a ddefnyddiwyd, y mewnbwn trydanol a ddefnyddiwyd ac ateb cwestiynau ar pam y defnyddiwyd xerox dros argraffwyr inkjet.  Byddai diweddariad gan AD ar y newid i Gyngor di-bapur hefyd wedi bod yn ddefnyddiol.  Roedd hi'n gefnogol yn gyffredinol i symud tuag at Gyngor di-bapur lle bynnag y bo'n bosibl ond roedd yn bryderus y gallai rhai meysydd fod heb eu cynnwys.  Gofynnodd a allai'r cynnig gynnwys pa argraffwyr a ddefnyddiwyd wrth gaffael ac yn fewnol a chyfeiriodd at eitem Cynllun Gweithredu Strategaeth Newid Hinsawdd CCBe4 ar faint o bapur a ddefnyddir mewn gwasanaethau argraffu.

 

            Roedd y Cynghorydd Attridge, a oedd yn bresennol fel sylwedydd, yn cyd-fynd â barn y Cynghorydd Eastwood gan ddweud fod y diffyg manylion a chyfranogiad swyddogion wedi galluogi dadl ar hyn.

 

            Yna rhoddodd y Cadeirydd wybodaeth am y broses o gynigion a sut y cawsant eu cynnig gan Gynghorwyr.  Roedd swyddogion yn gallu rhoi cyngor cyn i benderfyniad gael ei wneud yn ysgrifenedig neu'n bersonol mewn cyfarfodydd.   Ailadroddodd nad oedd gan y Pwyllgor hwn bwerau gwneud penderfyniadau ar wneud argymhellion neu awgrymiadau i'r Cabinet, er enghraifft, lle byddai mwy o gyfraniad gan swyddogion yn cael ei ddarparu.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Marshall am eglurhad ar y ffigurau defnydd ynni gan ofyn a oeddent yn seiliedig ar danwydd ffosil, a gofynnodd pe bai paneli solar yn cael eu defnyddio i gynhyrchu'r trydan, a fyddai hyn yn golygu nad oeddent yn cynhyrchu carbon.   Yna cyfeiriodd at gyfarfod diweddar y Cyngor lle darllenwyd hysbysiadau o gynigion o ddalenni papur.  Nid oedd hwn yn ffitio i'r categori cyfyngol o fewn y cynnig a gofynnodd a ddylid ehangu hwn i gynnwys taflenni a ddefnyddiwyd yng nghyfarfodydd y  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Cynnig - Columbaria ym mynwentydd Cyngor Sir y Fflint - gwasanaethau profedigaeth ecogyfeillgar pdf icon PDF 70 KB

Derbyn cynnig yngl?n â Columbaria ym mynwentydd Cyngor Sir y Fflint – gwasanaethau profedigaeth ecogyfeillgar.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Swash fel cynigydd y cynnig hwn i siarad.  

 

            Eglurodd y Cynghorydd Swash, er bod y cynnig hwn yn ymwneud yn benodol â Columbaria, roedd y mater o ymdrin â gweddillion dynol yn un brys.  Roedd claddedigaethau traddodiadol yn ffordd aneffeithlon o storio gweddillion dynol, gyda chymunedau trefol adeiledig yn profi problemau am amser hir a bod hyn bellach yn dechrau effeithio ar Sir y Fflint. 

 

Amlinellodd y cynnig nifer o fanteision posibl o ddefnyddio Columbaria mewn mynwentydd a reolir yn Sir y Fflint a chanolbwyntiodd ar y manteision amgylcheddol a oedd yn hollbwysig oherwydd y diffyg mannau claddu yn ein mynwentydd poblogaidd.  Roedd claddu gweddillion dynol yn garbon-ddwys ac yn llyncu llawer o fannau gwyrdd y gellid eu defnyddio'n well.  Amlinellodd y mathau o dir a fyddai'n anaddas i'w ddefnyddio ar gyfer claddedigaethau gan ddweud gan fod Columbaria yn ddarn o bensaernïaeth uwchben y ddaear a oedd yn defnyddio llai o le ac roedd yn fwy amlbwrpas o ran y tir y gellid ei adeiladu arno. 

 

Ni ellid defnyddio tir a ddefnyddiwyd ar gyfer claddedigaethau traddodiadol at ddibenion eraill yn y tymor hir gan mai ychydig iawn o ddatblygwyr oedd â diddordeb mewn adeiladu ar dir a oedd yn cynnwys gweddillion dynol.  Pan neilltuwyd tir ar gyfer mynwentydd posib, roedd yn rhaid deall ei fod yn annhebygol o gael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.  Roedd costau cynnal a chadw mynwentydd yn uchel gyda llawer o fynwentydd h?n yn cael eu gadael mewn cyflwr gwael gyda gwirfoddolwyr yn gofalu amdanynt.  Roedd Columbaria eisoes yn bresennol mewn llawer o fynwentydd yn y DU, a darparodd wybodaeth ar y safle poblogaidd yn Northwich, gan ymestyn oes y fynwent honno.  Gan gyfeirio at Amlosgiad Di-Fflam, dywedodd ei fod yn ffordd wahanol o ymdrin â gweddillion dynol a chafodd ei gynnwys er mwyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi a'r Cabinet archwilio ei botensial fel opsiwn tymor hwy.

 

            Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rose a ddywedodd fod defnydd tir yn rhan bwysig o waith y Pwyllgor a bod y cynnig hwn yn canolbwyntio ar ddefnydd tir a’r gofod a lyncir.  Gallai fod angen mynwentydd ar gyfer adeiladu gan fod prinder tir y byddai ei angen ar gyfer y dyfodol.  Roedd yn falch y gellid ystyried Amlosgiad Di-Fflam fel opsiwn a bod gan Sir y Fflint bellach yr opsiwn o gladdedigaethau coetir.  Roedd darparu mwy o opsiynau i bobl nid yn unig yn well iddynt hwy ond hefyd ar gyfer defnydd tir a’r amgylchedd.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Eastwood am eglurhad ynghylch ble y cafwyd y wybodaeth am y prinder lle mewn mynwentydd, ble roedd adroddiad y swyddog ac i bwy y gallai hi ofyn cwestiynau.  Mewn perthynas â Columbaria, gofynnodd beth oedd y goblygiadau o ran costau ac adnoddau a gofynnodd a oedd galw am hyn yn Sir y Fflint o gymharu ag awdurdodau lleol eraill.  Gan gyfeirio at gladdedigaethau coetir, gofynnodd sut roedd hyn yn effeithio ar fioamrywiaeth o fewn y coetiroedd a'r dolydd hynny.  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Cynnig - Addasiad Gwrthsefyll Llifogydd pdf icon PDF 55 KB

Derbyn cynnig yngl?n â Addasiad Gwrthsefyll Llifogydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cynigiodd y Cadeirydd y cynnig hwn a dywedodd na fyddai unrhyw argymhellion yn cael eu gwneud ar yr eitem hon.  Mater i'r Pwyllgor oedd gwneud gwaith i ymchwilio i faterion llifogydd yn y dyfodol y mae'r Sir yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac y gallent eu hwynebu yn y dyfodol oherwydd newid yn yr hinsawdd. 

 

            Roedd amrywiaeth o faterion llifogydd gyda rhai yn gyfrifoldeb awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau d?r a charthffosiaeth ac asiantaethau eraill.  Roedd cymysgedd o gyfrifoldebau yn ymwneud â chynnal a chadw sianeli draenio a chwlfertau ac ati.  Roedd y sefyllfa'n gymhleth ac nid oedd bob amser yn gyfrifoldeb ar y Cyngor i atal llifogydd gan fod llawer o'r seilwaith angenrheidiol yn gyfrifoldeb asiantaethau eraill o dan Lywodraeth Cymru (LlC).  

 

Roedd y Cyngor yn gallu edrych ar y mater cyfan i nodi lle'r oedd y methiannau a'r pryderon.  Roedd yn anodd rhagweld lle byddai d?r wyneb a llifogydd yn digwydd, gyda rhai ardaloedd yn ei brofi'n rheolaidd ac eraill yn annisgwyl.  Gellid delio â hyn pan fydd yn digwydd, neu gallai'r Cyngor edrych arno i fapio lle'r oedd y risgiau a pha gamau sydd angen eu cymryd i atal llifogydd.  

 

O fewn cyllideb y Cyngor nid oedd lle i brosiectau seilwaith enfawr ac os oedd cymunedau am gael eu hamddiffyn rhag llifogydd, yna roedd angen buddsoddiad gan LlC a Llywodraeth y DU.  Roedd yn fater cymhleth, a’r cynnig oedd sefydlu ymchwiliad lle byddai’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth fanwl gan Swyddogion Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon eraill â diddordeb.  Gallai'r Pwyllgor edrych ar y mater yn fanwl a gwneud rhai sylwadau ar sail y wybodaeth a ddaeth i law.  Dywedodd y Cadeirydd mai'r cynnig oedd sefydlu'r ymchwiliad ac na fyddai unrhyw argymhellion o sylwedd yn cael eu cynnig.  Canmolodd y Cyngor am y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn ymdrin â'r llifogydd diweddar a'r materion hirdymor yn ardaloedd Sandycroft, Mancot a Phentre a chyfeiriodd at yr anawsterau a wynebwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch cyllid.  Roedd gan yr ardal hon heriau penodol a gallai fod yn astudiaeth achos dda.

 

            Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Copple a deimlai fod llifogydd yn gwaethygu a bod angen ei asesu a rhoi mesurau mewn grym ar gyfer y tymor hwy.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Eastwood a oedd hyn yn dyblygu’r gwaith a wnaed yn CCBu7 “i barhau i gynnal ymchwiliadau i lifogydd a nifer y digwyddiadau llifogydd a ataliwyd gan Gynllunio Rhag Perygl Llifogydd”.  Gofynnodd hefyd beth fyddai'n digwydd pe na cheir ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru a D?r Cymru mewn pryd.  Teimlai nad oedd ganddi sgiliau digonol i ddadansoddi ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor hwn a byddai'n well ganddi gael diweddariad gan swyddogion ar yr hyn oedd yn digwydd eisoes.

 

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod llawer o wybodaeth eisoes ar gael a bod hyn yn canolbwyntio ar ddigwyddiad Sandycroft a oedd yn parhau.   Roedd yn fater cymhleth a oedd yn cynnwys nifer o wahanol bartneriaid.   Cyfeiriodd at yr adnoddau y byddai eu  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Cynnig - Cronfa Bensiwn Clwyd D-investment 1. pdf icon PDF 55 KB

Derbyn cynnig yngl?n âCronfa Bensiwn Clwyd  D-investment 1.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Eglurodd y Cadeirydd y daethpwyd â hyn i'r cyfarfod diwethaf ond na aethpwyd ymlaen ag ef.  Pwrpas y cynnig oedd casglu tystiolaeth a chynnig camau gweithredu yn sgil cyngor arbenigol.  Cyfeiriodd at y sylwadau a wnaed gan y Rheolwr Rhaglen ar dargedau sector cyhoeddus ar gyfer sero net erbyn 2030 yng Nghymru a oedd yn berthnasol i bob maes o'r Cyngor ar wahân i Gronfa Bensiynau Clwyd nad oedd ganddi darged o gwbl.  

 

Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn edrych i ddod â Chronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol yn unol â'r sector cyhoeddus a diolchodd i Jack Sargeant Aelod o’r Senedd am ei waith yn y maes hwn.  Adroddodd y Cadeirydd ar y buddsoddiadau a ddelir gan y Gronfa Bensiynau a oedd â dyletswydd i reoli'r buddsoddiadau hynny ar gyfer ei haelodau.   Teimlai fod targed 2045 a osodwyd gan Gronfa Bensiynau Clwyd yn anghyson â gweddill y sector cyhoeddus.  Gallai fod dadleuon da dros hyn gan ei fod yn fater cymhleth, ac felly roedd angen ceisio cyngor arbenigol.   Y cynnig oedd sicrhau bod hwn yn cael ei dderbyn, a bod y Pwyllgor yn gallu gwneud awgrymiadau i’r Cyngor fel cyflogwyr mewn perthynas â Chronfa Bensiynau Clwyd.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Rose fod llawer o arian a charbon ynghlwm wrth hyn a theimlai y gallai'r Pwyllgor gynnig rhai awgrymiadau i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â thargedau'r sector cyhoeddus.

 

            Teimlai'r Cynghorydd Hodge, er bod ganddo amheuon ynghylch cyfreithlondeb edrych ar hyn, ei fod wedi'i dawelu bod yr ymchwiliad yn ymwneud â thanwydd ffosil.  Dywedodd mai un o’r rhesymau pam roedd cwmnïau tanwydd ffosil yn dal i’w gynhyrchu oedd oherwydd bod ceir, gwresogyddion a boeleri yn dal i’w ddefnyddio a gofynnodd pwy oedd yn gwario arian i’n gwneud yn wyrdd.  Dywedodd fod BP a Cemex yn berchen ar Chwarel Pentre Helygain a'u bod yn gweithio i ddatblygu atebion i ddatgarboneiddio'r broses cynhyrchu sment.  Roedd BP wedi cyhoeddi cyfran o 45% i ragamcanu ac arwain y ganolfan ynni hydrogen gwyrdd fwyaf yn Awstralia ac roedd hefyd wedi cyhoeddi ei fod am gynhyrchu hydrogen gwyrdd yn Sbaen, Portiwgal a’r DU.  Roeddent wedi gwella batris cerbydau trydan ar gyfer ceir gyda Castrol ac roeddent newydd gyflawni'r prosiect solar cyntaf yn India a oedd yn cynnwys 200,000 o baneli solar.  Croesawodd fod y Pwyllgor yn edrych i mewn i gwmnïau lle gwnaed buddsoddiadau gan y Gronfa Bensiwn ond ailadroddodd fod cwmnïau fel BP a Shell yn dal i ddarparu olew a nwy oherwydd bod y galw yno, ond eu bod hefyd yn buddsoddi'n helaeth mewn dewisiadau gwyrdd amgen i danwydd ffosil.

 

            Adroddodd y Cynghorydd Shallcross ei fod fel aelod o Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd yn hyderus yn y gwaith sy'n cael ei wneud gan y swyddogion i sicrhau bod cwmnïau'n symud i ynni gwyrddach.  Teimlai ei bod er lles gorau’r cwmni i ddod yn wyrddach i oroesi ond roedd angen cyfnod o drawsnewid arnynt. 

 

            Adroddodd y Cynghorydd Gee ar eitem newyddion diweddar “makemymoneymatter.co.uk/green my pension” a oedd yn amlygu’r ffordd orau o dorri allyriadau carbon unigolyn i wneud eu  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Meysydd yr Adolygiad o'r Rhaglen Newid Hinsawdd

Cytuno ar feysydd y Rhaglen Newid Hinsawdd i’w hadolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd y Cadeirydd fod hyn ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i'w hadolygu mewn cyfarfod diweddarach.  Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan unrhyw Aelodau unrhyw eitemau yr hoffent gael mwy o fanylion amdanynt a chael cyngor arbenigol y gellid eu cynnwys yn yr Adolygiad o'r Rhaglen Newid Hinsawdd.

 

            Teimlai'r Rheolwr Rhaglen fod y cyflwyniad yn rhoi trosolwg teg o'r meysydd yr oedd angen eu datblygu ac roedd yn gobeithio bod Aelodau'r Pwyllgor wedi ystyried y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu ar y Newid Hinsawdd ac wedi nodi meysydd yr oedd angen rhoi sylw arbennig iddynt.  Roedd hi'n agored i glywed unrhyw awgrymiadau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Mansell a fyddai gweithdai'n cael eu hystyried ar gyfer unrhyw awgrymiadau a gyflwynwyd.  Mewn ymateb cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod gweithdai wedi'u darparu cyn i'r Strategaeth gael ei datblygu ond na chynhaliwyd un ers ei chymeradwyo.  Teimlai pe bai pynciau gan Aelodau a fyddai'n elwa o weithdy, y byddai'n hapus i wneud hynny yn dibynnu ar gapasiti.  

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shallcross fod hwn yn Bwyllgor newydd ac y gallai elwa o gymorth i reoli disgwyliadau.  Newid hinsawdd oedd un o'r pynciau mwyaf a oedd yn effeithio ar y byd ac roedd angen i'r Pwyllgor ddeall yr hyn y gellid ei gyflawni.  Gwnaed y cynigion a gyflwynwyd gyda'r bwriadau gorau ond gallent gynnwys llawer iawn o waith i gael dim byd yn gyfnewid.   Roedd angen i'r Pwyllgor gael ei arwain a'i lywio i gyfeiriad lle gallai wneud gwahaniaeth.  Gallai gweithdy fod yn ddefnyddiol i sicrhau bod holl Aelodau'r Pwyllgor yn deall yn iawn yr hyn sydd ei angen.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Rhaglen at y rhan o'r argymhelliad i'r Cabinet sef y dylid rhoi blaenoriaeth i Aelodau etholedig ac uwch swyddogion i gynnal hyfforddiant llythrennedd carbon a fyddai'n cysylltu'n uniongyrchol â'r Strategaeth Newid Hinsawdd.  Byddai hyn, gyda gobaith, yn darparu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i lywio penderfyniadau'n briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytuno ar y meysydd i'w hadolygu o fewn y Rhaglen Newid Hinsawdd.

17.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 59 KB

Ystyried y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd yn cynnwys eitemau ar gyfer y tri chyfarfod nesaf cyn yr haf.  Roedd cyfarfod mis Gorffennaf yn caniatáu i eitemau eraill a awgrymwyd gan yr Aelodau gael eu cynnwys.   Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen fod Hydrogen wedi'i gynnwys ar gyfer cyfarfod mis Mawrth ac y gellid ei ehangu i gynnwys y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Eastwood y cytunwyd arnynt.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Coggins Cogan ei fod yn berchen ar gerbyd trydan ac yn dilyn taith i'r Alban, eglurodd fod Llywodraeth yr Alban, er mwyn cynorthwyo gyda thwristiaeth, wedi sicrhau bod rhwydwaith gwefru ardderchog.  Teimlai fod lle i Sir y Fflint a allai gael ei ddefnyddio ar gyfer twristiaeth fel Porth i Gymru yn debyg i'r hyn yr oedd Sir Ddinbych yn ei wneud gyda'u gorsaf gwefru o'r enw Porth i Eryri. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Marshall a ellid ystyried pympiau gwres ffynhonnell daear neu dwll turio yn tynnu gwres o hen ardaloedd glo mawr oedd â thwneli yn llawn d?r cynnes.  Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen fod y Cyngor wedi bod yn gosod pympiau gwres mewn rhai eiddo domestig a rhai ysgolion. Roedd eitem ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfod mis Mai i edrych ar gyfleoedd amgen i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac y gellid ei ehangu i gynnwys opsiynau gwres adnewyddadwy.  Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r hyn yr oedd y Cynghorydd Marshall yn ei gynnig ar gyfer buddsoddiad gan y sector preifat.  Dywedodd y Rheolwr Rhaglen y byddai'n ymchwilio iddo i ddarparu ymateb.  Awgrymodd y Cadeirydd y dylid ei ehangu dros dro i'w gynnwys ar gyfer mis Mai gyda phenderfyniad yn cael ei wneud a ddylid ehangu'r eitem yn y cyfarfod ym mis Mawrth.

 

O'i rhoi i bleidlais cymeradwywyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       (b) Bod y Rheolwr Rhaglen yn cysylltu â'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd yn dilyn y cyfarfod i drafod y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol; ac

 

(c)       (c) Ystyried yn y cyfarfod ym mis Mawrth a ddylid ehangu'r eitem ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy amgen.

18.

Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cynhelircyfarfodydd o Climate Change Committee yn y dyfodol am 2.00 pm ar:-

 

Dydd Mawrth 28 Mawrth 2023

Dydd Mawrth 23 Mai 2023

Dydd Mawrth 18 Gorffennaf 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn y dyfodol wedi'u trefnu i'w cynnal am 2.00pm ar:

 

Dydd Mawrth 28 Mawrth 2023

Dydd Mawrth 23 Mai 2023

Dydd Mawrth 18 Gorffennaf 2023

19.

Aelodau o'r Cyhoedd a'r Wasg Hefyd yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

           

Dechreuodd y cyfarfod am 2.00pm a daeth i ben am 4.46pm

 

 

 

……………………………………..

Y Cadeirydd