Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

36.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

37.

Cofnodion pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

 

38.

Adolygiad defnydd tir - ar gyfer bioamrywiaeth, storio carbon a lliniaru llifogydd pdf icon PDF 1 MB

Derbyn cyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni i asesu dichonoldeb cynlluniau o fewn asedau tir y Cyngor ar gyfer atal llifogydd a sychder wrth wella bioamrywiaeth a chynyddu storio carbon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem i dderbyn cyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni i asesu dichonoldeb cynlluniau o fewn asedau tir y Cyngor ar gyfer atal llifogydd a sychder wrth wella bioamrywiaeth a chynyddu storio carbon.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd y byddai Molly Salter, Swyddog Newid Hinsawdd, a Sophie Roberts, Swyddog Bioamrywiaeth, yn rhoi cyflwyniad ar y cyd a fyddai’n cynnwys y prif bwyntiau canlynol: 

 

  • cefndir
  • trosolwg o’r prosiect
  • pwysigrwydd y prosiect
  • argyfwng yr hinsawdd
  • argyfwng natur
  • nodau ac amcanion y prosiect
  • methodoleg
  • gwydnwch ecolegol
  • dal a storio carbon
  • risg hinsawdd ac addasu
  • polisïau cenedlaethol a rhanbarthol
  • polisïau’r Cyngor
  • dull cydlynol

 

Ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Dan Rose o ran data ar dir sydd ar gael, parthau clustogi, tir y mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen arno, blodau gwyllt, bioamrywiaeth, coetir a dolydd.   Ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Allan Marshall hefyd o ran y system mapio llinellau-B a thorri gwrychoedd.

 

Cododd y Cynghorydd Dave Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, gwestiynau o ran datrysiadau bioamrywiaeth ar gyfer atal yr Afon Alun rhag llifo i fyny’r afon.      Ymatebodd swyddogion i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Healey ac eglurodd bod gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â’r tîm rheoli llifogydd ar ddichonoldeb safleoedd ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.  Ymatebodd y Swyddog Rhaglen Newid Hinsawdd hefyd i’r sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Healey yn ymwneud â phrosiect Moel Famau, a chyllid ar gyfer prosiectau i ddatblygu gwaith pellach.                                                                                                                                                   

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y cyflwyniad.

 

39.

Allyriadau carbon ffermio yn Sir y Fflint pdf icon PDF 164 KB

Derbyn adroddiad ar allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â ffermio, a rôl y Cyngor i ddylanwadu ar arferion amaethyddol sy’n gadarnhaol o ran carbon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd adroddiad ar allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â ffermio, a rôl y Cyngor i ddylanwadu ar arferion amaethyddol sy’n gadarnhaol o ran carbon.  Darparodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif bwyntiau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd i gwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose yn ymwneud â chontractau a ffermwyr sy’n denantiaid ac eglurodd bod gwahanol fathau o gontractau a bod cyfle i ddiweddaru telerau’r contract i gefnogi amcanion pan fydd angen eu hadnewyddu.

 

Ymatebodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd i gwestiwn gan y Cynghorydd Eastwood yn ymwneud â chanran y ffermwyr sy’n denantiaid mewn perthynas â ffermio ar dir preifat, ac eglurodd nad oedd gwybodaeth ar gael ar-lein o ran lleoliad ffermydd preifat ac efallai y gallai Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ddarparu gwybodaeth bellach.  Dywedodd y Cynghorydd Eastwood y byddai’r ail argymhelliad yn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio i gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru (FUW).  Eiliodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y cynnig a phan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi ymgysylltiad gyda ffermwyr sy’n denantiaid ar dir Cyngor Sir y Fflint, i ddeall eu harferion a gweithgareddau ffermio i fynd i’r afael ar newid hinsawdd; a

 

(b)       Chefnogi ymgysylltiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), a chwmnïau hysbys, a ffermwyr preifat, i ddeall sut allwn ni ymgysylltu a hyrwyddo arferion gorau ar draws y Sir.

 

 

40.

Diweddariad ar Ymchwiliadau

Derbyn ddiweddaradau ar Ymchwiliadau Llifogydd a Phensiynau’r Pwyllgor a thrafod y camau nesaf

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Ymchwiliadau Llifogydd a Phensiynau’r Pwyllgor a thrafod y camau nesaf.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y dyddiadau a oedd ar gael ar hyn o bryd i ddarparu gwrandawiadau i fynd i’r afael ar yr Ymchwiliadau.  Cynigodd y Cadeirydd bod sesiynau yn cael eu trefnu ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd rhwng 12 a 16 Chwefror 2024 a chytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad.

 

 

41.

Eitemau a Phwrpas Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 103 KB

Cwblhau’r Rhaglen Her yr Hinsawdd ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atodwyd y Rhaglen Waith gyfredol i’r rhaglen i’w hystyried.  Bu i’r Cadeirydd wahodd Aelodau i awgrymu unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen drwy e-bost i’r Cadeirydd neu’r Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rhaglen Waith yn cael ei mabwysiadu.

42.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.03am)