Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.
|
|
Adolygiad defnydd tir - ar gyfer bioamrywiaeth, storio carbon a lliniaru llifogydd PDF 1 MB Derbyn cyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni i asesu dichonoldeb cynlluniau o fewn asedau tir y Cyngor ar gyfer atal llifogydd a sychder wrth wella bioamrywiaeth a chynyddu storio carbon.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem i dderbyn cyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni i asesu dichonoldeb cynlluniau o fewn asedau tir y Cyngor ar gyfer atal llifogydd a sychder wrth wella bioamrywiaeth a chynyddu storio carbon.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd y byddai Molly Salter, Swyddog Newid Hinsawdd, a Sophie Roberts, Swyddog Bioamrywiaeth, yn rhoi cyflwyniad ar y cyd a fyddai’n cynnwys y prif bwyntiau canlynol:
Ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Dan Rose o ran data ar dir sydd ar gael, parthau clustogi, tir y mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen arno, blodau gwyllt, bioamrywiaeth, coetir a dolydd. Ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Allan Marshall hefyd o ran y system mapio llinellau-B a thorri gwrychoedd.
Cododd y Cynghorydd Dave Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, gwestiynau o ran datrysiadau bioamrywiaeth ar gyfer atal yr Afon Alun rhag llifo i fyny’r afon. Ymatebodd swyddogion i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Healey ac eglurodd bod gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â’r tîm rheoli llifogydd ar ddichonoldeb safleoedd ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Ymatebodd y Swyddog Rhaglen Newid Hinsawdd hefyd i’r sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Healey yn ymwneud â phrosiect Moel Famau, a chyllid ar gyfer prosiectau i ddatblygu gwaith pellach.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y cyflwyniad.
|
|
Allyriadau carbon ffermio yn Sir y Fflint PDF 164 KB Derbyn adroddiad ar allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â ffermio, a rôl y Cyngor i ddylanwadu ar arferion amaethyddol sy’n gadarnhaol o ran carbon.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd adroddiad ar allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â ffermio, a rôl y Cyngor i ddylanwadu ar arferion amaethyddol sy’n gadarnhaol o ran carbon. Darparodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif bwyntiau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd i gwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose yn ymwneud â chontractau a ffermwyr sy’n denantiaid ac eglurodd bod gwahanol fathau o gontractau a bod cyfle i ddiweddaru telerau’r contract i gefnogi amcanion pan fydd angen eu hadnewyddu.
Ymatebodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd i gwestiwn gan y Cynghorydd Eastwood yn ymwneud â chanran y ffermwyr sy’n denantiaid mewn perthynas â ffermio ar dir preifat, ac eglurodd nad oedd gwybodaeth ar gael ar-lein o ran lleoliad ffermydd preifat ac efallai y gallai Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ddarparu gwybodaeth bellach. Dywedodd y Cynghorydd Eastwood y byddai’r ail argymhelliad yn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio i gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru (FUW). Eiliodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y cynnig a phan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi ymgysylltiad gyda ffermwyr sy’n denantiaid ar dir Cyngor Sir y Fflint, i ddeall eu harferion a gweithgareddau ffermio i fynd i’r afael ar newid hinsawdd; a
(b) Chefnogi ymgysylltiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), a chwmnïau hysbys, a ffermwyr preifat, i ddeall sut allwn ni ymgysylltu a hyrwyddo arferion gorau ar draws y Sir.
|
|
Diweddariad ar Ymchwiliadau Derbyn ddiweddaradau ar Ymchwiliadau Llifogydd a Phensiynau’r Pwyllgor a thrafod y camau nesaf
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Ymchwiliadau Llifogydd a Phensiynau’r Pwyllgor a thrafod y camau nesaf.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y dyddiadau a oedd ar gael ar hyn o bryd i ddarparu gwrandawiadau i fynd i’r afael ar yr Ymchwiliadau. Cynigodd y Cadeirydd bod sesiynau yn cael eu trefnu ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd rhwng 12 a 16 Chwefror 2024 a chytunodd y Pwyllgor ar hyn.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad.
|
|
Eitemau a Phwrpas Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 103 KB Cwblhau’r Rhaglen Her yr Hinsawdd ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atodwyd y Rhaglen Waith gyfredol i’r rhaglen i’w hystyried. Bu i’r Cadeirydd wahodd Aelodau i awgrymu unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen drwy e-bost i’r Cadeirydd neu’r Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Rhaglen Waith yn cael ei mabwysiadu. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.03am)
|