Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote attendance meeting

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Mared Eastwood gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen fel aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r datganiad o gysylltiad. 

 

21.

Cofnodion pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023.

 

Cywirdeb

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 15 ar y rhaglen a dywedodd fod y Cynghorydd Coggins-Cogan wedi siarad o blaid cynnal ymholiad am y posibilrwydd o ddadfuddsoddi ac edrych ar y cwmnïau yr oedd Cronfa Bensiynau Clwyd yn dal buddsoddiadau ynddynt a gofynnodd a fyddai modd diwygio’r cofnodion i gofnodi hyn. 

 

Yn amodol ar y diwygiad uchod, cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023 fel cofnod cywir gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Sam Swash.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad uchod, cymeradwyo’r cofnodion yn gofnod cywir.

 

22.

Adolygu'r Rhaglen Newid Hinsawdd pdf icon PDF 143 KB

Pwpras:        Adolygu a chymeradwyo’r meysydd i ganolbwyntio arnynt o fewn y rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yr adroddiad.   Darparodd wybodaeth gefndirol, ac yn dilyn adroddiad cynnydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd, rhoddodd wybod bod yr adroddiad yn adolygu cynnydd o fewn y cynllun gweithredu a meysydd i’w targedu yn 2023.   Roedd hefyd yn ystyried y diweddariadau cenedlaethol ers mabwysiadu’r Strategaeth yr oedd angen eu cynnwys o fewn adolygiad y strategaeth yn 2024. Soniodd y Rheolwr Rhaglen am y prif ystyriaethau fel y nodir yn yr adroddiad a chyfeiriodd at ‘Gynnydd Cynllun Gweithredu Newid Hinsawdd 2022/23’ a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Preece pa gamau oedd yn cael eu cymryd i atal d?r rhag gollwng.    Ymatebodd y Swyddogion i’r pryderon a godwyd a rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Strategaeth Gynllunio wybod bod y broblem mewn perthynas â d?r yn gollwng yn un o brif amcanion Cynllun Rheoli Adnoddau D?r Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at gyfeirnod CCM8 yn y Cynllun Gweithredu a oedd ynghlwm â’r adroddiad a soniodd am gynllun blaenorol lle'r oedd y Cyngor yn darparu beiciau i weithwyr ar gyfer teithio i’r gwaith a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at gyfeirnod CCM3 yn y Cynllun Gweithredu - sicrhau bod mannau gwefru cerbydau ar gael mewn lleoliadau allweddol ar draws trefi ac ardaloedd gwledig y sir.   Holodd a mynegodd bryderon am gynnydd ac argaeledd mannau gwefru mewn cymunedau lleol.   Cynigodd y Cadeirydd ysgrifennu ar ran y Pwyllgor i wneud cais ar gyfer defnyddio tir y cyngor fel safleoedd rhandir ac i ddarparu mannau gwefru i gymunedau lle bo modd.   Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cyng. Chris Bithell a’i eilio gan y Cyng. Dan Rose.   Soniodd y Cynghorydd Dan Rose hefyd am brosiect cenedlaethol lle'r oedd preswylwyr gyda gerddi mawr yn cynnig rhannu eu tir gydag eraill ac awgrymodd y gellid ystyried y cynllun hwn hefyd.

 

Ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r cwestiynau pellach gan Aelodau mewn perthynas â’r defnydd o randiroedd, tir cymunedol, mannau agored, a thir ‘heb ei fabwysiadu’.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno ar yr ardaloedd targed ar gyfer 2023 a’r eitemau i’w cynnwys yn adolygiad strategaeth 2024; a  

 

(b)       Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Cyngor Sir i awgrymu’r posibilrwydd o drosglwyddo tir i sefydlu rhagor o safleoedd rhandir.

 

23.

Pwer ynni dwr a Thwnnel Milwr

Pwrpas:        Y Cynghorwyr Healey a Bithell i arwain trafodaeth ar dwnnel Milwr a’r potensial ar gyfer p?er ynni d?r yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn ymateb i gynnig gan y Cynghorydd Mared Eastwood, yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi a’r Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, darparodd ddiweddariad ar lafar ar y Twnnel Milwr a darpariaeth P?er Ynni yn Sir y Fflint.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Strategaeth Gynllunio gyflwyniad ar lafar ar ddyletswydd y Cyngor i ddarparu ynni adnewyddadwy a’r potensial o ffynonellau amrywiol gan gynnwys ynni d?r, ynni solar, a thechnoleg arloesol.   Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth i sylwadau gan Aelodau ynghylch faint o b?er a gynhyrchir, y potensial ar gyfer twristiaeth, a’r opsiynau eraill sydd ar gael.   Teimla’r Pwyllgor y byddai costau’r prosiect Twnnel Milwr yn sylweddol ac y gellid ei ystyried pe bai technoleg yn gwella, ond roedd y cyfrifoldeb ar berchnogion y Twnnel Milwr.   Yn ystod y drafodaeth, darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Strategaeth Gynllunio ddiweddariad mewn perthynas ag ystyried potensial safleoedd Canolfan Dreftadaeth Maes Glas a Pharc Gwepra.

 

24.

Polisi Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer mannau parcio oddi ar y stryd

Pwrpas:        Gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd adrodd i’r pwyllgor hwn a Phwyllgor yr Amgylchedd a’r Economi ar ddichonoldeb cynnig gosod pibelli ceblau rhwng tai a’r stryd i alluogi perchnogion cerbydau trydan heb fynediad at le parcio oddi ar y stryd i redeg ceblau ar draws palmentydd yn ddiogel, a bydd y preswylydd yn talu am hyn yn yr un modd â gosodiadau palmant wedi’i ostwng.  Gofyn i’r Cabinet fabwysiadu polisi i alluogi tenantiaid y cyngor i osod, neu osod ar gais, mannau gwefru cerbydau yn eu cartrefi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darllenodd y Cadeirydd yr argymhellion yr oedd gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd eu cyflwyno i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar ddichonoldeb cynnig gosod pibelli ceblau rhwng tai a’r stryd i alluogi perchnogion cerbydau trydan heb fynediad at le parcio oddi ar y stryd i redeg ceblau ar draws palmentydd yn ddiogel, gyda’r preswylydd yn talu am hyn yn yr un modd â gosodiadau palmant wedi’i ostwng a gofyn i’r Cabinet fabwysiadu polisi i alluogi tenantiaid y cyngor i osod, neu osod ar gais, mannau gwefru cerbydau yn eu cartrefi.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Preece ei bod yn cefnogi’r cynnig.   Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd bryderon ar oblygiadau ehangach yr argymhellion ac awgrymodd y dylid ystyried y mater ymhellach.  

 

Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) i’r sylwadau a’r pwyntiau a godwyd gan Aelodau mewn perthynas â mynediad at fannau gwefru, addasrwydd llefydd parcio oddi ar y stryd, a’r anawsterau yr oedd rhai preswylwyr yn eu profi wrth geisio parcio yn agos neu du allan i’w cartrefi.   Cyfeiriodd at dargedu ‘Gwefru mewn cyrchfan’ lle darperir mannau gwefru mewn cyrchfannau allweddol ar draws y sir, a ‘Gwefru ar y ffordd’ lle gellir gwefru Cerbydau Trydan ar ganol siwrnai.  Disgwylir i’r astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer cam nesaf gwefru mewn cyrchfan gael ei chynnal yn 2023 yn amodol ar sicrhau’r cyllid, a fydd yn nodi’r lleoliadau Cyngor neu leoliadau preifat mwyaf strategol i ddatblygu’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ymhellach. 

 

Gan grynhoi, cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion fel a ganlyn:

 

  • gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd adrodd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar ddichonoldeb cynnig gosod pibelli ceblau rhwng tai a’r stryd i alluogi perchnogion cerbydau trydan heb fynediad at le parcio oddi ar y stryd i redeg ceblau ar draws palmentydd yn ddiogel,

 

  • gwahodd preswylwyr yn Sir y Fflint i gael cyfle i osod yr uchod gyda’r preswylydd yn talu am hyn yn yr un modd â gosodiadau palmant wedi’i ostwng; a 

 

  • gofyn i’r Cabinet fabwysiadu polisi i alluogi tenantiaid y cyngor i osod, neu osod ar gais, mannau gwefru cerbydau yn eu cartrefi.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Carolyn Preece ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.  Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Gofyn i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd adrodd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar ddichonoldeb cynnig gosod pibelli ceblau rhwng tai a’r stryd i alluogi perchnogion cerbydau trydan heb fynediad at le parcio oddi ar y stryd i redeg ceblau ar draws palmentydd yn ddiogel,

 

(b)       Gwahodd preswylwyr yn Sir y Fflint i gael cyfle i osod yr uchod gyda’r preswylydd yn talu am hyn yn yr un modd â gosodiadau palmant wedi’i ostwng; a 

 

(c)        Gofyn i’r Cabinet fabwysiadu polisi i alluogi tenantiaid y cyngor i osod, neu osod ar gais, mannau gwefru cerbydau yn eu  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Ymholiadau Newid Hinsawdd pdf icon PDF 39 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo cyfres o gwestiynau ar gyfer yr Ymholiad Newid Hinsawdd, a thrafod amserlenni ar gyfer ymholiadau yn unol â chapasiti Swyddogion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr angen i gymeradwyo cwestiynau’r Ymholiad Newid Hinsawdd, fel y nodir ar y rhaglen, a thrafod amserlenni ar gyfer ymholiadau yn unol â chapasiti Swyddogion.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi nifer o awgrymiadau i helpu gyda gweinyddu’r holiadur.   Nododd y Cadeirydd bod y cwestiynau’n ceisio tystiolaeth ansoddol, nid meintiol, ac yn gofyn am farn pobl ynghylch Cronfa Bensiynau Clwyd a’i buddsoddiadau.  Roedd y cwestiynau hefyd yn ceisio barn pobl y tu allan i’r Cyngor Sir a Chronfa Bensiynau Clwyd.   Byddai’r cwestiynau a’r datganiadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.   Byddai’r ymatebion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor fel tystiolaeth i’r Pwyllgor i’w helpu i lywio eu barn a’u cyhoeddi ar y wefan maes o law.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Dan Rose ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sam Swash ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cwestiynau’r Ymholiad Newid Hinsawdd, fel y’u nodwyd ar y rhaglen.

           

26.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 61 KB

Pwrpas:        Ystyried y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a hysbysu'r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a oedd yn rhestru’r eitemau ar gyfer y cyfarfodydd ar 23 Mai ac 18 Gorffennaf 2023.  

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dan Rose y dylid cynnwys eitem yn ymwneud â meysydd parcio ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyda’r bwriad i adolygu’r cyfleusterau sydd ar gael ac ystyried eu defnyddio i gynhyrchu ynni, a nododd paneli solar fel enghraifft.   Cyfeiriodd y Cynghorydd Rose hefyd at yr eitem ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy i’w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 23 Mai, a’r posibilrwydd o archwilio cyfleoedd ynni adnewyddadwy amgen, gan gynnwys p?er gwynt a solar, ym meysydd parcio’r Cyngor.   Awgrymodd y dylid ystyried hyn cyn y cyfarfod nesaf er mwyn osgoi dyblygu gwaith.   Cytunwyd y byddai’r Rheolwr Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yn cysylltu â swyddog arweiniol y prosiect.

 

            Cynigodd y Cynghorydd Mared Eastwood y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Allan Marshall.   Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Mabwysiadu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod y Rheolwr Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yn cysylltu gyda’r aelod arweiniol i adolygu meysydd parcio’r Cyngor er mwyn archwilio’r posibilrwydd o gyfleoedd ynni adnewyddadwy amgen, gan gynnwys p?er gwynt a solar.