Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

43.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

44.

Cofnodion pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Gillian Brockley a Carolyn Preece.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

45.

Cynllunio Wrth Gefn ar gyfer gwres llethol

Pwrpas:        Trafod cynllunio wrth gefn ar gyfer gwres llethol gyda Gwasanaeth Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol - cynghorau gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Helen Kilgannon, Rheolwr y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Pam ein bod yn Cynllunio Rhag Argyfwng

·         Deddfwriaethau eraill

·         Argyfyngau a Digwyddiadau Sylweddol

·         Beth sy’n gallu achosi argyfyngau?

·         Beth yw Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru?

·         Strwythur Cynllunio Rhag Argyfwng yng Nghyngor Sir y Fflint

·         Argyfyngau diweddar yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru

·         Gweithgaredd rhanbarthol diweddar

·         Strwythur y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth

·         Ymateb i Covid

·         Ôl-drafodaeth

·         Prif risgiau yng Ngogledd Cymru

·         Newid Hinsawdd

·         E-ddysgu Aelodau Etholedig

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill am ymrwymiad cyhoeddus fe gynghorodd y Rheolwr Rhanbarthol fod cynlluniau yn eu lle i sicrhau fod gwybodaeth yn cael ei rannu a’i ddiweddaru gan dîm gwybodaeth y Cyngor a gr?p amlasiantaeth yn dibynnu ar y sefyllfa.   Cyfeiriodd hefyd at y system rhybuddio mewn argyfwng wedi’i beilota gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

 

Holodd y Cynghorydd Chrissy Gee am gymorth gyda chynllun llifogydd yn ardal Brychdyn.  Cytunodd y Rheolwr Rhanbarthol i anfon manylion cyswllt perthnasol ymlaen o fewn ei thîm ynghyd â’r rheiny yng Nghyfoeth Naturiol Cymru a D?r Cymru.   Yn dilyn ymholiad pellach fe gadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod archwiliad i lifogydd Waterco yn dal i fynd rhagddo ac y byddai’r canlyniad yn cael ei rannu gyda’r Cyngor Cymuned ac Aelodau lleol.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Roz Mansell ar bwysigrwydd trwsio tyllau ffordd a chlirio draeniau fel mesurau i osgoi llifogydd fe gytunodd y Cynghorydd Dave Hughes i gwrdd â hi er mwyn trafod y sefyllfa ymhellach.   Ymatebodd y Prif Swyddog hefyd i sylwadau gan y Cynghorwyr Jason Shallcross a Gillian Brockley ar broblemau llifogydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Steve Copple i gael gweithio gydag ardaloedd diwydiannol i atal achosion trychinebus.   Cafwyd enghreifftiau gan y Rheolwr Rhanbarthol o ymrwymo sefydliadau ar eu cynlluniau diogelwch mewnol ac i gael ymateb gan y Swyddog Dyletswyddau Statudol ar yr ymagwedd o leihau’r risg o ryddhau nwyon.

 

Wrth ymateb i safbwyntiau’r Cynghorydd Allan Marshall, fe gyfeiriodd y Rheolwr Rhanbarthol at Brotocol Rhyngweithredu Gwasanaethau Brys ar y Cyd sy’n cynnwys manylion ar yr ymagwedd o waith amlasiantaethau mewn achosion o argyfwng.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am yr ymateb mewn argyfwng i dywydd poeth ac eglurwyd rôl y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth gydag adolygu risgiau, yn ogystal â gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn rhannu gwybodaeth a rôl y timau Gofal Cymdeithasol mewn adnabod cymorth i bobl ddiamddiffyn.    Awgrymodd hefyd y datblygiad posib o ‘ganolbwyntiau oeri’ er mwyn ymateb i wres llethol pe bai cyllid ar gael.

 

Cynigodd y Cadeirydd i dderbyn y cyflwyniad gyda’r Cynghorydd Brockley yn eilio’r cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ar gynllunio wrth gefn ar gyfer tywydd eithafol gyda Gwasanaethau Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru.

Agenda item 4 - Presentation slides pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

46.

Adroddiad Sicrwydd ac Asesiad Risg Archwilio Cymru - Cynllun Lleihau Carbon pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Cydnabod canlyniad adroddiad Archwilio Cymru a chefnogi’r camau a gymerir i fynd i’r afael â’u hargymhelliad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad ar ganlyniad adroddiad Archwilio Cymru ar ymrwymiad a chamau gweithredu’r Cyngor gyda charbon yn erbyn darganfyddiadau eu hadroddiad sector gyhoeddus gyfan.  Mae’r adroddiad wedi cael ei ystyried gan Gabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi.

 

Yn ystod trafodaeth fe ddywedodd y Cynghorydd Allan Marshall y dylai’r ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru gael ei gefnogi gyda chyllid perthnasol.

 

Wrth gydnabod yr argymhelliad gan Archwilio Cymru fe ofynnodd y Cynghorydd Steve Copple os oedd y diffyg cyllid yn cyflwyno risg i uchelgais y Cyngor a dywedodd bod enillion bach yn ffordd ymlaen o ystyried y cyfyngiadau ariannol presennol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r Cyngor yn adolygu’r strategaeth a’i uchelgeisiau o fewn y 18 mis nesaf a byddai yna gyfle am ymrwymiad gan y Pwyllgor.   Aeth ymlaen i gyfeirio at y posibilrwydd o ddefnyddio cynlluniau Salix (fel yr oedd eisoes wedi’i wneud yn y blynyddoedd diwethaf) er mwyn cyfrannu at arbedion effeithiolrwydd ynni yn ogystal â phrosiectau lleihau carbon wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Awgrymodd y Cadeirydd fod swyddogion o’r tîm Cyllid Cyfalaf yn cael eu gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol i drafod yr opsiynau sydd ar gael i gyflawni amcanion y Cyngor.   Awgrymodd y Prif Swyddog y byddai’r eitem yn gallu ymgorffori enghreifftiau cadarnhaol o sut y mae prosiectau yn y blynyddoedd a fu wedi cael eu hariannu.

 

Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Hilary McGuill ar yr angen am fwy o ddatblygiadau carbon niwtral newydd fe gynghorodd y Prif Swyddog er mai cyfrifoldeb Rheoli Adeiladau oedd hyn yn bennaf y byddai trefniadau yn cael ei gwneud ar gyfer hyfforddiant Pwyllgor Cynllunio.   Cyfeiriodd y Cadeirydd at drafodaeth ar y pwnc hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2023.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Carolyn Preece.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adroddiad Archwilio Cymru a chefnogi’r camau a gymerir i fynd i’r afael â’u hargymhelliad.

47.

Adroddiad Gwrthbwyso Carbon Masnachol pdf icon PDF 184 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor o ddiben a defnydd gwrthbwyso carbon masnachol, ac argymell mai dim ond pan fydd yr holl gyfleoedd lleihau wedi cael eu defnyddio y dylai hynny gael ei ystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd adroddiad sy’n cyflwyno’r diben a’r defnydd o wrthbwyso carbon masnachol er mwyn cyflawni’r targed Carbon Sero Net erbyn 2030.  Darparodd olwg cyffredinol o’r prif bwyntiau yn cynnwys cwrdd â’r safonau perthnasol, enghreifftiau o’u defnydd, y manteision a’r anfanteision.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dan Rose fe ddarparodd y Swyddog Prosiect eglurhad ar yr ymagwedd a argymhellwyd i grwpiau cymunedol gyda mynediad i dir.   Cytunodd i gael mwy o eglurder ar gyfleoedd i flaenoriaethu cyllid ar gredydau carbon di-elw a’r broses ddisgwyliedig ar gyfer prynu gwrthbwysiadau.

 

Gyda dal a storio carbon fe siaradodd y Cynghorydd Allan Marshall am yr angen i annog tirfeddianwyr i reoli gwrychoedd yn fwy effeithiol er mwyn annog tyfiant.   Byddai’r Swyddog Prosiect yn edrych os yw hynny’n ffurfio rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac unrhyw fentrau eraill perthnasol.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Hilary McGuill, fe gytunodd y Swyddog Prosiect i edrych ar y prosiect gwrthbwyso carbon wedi’i ddatblygu gan Compact Syngas Solutions yng Nglannau Dyfrdwy ac os byddai’n bosib i’r Cyngor gynnig cefnogaeth.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei bryderon am wrthbwyso carbon a oedd wedi arwain at yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor yn y lle cyntaf.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dan Rose ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor ddim yn prynu gwrthbwysiadau cael gwared ar garbon tra bod cyfleoedd i leihau ac amsugno carbon yn bodoli’n barod a hynny er gwaethaf targed carbon sero net 2030; a

 

(b)       Dim ond pan fydd yr holl gyfleoedd lleihau carbon wedi cael eu defnyddio, neu ddim yn gymwys, y dylai’r Cyngor ystyried prynu gwrthbwysiadau carbon i ddod yn garbon sero net. Mewn achos o’r fath fe ddylai’r Cyngor flaenoriaethu prosiectau gwrthbwyso sy’n lleol ac yn cwrdd â safonau cadarn/wedi’u cefnogi gan Lywodraeth y DU.

48.

Diweddariad ar Ymchwiliadau

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar ymholiadau cyhoeddus a phenderfynu ar y camau nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r dyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer Chwefror yn cael eu hail-drefnu ac y byddai Aelodau yn cael eu hysbysu o’r dyddiadau newydd.

49.

Eitemau a Phwrpas Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Cwblhau’r Rhaglen Her yr Hinsawdd ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth ystyried y rhaglen waith presennol cytunwyd bod swyddog o’r tîm Cyllid Cyfalaf yn cael ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol i drafod opsiynau ariannol i gefnogi prosiectau yn ymwneud â hinsawdd.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Dan Rose.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith, fel y’i diwygiwyd.

50.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yna un aelod o’r wasg yn bresennol.