Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

22.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim. 

23.

Cofnodion pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 15 Gorffenaf 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 15 Gorffennaf 2021. Cynigiodd y Cynghorydd Joe Johnson bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marion Bateman.

 

            Materion yn codi

                        Tudalen 9, gofynnodd y Cadeirydd a oeddem wedi derbyn ymateb yngl?n â risg CW06. Dywedodd yr Hwylusydd y byddai’r wybodaeth yn cael ei darparu cyn gynted â phosibl.

           

            PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

24.

Cynllun Busnes Adfer y Portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        Adolygu’r Cynllun Busnes Adfer ar gyfer y Portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio Gynllun Busnes Adfer ar gyfer y Portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant. Fe soniodd am yr amcanion adfer oedd yn ymwneud â darparu gwasanaeth fel y manylir yn yr adroddiad, a dywedodd bod pob gwasanaeth bellach yn gwbl weithredol. Rhoddodd drosolwg o’r risgiau adfer fel y manylir yn yr adroddiad a dywedodd bod 26 risg yn cael eu monitro ar hyn o bryd (3 yn goch, 3 yn oren, 3 yn felyn, 7 yn wyrdd a 14 wedi’u cau).  

 

Mynegodd y Cynghorydd Marion Bateman bryderon yngl?n â gohirio a blaenoriaethu cynlluniau oedd wedi’u trefnu o dan waith adeiladu priffordd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y byddai’n ceisio cael rhagor o wybodaeth ar ôl y cyfarfod am gynllun penodol yr oedd y Cynghorydd Bateman wedi’i grybwyll.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Glyn Banks deyrnged i swyddogion a gweithwyr Gwasanaethau Stryd a Chludiant am eu gwaith a’u gwytnwch trwy gydol heriau’r pandemig.

 

Fe soniodd y Cynghorydd David Healey am effaith newid hinsawdd ar adnoddau ac adferiad gwasanaethau.

 

Gan ymateb i sylwadau a phryderon y Cynghorwyr Marion Bateman a David Healey, fe awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r materion a godwyd gael eu hatgyfeirio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.  Fe eglurodd y Prif Weithredwr y byddai effaith cymhleth yr oedi â’r gadwyn gyflenwi ar raglenni cyfalaf (yn cynnwys pob cynllun) yn cael ei ystyried. Fe soniodd hefyd nad oedd yr adnoddau a’r ymrwymiad i newid hinsawdd a llifogydd yn cael ei effeithio gan y gwaith adfer ac roedd atal llifogydd, a chapasiti i ymateb yn cael ei wella ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Fe ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i gwestiynau gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â chofnodi data am frechu a hunan-ynysu ymysg gweithwyr rheng flaen. Dywedodd bod hunan-ynysu gan weithwyr yn cael ei gofnodi’n fisol er mwyn monitro ac asesu effaith y pandemig wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Fe eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y Cyngor yn cael cadw cofnod o weithwyr oedd wedi cael eu brechu gan mai data preifat oedd hyn oedd yn eiddo i’r unigolyn. Gan ymateb i sylwadau’r Cynghorydd McGuill, fe awgrymodd bod adroddiad am effeithiau ar weithluoedd ar draws y Cyngor yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Fe awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts bod cyfarfod yn cael ei gynnal gyda D?r Cymru er mwyn ystyried eu rhaglenni modelu. Manteisiodd y Cynghorydd Roberts ar y cyfle i ddiolch i holl weithwyr Gwasanaethau Stryd a Chludiant am eu gwaith penigamp yn ystod y pandemig. 

 

Gan ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Patrick Heesom, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio i drafod y materion a godwyd yngl?n â chludiant gyda’r Cynghorydd Heesom, gyda’r bwriad o ddatrys problemau lleol. 

 

 

Fe soniodd y Cynghorydd am yr angen i dorri gwair ar leiniau glas a llwybrau cyhoeddus wrth ochr priffyrdd, a dywedodd bod hyn achosi cwynion gan y cyhoedd mewn rhai ardaloedd.  Mynegodd y Cynghorydd Paul Cunningham bryderon hefyd am wrychoedd/ canghennau oedd yn hongian drosodd ar lwybrau troed cyhoeddus.  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Cynllun Busnes Adfer y Portffolio Tai ac Asedau pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Adolygu’r Cynllun Busnes Adfer ar gyfer y Portffolio Tai ac Asedau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) Gynllun Busnes ar gyfer y portffolio Tai ac Asedau. Dywedodd bod yna 47 risg presennol (6 coch, 23 oren, 5 melyn 9 gwyrdd, 4 wedi cau) a dywedodd bod y prif risgiau yn ymwneud ag incwm rhenti, digartrefedd a chyflenwadau deunydd crai. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am y sefyllfa ddiweddaraf o ran gydag eiddo gwag. Dywedodd y Prif Swyddog bod yna tua 200 eiddo gwag yn stoc dai y Cyngor sydd angen cael eu hatgyweirio i gael eu defnyddio eto. Fe eglurodd bod y prinder presennol o gyflenwadau, deunyddiau a llafur adeiladu, a chostau cynyddol oherwydd y pandemig a Brexit yn debygol o gael effaith ar benderfyniadau yn y dyfodol i ymrwymo i gynlluniau cyfalaf a'r gallu i baratoi eiddo’n yn gyflym i’w defnyddio eto. Gan sôn am ystadau diwydiannol a masnachol y Cyngor, dywedodd mai ychydig iawn oedd yn wag ac roedd y galw ar y cyfan yn uchel iawn ym mhob deiliadaeth. 

 

Gan ymateb i sylwadau pellach gan y Cadeirydd am incwm rhenti, dywedodd y Prif Swyddog bod yr incwm a ragwelir a fydd yn cael ei golli ar gyfer ei stoc dai yn 2%, oedd wedi’i fodelu mewn i’r cynllun busnes.  Fe eglurodd bod hyn ar lefel uchel ar hyn o bryd a oedd yn effeithio ar y gwasanaeth Tai oedd yn cael ei ariannu’n benodol gan incwm rhenti.

 

Fe awgrymodd y Cadeirydd bod effaith y cynnydd mewn eiddo gwag, a rhent ddim yn cael ei dalu ar sefyllfa ariannol y portffolio, yn cael ei atgyfeirio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Thai. Cytunodd y Pwyllgor i hyn. 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Healey a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi cynnwys Cynllun Busnes Adfer y Portffolio Tai ac Asedau;

 

 (b)     Rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor gan Gynllun Busnes Adfer y Portffolio Tai ac Asedau;

 

 (c)      Atgyfeirio’r canlynol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau:-

 

·         effaith cynnydd mewn eiddo gwag a pheidio â thalu rhent ar sefyllfa ariannol y portffolio.

26.

Adfer Tlodi a Bregusrwydd pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am adferiad cymunedol, ar thema tlodi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-Daliadau adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adferiad cymunedol, ar thema tlodi. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod gr?p tactegol wedi cael ei sefydlu yn rhan o’r gwaith ymateb i’r pandemig er mwyn ystyried effeithiau tlodi a bod yn ddiamddiffyn ar breswylwyr Sir y Fflint. Fe soniodd am y prif ystyriaethau fel y manylir yn yr adroddiad a chyfeiriodd at waith y gr?p tactegol, canlyniadau llwyddiannus, canolfan gefnogaeth Covid, taliadau hunan-ynysu, a grant caledi i denantiaid.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at y sylw yn y wasg/cyfryngau yn ddiweddar yngl?n ag eitemau’n cael eu dychwelyd i Amazon, ac awgrymodd y dylid cysylltu â warws dosbarthu Amazon ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a fyddai o bosibl yn gallu cynnig cefnogaeth i bobl mewn tlodi. Cytunodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai’n ymchwilio i hyn.

 

Roedd yr Aelodau’n cefnogi’r rhaglen waith bresennol a sefydlwyd i gefnogi ac amddiffyn preswylwyr sydd yn ddiamddiffyn neu sydd mewn tlodi, fel rhan o’r adferiad cymunedol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Vicky Perfect y Rheolwr Budd-Daliadau a’i thîm am gyflenwi 46,800 o brydau bwyd i aelwydydd oedd yn cael eu gwarchod neu’n ddiamddiffyn yn ystod y pandemig.  Fe soniodd hefyd am lwyddiant sesiynau ‘Fit, Fed and Read’ yng Nghastell Y Fflint oedd yn boblogaidd iawn.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n ag ailddiffinio gwasanaethau, fe eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod hyn yn golygu rhagor o gydweithio gyda sefydliadau partner.  Gan ymateb i gwestiwn pellach gan y Cadeirydd am gefnogaeth i bobl oedd ag ôl-ddyledion rhent, fe soniodd y Rheolwr Budd-Daliadau am y Taliad Dewisol Tai i bobl sy’n derbyn budd-daliadau, a’r Grant Caledi oedd yn rhoi cefnogaeth i denantiaid mewn llety rhent preifat. 

 

Cytunwyd y byddai dolen i gynllun cefnogaeth ôl-ddyledion rhent yn y sector preifat yn cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Gan ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â galluogi pobl sydd wedi cael eu cefnogi yn ystod y pandemig i gael eu hannibyniaeth yn ôl, fe eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod yr holl raglenni wedi’u dylunio, trwy gydweithio â sefydliadau partner, i gefnogi pobl yn ystod argyfwng Covid-19 ac i gael eu meinhau yn raddol pan fyddant yn gallu cefnogi eu hunain. 

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau’n cefnogi’r rhaglen waith bresennol a sefydlwyd i gefnogi ac amddiffyn preswylwyr sydd yn ddiamddiffyn neu sydd mewn tlodi, fel rhan o’r adferiad cymunedol.

27.

Diweddariad am Adferiad Rhanbarthol (Ar lafar/Cyflwyniad)

Pwrpas:        Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Adferiad Rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar lafar am waith ar lefel rhanbarthol a chyfeiriodd at y prif faterion oedd yn ymwneud â brechu a chapasiti ym maes gofal cymdeithasol.  

 

Yn ôl y Prif Weithredwr, yn seiliedig ar ragamcanion presennol o fewn y pythefnos nesaf, bydd 85% o boblogaeth Gogledd Cymru wedi cael dau ddos o’r brechlyn. Mae hyn yn seiliedig ar y boblogaeth sydd wedi cael eu brechu a’r rhai sydd wedi trefnu i gael brechlyn yn y rhanbarth. Roedd Prif Weinidog Cymru wedi gosod targed o 80% ar draws Cymru er mwyn symud i lefel rhybudd sero. Fe soniodd y Prif Weithredwr hefyd bod 75% o’r rhai 18-39 oed wedi cael eu brechu. Roedd canolfannau galw heibio i gael brechlyn dal i fod ar gael, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y rhaglenni atgyfnerthu allai fod yn weithredol yng Ngogledd Cymru o ddechrau mis Medi.

 

Gan gyfeirio at gapasiti ym maes gofal cymdeithasol, fe eglurodd y Prif Weithredwr bod diffygion yn dod i’r amlwg yng ngallu’r gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol. Fe eglurodd bod nifer o resymau am hyn, a dywedodd ei fod yn effeithio ar y gallu i ddal fyny â’r galw ym maes gofal cartref a dywedodd bod rhai pecynnau’n cael eu lleihau o ganlyniad. Roedd yna bryder hefyd yngl?n â recriwtio a chadw yn y sector annibynnol ar gyfer gofal preswyl oedd yn effeithio ar iechyd ac oedi wrth ryddhau pobl o’r ysbyty. Dywedodd mai’r un yw’r sefyllfa mewn rhannau eraill o Gymru a’r Deyrnas Unedig, ac roedd datrysiadau’n cael eu hystyried.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd y Prif Weithredwr y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol i roi gwybod iddynt am y rhaglen atgyfnerthu.

 

Gan ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â brechu unigolion 16-17 oed cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, dywedodd y Prif Weithredwr y bydd y gr?p oedran yma’n cael ei ychwanegu at y rhaglen frechu gyffredinol, a bydd y gwaith yn dechrau gyda BIPBC i’w weithredu cyn gynted ac mor ymarferol ag sy’n bosibl.

 

Canmolodd y Cynghorydd Marion Bateman y modd y mae’r rhaglen frechu wedi cael ei chyflwyno. Fe soniodd am lefel sero a gofynnodd pryd fyddai hyn yn cael ei weithredu. Dywedodd y Prif Weithredwr bod disgwyl cyhoeddiad gan y Prif Weinidog yfory, a bod disgwyl iddo ddigwydd ym mis Awst. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd gan y newyddion diweddaraf a roddwyd gan y Prif Weithredwr. 

28.

Diweddariad ar sefyllfa'r pandemig / endemig a rhagolygon (Ar lafar/Cyflwyniad)

Pwrpas:        Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa’r pandemig / endemig a rhagolygon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar lafar am sefyllfa’r pandemig / endemig  a’r rhagolygon.  Dywedodd bod asesiadau risg manwl yn cael eu cynnal yn adeiladau’r Cyngor yn Neuadd y Sir, Ewlo, Y Ffint ac Alltami gyda’r bwriad o weld y gweithlu yn dychwelyd i swyddfeydd yn y dyfodol.  Fe eglurodd bod modelau hybrid o weithio yn cael eu hystyried a bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu gydag Aelodau yn ystod y misoedd sydd i ddod. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad am nifer yr achosion presennol yn Sir Fflint, a dywedodd eu bod yn gostwng. Cyfeiriodd hefyd at y sefyllfa bresennol ar brofi a dywedodd bod llai o bobl yn cael eu profi ac felly roeddem yn gwybod am lai o achosion o Covid. Dywedodd bod cyfradd y rhai sy’n cael canlyniad positif yn Sir y Fflint yn 13.1% (13 allan o 100 prawf yn cael canlyniad positif). Roedd y gwasanaeth iechyd o dan bwysau cynyddol yn sgil y galw ar wasanaethau a bod gwasanaethau yn ailgychwyn.  I grynhoi, amlinellodd y Prif Weithredwr y rhagolygon ar gyfer y misoedd nesaf.  

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â phrofi gweithwyr ar gyfer Covid-19, fe eglurodd y Prif Weithredwr na allai’r Cyngor orfodi gweithwyr i gael eu profi’n rheolaidd.  Serch hynny, mewn rhai gwasanaethau roedd angen i weithwyr gael eu profi’n rheolaidd yn sgil natur eu gwaith a defnyddiodd y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol fel enghraifft.  Fe soniodd am y canolfannau profi galw heibio teithiol yn Neuadd y Sir ac Alltami ar gyfer gweithwyr a’r cyhoedd, a dywedodd bod y rhai sydd wedi derbyn y gwasanaeth a’r adborth wedi bod yn bositif. Os ydi unrhyw weithiwr wedi cael prawf positif neu wedi cael gwybod eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif, roedd rhaid iddynt ddilyn canllawiau Profi, Olrhain a Diogelu ar hunan-ynysu. 

 

Gan ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd McGuill am brofi staff addysgu ac ategol mewn ysgolion, fe eglurodd y Prif Weithredwr eu bod wedi derbyn canllawiau cyffredinol am ailagor ysgolion gan y Prif Weinidog, ond roeddynt dal i aros am fanylion am brofi.

29.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a'r Rhestr o Gyfarfodydd (ar lafar)

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe soniodd y Prif Weithredwr am yr adroddiadau canlynol a fydd yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 9 Medi.

 

·         Amcanion Adferiad Corfforaethol;

·         Proffil Risg Adferiad Corfforaethol;

·         Risgiau a Materion o fewn Portffolios

·         Dyrannu Risgiau i Bwyllgorau

·         Diweddariad am Adferiad Rhanbarthol

·         Diweddariad am Adferiad Cymunedol

·         Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol

·         Materion cyffredinol yn y gweithlu a risgiau mewn perthynas ag agor ysgolion ym mis Medi a chapasiti gofal cymdeithasol    

·         Cynnwys Covid Hir yn yr adroddiad gweithlu a fydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cafodd hyn ei gynnig gan y Cadeirydd Hilary McGuill a’i eilio gan y Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytuno ar yr eitemau ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 9 Medi 2021.

30.

Presenoldeb Aelodau O'r Wasg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.