Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Cynghrair Annibynnol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Richard Jones yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd cadarnhad yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Cynghrair Annibynnol. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Richard Jones wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Richard Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd enwebiad y Cynghorydd David Healey i benodi’r Cynghorydd Joe Johnson fel Is-gadeirydd ei eilio gan y Cynghorydd Vicky Perfect, a chafodd ei gario ar ôl y bleidlais.
PENDERFYNWYD:
Penodi'r Cynghorydd Joe Johnson yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: Nodi Cylch Gorchwyl y Pwyllgor fel y’u cymeradwyir gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) cylch gorchwyl y Pwyllgor, fel y cymeradwywyd gan y Cyngor.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham. Ar ôl ei eilio, rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Patrick Heesom am rolau rhanbarthol swyddogion.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Cylch Gorchwyl. |
|
Amcanion Adfer Corfforaethol PDF 93 KB Pwrpas: Mabwysiadu set wedi’i diweddaru o Amcanion Adfer Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr amcanion corfforaethol sydd wedi’u diweddaru ar gyfer ail gam yr adferiad a argymhellwyd i gael eu mabwysiadu. Byddai’r rhain yn destun adolygiad trwy gydol y cyfnod adferiad.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, awgrymodd y Prif Weithredwr bod Crynodeb o Gynlluniau Adfer Busnes ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn cael eu hystyried yng nghyfarfod mis Gorffennaf, gyda Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Thai ac Asedau’n cael eu rhannu ym mis Awst.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi a mabwysiadu'r Amcanion Adferiad Corfforaethol. |
|
Proffil Risg Adferiad Corfforaethol PDF 91 KB Pwrpas: Derbyn cyflwyniad ar y Proffil Risg Adfer Corfforaethol sydd wedi’i ddiweddaru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr ac Ymgynghorydd Perfformiad Strategol adroddiad diweddaru am Gofrestr Risg a Mesurau Lliniaru Adferiad Corfforaethol.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol drosolwg o’r prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios perthnasol. Fe adroddwyd rhywfaint o welliant yn yr unig risg sy’n goch am effaith cynnydd ôl-ddyledion rhent ar sefydlogrwydd Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai. Fel risg parhaus, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gyda phob Cyngor yng Nghymru i gynllunio ar gyfer mesurau wrth gefn gan fod Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru yn nesáu at ei derfyn.
Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dylai perygl y modd y mae ysgolion yn gweithredu mewn modd gwahanol yn effeithio ar y gweithlu (CW20a) aros ar agor oherwydd y sefyllfa newidiol. Dywedodd yr Uwch Reolwr bod hyn yn berthnasol pan fo ysgolion wedi bod ar gau a byddai’n parhau i gael ei adolygu. Roedd peryglon tebyg ar sefyllfaoedd newidiol gydag ysgolion (CW20 a CW24) yn parhau ar agor er mwyn adlewyrchu’r effaith ar rieni sy’n gweithio a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Gan ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, roedd lefel y perygl ar y posibilrwydd o gostau cynyddol gan gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau (CF10) yn adlewyrchu tystiolaeth newydd am effaith dros dro ar gostau o fewn y diwydiant adeiladu sy’n cael eu monitro oherwydd ei effaith ar y Rhaglen Gyfalaf. Byddai’r geiriad am gamau lliniaru am y perygl mewn cysylltiad ag effaith ôl-ddyledion rhent cynyddol (CF14) yn cael ei ddiweddaru ar ôl y diweddariad a roddwyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau.
Gofynnodd y Cynghorydd Vicky Perfect am y gefnogaeth ar gyfer iechyd a lles y gweithlu yn ystod yr argyfwng a rhoddwyd enghreifftiau iddi gan yr Uwch Reolwr am fentrau amrywiol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.
Cefnogodd y Pwyllgor awgrym y Prif Weithredwr bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad llawn lle y bo’n bosibl ym mis Gorffennaf neu Awst cyn i beryglon penodol gael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, er enghraifft trwy eitemau rhaglen rheolaidd Monitro Cyllideb Refeniw a Gweithlu.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol. |
|
Cynlluniau Busnes Adfer Portffolios PDF 93 KB Pwrpas: Dechrau adolygiad o’r Cynlluniau Busnes Adfer ar gyfer pob un o’r pum portffolio gwasanaeth gan ddechrau gyda’r gwasanaeth Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi fel enghraifft weithredol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) Cynllun Busnes Adfer ar gyfer ei bortffolio i’r Pwyllgor er mwyn adolygu’r fformat a’r cynnwys fel enghraifft weithredol. Fe dynnodd sylw at feysydd allweddol megis cydnerthedd timau amrywiol oherwydd y galw digyffelyb ar wasanaethau yn ystod y sefyllfa o argyfwng, cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol a gweithredu system cefn swyddfa. O ran colli incwm, fe ganmolodd y cyllid oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’r tîm Cyllid.
Fe awgrymodd y Prif Weithredwr ei bod yn bosibl yr hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar wasanaethau Gwarchod y Cyhoedd lle bu galw aruthrol ar adnoddau yn ystod yr argyfwng.
Dywedodd y Prif Swyddog tra bod adnoddau Iechyd Yr Amgylchedd wedi cael eu cynnal yn Sir y Fflint dros y blynyddoedd, bu galw sylweddol am y gwasanaethau yma. Fe ganmolodd cydnerthedd yn y timau am ddelio â’r heriau yma a thynnodd sylw at y galw cynyddol ar wasanaethau ar gyfer adferiad llifogydd a chanol trefi.
Pan ofynnodd y Cadeirydd iddo am gefnogaeth ar gyfer adferiad canol trefi, fe soniodd y Prif Swyddog am y broses recriwtio bresennol a ffrydiau gwaith Gr?p Tactegol sydd wedi’u cynnwys yn yr eitem nesaf ar yr agenda.
Tra bod y Cynghorydd Ian Roberts yn cydnabod yr angen i gefnogi canol trefi, dywedodd bod gwasanaethau mewn cymunedau llai yr un mor bwysig i breswylwyr.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Hilary McGuill a David Healey.
Cytunwyd y byddai gweddill y Cynlluniau Busnes Adfer Portffolio yn cael eu he-bostio i’r Pwyllgor, a byddai crynodeb o bob un yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfodydd mis Gorffennaf ac Awst gyda chyflwyniadau yn tynnu sylw at y prif faterion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi fformat a chynnwys Cynllun Busnes Adfer Portffolio; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan Gynllun Busnes Adfer Portffolio gwasanaeth Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi, a byddant yn cyfeirio unrhyw waith rheoli risg pellach a phenodol i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol fel y bo angen. |
|
Pwrpas: Derbyn cyflwyniad ar Adferiad Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) gyflwyniad am y gwaith sydd wedi’i wneud gan Gr?p Adferiad Cymunedol Sir y Fflint, gan sôn am:
· Adferiad Cymunedol - Sir y Fflint · Adferiad Cymunedol – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam · Amgylchedd Tîm 1 · Cyfleoedd sydd gennym ni
Ar ôl y cyflwyniad, gofynnodd y Cynghorydd David Healey am ragor o wybodaeth am brosiect ucheldiroedd Moel Famau a siaradodd am yr angen i ddarparu cyfleoedd ar gyfer grwpiau cymunedol lleol i gyfarfod.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Marion Bateman, cytunodd y Prif Swyddog i drefnu bod y Strategaeth Coetir yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor.
Fe ganmolodd y Cynghorydd Paul Cunningham waith Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol trwy gydol yr argyfwng.
Yn dilyn argymhelliad gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai swyddogion arweiniol yn cael gwahoddiad i gyfarfodydd mis Gorffennaf ac Awst er mwyn trafod gwaith grwpiau tactegol ar yr Economi a Thlodi. Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Aelodau yn nodi’r trefniadau llywodraethu, blaenoriaethau a chynnydd a wnaed hyd yn hyn mewn cysylltiad ag Adferiad Cymunedol; a
(b) Bod y Rheolwr Mentergarwch ac Adfywio a’r Rheolwr Budd-daliadau yn darparu manylion gwaith ar eu grwpiau tactegol priodol yn y ddau gyfarfod nesaf. |
|
Item 9 - Community Recovery slides PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Cylch Gorchwyl a Rhaglen Waith y Grwpr Cydlynu Adferiad Rhanbarthol PDF 81 KB Pwrpas: Derbyn gwybodaeth am y Grwp Gydlynu’r Adferiad Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad am y Gr?p Cydlynu Adferiad sydd yn cynnwys partneriaid aml asiantaeth strategol er mwyn cydlynu a gweithredu strategaeth adferiad rhanbarthol. Fel Cadeirydd y Gr?p Cydlynu Adferiad, roedd y cyflwyniad yn sôn am y canlynol:
· Amcanion Strategol fel Cyngor Partner · Gwyliadwriaeth, Amddiffyniad a Gorfodaeth Leol · Gwasanaeth Olrhain a Diogelu · Y Rhaglen Frechu · Profi
Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i bob swyddog oedd yn ymwneud â’r ymateb i’r argyfwng. Cafodd ei sylwadau eu heilio gan y Cynghorydd Ian Roberts ac Aelodau o’r Pwyllgor.
Fe atebodd y Prif Weithredwr gwestiynau am brofion llif unffordd, brechiadau lleol a chyfrifoldebau hunan-ynysu. Fe aeth ymlaen i roi diweddariad am y sefyllfa ddiweddaraf yn lleol ac yn genedlaethol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Marion Bateman a Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi Cylch Gorchwyl y Gr?p Cydlynu Adferiad Rhanbarthol. |
|
Item 10 - Regional Recovery slides PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a'r Rhestr o Gyfarfodydd (ar lafar) Pwrpas: Gosod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Adfer, gan gynnwys dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf oedd:
15 Gorffennaf · Crynodeb o Gynlluniau Busnes Adfer ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ac Ieuenctid; a · Rheolwr Mentergarwch ac Adfywio i gyflwyno gwaith Gr?p Tactegol i gefnogi canol trefi.
5 Awst · Crynodeb o Gynlluniau Busnes Adfer ar gyfer Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Thai ac Asedau; a · Rheolwr Budd-daliadau i roi cyflwyniad am waith Gr?p Tactegol Adferiad Tlodi a Phobl Ddiamddiffyn.
Yn ychwanegol, bydd y Gofrestr Risgiau Corfforaethol diweddaraf llawn yn cael ei rannu yn un o’r cyfarfodydd, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa’n lleol. Byddai dyddiadau’r cyfarfodydd a sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu dosbarthu i’r Pwyllgor.
Cafodd hyn ei gynnig gan y Cadeirydd a’i eilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
Bod yr eitemau ar yr agenda ar gyfer mis Gorffennaf ac Awst yn cael eu cytuno fel y trafodwyd. |