Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Nicola Gittins / 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Awst 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Awst 2021.
Materion yn codi:
Mewn perthynas â chofnod rhif 25 holodd y Cynghorydd Jones beth yw’r nifer “arferol” o eiddo gwag yn y stoc dai sydd angen eu troi’n gartrefi unwaith eto.Eglurodd y Prif Swyddog fod y ffigwr yn oddeutu 155. O ran cynllun cymorth ôl-ddyledion rhent y sector preifat, dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y byddai’n ailanfon y ddolen at aelodau o’r pwyllgor.
Holodd y Cynghorydd McGuill, mewn perthynas â chofnod rhif 27, a fyddai pobl ifanc 16-17 oed yn cael cynnig yr ail frechiad.Mae’r Prif Weithredwr yn mynd i gyfarfod yn nes ymlaen heddiw a bydd modd iddo ymateb wedi hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Marion Bateman fod y cofnodion yn gywir ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Amcanion Adferiad Corfforaethol PDF 123 KB Pwrpas: Nodi cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn yr Amcanion Adferiad Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac eglurodd fod Cymru, a rhanbarth y gogledd, yn parhau i fod yn ail gam y cyfnod adfer yn dilyn pandemig Covid-19.Mae’r endemig cyfredol yn cael ei reoli.
Mae’r adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar yr amcanion corfforaethol a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
Cyllid Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai ychydig iawn o newid sydd wedi bod ers y cyfarfod diwethaf.Mae’r Cyngor yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar gymorth cenedlaethol drwy’r Gronfa Galedi a ffynonellau cyllid eraill y llywodraeth.Roedd yn falch o adrodd bod cadarnhad wedi’i dderbyn yn ddiweddar y bydd y cyllid yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol.
Gweithlu Eglurodd Uwch-Reolwr (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) fod y Cyngor, drwy weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi darparu cyfle i rywfaint o’r gweithlu wneud prawf llif unffordd dan oruchwyliaeth.Roedd y rheiny a gymerodd brawf wedi derbyn canlyniadau negyddol, a oedd yn darparu sicrwydd o ran mesurau diogelwch y gweithle.
Roedd angen wedi’i nodi ar gyfer darpariaeth ffisiotherapi fewnol, gan y byddai hynny’n fwy cost effeithiol na’r trefniadau presennol ac yn rhoi mwy o reolaeth i'r sefydliad gefnogi gweithwyr yn seiliedig ar anghenion clinigol.
Mae asesiadau risg yn cael eu hadolygu i benderfynu ar y model gweithredu gorau posibl ar gyfer y gweithlu, sy’n cyflawni amcanion strategol y Strategaeth Ddigidol ac yn darparu gweithlu hybrid bodlon, cynhyrchiol, diogel ac effeithiol.
Llywodraethu Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor wedi lansio canolbwynt digidol i sicrhau nad oes neb yn cael ei eithrio oherwydd diffyg mynediad i sgiliau.Mae'n wefan sy’n galluogi pobl i helpu eraill fynd ar-lein neu i feithrin sgiliau a magu hyder ar-lein.Yn bwysicach fyth, caiff ei gefnogi gan weithwyr Sir y Fflint yn Cysylltu a phartneriaid fel Aura sydd hefyd yn darparu mynediad i ddyfeisiau a chysylltedd.Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones, dywedodd y Prif Swyddog fod y canolbwynt yn cael ei hysbysebu gan nifer o bartneriaid fel Age Concern a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint.
O ran cyfraddau casglu treth y cyngor, trethi annomestig cenedlaethol, mân ddyledion a rhenti tai a chyrraedd y targedau, mae’r cyfraddau casglu yn dal yn is na’r targed ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i gynyddu’r cyfraddau casglu ac ad-ennill.Fodd bynnag, llynedd fe ganolbwyntiodd y Gwasanaeth Refeniw ar ddarparu grantiau a helpu trigolion i dderbyn cymorth yn hytrach na chasglu symiau sy’n ddyledus.Mae llawer o ansicrwydd ynghylch effaith bosibl diwedd y cynllun ffyrlo.
Dywedodd y Cynghorydd Jones y dylid cydnabod y cymorth y llywodraethau.Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai modd codi’r awgrym yngl?n ag un dystysgrif brechu a fyddai’n cael ei chydnabod ar draws y DU.Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n gwneud hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Johnson y dylid cymeradwyo’r adroddiad ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd McGuill.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor wedi derbyn sicrwydd o’r cynnydd wrth gyflawni’r amcanion adfer. |
|
Proffil Risg Adferiad Corfforaethol PDF 88 KB Pwrpas: Adolygu’r Gofrestr Risg ddiweddaraf ar gyfer Adferiad Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol yr adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Gofrestr Risgiau a Mesurau Lliniaru Adferiad Corfforaethol y Cyngor, a fanylir arnynt yn atodiadau 1 a 2 yr adroddiad.
Mae’r risgiau wedi’u rheoli’n dda drwy gydol y pandemig.Ar hyn o bryd mae 44.4% o’r risgiau yn wyrdd, 52.8% yn oren a 2.8% yn goch.
Mae 35 o’r risgiau eisoes wedi’u cau; 34 ohonynt oherwydd eu bod wedi cyrraedd y targed y gyfradd risg acun oherwydd ei bod yn ddyblygiad. Nid oes unrhyw risg i’w chau yn ystod yr adolygiad hwn.
Mae’r risgiau hirdymor yn cael eu rheoli.Mae dwy risg o'r mis blaenorol wedi'u cyfuno ac argymhellwyd bod risg CF14 yn cael ei thynnu o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol gan ei bod wedi’i chynnwys yng Nghofrestr Risgiau Tai ac yn cael ei hadrodd arni i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill ar effaith casglu trethi busnes pan fo busnesau wedi cau, awgrymodd y Prif Weithredwr fod yr Aelodau yn gofyn i’r Rheolwr Refeniw ddarparu adroddiad statws ar gyfer y sir gyfan sy'n nodi pa fusnesau sydd wedi cau/agor a'r effaith economaidd. Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Rheolwr Refeniw yn cysylltu â’r Rheolwr Menter ac Adfywio i lunio’r adroddiad.
Gofynnodd y Cynghorydd Dunbar a fyddai hyn, mewn perthynas ag CF08 a’r gostyngiad mewn cyfraddau casglu treth y cyngor, yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n gymwys i fod yn rhan o’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r Cyngor yn cwrdd â’r galw am y Cynllun Gostyngiad gan ei fod yn ofyniad cyfreithiol.O ran Credyd Cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo, holodd y Cynghorydd Dunbar a fyddent yn cael effaith ar drigolion.Dywedodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau), os oes gan unrhyw Aelod etholwyr mewn trafferthion ariannol, bod cymorth ar gael iddynt.Dywedodd bod modd cysylltu â’r Tîm Lles sy’n cynnig cymorth gwych ac yn cyfeirio trigolion at gyllid sydd ar gael a chymorth priodol arall.Bydd yn anfon y manylion cyswllt at yr Aelodau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, cytunwyd cynnwys y Tîm Tai ac Asedau yn yr adroddiad yngl?n â nifer yr unedau busnes sy’n cael eu defnyddio er mwyn darparu adroddiad llawn sy’n amlygu’r sefyllfa sy'n dod i'r amlwg.
Gofynnodd y Cynghorydd Jones am y wybodaeth ddiweddaraf am risg CF10. Eglurodd y Prif Weithredwr fod hwn yn faes cyfnewidiol ond, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, dywedodd nad oedd y Cyngor yn cael ei gyfaddawdu mewn perthynas â chyflenwi nwyddau.Mewn ymateb i gwestiwn arall ar risg CW09, eglurodd y Prif Weithredwr fod hyn yn ymwneud â diffyg aelodau o staff Profi, Olrhain a Diogelu a’r angen i dynnu staff o feysydd gwasanaeth eraill.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Dunbar yr argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys yr argymhelliad ychwanegol ar adroddiad ar fusnesau ar draws Sir y Fflint, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Jones.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r gofrestr risg ... view the full Cofnodion text for item 34. |
|
Y Gweithlu a'r Cynllun Adfer (Ar lafar/Cyflwyniad) Pwrpas: Trosolwg o’r effaith sy’n dod i’r amlwg h.y. effaith COVID-19 ar y gweithlu a’r camau a gymerir i sicrhau bod gwasanaethau ac unigolion yn derbyn cymorth parhaus i fynd o'r cam ymateb i’r cam adfer. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Uwch-Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ddiweddariad ar lafar ar bresenoldeb y gweithlu, gan nodi fod presenoldeb yn dda iawn.Adroddwyd fod absenoldebau oherwydd Covid yn 0.48%. Mae’r awdurdod yn gallu nodi pobl sy’n hunan-ynysu a gweld a oes modd iddynt weithio gartref.
Adroddir fod 0.3% o’r gweithwyr yn dioddef o Covid hir a bod y Cyngor yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu llwybr Covid hir ac yn cyfeirio gweithwyr at Ysbyty Nuffield.
Fel yr adroddwyd eisoes, bydd gwasanaeth ffisiotherapi mewnol yn cael ei ddarparu ac yn seiliedig ar angen clinigol.Mae estyniad i dâl salwch wedi’i ddatblygu ac mae rheolwyr yn defnyddio’u disgresiwn o ran estyn cyfnod tâl salwch gweithwyr.
Mae brechlynnau ffliw ar gyfer gweithwyr allweddol wedi’u harchebu gyda staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn eu rhai hwy yn gyntaf.
Eglurodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) nad oes unrhyw fater gyda’r gweithlu mewn ysgolion.O holl ysgolion y sir, dim ond 16 aelod o staff sy’n absennol ac nid oes unrhyw absenoldeb o fewn y portffolio Addysg ac Ieuenctid.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill yngl?n â sut mae Cronfa Galedi’r Sector Rhentu Preifat yn cael ei hyrwyddo, dywedodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y byddai’n darparu’r wybodaeth honno i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth. |
|
Risgiau a Materion o fewn Portffolios PDF 109 KB Pwrpas: Adolygu’r risgiau mwyaf/presennol o fewn y pum portffolio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac eglurodd fod Cynlluniau Busnes Adfer Portffolios wedi’u datblygu ar gyfer dod allan o’r cam ymateb cyntaf i’r pandemig yn 2020.
Mae’r Pwyllgor Adfer, yn ystod cyfarfodydd diweddar, wedi arolygu Cynlluniau Busnes Adfer y pum portffolio.Yn ystod y cyfarfodydd hynny mae’r Prif Swyddogion wedi amlygu’r risgiau arwyddocaol.Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y risgiau ymhob portffolio.
Addysg ac Ieuenctid Dywedodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eu bod wedi cael dechrau da i’r flwyddyn academaidd newydd gyda phob ysgol yn agor yn ôl y disgwyl.Mae’r ansicrwydd ynghylch newidiadau gweithredol a ellir fod angen eu gwneud yn cael ei reoli.Cafwyd cyfarfod adeiladol gyda phenaethiaid ar ddiwrnod cyntaf y tymor er mwyn i'r awdurdod lleol ymateb i unrhyw ymholiad a phryder.
Bydd ysgolion yn monitro iechyd a lles eu disgyblion, yn ogystal â’u cynnydd academaidd, yn ofalus wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol, a bydd cymorth i unigolion yn cael ei addasu yn ôl yr angen. Eglurodd fanylion y canllawiau newydd ar gyfer hunan-ynysu pe bai plentyn mewn ysgol yn derbyn prawf Covid positif – gan fod y wlad ar lefel rhybudd sero nid oes yn rhaid i blant sydd wedi bod mewn cyswllt â phlentyn sydd wedi cael prawf positif hunan-ynysu a chael prawf (oni bai bod ganddynt symptomau Covid) ac felly mae modd iddynt fynd i’r ysgol yn ôl yr arfer.
Tai ac Asedau Eglurodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y pandemig yn parhau i effeithio ar incwm rhenti ac y byddai’r sefyllfa yn gwaethygu wrth i’r cynllun ffyrlo a rhagofalon eraill ddod i ben. Bydd y sefyllfa dan fygythiad pellach pan fydd taliadau ychwanegol Credyd Cynhwysol yn dod i ben a goblygiadau’r mesur ‘Lle i Anadlu’ yn dod i rym (oedi o 60 diwrnod ar holl weithgareddau credydwyr).
Mae nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn ddigartref wedi cynyddu wrth i’r rhagofalon presennol o ran troi pobl allan a’r cynllun ffyrlo ddiweddu, ac mae landlordiaid yn cymryd camau i ddechrau a bwrw ymlaen ag achosion o droi allan a oedwyd.
Mae prinder o ddeunyddiau crai wedi arwain at gynnydd mewn costau, oedi i raglenni a mwy o anghydfodau gyda chontractwyr.Mae’r Cyngor yn parhau i chwilio am gyflenwyr eraill neu ganfod stoc a’i chadw at y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill sut mae’r Grant Caledi ar gyfer Tenantiaid yn cael ei hyrwyddo ymhlith landlordiaid preifat.Eglurodd y Prif Swyddog fod y grant yn cael ei hyrwyddo gan y Tîm Dewisiadau Tai a Fforwm Landlordiaid y Sector Rhentu Preifat.Bydd yn edrych i mewn i ddulliau eraill o’i hyrwyddo.Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Dunbar ar Gredyd Cynhwysol, dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn ymwybodol o’r goblygiadau ac y bydd adroddiadau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet.
Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi Eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gadernid timau amrywiol yn sgil y galw digynsail ar wasanaethau yn ystod y pandemig.Mae achosion busnes ... view the full Cofnodion text for item 36. |
|
Dyrannu Risgiau i Bwyllgorau PDF 87 KB Pwrpas: Adolygu’r dyraniad risgiau i Bwyllgorau, yn dilyn cyfarfod o’r Gr?p Cyswllt a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Gorffennaf 2021. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Gr?p Cyswllt y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi cwrdd ar 27 Gorffennaf i drafod dyrannu risgiau i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol.
Cymeradwywyd Cynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22 gan y Cyngor Sir ym mis Mai 2021, ac mae Cynlluniau Busnes Adfer Portffolios wedi’u datblygu ar gyfer dod allan o’r pandemig.Mae’r risgiau a nodir yn y dogfennau hynny wedi’u hystyried yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor hwn.Wrth adolygu’r dogfennau uchod mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y risgiau ‘coch’, gyda dogfen yn amlinellu dyraniad y risgiau i’r pwyllgorau perthnasol wedi’i hatodi.
Cynigiodd y Cynghorydd Johnson y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dunbar.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno i ddyrannu’r risgiau i’r Pwyllgorau perthnasol fel yr awgrymir;
(b) Bod y Pwyllgor Adfer yn derbyn adroddiad diweddaru. |
|
Diweddariad am Adferiad Rhanbarthol (Ar lafar/Cyflwyniad) Pwrpas: Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Adferiad Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar lafar yngl?n â'r adferiad rhanbarthol.Mae’r rhanbarth ar lefel rhybudd 0 ac nid oes trafodaethau yngl?n â chyfnodau clo posibl eraill.Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y gaeaf yn cael ei ystyried, yn cynnwys y galw am bethau fel llawdriniaethau dewisol nad ydynt yn cael eu gwneud.
Mae rhaglen y brechiad atgyfnerthu ar fin cael ei lansio, ac rydym ni’n aros am wybodaeth yngl?n â chyflenwadau.
Yn ystod y saith diwrnod diwethaf mae cyfraddau Covid Sir y Fflint yn un o’r rhai isaf yng Nghymru.
Awgrymodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor yn cyfarfod bob deufis, a derbyniwyd hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill yngl?n â rhaglen y brechiad atgyfnerthu, eglurodd y Prif Weithredwr mai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw gweithredwr y rhaglen ac y byddai’r Bwrdd Iechyd yn cysylltu â thrigolion yn uniongyrchol.Mae safleoedd ar gyfer darparu’r brechiad atgyfnerthu yn cael eu nodi ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth. |
|
Diweddariad Adferiad Cymunedol (Ar lafar/Cyflwyniad) Pwrpas: Derbyndiweddariad ar Adferiad Cymunedol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariad ar lafar yngl?n ag adferiad cymunedol.
Bydd y tîm Menter ac Adfywio yn canolbwyntio ar adfer canol trefi, a’r tîm Budd-daliadau yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi.Mae cyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd ar 30 Medi, a bydd adroddiad ar y camau blaenoriaeth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor fis Tachwedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r wybodaeth;
(b) Bod adroddiad ar y camau blaenoriaeth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor fis Tachwedd. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a'r Rhestr o Gyfarfodydd (ar lafar) Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Adferiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd bod yr adroddiadau canlynol yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 4 Tachwedd 2021: Amcanion Adferiad Corfforaethol; Proffil Risg Adferiad Corfforaethol; Adborth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol yngl?n ag ystyried risgiau a nodwyd gan y Pwyllgor Adfer; a chamau blaenoriaeth y BGC ar y Cyd mewn perthynas ag adfer.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiadau canlynol yn cael eu cyflwyno yn ystod y cyfarfod nesaf ar 4 Tachwedd 2021:
|