Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Amrywio Trefn Y Rhaglen Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai yna rywfaint o newid yn nhrefn y rhaglen er mwyn dwyn ymlaen eitem rhif 8 ar y rhaglen i alluogi’r swyddogion i gyflwyno’r eitem honno. Bydd gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn a ddangosir ar y rhaglen. |
|
Rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a throsolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng 1 Ebrill 2024 - 30 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) ar Lythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n crynhoi perfformiad y Cyngor ar y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod 2023-24. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys trosolwg o’r cwynion a gafwyd fesul portffolio yn ystod hanner cyntaf 2024-25.
Yr oedd hwn yn adroddiad cadarnhaol lle croesewid olrhain camau gweithredu yn arbennig. Nododd swyddogion yr awgrym i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys mwy o fanylion yngl?n â natur y cwynion yn Atodiad 1.
Cefnogwyd yr argymhellion ynghyd â chynnig ychwanegol i groesawu’r gwersi a ddysgwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad blynyddol gwell y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2023-24;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad hanner blwyddyn (2024-25) y Cyngor o ran cwynion a wnaed i wasanaethau yn unol â’r Polisi Pryderon a Chwynion;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.25; a
(d) Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn croesawu’r gwersi a ddysgwyd. |
|
Datganiad Cyfrifon 2023/24 Cyflwyno fersiwn derfynol wedi’i harchwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2023/24 i gael eu cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth i fersiwn archwiliedig terfynol Datganiad Cyfrifon 2023/24. Diolchodd i’r Rheolwr Cyllid Strategol a’i dîm am eu gwaith ar hyn, ynghyd â chydweithwyr yn Archwilio Cymru. Amlygwyd mater cyfreithiol newydd yn ymwneud â sefydliad llywodraeth leol yr oedd y Cyngor yn un o’i aelodau. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor am eiriad ychwanegol am ddyled ddigwyddiadol i’w gynnwys yn y cyfrifon i adlewyrchu’r risg ar y cam hwn. Nodwyd y byddai briff ar y canlyniad yn cael ei ddarparu maes o law.
Wrth grynhoi’r adroddiad gan Archwilio Cymru, diolchodd Mike Whiteley i aelodau’r tîm Cyllid am eu cefnogaeth yn ystod yr archwiliad.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi adroddiad Archwilio Cymru ‘Archwiliad o’r Datganiadau Ariannol 2023/24 – Cyngor Sir y Fflint’;
(b) Cymeradwyo fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2023/24, ar ôl ystyried adroddiad Archwilio Cymru; a
(c) Chymeradwyo’r Llythyr Sylwadau. |
|
Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol - Archwilio Cymru Cynghori ar yr adroddiad terfynol a gafwyd gan Archwilio Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) yn amlinellu canfyddiadau adroddiad lleol gan Archwilio Cymru, yn dilyn adolygiad ar draws y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn yn nodi ymateb y Cyngor i’r argymhelliad gan Archwilio Cymru.
Crynhodd Carwyn Rees o Archwilio Cymru y prif ganfyddiadau a dweud bod yr adroddiad cenedlaethol i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y byddai gwybodaeth am brosiectau Trawsnewid yn cael ei rhannu gyda’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Rhagfyr.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad ar Gynaliadwyedd Ariannol gan Archwilio Cymru. |
|
Adolygiad Canol y Flwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2024/25 a Diweddariad Chwarter 2 Cyflwyno drafft i Aelodau o Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 1 Ebrill - 30 Medi 2024 am sylwadau ac argymhelliad i’w gymeradwyo i’r Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) ar adroddiad canol blwyddyn drafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25 i’w argymell i’r Cabinet, ynghyd â diweddariad ar weithgareddau Chwarter 2 er gwybodaeth.
Yn ystod y drafodaeth, awgrymodd Allan Rainford wybodaeth ychwanegol i gyd-fynd ag adran Meincnod Atebolrwydd yr adroddiad canol blwyddyn, a byddai’n codi hyn yn sesiwn hyfforddi Rheoli’r Trysorlys sydd ar y ffordd.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Canol Blwyddyn drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25 ac yn cadarnhau nad oes angen tynnu sylw’r Cabinet at unrhyw faterion yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr. |
|
Cyflwyno canfyddiadau ac ymateb y cyngor i adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o’r trefniadau i gefnogi llif effeithiol o ysbytai yn rhanbarth Gogledd Cymru y manylir arnynt yn “Gofal Brys ac Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty - Rhanbarth Gogledd Cymru”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) gan Fflur Jones o Archwilio Cymru ar ganfyddiadau adolygiad o drefniadau i gynorthwyo llif effeithiol o’r ysbyty ledled rhanbarth Gogledd Cymru.
Darparodd Chris Phillips, Rheolwr Gwasanaeth Pobl H?n y Cyngor, drosolwg o gamau gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion Archwilio Cymru.
Yn dilyn y drafodaeth, cytunwyd y byddai ymateb cyfunol y rheolwyr i argymhellion yr archwiliad yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor, gan ei fod wedi ei hepgor. Byddai gwybodaeth am feysydd o arferion da ledled Cymru hefyd yn cael ei rhannu ymlaen llaw cyn adroddiad cenedlaethol sydd i’w gyhoeddi yn 2025.
Diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi adroddiad Archwilio Cymru a’r mesurau a ddefnyddir yn rhanbarthol ac yn lleol i weithredu’r argymhellion a wnaed; a
(b) Bod eitem ar gyfer y dyfodol yn cael ei rhoi ar y rhaglen waith i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynnydd gyda chamau gweithredu rhanbarthol a lleol yng nghynllun gweithredu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. |
|
Combined organisational response Dogfennau ychwanegol: |
|
Hunan-Asesiad Corfforaethol 2023/24 Rhoi diweddariad ar yr Hunanasesiad Corfforaethol mewn perthynas â'r camau a godwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Medi. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am yr Hunanasesiad Corfforaethol yn unol â’r cais yn y cyfarfod blaenorol.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn sicr o’r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd i’r Pwyllgor yngl?n â Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24. |
|
Cyflwyno cynllun gweithredu manwl i’r Pwyllgor i gefnogi canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) gyda chynllun gweithredu manwl i ategu canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor.
Wrth ymateb i sylwadau am yr Adroddiad Blynyddol / Atebolrwydd, dywedodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg byddai cyfarfodydd gydag Arweinydd newydd y Cyngor a’r Dirprwy Arweinwyr yn cael eu hadfer.
Mewn perthynas â rôl y Pwyllgor, awgrymwyd y gallai’r cynllun gweithredu gynnwys cyfeiriad penodol at safbwynt Archwilio Cymru yngl?n â’r Pwyllgor yn ystyried y tymor hwy parthed cynaliadwyedd ariannol. Byddai swyddogion hefyd yn sicrhau y byddai aelodau cyfetholedig y Pwyllgor yn cael eu gwahodd i weithdai ar y gyllideb a drefnir yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol.
Tra adroddid am gynnydd y Rhaglen Drawsnewid wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, cytunwyd y trefnid adroddiad lefel uchel ar gynllunio ariannol ar gyfer yr hirdymor ar y rhaglen waith er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor hwn bob chwe mis.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Wedi ystyried y cynllun gweithredu, bod y Pwyllgor yn cefnogi’r canlynol:
· Cyfarfodydd rheolaidd gydag Arweinydd a Dirprwy Arweinwyr y Cyngor · Cynnwys cyfeiriad penodol yn y cynllun gweithredu at y Pwyllgor yn ystyried y tymor hwy parthed cynaliadwyedd ariannol · Adroddiad bob chwe mis i’w drefnu ar y Rhaglen Drawsnewid. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24 - Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Darparu diweddariad o'r cynnydd a wnaed yn erbyn rheoli'r materion a nodwyd o fewn Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) ar gynnydd o ran rheoli’r materion a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Derbyn Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio I adrodd ar weithgareddau’r Pwyllgor yn ystod 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad (eitem rhif 12 ar y rhaglen) i gyd-fynd ag Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 i gael cefnogaeth cyn ei gyflwyno i’r Cyngor am gymeradwyaeth. Cytunodd i weithredu ar y cais gan y Cynghorydd Teresa Carberry am hyfforddiant pellach.
Rhoddwyd adborth cadarnhaol mewn perthynas â’r sylwebaeth fanwl yngl?n â lle’r oedd y Pwyllgor wedi ychwanegu gwerth i brosesau. Awgrymwyd y dylid ystyried geiriad am rôl y Pwyllgor parthed cynaliadwyedd ariannol ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol nesaf.[1]
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24 yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo. [1]Yn dilyn trafodaeth bellach yn y cyfarfod ym mis Ionawr 2025, cytunwyd i gynnwys cyfeiriad at y prif faterion a nodwyd yn adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru yn Rhagair Adroddiad Blynyddol 2023/24 cyn ei gyflwyno i’r Cyngor. |
|
Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad (eitem rhif 13 ar y rhaglen) ar gynnydd camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.
Cytunodd i gysylltu â swyddogion yngl?n ag argaeledd yr adroddiad dilynol i adolygiad Archwilio Cymru ar Gomisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl H?n.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Waith gyfredol i’w hystyried. Yn dilyn trafodaeth gynharach ar y Rhaglen Drawsnewid, cytunodd i gysylltu â swyddogion i drefnu adroddiad interim ar drefniadau darparu adnoddau a llywodraethu, i gael ei ddilyn gan ddiweddariad bob chwe mis ar gynnydd.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau o'r wasg a'r cyhoedd yn bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |