Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

50.

DIRPRWYON

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu i’r Cynghorydd Geoff Collett (a oedd wedi gwneud yr hyfforddiant gofynnol) i ddirprwyo ar ran y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu’r Cynghorydd Geoff Collett i ddirprwyo yn y cyfarfod.

51.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Brian Harvey yn datgan cysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen (adroddiad Archwilio Cymru - Menter Gymdeithasol) gan ei fod yn Gyfarwyddwr Double Click.

 

Yn ystod trafodaeth ar eitem 4 ar y rhaglen (Camau Archwilio sy’n Weddill) roedd y Cynghorydd Ted Palmer yn datgan cysylltiad personol gan ei fod yn Gyfarwyddwr NEW Homes.

52.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 22 Tachwedd 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2023.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

53.

Camau Archwilio heb eu cwblhau pdf icon PDF 87 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau, fel y gofynnwyd, am gynnydd camau archwilio heb eu cwblhau yn yr adran Tai a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio, Perfformiad a Risg yr adroddiad diweddariad ar gamau archwilio heb eu cwblhau o fewn y portffolio Tai a Chymunedau, fel y gofynnwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod tystiolaeth a rannwyd yn ddiweddar gyda’r gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi’i ddadansoddi i alluogi rhai o’r camau i gael eu cwblhau.

 

Ar Maes Gwern, roedd Sally Ellis yn teimlo fod angen amser i adolygu’r dystiolaeth nawr bod elfennau ariannol yn ymddangos eu bod wedi’u datrys.    Roedd yn awgrymu fod y Pwyllgor yn cael ei hysbysu am gynnydd ar gamau sy’n weddill fel rhan o Adroddiadau Cynnydd Archwilio Mewnol.    Wrth gydnabod y galw ar y gwasanaeth Digartrefedd a Llety Dros Dro, dywedodd y byddai’r archwilio dilynol yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor tra bod cynnydd rheolaidd yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Eglurodd y Cadeirydd bod y diweddariad er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar gyfer Archwilio Mewnol, fel y nodwyd yn flaenorol.   Roedd yn cytuno gydag awgrymiadau Sally Ellis ar y ffordd ymlaen.

 

Fel y gofynnwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge, rhoddodd y Rheolwr Tai a Chyflawni Rhaglen Strategol y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau ar gyfer Maes Gwern. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai ac Atal fod gwybodaeth wedi’i throsglwyddo i Archwilio Mewnol ac y byddai gwaith yn parhau gyda’r gwasanaeth hwnnw i gau’r camau gweithredu oedd yn weddill ar Ddigartrefedd a Llety Dros Dro.    Mewn ymateb i gwestiynau, rhoddodd wybodaeth ar drefniadau adrodd ar bolisi a’r angen am ymchwiliad pellach i ddatrys gwrthwneud system ar yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH).

 

Yn dilyn pryderon gan y Cynghorydd Geoff Collett am faterion oedd yn ymddangos heb eu datrys, dywedodd y Rheolwr Tai a Chyflawni Rhaglen am wersi a ddysgwyd o brosiect Maes Gwern ac yn benodol yr angen i gydnabod cyflawniadau. 

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn cefnogi’r cynnig ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol drwy’r dull adrodd ar gynnydd.     Roedd yn gofyn am gamau archwilio sy’n weddill o dan Gwasanaethau Stryd a Chludiant hysbyswyd bod dau gam blaenoriaeth uchel wedi cau ers y cyfarfod diwethaf. 

 

Roedd Brian Harvey hefyd yn cefnogi’r dull adrodd bwriedig ac yn gofyn sut y byddai gwersi o’r prosiect Maes Gwern yn cael eu casglu a’u bwydo i brosesau’r Cyngor. 

 

Roedd Sally Ellis yn cyfeirio at adolygiad ôl-brosiect a chafodd sicrwydd y byddai hyn yn cael ei wneud gyda’r contractwr ar ôl datrys materion oedd yn weddill. 

 

Roedd y Cadeirydd yn crynhoi’r farn a fynegwyd gan y Pwyllgor nad oedd angen adroddiad pellach gan y byddai camau yn cael eu monitro gan Archwilio Mewnol ac adlewyrchir drwy’r adrodd ar gynnydd.

 

Ar sail hynny, cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad a’r atodiad yn cael eu derbyn a bod diweddariadau pellach yn cael eu hadlewyrchu fel rhan o’r Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol.

54.

Adroddiad Archwilio Cymru - Menter Gymdeithasol pdf icon PDF 148 KB

Darparu diweddariad ar gamau gweithredu yn dilyn cael Adroddiad Archwilio Cymru ar Fenter Gymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio adroddiad ar gamau ar ôl derbyn adroddiad Archwilio Cymru ar Fenter Gymdeithasol. 

 

Roedd yr adolygiad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru wedi nodi sawl argymhelliad a chreu adnodd hunanasesu i’w ddefnyddio gan gynghorau ar draws Cymru.    Roedd yr ymateb a’r cynllun gweithredu, oedd ynghlwm â’r adroddiad yn rhoi cyfle i adeiladu ar lwyddiant y Cyngor a nodi gwelliannau pellach i’r gwasanaeth.     Roedd yr adroddiad wedi’i rannu gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Economi a chymeradwywyd gan y Cabinet. 

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd y byddai sesiynau o bell yn helpu i gynyddu cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o fenter gymdeithasol. 

 

Roedd Sally Ellis yn croesawu cyflawniadau’r Cyngor ac yn awgrymu bod y cynllun gweithredu yn cynnwys amserlenni.   Roedd y Rheolwr Gwasanaeth yn cytuno y byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad nesaf. 

 

Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn talu teyrnged i ymrwymiad y Cyngor am fuddsoddi mewn menter gymdeithasol.    Mewn perthynas â rolau, roedd Charles Rigby yn egluro rôl y Pwyllgor o ran derbyn sicrwydd gan yr ymateb a monitro gweithredu. 

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth eglurhad ar y prif fathau o gefnogaeth a roddwyd gan y Cyngor mewn ffurf mentrau cymdeithasol.    Ar gwestiwn gan Brian Harvey, roedd yn siarad am weithgareddau caffael. 

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddog a’i dîm am yr adroddiad cadarnhaol. 

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Brian Harvey a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r ymateb bwriedig i Archwilio Cymru a’r dogfennau cefnogol.

55.

Diweddariad Rheoli Risg pdf icon PDF 144 KB

I gael sicrwydd bod y fframwaith rheoli risg diweddaraf yn gynhwysfawr ac yn weithredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygu’r fframwaith rheoli risg ers ei gymeradwyo ym mis Medi 2022.   Rhoddwyd gorolwg ar ystod o welliannau a wnaed i’r fframwaith, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ynghyd â gwybodaeth ar ymgyngoreion.   Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys yr olwg gyntaf ar y Gorolwg Risg Strategol oedd yn cynnwys holl risgiau strategol ar draws y sefydliad. 

 

Wrth groesawu’r gwelliannau, gofynnodd y Cadeirydd a oedd y risgiau nad oedd yn dangos unrhyw gyfeiriad newid yn bryder.  Roedd y swyddog yn egluro fod hyn yn adlewyrchu ble nad oedd risgiau wedi eu diweddaru ar y system Inphase eto.  Ar ymholiad am sgorau risg targed realistig, eglurodd ers i bob risg gael ei fwydo i’r system, byddai’r tîm yn gweithio gyda phortffolios i adolygu a herio sgorau targed i sicrhau ei bod yn bosibl eu cyflawni. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Bernie Attridge am yr angen i wasanaethau barhau i ddiweddaru gwybodaeth ar eu risgiau perthnasol.    Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg er bod adroddiadau yn cael eu rhannu gyda’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar hyn o bryd, roedd yna hefyd gynlluniau ar gyfer adroddiadau misol i gael eu rhannu gyda Phrif Swyddogion i amlygu unrhyw faterion portffolio. 

 

Yn dilyn sylwadau ar berchnogaeth wleidyddol, roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn awgrymu bod geiriad yn y fframwaith yn diffinio prif gyfrifoldeb Aelodau’r Cabinet yn fwy clir mewn perthynas â rheoli risg. 

 

Roedd Sally Ellis yn pwysleisio pwysigrwydd defnydd cyson o Inphase a’r angen i adlewyrchu’r potensial ar gyfer risgiau gweithredol i ddatblygu yn risgiau strategol o fewn y fframwaith, er enghraifft yr adroddiad Oren/Coch ar Wiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.   Roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yn cytuno i ystyried hyn ac eglurodd bod adroddiadau archwilio yn nodi risgiau heb eu cynnwys ar y gofrestr wedi eu rhannu gyda’r tîm Rheoli Risg.    Roedd yn cytuno i ehangu ar rolau a chyfrifoldebau o fewn y fframwaith i gynnwys yr arfer o wahodd perchnogion risg strategol i egluro mesurau lliniaru.    Roedd sylwadau ar gynnwys gwybodaeth tuedd hirdymor ar y dangosfwrdd wedi eu nodi a byddent yn cael eu cynnwys wrth i’r system ddatblygu dros amser. 

 

Roedd y Cynghorydd Allan Marshall yn gofyn am eglurder ar reoli canlyniadau risgiau cadarnhaol.    Eglurodd swyddogion y byddai modiwl ar wahân oedd yn cael ei ddatblygu yn cynnwys budd rheoli risg ac y byddai swyddogion yn ystyried os gallai hyn gael ei adlewyrchu yn well yn y fframwaith. 

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn cyfeirio at gynigion Llywodraeth Cymru yngl?n â’r risg yngl?n â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ac yn awgrymu bod swyddogion yn ystyried gweithdai i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar unrhyw newidiadau. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Fframwaith Rheoli Risg diwygiedig (Ionawr 2024); a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn derbyn Adroddiad Gorolwg Risg Strategol y Cyngor.

56.

Cod Llywodraethu Corfforaethol pdf icon PDF 124 KB

Cadarnhau’r adolygiad o’r Cod Llywodraethu Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad blynyddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol cyn i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried.  Dywedodd fod y ddogfen yn parhau heb ei newid yn bennaf ac yn amlygu prif feysydd oedd yn cynnwys y fframwaith a saith egwyddor arfer da a ddefnyddiwyd ar gyfer y Cod. 

 

Roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wedi siarad am ddolenni gyda dogfennau allweddol fel y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a Chynllun y Cyngor. 

 

Pan ofynnwyd gan Sally Ellis am unrhyw ddulliau llywodraethu ychwanegol y gellir eu hadlewyrchu yn y Cod, roedd swyddogion yn rhoi sicrwydd ar gadarnrwydd y Cod, ar ôl bod yn destun adolygiad ac ymgynghoriad cynhwysfawr. 

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Brian Harvey a’r Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.

57.

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2024/25 a Diweddariad Chwarter 3 2023/24 pdf icon PDF 164 KB

(1) Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys drafft 2024/25 i’r Aelodau er mwyn derbyn eu sylwadau a’u hargymhellion cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ei chymeradwyo (2) Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2024/25 a dogfennau cysylltiedig i'w hadolygu a'u hargymell i'r Cabinet, ynghyd â diweddariad chwarterol ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 er gwybodaeth.

 

Er nad oedd yna unrhyw newidiadau sylweddol i’r strategaeth, cafodd meysydd allweddol eu hamlygu ar gyd-destun economaidd, cyd-destun lleol a pharhad strategaethau benthyg a buddsoddi.    Adroddwyd ar y sefyllfa o ran buddsoddiadau ym mis Rhagfyr 2023 yn y diweddariad chwarterol ynghyd â phortffolios benthyca byrdymor a hirdymor.

 

Ar derfynau diffygdalu buddsoddiad, siaradodd y Cadeirydd am y risg yn ymwneud ag hysbysiadau adran 114 ac awgrymodd rai geiriau i roi sicrwydd bod sefyllfa ariannol awdurdodau eraill yn cael ei monitro.   Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod hyn wedi’i gynnwys yn yr adroddiad canol blwyddyn a dywedodd fod buddsoddiadau awdurdod lleol yn amodol ar adolygiad cyson ac arweiniad gan Arlingclose Ltd.    Ar gyfraddau llog, rhoddodd amcangyfrif o ganlyniadau cyfradd llog o’i gymharu â rhagamcanion oedd wedi helpu’r sefyllfa yn ystod y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd ar gynnal adnoddau i gefnogi swyddogaeth rheoli’r trysorlys, siaradodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol am ei rôl i sicrhau trefniadau ariannol digonol ar draws y Cyngor a dywedodd nad oedd unrhyw newidiadau penodol wedi eu nodi yn y tîm hyd yma fel rhan o broses y gyllideb ar gyfer 2024/25. 

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Ted Palmer ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl adolygu Strategaeth ddrafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25 a dogfennau cysylltiedig, nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hadrodd i’r Cabinet ar 20 Chwefror 2024; a

 

(b)       Nodi’r diweddariad chwarterol yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2023/24.

58.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 142 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Ers y diweddariad olaf, roedd dau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) wedi eu cyhoeddi ar Gyllid Craidd Strategol a Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

Roedd Sally Ellis yn codi pryderon am yr adroddiad Oren Coch ar Wiriadau GDG gan fod hwn yn gyfrifoldeb diogelu pwysig y Cyngor.    Gofynnodd pam nad oedd yr adroddiad wedi’i uwchgyfeirio i Goch a gofynnodd am adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor ar gwblhau camau gweithredu, gan nodi bod hwn yn risg corfforaethol gyda’r potensial o fod yn strategol. 

 

Cafodd ei sylwadau eu hadleisio gan y Cadeirydd oedd yn rhannu pryderon am y dyddiadau cau ar gyfer camau gweithredu. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am sail dyddiadau dyledus ar gyfer adrodd am reoli risg ar Wiriadau GDG a chamau i fynd i’r afael â diffyg gorolwg o’r broses dalu ar Gyllid Craidd Strategol.

 

Yn dilyn pryderon gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar y nifer cynyddol o gamau gweithredu hwyr, roedd y Prif Weithredwr yn cytuno fod hyn yn siomedig.  Tra’n cydnabod natur ansefydlog olrhain camau gweithredu a phroses uwchgyfeirio, rhoddodd sicrwydd am bwysigrwydd cau camau gweithredu i leihau risgiau yn cael ei ailgadarnhau gyda Phrif Swyddogion.    Ar Gyllid Craidd Strategol, byddai’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd gyda threfniadau contract i sefydliadau trydydd parti sy’n derbyn grantiau yn cael ei rannu. 

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach am frys camau GDG a’r angen am drosolwg corfforaethol, rhoddodd y Prif Weithredwr ymrwymiad personol y byddai’n ceisio sicrwydd ar waith brys ac eglurhad i fynd i’r afael â materion ymlaen llaw cyn i’r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol fynychu’r cyfarfod nesaf a darparu diweddariad manwl ar gynnydd yn y cyfarfod nesaf.   

 

Ar gwestiwn pellach, byddai swyddogion yn cysylltu gyda chydweithwyr Addysg ac yn cadarnhau bod ysgolion unigol yn gyfrifol am eu gwiriadau GDG eu hunain. 

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r pryderon a godwyd, eu cynnig a’u heilio gan Brian Harvey a’r Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad; a

 

(b)       Derbyn adroddiad yn y cyfarfod nesaf yn ymwneud â’r sefyllfa ar y GDG a chamau brys oedd yn ofynnol i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd.

59.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 80 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.  Yngl?n â chamau gweithredu hirsefydlog, byddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad nesaf. 

 

Roedd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yn cyfeirio at yr ymateb i’w ymholiad ar yr ymchwiliad i honiadau dienw a drafodwyd ym mis Tachwedd 2023 a gofynnwyd pam bod swyddogion wedi dewis cysylltu ag un sefydliad penodol, o ystyried yr ystod o rai eraill y gellir cysylltu â nhw. 

 

Roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yn cytuno y byddai’n ceisio dilyn ymhellach, fodd bynnag, roedd y swyddog cyfrifol am archwilio wedi gadael y Cyngor. 

 

Roedd y Cynghorydd Parkhurst yn cydnabod sensitifrwydd dan sylw ac yn awgrymu trafodaeth bellach i archwilio’r mater ymhellach mewn sesiwn gaeedig.  Yn ystod trafodaeth, roedd y Cadeirydd yn awgrymu bod y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cael adolygu’r ymholiad ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf, roedd yr Aelodau eraill yn cefnogi hynny.  Pan ofynnwyd gan y Cynghorydd Glyn Banks, roedd y Cynghorydd Parkhurst yn cytuno gyda’r dull hwn a’r posibilrwydd y gellir trafod hyn mewn sesiwn gaeedig.

 

Ar y sail honno, cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yn adolygu’r ymholiad a godwyd gan y Cynghorydd Parkhurst ar yr honiad dienw ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf mewn eitem i’w chynnal mewn sesiwn gaeedig.

60.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 84 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried.  Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau pellach.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Ted Palmer ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

61.

PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.