Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Dirprwyon

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn dechrau’r cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ganiatáu'r Cynghorydd Ted Palmer (a oedd wedi gwneud yr hyfforddiant gofynnol) i ddirprwyo ar ran y Cynghorydd Ryan McKeown.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu’r Cynghorydd Ted Palmer i ddirprwyo yn y cyfarfod.

2.

Penodi Cadeirydd

Penodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cynnig y Cynghorydd Bernie Attridge i ail-benodi Sally Ellis yn Gadeirydd ei dynnu’n ôl ar ei chais.   Atgoffwyd y Pwyllgor y cytunwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol i gylchdroi rolau’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd rhwng y tri aelod lleyg yn flynyddol.

 

Cafodd enwebiad dilynol y Cynghorydd Attridge i benodi Allan Rainford yn Gadeirydd ei eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.   Gan nad oedd yna enwebiadau eraill, fe’i cymeradwywyd ar ôl cynnal pleidlais ar y mater.

 

Cymerodd Allan Rainford y cyfle i ddiolch i Sally Ellis am y ffordd yr oedd hi wedi cyflawni’r rôl dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Allan Rainford yn cael ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor am 12 mis.

3.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Bernie Attridge y Parch Brian Harvey yn Is-gadeirydd ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ted Palmer.  Nid oedd yna enwebiadau eraill, ac fe’i cymeradwywyd ar ôl cynnal pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Parch Brian Harvey yn cael ei benodi’n Is-gadeirydd y Pwyllgor am 12 mis.

4.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ystod cofnod rhif 7, datganodd y Cynghorydd Bernie Attridge gysylltiad personol gan fod aelodau agos o’i deulu yn cael eu cyflogi gan y gwasanaethau byw â chymorth.

5.

Cofnodion pdf icon PDF 109 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 22 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cefnogwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 61: Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at yr ymateb ar gyfrinachedd derbyniadau gwaredu asedau a thynnodd sylw at y ffaith bod gwerth asedau eisoes wedi’i ddatgelu mewn cyfarfod Cabinet ac felly’n fater o gofnod cyhoeddus ar yr adeg honno.

 

Cofnod rhif 68: Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - byddai’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yn ail gylchredeg y wybodaeth ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau o’r archwiliad o Hyfforddiant Statudol mewn Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

6.

Adolygiad Archwilio Cymru o Gomisiynu Lleoliadau Cartref Gofal Pobl Hyn gan Gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pdf icon PDF 103 KB

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad y camau gweithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o Gomisiynu Lleoliadau Cartref Gofal Pobl H?n gan Gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn dilyn yr adroddiad cychwynnol a ystyriwyd ym mis Medi 2022.   Bu iddi fanylu ar y cynnydd gyda chamau gweithredu ar draws Gogledd Cymru i fynd i’r afael â phob un o’r pum argymhelliad gan Archwilio Cymru, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ei sylwadau ar bryderon diweddar a godwyd gan Archwilio Cymru am BIPBC a chafodd wybod bod perthnasau gwaith cadarn yn eu lle gyda’r Cyngor i roi’r camau gweithredu ar waith.

 

Atgoffodd Sally Ellis bod y Pwyllgor wedi gofyn i’r diweddariad ar gamau gweithredu gynnwys y rhai sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru, i roi sicrwydd ar gynnydd.   Dywedodd Carwyn Rees mai’r disgwyliad oedd bod y camau gweithredu hynny yn amodol ar broses pwyllgor ffurfiol LlC, yn debyg i drefniadau adrodd mewn cynghorau.   Ar gwestiwn pellach, dywedodd yr Uwch Reolwr, er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar brosesau ac effeithlonrwydd comisiynu, roedd fframwaith ansawdd cadarn eisoes ar waith yn cynnwys gweithio gyda darparwyr i nodi gwelliannau i fod o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth a threfniadau uwchgyfeirio i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.

 

Yn ôl cais gan y Cynghorydd Bernie Attridge, cytunodd yr Uwch Reolwr i ddarparu data presennol ar oedi wrth ryddhau yn Sir y Fflint a oedd hefyd yn her sylweddol ar draws y DU.   Wrth siarad am effaith materion recriwtio eang, yn enwedig mewn gofal cartref, bu iddi gyfeirio at ddatblygiad llwyddiannus y rhaglen meicro-ofal a oedd yn cael ei groesawu gan Aelodau.

 

Ar yr un pwnc, cafodd y Parch Brian Harvey wybod am y nod hirdymor i recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg ynghyd â’r ystod o fentrau i recriwtio a chadw gweithwyr gofal i fodloni’r galw cynyddol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Glyn Banks bod adroddiad dilynol yn cael ei drefnu a bod yr argymhelliad yn adlewyrchu bod rhai o’r camau gweithredu yn mynd rhagddynt.    Fe wnaeth sylwadau ar yr angen i LlC osod terfynau amser realistig i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y tymor hwy.   Pan ofynnwyd, rhoddodd yr Uwch Reolwr enghreifftiau o drefniadau sydd ar waith o fewn lleoliadau gwasanaethau cymdeithasol i gyflawni’r cyfrifoldebau o ran y Gymraeg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhannwyd gwybodaeth am y trefniadau cymorth ar gyfer y rhaglen meicro-ofal a oedd yn darparu gwydnwch ar draws cymunedau.

 

Cafodd yr argymhelliad, wedi’i ddiwygio, ei gynnig a’i eilio gan y Parch Brian Harvey a’r Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau yn nodi’r camau gweithredu sydd wedi cael eu cwblhau ac sy’n mynd rhagddynt mewn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru.

7.

Adroddiad Estyn ar y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned o fewn Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 116 KB

Cyflwyno Adroddiad Estyn ar y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion yr adroddiad a manylu’r canfyddiadau o’r arolygiad Estyn ar Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru.   Rhoddodd y cefndir i sefydlu’r Bartneriaeth rhwng Sir y Fflint a Wrecsam i fodloni dyheadau Llywodraeth Cymru ac anghenion newidiol dysgwyr sy’n oedolion drwy gynyddu’r capasiti a gwneud y mwyaf o ffrydiau ariannu ychwanegol.   Bu iddi amlinellu sail yr arolygiad a’r canfyddiadau allweddol a oedd yn cydnabod arweinyddiaeth dda a chefnogaeth gref gan y ddau gyngor, yr ystod o ddarpariaeth a’r effaith ar ddysgwyr.   Roedd yr adroddiad yn cydnabod gweledigaeth gadarn y Bartneriaeth a’i allu i ddeall ei gryfderau a’r meysydd i’w gwella, fel y dangoswyd yn y pedwar argymhelliad gan Estyn a oedd eisoes wedi eu nodi trwy’r broses hunan-asesu.   Roedd y canlyniadau cadarnhaol yn golygu nad oedd gofyniad i gynnal unrhyw gamau dilynol gan Estyn a oedd wedi gwahodd y Bartneriaeth i baratoi dwy astudiaeth achos o arfer cadarnhaol a gafodd eu cyhoeddi ar wefan Estyn. 

 

Bu i’r Cynghorydd Bernie Attridge ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol a mynegodd yr Uwch Reolwr ei balchder yn ymroddiad a chreadigrwydd y tîm bach a’u dull rhagweithiol i gael mynediad at gyllid grant.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, rhoddwyd enghreifftiau i’r Parch Brian Harvey o gynllun uchelgeisiol y Bartneriaeth i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg a gwella sgiliau ymysg dysgwyr a’r gweithlu.   I wella’r cyfleoedd i ddysgwyr dderbyn cyngor ac arweiniad am ymuno â darpariaeth y Bartneriaeth, roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid i ddatblygu’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i fodloni’r galw cynyddol am ddarpariaeth dysgu oedolion.

 

Cymerodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i’r Uwch Reolwr am ei harweinyddiaeth, ac i Dawn Spence fel Cydlynydd y gwasanaeth.   Dywedodd bod yr adroddiad Estyn yn adlewyrchu ansawdd y timau sy’n gweithio yn y Bartneriaeth ac y byddai adroddiad blynyddol ar ddysgu oedolion yn y gymuned i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn rhoi sicrwydd bod cynnydd ar yr argymhellion yn cael ei fonitro.

 

Yn dilyn nifer o sylwadau cadarnhaol gan Aelodau, gofynnodd y Cadeirydd os ellir diolch i’r tîm am eu gwaith a’r canlyniadau cadarnhaol, ar ran y Pwyllgor.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau Arolwg Estyn a’u bod wedi cael sicrwydd gan y canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn Sir y Fflint.

8.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23 pdf icon PDF 95 KB

Cefnogi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23 oedd yn rhoi sicrwydd am drefniadau llywodraethu a rheoli risg, i gyd-fynd â’r Datganiad Cyfrifon.  Roedd yr adroddiad yn manylu’r broses ar gyfer paratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn ymwneud â gweithdy herio gyda’r Pwyllgor a holiadur a gafodd ei rannu gyda Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet.   Cyflwynwyd y Pwyllgor i Emma Heath hefyd, sydd newydd ei phenodi fel Ymgynghorydd Perfformiad Strategol.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhawyd bod yr adroddiad canol blwyddyn ar gynnydd yn erbyn meysydd i’w gwella wedi’i drefnu ar gyfer mis Tachwedd.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Allan Marshall ar y cyfeiriad at safonau, eglurwyd er na chafodd y rhain eu dogfennu, roeddent yn adlewyrchu dyheadau’r Cyngor ac yn cael eu hymgorffori i nifer o bolisïau allweddol.   Cytunodd y swyddogion i ddiwygio’r cyfeiriad at y sefydliad fel un ‘darbodus’ i egluro bod hyn yn ymwneud â gwydnwch y gweithdy.

 

O ran y safonau perfformiad, cododd y Cynghorydd Marshall bryderon ynghylch yr amser a gymerwyd i gysylltu â swyddogion Tai dros y ffôn.   Rhannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth am y safonau a fabwysiadwyd gan y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid a oedd yn amodol ar fonitro perfformiad.   Gofynnodd i’r Cynghorydd Marshall gysylltu ag ef yn uniongyrchol fel bod modd iddo olrhain y pryderon.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Parch Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23 yn cael ei atodi i’r Datganiad Cyfrifon ac argymell i’r Cyngor ei fod yn eu mabwysiadu.

9.

Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint pdf icon PDF 116 KB

Derbyn y Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodi ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Carwyn Rees o Archwilio Cymru y Crynodeb Archwilio Blynyddol oedd yn crynhoi casgliadau gwaith archwilio, rheoleiddio ac arolygu a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru (AC) yn ystod 2021/22.   Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, heb unrhyw argymhellion ffurfiol wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am waith yn y dyfodol ar wydnwch ariannol ac fe’i cynghorwyd bod gwaith manwl ar y sefyllfa archwilio ariannol yn cael ei drefnu tuag at ddiwedd 2023/24.

 

Pan ofynnwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge am ‘Cyfle wedi’i Golli – Mentrau Cymdeithasol’, eglurwyd bod hwn yn ddarn o waith cenedlaethol yn cynnwys cael negeseuon cyffredin gan sampl o gynghorau.   Gofynnodd y Cynghorydd Attridge sut allai hyn fod o fudd i Sir y Fflint ac mewn ymateb, cytunodd y swyddog i adolygu’r adroddiad a gwrando a chysylltu â’r swyddogion angenrheidiol i sefydlu os ellir ymgorffori hwn i’r Cynllun Archwilio.

 

Cyfeiriodd Sally Ellis at adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn adolygu trefniadau’r Cyngor i sicrhau gwerth am arian mewn defnyddio adnoddau.   Cynghorodd Carwyn Rees y byddai’r adroddiad drafft yn cael ei rannu gyda’r Cyngor yn fuan a chytunwyd i’w gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor.

 

Cynigwyd ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynnwys a sylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2022.

10.

Diweddariad Rheoli Risg pdf icon PDF 90 KB

I gael sicrwydd bod y fframwaith rheoli risg diweddaraf yn gynhwysfawr ac yn weithredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad diweddaru i roi sicrwydd o gynnydd wrth symud yr holl risgiau i’r system Rheoli Risg newydd ‘InPhase’.

 

Ers yr adroddiad ym mis Tachwedd 2022, cafodd y fframwaith rheoli risg ei rannu gyda swyddogion allweddol a’i gyhoeddi ar-lein, gyda phortffolios yn cynnal adolygiad o’u risgiau perthnasol.   Roedd y tîm Perfformiad a Rheoli Risg bellach yn derbyn yr adnoddau llawn ac roedd modiwl e-ddysgu wedi cael ei ddatblygu.    Roedd yr holl risgiau strategol bellach wedi’u llwytho ar InPhase a byddai pob risg yn cael ei ddyrannu i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol, gyda phroses yn cael ei sefydlu i adrodd yn rheolaidd i dîm y Prif Swyddog a thynnu sylw at unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio.   Fel y camau nesaf, awgrymodd y swyddog bod y pwyllgor hwn yn derbyn trosolwg lefel uchel o risgiau strategol lle’r oedd risgiau yn tan-gyflawni, yn cynnwys cyfeiriad teithio gyda’i gilydd, gyda chrynodeb o’r risgiau hynny i ystyried a ddylid gwahodd y Prif Swyddog perthnasol i roi eglurhad.   Byddai’r adroddiad hefyd yn cynnwys manylion adrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i roi sicrwydd pellach.

 

Cytunodd y Cadeirydd gyda’r awgrym, a fyddai’n rhoi cyfle i’r Pwyllgor ganolbwyntio ar feysydd penodol o bryder lle bo angen.

 

Bu i’r Rheolwr Archwilio Mewnol dderbyn sylwadau’r Parch Brian Harvey y dylai’r Pwyllgor gael digon o wybodaeth i ddeall yn glir y materion i’w alluogi i ychwanegu gwerth a gwneud gwahaniaeth.

 

Hefyd yn siarad o blaid, gwnaeth Sally Ellis sylwadau ar yr angen i gytuno ar feini prawf ar gyfer gwahodd Prif Swyddogion i annerch y Pwyllgor ar risgiau, i wahanu rolau’r Pwyllgor a Throsolwg a Chraffu.   Cytunodd y swyddogion i ymgorffori hwn i’r broses.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Linda Thomas a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl cael sicrwydd bod y risgiau wedi eu rheoli drwy gydol y flwyddyn, bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn cytuno bod y lefel o wybodaeth sydd ei angen fel yr awgrymwyd gan y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg.

11.

Siarter Archwilio Mewnol pdf icon PDF 82 KB

Amlinellu’r Siarter Archwilio Mewnol (sydd wedi ei ddiweddaru) i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd adroddiad yngl?n â chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r Siarter er mwyn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddio, lle mai dim ond mân newidiadau oedd wedi’u nodi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y swyddog bod cyfeiriad at wasanaethau a ddarperir i sefydliadau allanol bellach yn cael ei adlewyrchu yn y Siarter, i gyd-fynd ag arferion gorau.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol diweddaraf.

12.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2022/23 pdf icon PDF 88 KB

Rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad yr holl waith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2022/23 a rhoi’r farn Archwilio Mewnol flynyddol ar safon rheolaeth fewnol, rheoli risg a llywodraethu yn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad, a oedd yn rhoi crynodeb o’r canlyniadau yn sgil gwaith archwilio a wnaed yn ystod 2022/23, cydymffurfiaeth â’r Safonau a chanlyniadau’r rhaglen sicrhau ansawdd a gwella.

 

Rhoddodd y swyddog drosolwg o’r meysydd allweddol a chadarnhau ei barn archwilio bod gan y Cyngor fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol ar gyfer y cyfnod.   Dywedodd nad oedd unrhyw gyfyngiadau i gwmpas ymdriniaeth Archwilio Mewnol ac nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar adnoddau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar gwmpas y gwaith, eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol bod y Cynllun Archwilio yn adlewyrchu’r lefelau adnoddau gydag addasiadau wedi’u gwneud lle bo angen.   Dywedodd nad oedd gwaith a ddyrannwyd i sefydliadau allanol yn cael effaith sylweddol ar y tîm.   Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) sicrwydd o drafodaethau rheolaidd gyda’r Rheolwr Archwilio Mewnol i sicrhau bod digon o gapasiti yn cael ei gadw o fewn y tîm.

 

Cyfeiriodd Sally Ellis at nifer o gamau gweithredu coch a adroddwyd yn ystod y flwyddyn, gyda rhai yn ymwneud â therfynau amser wedi’u diwygio a chynlluniau gweithredu estynedig.   Bu iddi gydnabod mai nifer fechan oedd hon yng nghyd-destun y Cynllun cyffredinol ond ceisiodd sicrwydd ar hwn fel rhan o’r farn archwilio. 

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol bod ei barn yn adlewyrchu bod y camau gweithredu yn cael eu hystyried yn briodol a bod yr oedi o ran gweithredu wedi bod yn bennaf oherwydd adnoddau, a oedd yn broblem ar draws y Cyngor.   Cytunodd i ymgorffori sylw i’r perwyl hwn yn yr Adroddiad Blynyddol.   Ar gwestiynau pellach, eglurodd y trefniadau adrodd ar gyfer canfyddiadau’r gwaith archwilio ar gyfer trydydd partïon a’r angen i gydbwyso’r ystod o waith archwilio i ychwanegu gwerth a chefnogi gwasanaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Glyn Banks ar ddangosyddion perfformiad, eglurodd y swyddog y sail ar gyfer cytuno ar darged cwblhau archwiliad realistig.   Rhoddwyd eglurhad hefyd i’r Cynghorydd Andrew Parkhurst ar y meini prawf ar gyfer archwilio trydydd partïon.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a barn flynyddol Archwilio Mewnol.

13.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 90 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Ers y diweddariad diwethaf, cyhoeddwyd dau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) a bu gostyngiad mewn camau gweithredu hwyr er roedd rhai ohonynt yn bod ers tro.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am y cynnydd gyda chamau gweithredu hwyr canolig a oedd yn ymwneud â Chyflogau gan fod hon yn wasanaeth bwysig.   Cytunodd y Swyddogion i gysylltu â’r gwasanaeth a rhannu’r ymateb.

 

Cyfeiriodd Sally Ellis at drafodaeth a gafwyd yn y cyfarfod blaenorol ar y camau gweithredu hwyr Oren Coch ar gyfer Adeiladau Priffyrdd a chynigiwyd bod gwahoddiad arall yn cael ei estyn i’r Prif Swyddog fynychu’r cyfarfod nesaf fel bod y Pwyllgor yn gallu derbyn diweddariad ar gynnydd.   Ar yr adroddiad Oren Coch a gyhoeddwyd ar gyfer Cwynion Corfforaethol, awgrymodd bod y swyddog perthnasol yn mynychu’r cyfarfod ym mis Medi i roi sicrwydd ar y camau gweithredu.

 

Adleisiwyd y pryderon am ddiweddariadau amserol ar gamau gweithredu hwyr gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a gyfeiriodd at gamau dilynol Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD).   Ceisiodd fwy o fanylder ar y ddau ymchwiliad presennol a ddangoswyd yn yr adroddiad a chafodd wybod y byddai crynodeb o ganlyniadau yn cael eu rhannu mewn sesiwn gaeedig unwaith y byddai’r adolygiadau hynny wedi eu cwblhau.   Awgrymodd y Cadeirydd y gellir trafod unrhyw geisiadau am wybodaeth ar ganlyniadau ymchwiliadau a gwblhawyd mewn sesiwn gaeedig mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch nifer y dyddiau a gymerwyd gan adrannau i ddychwelyd adroddiadau drafft, eglurwyd bod hwn yn sefyllfa derfynol gyfartalog ar gyfer ymatebion rheolwyr i ganfyddiadau adolygiadau.

 

Rhoddwyd eglurhad hefyd i’r Parch Brian Harvey ar ddadansoddiad tuedd ar gyfer dangosyddion perfformiad lle’r oedd cyfeiriad y saethau yn dangos cymhariaeth â’r flwyddyn ddiwethaf.

 

Codwyd pryderon hefyd gan y Cynghorydd Glyn Banks am nifer y camau gweithredu hwyr uchel/canolig lle na ddarparwyd unrhyw ddiweddariad.   Ar gamau gweithredu sydd heb eu cwblhau sy’n ymwneud ag Ynni Domestig, cytunodd y swyddog i gysylltu â’r gwasanaeth i egluro sut oedd gwerth am arian yn cael ei asesu.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i diwygiwyd, eu cynnig gan Sally Ellis a’u heilio gan y Cynghorydd Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod y swyddog sy’n gyfrifol am Briffyrdd yn cael gwahoddiad i fynychu ym mis Gorffennaf 2023 i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd gyda’r camau gweithredu hwyr Oren Coch a nodwyd o fewn yr adroddiad.

14.

Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 79 KB

Cyflwyno cynllun gweithredu manwl i’r Pwyllgor i gefnogi canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd a Sally Ellis (cyn Gadeirydd) adroddiad a chynllun gweithredu i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r hunan-asesiad a wnaed gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2022.   Byddai’r cynllun gweithredu yn cael ei ddefnyddio i ddangos effeithiolrwydd y Pwyllgor a llywio anghenion datblygu’r dyfodol.   Nodwyd amrywiaeth o gamau gweithredu ynghyd ag amserlenni a fyddai’n arwain at welliannau pellach o fewn y Cyngor.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at gam gweithredu 2.2 a oedd yn ailadrodd yr arfer presennol i’r Pwyllgor wahodd swyddogion cyfrifol i roi eglurhad ar y camau gweithredu allweddol a risgiau, fel y dangoswyd yn yr eitem flaenorol ar y rhaglen.

 

Bu i’r Cynghorydd Bernie Attridge ddiolch i’r Cadeirydd a Sally Ellis am eu gwaith ar yr adroddiad a chroesawu’r broses i ddangos atebolrwydd ar gyfer y camau gweithredu.   Dywedodd y Cadeirydd bod Arweinydd y Cyngor wedi cytuno i gyfarfod ag ef a’r Is-gadeirydd bob chwarter.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’r Parch Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cynllun gweithredu yn cael ei dderbyn.

15.

Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 80 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst y wybodaeth ar ddefnyddio ymgynghorwyr a gofynnodd am y trothwy ar gyfer cyfeirio at y Pwyllgor hwn os oedd cynnydd sylweddol mewn gwario.   Eglurwyd bod y Pwyllgor wedi derbyn adroddiadau ar y mater hwn yn flaenorol nes iddo fod yn fodlon bod y prosesau a’r rheoliadau wedi cael eu cryfhau.   Roedd y Pwyllgor yn gallu gwneud cais oes oedd pryder penodol, fodd bynnag roedd y mater o dan gylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Atgoffodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Pwyllgor bod gwariant ymgynghoriaeth yn ffurfio rhan o’r adroddiad ariannol atodol a dderbyniwyd bob blwyddyn ochr yn ochr â’r Datganiad Cyfrifon.

 

Cynigwyd yr argymhelliad a’i eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

16.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 86 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried.  Bu iddi gytuno i drefnu’r eitemau y gofynnwyd amdanynt yn y cyfarfod hwn.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Yn amodol ar y newidiadau, derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

17.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 18 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

18.

Cydnerthedd Seiber

Rhannu adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru ar Cydnerthedd Seiber gyda’r Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar y llythyr cenedlaethol ac adroddiadau a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru a oedd yn crynhoi dysgu o ymosodiadau seibr diweddar yn y sector cyhoeddus a chanlyniadau gwaith dilynol.   Er nad oedd yr adroddiad yn gwneud unrhyw argymhellion, roedd Archwilio Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol yng Nghymru drafod y cynnwys gyda’u Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio perthnasol mewn sesiwn breifat heb wneud yr adroddiadau’n gyhoeddus.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth ar y trefniadau o fewn y Cyngor i reoli risgiau.   Bu iddo ymateb i gwestiynau a chadarnhau bod y Cyngor wedi cynnal asesiad yn erbyn y canfyddiadau, gan groesawu’r awgrym i gael cynllun gweithredu.

 

Tynnodd Sally Ellis sylw at bwysigrwydd monitro risgiau strategol fel rhain a’r angen am arweinyddiaeth wleidyddol, yn enwedig trwy’r Cabinet.   Gan yr eglurwyd mai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol oedd yn gyfrifol am fonitro risgiau strategol, cynigodd y Cynghorydd Bernie Attridge bod yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor hwnnw i dynnu sylw at y risgiau sydd ynghlwm.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Linda Thomas ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod yr eitem yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i roi sicrwydd ar ganfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru a pharodrwydd y Cyngor.

19.

Aelodau o'r Wasg a'r Cyhoedd Hefyd yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.