Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

59.

DIRPRWYON

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu i’r Cynghorydd Ted Palmer (a oedd wedi gwneud yr hyfforddiant gofynnol) i ddirprwyo ar ran y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu’r Cynghorydd Ted Palmer i ddirprwyo yn y cyfarfod.

60.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

61.

Cofnodion pdf icon PDF 98 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 25 Ionawr 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023.  O ran cywirdeb, byddai’r ffigyrau a ddangosir yn y troednodyn ar gofnod 47 yn cael eu cywiro.

 

Cofnod rhif 47: Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar rannu gwybodaeth yn ymwneud â gwaredu ased, dywedodd y Prif Weithredwr y gallai rhai trafodion, a oedd yn destun trafodaethau parhaus, gael eu hystyried yn sensitif yn fasnachol ar y pwynt hwn hyd nes y byddai’n cael ei ddatgelu fel cofnod cyhoeddus gyda’r Gofrestrfa Dir.  Wedi i’r Cynghorydd Parkhurst gyfeirio at gontractau yn dyddio’n ôl beth amser yn ôl, ailadroddodd y Prif Weithredwr y gallai cyhoeddi gwybodaeth benodol ar waith parhaus ddylanwadu’n negyddol ar sefyllfa drafod y Cyngor.   Awgrymodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Parkhurst yn cysylltu’n uniongyrchol â swyddogion gydag unrhyw feysydd eraill o bryder.

 

Cofnod rhif 48: Datganiad Cyfrifon - gofynnodd y Cynghorydd Parkhurst am i’r cofnodion adlewyrchu nad oedd y gofrestr asedau yn ddogfen gyfrinachol, fel a gadarnhawyd yn dilyn hynny gan swyddogion ac felly dylai fod ar gael i Aelodau ar gais.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) tra nad oedd yr asedau o dan berchnogaeth y Cyngor yn gyfrinachol, gallai sensitifrwydd masnachol fod yn weithredol yn dibynnu ar yr wybodaeth y gofynnir amdani.  Cadarnhaodd fod fersiwn nad oedd yn gyfrinachol o’r gofrestr asedau wedi ei chylchredeg i’r Pwyllgor.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd y cofnodion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau, fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

62.

Sicrwydd Rheoleiddio Allanol pdf icon PDF 90 KB

Cefnogi’r crynodeb o’r holl adroddiadau rheoleiddio allanol a dderbyniwyd yn ystod 2021/22 ynghyd ag ymatebion y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i roi sicrwydd bod yr adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2022/23 wedi cael eu hystyried yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig.  Er nad oedd unrhyw ofyniad am ymateb lleol i astudiaethau cenedlaethol Archwilio Cymru, ystyriwyd dull y Cyngor o asesu yn erbyn gwaith lleol fel arfer da.

 

Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bernie Attridge yngl?n â’r diffyg ymatebion i rai argymhellion, gan gynnwys Tlodi yng Nghymru ac oedi mewn camau gweithredu yn llywio’r strategaeth cyfranogiad cwsmeriaid.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai ymateb y Cyngor yn adlewyrchu’r swm sylweddol o waith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â holl elfennau tlodi, gan gynnwys yr hyn y cyfeirir ato fel arfer da yn adroddiad Archwilio Cymru.  O ran cyfranogiad cwsmeriaid fe siaradodd am yr angen i gryfhau ffederasiwn y tenantiaid i sicrhau ei fod yn gweithio mewn cydweithrediad â’r gwasanaeth tai i ddod â newid i’r holl denantiaid.

 

Eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg fod y statws ‘Coch Melyn Gwyrdd’ yn y ddogfen gryno yn dangos cynnydd mewn rhoi camau gweithredu ar waith.  Cadarnhaodd fod y tri adroddiad yn weddill wedi eu trefnu fel bo’n briodol a’i bod yn cydgysylltu gyda phortffolios i sicrhau fod y protocol yn cael ei ddilyn.

 

Mynegodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst bryderon yn ymwneud â chyfeirio at “Lywodraeth Lafur Cymru” yn yr ymateb i’r adroddiad ar Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion.  Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gydgysylltu gyda’r gwasanaeth a oedd wedi darparu’r geiriad.  Awgrymodd y Cynghorydd Glyn Banks fod yr holl wasanaethau yn cael eu hatgoffa y dylai adroddiadau i’r Pwyllgor fod yn anwleidyddol.

 

O ran yr ymatebion yn y ddogfen gryno, nododd y Parch Brian Harvey gyfeiriad at feysydd o arfer da a gofynnodd a ddaeth enghreifftiau ar gael gan Archwilio Cymru i lywio dysgu.  Dywedodd Gwilym Bury yn ogystal â rhannu astudiaethau achos mewn adroddiadau a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru a rhoi cyhoeddusrwydd drwy ddigwyddiadau lleol, cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd ar lefel uwch o fewn cynghorau i rannu gwybodaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford ar gynaliadwyedd ariannol, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod codau rheoli ariannol yn cael eu hadolygu a’u bod yn berthnasol o ran dangos rheolaethau cyllidebol, defnydd o gronfeydd ayb.  Yn ychwanegol, roedd crynodeb o gydymffurfiaeth wedi ei ymgorffori yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Ar gwestiwn pellach, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod gwybodaeth ar Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ffurfio rhan o bapurau cefndir a oedd ar gael ar gais, a bod Asesiadau Effaith Integredig wedi eu crynhoi mewn adroddiadau strategol i’r Cabinet.

 

Ar adroddiad Incwm Rhenti Archwilio Cymru, cyfeiriodd y Cynghorydd Banks at y ddau gynnig ar gyfer gwella a holodd am yr angen i gamau gweithredu fod yn destun proses lywodraethu wleidyddol, yn arbennig y rhai hynny ar argymhelliad 1 yr oedd ef yn teimlo y gellid eu datrys yn llawer cynt.  Cytunodd y Prif Weithredwr i ddilyn hyn a darparu ymateb.

 

Ailadroddodd  ...  view the full Cofnodion text for item 62.

63.

Chwarter 4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2022/23 pdf icon PDF 156 KB

Darparu diweddariad ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd Chwefror 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y diweddariad chwarterol ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Chwefror 2023.  Adroddwyd ar sefyllfa’r Cyngor yn ymwneud â buddsoddiad a benthyca hirdymor a thymor byr, ynghyd â diweddariad ar gyd-destun economaidd a’r rhagolygon o ran cyfraddau llog.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gefndir ar amseru’r benthyciad hirdymor o £5m a gymrwyd gyda’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn ystod y chwarter.

 

Pan holodd y Cynghorydd Glyn Banks y swyddog cadarnhaodd y swyddog fod yr Opsiwn Rhoddwr Benthyciadau Opsiwn Benthycwr yn opsiwn buddsoddi a ystyriwyd yn y trafodaethau gydag ymgynghorwyr rheoli'r trysorlys. 

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’i eiliwyd gan Allan Rainford.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo diweddariad chwarterol Rheoli’r Trysorlys 2022/23.

64.

Hunanasesiad Corfforaethol 2021-22 pdf icon PDF 123 KB

Adrodd am y canfyddiadau a chynllun gwella yn dilyn cwblhau Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y canfyddiadau a chynllun gwella yn dilyn cwblhau Hunanasesiad Corfforaethol cyntaf y Cyngor a hynny ar gyfer 2021/22.   Roedd yr adroddiad yn nodi’r dull tri cham a oedd yn canolbwyntio ar wyth o brif themâu ac yn dod i’r casgliad fod y Cyngor yn ymarfer ei swyddogaethau’n effeithiol, yn defnyddio adnoddau’n effeithiol a bod yna lywodraethu effeithiol mewn grym, gyda gweithio mewn partneriaeth yn sgorio fel yr ‘arfer gorau’.  Roedd yr adroddiad yn ymgorffori sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg tra roedd strategaethau mewn grym, roedd angen diweddaru rhai i adlewyrchu prosesau cyfredol.  Fe fu’n cynghori hefyd ar waith cyfredol i ddatblygu Cynllun newydd y Cyngor yn ymwneud â chysylltu â strategaethau allweddol i gefnogi cyflawni’r amcanion hynny.

 

Wrth ddarparu sicrwydd pellach, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai camau gweithredu i foderneiddio strategaethau yn cael eu dilyn yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai’r ddogfen gael ei symleiddio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod gan gynnwys mwy o fanylion i ddangos y dystiolaeth y tu ôl i’r sgorio.  Roedd hefyd yn cefnogi’r safbwynt a fynegwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am ymgynghoriad ehangach.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog (Llywodraethu) fod ymgynghori wedi ei nodi fel maes ar gyfer gwella a bod dull trosfwaol yn cael ei ddatblygu drwy gynyddu adnoddau.  Ystyriwyd yr hunanasesiad cyntaf fel peilot a oedd yn cynnwys trefniadau ar gyfer 2021/22 er mwyn datblygu proses yn absenoldeb canllawiau neu fodel cenedlaethol penodol.  Roedd ymgynghori mewnol yn digwydd wrth i Aelodau wirio’r ddogfen yn yr un modd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor am yr adborth a fyddai’n cael ei ddwyn ymlaen ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sicrwydd y byddai’r holl adborth yn llywio cynllun gwaith i atgyfnerthu’r broses ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.  Rhoddodd fanylion ymgynghoriad gan gynnwys gweithdy i Aelodau yn Ebrill/Mai.

 

Yn dilyn argymhelliad a gynigwyd gan y Parch Brian Harvey, cafodd yr argymhellion eu heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau’r Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu nodi;

 

(b)       Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn yr Hunanasesiad Corfforaethol 2021/22 yn cael eu nodi; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r angen i wneud y broses yn fwy cadarn a gwydn, gan gynnwys ymgynghori ehangach, er mwyn gyrru gwelliant.

65.

Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 109 KB

Cyflwyno canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor, a fydd yn cyfrannu at Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd ganlyniadau’r hunanasesiad a wnaed gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr yn ystod gweithdy ar-lein yn dilyn cwblhau holiaduron.  Byddai’r canlyniadau cyffredinol yn bwydo i mewn i baratoadau ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23 ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y canfyddiadau o’r asesiad a’r camau gweithredu a nodwyd i fynd i’r afael â meysydd lle mae angen gwelliant.

 

Gofynnodd Allan Rainford am adnoddau Archwilio Cymru i ychwanegu sicrwydd ar gyflawni trefniadau sy’n rhoi gwerth am arian.  Dywedodd Gwilym Bury nad oedd yna unrhyw gynlluniau cyfredol i newid trefniadau ar gyfer gwaith archwilio perfformiad.

 

Wrth ganmol yr ymagwedd a gymrwyd i’r gweithdy, dywedodd y Parch Brian Harvey mae maes allweddol oedd eglurder ar sut y gallai’r Pwyllgor ddylanwadu ar ddarparu gwasanaeth ar draws y Cyngor heb ddyblygu rôl y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Roedd yn teimlo y gallai hyn gynnwys mwy o drafodaeth anffurfiol a hyfforddiant i alluogi’r Pwyllgor i gyflawni ei rôl.

 

Ar adrodd cyhoeddus effeithiol i fudd-ddeiliaid a chymunedau lleol i wella tryloywder, awgrymodd y Cynghorydd Bernie Attridge well defnydd o dechnoleg i wella ymgysylltiad cyhoeddus, er enghraifft ar osod y gyllideb.

 

Wrth grynhoi, dywedodd y Cadeirydd mai’r nod oedd i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer gweddill y flwyddyn yn canolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian, ehangu ymgynghoriad cyhoeddus a thryloywder, dysgu gyda’n gilydd mewn dull anffurfiol, nodi ffyrdd i wella effaith ac effeithiolrwydd y Pwyllgor drwy adborth a sicrhau y dilynwyd y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor drwy ymgysylltu gydag Aelodau Cabinet, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac Arweinydd y Cyngor.

 

Cynigodd ei bod hi a’r Is-gadeirydd yn datblygu cynllun gweithredu cryno o ganfyddiadau’r adroddiad a’r asesiad o fis Rhagfyr i ffurfio’r sail ar gyfer datblygu’r Pwyllgor yn y dyfodol.  Cynigwyd ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorwyr Attridge a Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried canfyddiadau’r adroddiad ac ar sail y drafodaeth, fod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn datblygu cynllun gweithredu cryno i symud camau gweithredu ymlaen i lywio datblygiad y Pwyllgor yn y dyfodol.

66.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn pdf icon PDF 83 KB

Darparu diweddariad i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o'r cynnydd a wnaed yn erbyn rheoli'r materion a nodwyd o fewn Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar y meysydd i’w gwella a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021/22, a oedd yn dangos cynnydd cadarnhaol o ran mynd i’r afael â’r materion a nodwyd.

 

Yn ystod trosolwg o faterion Llywodraethu, eglurwyd fod pump (yn hytrach na chwech) wedi eu graddio’n Oren.  Cyfeiriwyd at ddatblygiad strategaeth ymgysylltu’r cwsmer a gwaith parhaus i ymgorffori fframwaith rheoli risg newydd ar draws y sefydliad.  Roedd eglurhad ar faterion Strategol yn cynnwys uwchgyfeirio risgiau na ellid eu cynnwys o fewn y portffolio, gyda rhai ohonynt yn cael eu heffeithio gan ffactorau allanol.

 

Cododd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon yngl?n â risgiau ar ôl-ddyledion rhent, gordaliadau budd-dal tai a digartrefedd, gan ofyn a ellid gwneud mwy i leihau’r nifer uchel o eiddo gwag.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) tra roedd y gwasanaeth Refeniw yn cynnal perfformiad da ar gasglu treth y cyngor, roedd yna faterion mwy cymhleth yn ymwneud â chasglu rhent a bod canlyniad peilot ar fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent i’w ddisgwyl.   Byddai ymateb i’r risg ar ordaliadau budd-dal tai yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.

 

Ar ddigartrefedd, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y cymhlethdodau ac effaith y newidiadau o ran polisi cenedlaethol, tra’n pwysleisio blaenoriaeth y tîm i gadw pobl yn eu llety eu hunain.

 

Dywedodd Gwilym Bury mai’r prif ffactor mewn uwchgyfeirio ôl-ddyledion rhent yn genedlaethol, fel y cyfeiriwyd ato mewn adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru, oedd cyflwyno Credyd Cynhwysol fesul cam, rhywbeth sy’n parhau i ddigwydd.

 

Cymrodd y Cynghorydd Glyn Banks y cyfle i gydnabod y gwaith cadarnhaol a wnaed gan y Prif Weithredwr i fynd i’r afael â sefyllfa digartrefedd yn Sir y Fflint.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd fod defnydd llawn wedi ei wneud o ddata meincnodi ac amlygodd heriau yn y gwasanaethau, fel digartrefedd, a fyddai’n parhau dros y tymor hirach i’r holl gynghorau.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ar ôl dechrau’r gwaith ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23, roedd adolygiad canol blwyddyn wedi ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor ym mis Tachwedd.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer a Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22.

67.

Cynllun Strategol Archwilio Mewnol pdf icon PDF 90 KB

Cyflwyno’r Cynllun Archwilio Mewnol arfaethedig ar gyfer 2023/24 - 2025/26 er ystyriaeth yr Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol tair blynedd ar gyfer 2023/24 - 2025/26 a oedd wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio mapio gwarant, canlyniadau gwaith archwilio blaenorol, risgiau newydd a rhai sy’n datblygu ac ymgynghori gydag uwch swyddogion ac Archwilio Cymru.  Cafodd yr holl archwiliadau blaenoriaeth uchel ac adolygiadau blynyddol/dwywaith y flwyddyn eu cynnwys yn y Cynllun ‘craidd’ i’w gwblhau yn 2023/24 gyda sgorau blaenoriaeth yn cael eu dangos.   Roedd yna hyblygrwydd o fewn y Cynllun i gynnwys unrhyw waith mewn ymateb i faterion brys neu risgiau a fyddai’n cael blaenoriaeth dros adolygiadau blaenoriaeth canolig a byddai’n destun adolygiad rheolaidd gyda deiliaid portffolio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am waith blaenorol ar y defnydd o ymgynghoriaeth ac awgrymodd y pynciau canlynol ar gyfer eu hystyried: cael gwerth am arian neu waredu asedau, gwrth-lwgrwobrwyo a llygredigaeth gan gynnwys anrhegion a lletygarwch, cydymffurfiaeth gyda rheolau cadw dogfennau a phenderfyniadau Cynllunio yn cynnwys buddiannau Aelod/swyddogion.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg fod gwaredu asedau wedi ei archwilio’n flaenorol a bod polisïau llwgrwobrwyo a llygredigaeth yn cael eu hadolygu yn rheolaidd.  Tra bod gwaith blaenorol wedi ei wneud ar Gynllunio, roedd adolygiad o Ddatganiadau o Gysylltiad wedi eu cynnwys yn y Cynllun cyfredol.  Ar y defnydd o ymgynghorwyr, roedd gwariant wedi gostwng yn sylweddol ers cyflwyno prosesau a rheolaethau a oedd wedi eu hatgyfnerthu a oedd yn profi i fod yn effeithiol.  Gan ddilyn awgrym y Cadeirydd, byddai gwybodaeth ar hyn yn cael ei rhannu.

 

Wrth ymateb i gwestiynau pellach, rhoddwyd eglurhad ar yr adolygiad o grantiau corfforaethol a chadarnhawyd y byddai archwiliad blaenorol o reoli credyd a dyled ddrwg yn cael ei gadw o dan adolygiad.

 

Fel yr awgrymwyd gan Allan Rainford, byddai’r Cynllun yn cael ei ddiwygio i adolygu gwaith ar Ddiogelwch Seiber/Data ac Amddiffyn yn erbyn Meddalwedd Wystlo ac mae hynny wedi ei drefnu ar gyfer 2023/24 ac fesul blwyddyn.

 

Ar reoli eiddo gwag, dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylai’r Pwyllgor gael mwy o sicrwydd ar gynnydd gyda chamau gweithredu.  Byddai capasiti pellach yn cael ei adolygu yn y Cynllun gan fod gwaith eisoes wedi’i gwblhau ar eiddo gwag.  Gofynnwyd i’r Cynghorydd Attridge ddarparu mwy o wybodaeth ar ei gais am adolygiad o Arlwyo NEWydd a’r goblygiadau o wrthdaro buddiannau posibl.  Byddai adolygiad a awgrymir o gontractau inswleiddio waliau allanol (yn benodol ar draws Glannau Dyfrdwy) yn cael ei ystyried unwaith y bydd y broses gyfreithiol wedi ei chwblhau.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Attridge, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i rannu canfyddiadau adroddiad ar y digwyddiad ar-lein yn y Cabinet ym mis Chwefror.

 

Yn unol â chais y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sicrwydd ar gapasiti i gyflawni’r Cynllun yn seiliedig ar adnoddau cyfredol.  Mewn ymateb i sylwadau, rhoddodd fanylion gwaith diweddar ar recriwtio a chadw yn ychwanegol at adolygiad o’r model cyflog.  Hefyd rhannodd wybodaeth ar adolygiad o fewn Gwasanaethau Stryd a Chludiant a fyddai’n ychwanegu’r gwerth mwyaf ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.   Byddai adolygiad  ...  view the full Cofnodion text for item 67.

68.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.

 

Ers yr adroddiad diwethaf, roedd yna ostyngiad bach wedi bod mewn camau gweithredu hwyr a chafwyd diweddariad ar gamau gweithredu pellach a oedd wedi eu cau ers cyhoeddi’r adroddiad.  O ran camau gweithredu hwyr uchel a chanolig yn ymwneud â digartrefedd, byddai diweddariad gan y gwasanaeth yn cael ei rannu ac ynddo roedd ymrwymiad wedi ei roi i gau’r holl gamau gweithredu erbyn Medi 2023 pan fyddai adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Nodwyd cais y Cynghorydd Bernie Attridge am ddiweddariad ar gamau gweithredu sy’n weddill ar yr archwiliad o Hyfforddiant Statudol mewn Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar gontractau gyda chyflenwyr mawr, rhoddwyd eglurhad ar gydymffurfiaeth gyda Rheolau’r Weithdrefn Gontractau, gydag unrhyw faterion a godir fel rhan o waith archwilio.  Byddai diweddariad ar wahân yn cael ei rannu ar gamau gweithredu yn ymwneud ag Ynni Domestig ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru gan gynnwys y balans sy’n ddyledus i’r Cyngor.   Rhoddwyd diweddariad ar lafar ar gamau gweithredu yn ymwneud â’r Adolygiad Thematig Ysgolion a fyddai’n cael ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Cynnydd nesaf.  Hefyd rhoddwyd eglurhad ar ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â newidiadau i amserlenni, argaeledd staff a materion y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth.

 

Ar yr adroddiad Oren Coch ar Adeileddau Priffyrdd, eglurwyd o ganlyniad i wahoddiad ar fyr rybudd, nad oedd y Prif Swyddog yn gallu mynychu’r cyfarfod, ond roedd wedi rhoi sicrwydd fod modd cyflawni erbyn y dyddiadau ac y byddai adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Ebrill.  Roedd awgrym y Cynghorydd Glyn Banks y dylai slotiau cyfarfod y Pwyllgor gael eu cadw’n rhydd yn nyddiaduron Prif Swyddogion yn cael ei ystyried gan y Rheolwr Archwilio Mewnol a atgoffodd y Pwyllgor o’r broses a gytunwyd mewn perthynas ag adroddiadau coch.  Aeth ymlaen i gynghori y byddai unrhyw gamau gweithredu hwyr ar adroddiadau sicrwydd cyfyngedig nawr yn cael eu codi gydag Arweinydd y Cyngor i drafod gyda’r gwasanaeth perthnasol.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’i eiliwyd gan Allan Rainford.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

69.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 80 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol ac adroddodd fod y diweddariad ar gronfeydd ysgolion yn cael ei rannu ym Mehefin o ganlyniad i salwch staff.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey a’r Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

70.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 86 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried.  Cytunodd i drefnu’r eitemau canlynol y gofynnwyd amdanynt gan y Cadeirydd:

 

·         Y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, trefniadau ar gyfer partneriaethau a chydweithio

·         Trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer prosiect mawr

·         Diogelwch gwybodaeth

·         Sicrwydd/trefniadau rheoli Iechyd a Diogelwch

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a’r Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Yn amodol ar y newidiadau, derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

71.

AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD HEFYD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.

NODYN: Cyfarfod Blynyddol gydag Archwilwyr Mewnol ac Allanol

Yn unol â’r weithdrefn y cytunwyd arni, bydd aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cyfarfod gyda'r Archwilwyr Mewnol ac Allanol yn syth ar ôl y cyfarfod.

Dogfennau ychwanegol: