Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

23.

Dirprwyo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu i’r Cynghorydd Rob Davies (a oedd wedi gwneud yr hyfforddiant gofynnol) i ddirprwyo ar ran y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu i’r Cynghorydd Rob Davies ddirprwyo yn y cyfarfod.

24.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel llywodraethwyr ysgol, fe wnaeth y canlynol ddatgan cysylltiad personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen – ‘Balansau Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion’: Y Parchedig Brian Harvey, Y Cynghorwyr Glyn Banks, Rob Davies, Allan Marshall a Ryan McKeown.

 

Datganodd Sally Ellis gysylltiad personol â’r un eitem oherwydd bod ei mab yn cael ei gyflogi gan ysgol yn Sir y Fflint.

25.

Cofnodion pdf icon PDF 78 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) ar 27 July 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 27 Gorffennaf 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ryan McKeown ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

26.

Adolygiad Archwilio Cymru o Gomisiynu Lleoliadau Cartref Gofal Pobl H?n gan Gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pdf icon PDF 47 KB

Cydnabod adroddiad Archwilio Cymru a nodi argymhellion yr adroddiad ar Leoliadau Cartrefi Gofal ar gyfer Pobl H?n.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar ganlyniad adolygiad Archwilio Cymru o Gomisiynu Lleoliadau Cartrefi Gofal i Bobl H?n gan gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Rhoddodd gefndir ar y trefniadau ar gyfer yr adolygiad, gyda'r diben yn tynnu sylw at nifer o bwysau parhaus o fewn gofal cymdeithasol. Roedd ymgysylltu helaeth ag Archwilio Cymru a chydweithwyr BIPBC wedi arwain at gyhoeddi’r adroddiad terfynol a oedd yn adlewyrchu golwg fwy cytbwys ar y sefyllfa ar draws Gogledd Cymru.

 

Wrth dynnu sylw at rôl y Pwyllgor, dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Darparodd yr Uwch Reolwr eglurhad manwl o'r gwaith a wnaed hyd yma i fynd i'r afael â'r pum argymhelliad gan Archwilio Cymru, ynghyd â dyddiadau cau diwygiedig ar gyfer cwblhau.

 

Eglurodd Gwilym Bury o Archwilio Cymru ei bod yn ofynnol i gynghorau a byrddau iechyd yng Nghymru gyflawni eu cyfrifoldebau statudol o fewn y fframwaith cyfreithiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC). Siaradodd am y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â strwythurau ffioedd a bennir yn genedlaethol a’u heffaith ar unigolion. Er y byddai'r cynllun gweithredu ar gyfer Gogledd Cymru yn helpu i fynd i'r afael â materion lleol, amlygodd adroddiad cenedlaethol ar wahân i LlC yr angen am ymyrraeth i osgoi parhad ac uwch gyfeirio materion mwy sylfaenol. Fel y nodwyd mewn adroddiad blaenorol, roedd Archwilio Cymru o’r farn nad oedd y trefniant cronfa gyfun bresennol i gefnogi’r gwaith o gyflawni swyddogaethau llety cartrefi gofal ar draws y rhanbarth yn darparu gwerth am arian nac unrhyw un o’r buddion arfaethedig sy’n gysylltiedig â’r model cronfa gyfun. Fodd bynnag, barn cynghorau Gogledd Cymru a BIPBC oedd bod y trefniadau yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau. Diolchwyd i'r swyddogion am eu cyfraniadau i'r adolygiad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Parchedig Brian Harvey ar recriwtio a chadw yn y sector gofal, siaradodd yr Uwch Reolwr am lwyddiant y broses recriwtio ar sail gwerth mewn cydweithrediad â phartneriaid. Pan ofynnwyd iddi am yr hyn a ddysgwyd o’r adolygiad, dywedodd fod cynnal perthnasoedd gwaith agos â darparwyr gofal yn ffactor allweddol mewn cynllunio strategol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks fod yr adroddiad yn cydnabod y gwaith sylweddol a chymhleth a wneir gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth. Bu iddo sôn am y potensial ar gyfer mwy o gydweithio a chyfleoedd ar gyfer newid y mae LlC yn dylanwadu arnynt.

 

Mewn ymateb i sylwadau ar weithredu argymhellion, dywedodd Gwilym Bury y byddai cynnydd yn cael ei adolygu ar gam priodol a bod adolygiad dilynol o drefniadau ar draws Cymru gyfan yn debygol. Er bod y rhan fwyaf o gynghorau a byrddau iechyd yng Nghymru yn anghytuno â barn Archwilio Cymru ar y dull o ymdrin â threfniadau cyfuno cyllid, roedd cytundeb ar y cyd ar yr angen am newid cenedlaethol i ddatrys problemau cyllid cymhleth sy’n bod ers amser maith o fewn y system bresennol.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Balansau Cronfeydd wrth gefn Ysgolion y Flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2022 pdf icon PDF 167 KB

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Ysgolion) yr adroddiad blynyddol ar gronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint a’r risgiau a’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion sydd mewn diffyg.

 

O gymharu â’r flwyddyn flaenorol, bu cynnydd sylweddol yn lefelau’r cronfeydd wrth gefn ar draws pob sector ar 31 Mawrth 2022 (fel yr atgynhyrchwyd ledled Cymru), i gyd-fynd â nifer o grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC) a ddyfarnwyd i gydnabod effaith y pandemig ar ddysgwyr. Er y croesawyd hyn, roedd nifer o grantiau a ddyfarnwyd yn hwyr wedi chwyddo cronfeydd wrth gefn ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn. Dangosodd dadansoddiad o dueddiadau’r newid i gronfeydd wrth gefn yn cynyddu o 2020, a briodolwyd yn bennaf i symiau sylweddol o arian grant LlC yn ystod y pandemig.

Roedd yn bwysig cydnabod, er bod lefelau cyffredinol y cronfeydd wrth gefn yn giplun bryd hynny ac yn amodol ar amrywiadau, roedd cyd-destun cefndirol i bob ysgol unigol gyflawni'r cydbwysedd cywir o ran sicrhau nad oedd lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn ormodol ond yn gronfeydd wrth gefn digonol gyda phwrpas clir. Rhoddwyd trosolwg o'r broses o fonitro lefelau cronfeydd wrth gefn ysgolion ynghyd â chrynodeb o ymatebion gan ysgolion ar falansau dros 5% o'r argymhelliad cyllideb ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar feini prawf yn ymwneud â chyllid grant a'r adolygiad parhaus o'r fformiwla cyllido.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Andrew Parkhurst, byddai'r protocol ar gyfer ysgolion sydd mewn trafferthion ariannol yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor i ddangos y camau sydd ynghlwm â gwneud cais am ddiffyg trwyddedig. Fe'i hysbyswyd hefyd am gymorth i ysgolion reoli cyllidebau a rhagamcanion costau gan gynnwys ynni nad oedd yr effaith ar gyfer y flwyddyn nesaf yn hysbys eto.

 

Wrth ddiolch i'r Rheolwr Cyllid Strategol am ei hadroddiad manwl, cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at y fformiwla cyllido gymhleth ac effaith y cynnydd a ragamcanwyd yn nifer y disgyblion uwchradd sy'n cyd-daro â gostyngiad ar lefel gynradd. Siaradodd am y flaenoriaeth i gynnal cwricwlwm cytbwys eang a chroesawodd gyfraniadau ariannol gan LlC tuag at gyllidebau ysgolion o ganlyniad i’r pandemig.

 

Wrth groesawu'r sefyllfa well o ran cronfeydd wrth gefn, gofynnodd y Cadeirydd am y broses ar gyfer ymdrin ag ysgolion â lefelau uwch o gronfeydd wrth gefn. Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol sicrwydd fod gwybodaeth o safon yn cael ei darparu gan ysgolion, ond bod her gadarn lle y bo angen. Tynnodd sylw at yr angen i ganiatáu amser i ysgolion ddefnyddio cyllid LlC i gefnogi adferiad o’r pandemig.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey a’r Cynghorydd Andrew Parkhust.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi balansau cronfeydd wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth 2022.

28.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y wybodaeth ddiweddaraf reolaidd yn dangos cynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.

 

Ers yr adroddiad diwethaf, roedd un adroddiad Ambr Coch (peth sicrwydd) wedi'i gyhoeddi ar Gynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi - Ynni Domestig. O ran olrhain camau gweithredu, rhannwyd canlyniadau cyfarfod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd â thîm y Prif Swyddogion ym mis Gorffennaf, a oedd yn cynnwys y dewis i ofyn i swyddogion perthnasol fynychu’r Pwyllgor i egluro’r rhesymau dros gamau gweithredu hwyr. Croesawyd gwaith pellach i leihau camau gweithredu hwyr i 38% gan y Pwyllgor. O ran dangosyddion perfformiad, roedd y cynnydd yn gadarnhaol ar y cyfan gyda'r ddau sgôr coch (gan gynnwys nifer cyfartalog y diwrnodau o ddiwedd y gwaith maes i ôl-drafodaeth) yn cyd-daro â’r cyfnod  gwyliau. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar newidiadau i'r cynllun archwilio i adlewyrchu capasiti presennol y tîm.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Parchedig Brian Harvey ar reoli risg o gamau gweithredu hwyr, eglurodd y swyddog fod gwasanaethau wedi methu â diweddaru'r system yn y rhan fwyaf o achosion ar ôl cwblhau eu camau gweithredu.

 

Ar y meysydd i'w gwella yn yr adroddiad Ambr/Coch, mynegodd Allan Rainford bryderon ynghylch defnyddio dwy broses ar wahân i ddilysu gwybodaeth.  Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gysylltu â'r archwilydd er mwyn sicrhau'r Pwyllgor nad oedd gwaith yn cael ei ddyblygu.

 

Wrth groesawu cynnydd ar gamau gweithredu hwyr, cwestiynodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a oedd rhai o’r rhesymau dros gamau gweithredu hwyr uchel a chanolig yn gyfredol, yn enwedig gan gyfeirio at yr ymateb i’r pandemig.

 

Ar yr un mater, gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariadau ar adroddiadau coch ar gyfer trefniadau cytundebol y Trwydded Gweithredwr a Maes Gwern a ystyriwyd yn flaenorol. Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg nad oedd unrhyw gynnydd ar yr adroddiad blaenorol oherwydd materion staffio a bod hwn yn cael ei fonitro gan y Prif Swyddog. Ar yr olaf, nid oedd unrhyw gynnydd pellach wedi'i wneud ac roedd y mater yn cael ei flaenoriaethu gan y Prif Swyddog.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r swyddog cyfrifol ar gyfer Maes Gwern gael ei wahodd i'r Pwyllgor i roi eglurhad.

 

Cydnabu'r Prif Weithredwr fod angen mwy o welliant i gwblhau’r camau gweithredu hwyr. Fe wnaeth y Prif Weithredwr ddiolch i'r Pwyllgor am ei gefnogaeth a rhoddodd sicrwydd bod hyn yn parhau i gael ei flaenoriaethu o fewn tîm y Prif Swyddog.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Banks, eglurwyd y rhesymau dros y ddau archwiliad blaenoriaeth uchel a ohiriwyd. Er na ellid darparu ar gyfer adolygiad dilynol o'r cynnydd o ran gweithredu'r camau gweithredu ar yr adroddiad Ambr/Coch eleni, byddai'r Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf fel rhan o adrodd rheolaidd.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i diwygiwyd, eu cynnig a'u heilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad; a

 

(b)       Gwahodd y swyddog cyfrifol ar gyfer trefniadau cytundebol Maes Gwern i fynychu'r  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Asesiad Safonau Archwilio Mewnol Allanol y Sector Cyhoeddus 2022 pdf icon PDF 81 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniadau'r asesiad allanol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (SAMSC).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad ar ganlyniad yr asesiad allanol o gydymffurfiad â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) a gynhaliwyd bob pum mlynedd. Canfu’r asesiad allanol, a gynhaliwyd fel adolygiad gan gymheiriaid, fod gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor yn cydymffurfio â’r Safonau ym mhob maes arwyddocaol a’i fod yn gweithredu’n annibynnol ac yn wrthrychol.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Banks longyfarch y Rheolwr a'i thîm am y canlyniad cadarnhaol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a’r Cynghorydd Ryan McKeown.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

30.

Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 81 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

O ran y camau gweithredu o gyfarfod mis Gorffennaf, parhaodd y Cynghorydd Glyn Banks i fynegi ei bryderon am y berthynas gyfreithiol rhwng y Cyngor a Theatr Clwyd o fewn y cyfrifon, er gwaethaf yr esboniadau a roddwyd yn y cyfarfod.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Ryan McKeown a'i eilio gan Allan Rainford.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

31.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 83 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformio a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol i'w hystyried, gan gynnwys cynigion ers yr adroddiad diwethaf. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:

 

·         Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli Risg i'w ddwyn ymlaen i fis Tachwedd 2022.

·         Hunanasesiad y Pwyllgor ar gyfer 2022/23 i symud i fis Ionawr 2023 a’r gweithdy cysylltiedig i’w drefnu ar gyfer mis Rhagfyr 2022.

·         Dilyniant ar Gomisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i'w gynnwys yn y wybodaeth ddiweddaraf ar Sicrwydd Allanol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn yr adroddiad, gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a’r Cynghorydd Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; a

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

32.

AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.