Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Penodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn eglurhad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) am ofynion deddfwriaethol, cynigiodd y Cynghorydd Glyn Banks bod Sally Ellis yn cael ei phenodi yn Gadeirydd am 12 mis er mwyn i’r swydd gael ei newid thwng y tri aelod lleyg dros dair blynedd.   Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Allan Rainford ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.  Ni chafwyd enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Sally Ellis yn cael ei phenodi yn Gadeirydd y Pwyllgor am 12 mis ac y bydd y rôl yn newid rhwng tri aelod lleyg dros dair blynedd.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Glyn Banks, rhoddodd y Prif Swyddog  (Llywodraethu) eglurhad o’r ddeddfwriaeth.

 

Enwebodd y Cynghorydd Banks Allan Rainford yn Is-Gadeirydd am 12 mis (cyn iddo fod yn Gadeirydd am y 12 mis nesaf) ac y bydd y rôl yn cylchdroi er mwyn i’r Parchedig Brian Harvey fod yn Is-gadeirydd am y 12 mis nesaf.   Cafodd ei eilio gan y Parchedig Harvey.  Nid oedd yna enwebiadau eraill, ac fe’i cymeradwywyd ar ôl cynnal pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Allan Rainford yn cael ei benodi yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 12 mis ac y bydd y rôl yn newid rhwng tri aelod lleyg dros dair blynedd.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 78 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022, fel y’i cynigwyd a’u heiliwyd gan Sally Ellis ac Allan Rainford.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

5.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) - Gwiriad Sicrwydd pdf icon PDF 111 KB

I nodi cynnwys y llythyr Perfformiad Blynyddol, asesiad AGC o berfformiad yr awdurdod yn ystod 2020/21 a Chynllun Adolygu Perfformiad AGC ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i rannu casgliadau gwiriad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21.  Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan  Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Cabinet yn unol â’r protocol adrodd rheoleiddio.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar sgôp eang yr archwiliad oedd wedi canfod cryfder mewn nifer o feysydd yn cynnwys effeithiolrwydd y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol oedd yn ymwneud â diogelwch a lles gofalwyr a’r rhai oedd yn derbyn gofal yn ystod y pandemig, yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer plant mewn gofal. Mae’r casgliadau hefyd yn adlewyrchu ansawdd staff a gwaith partneriaeth ynghyd â thystiolaeth o ‘arfer da iawn’ ar draws pob maes o Wasanaethau Cymdeithasol. Er bod y penawdau ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn gadarnhaol, rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad manwl am gynnydd gydag amrywiaeth o weithredoedd i fynd i’r afael â thri maes o welliant, yn cynnwys heriau recriwtio yn y Gwasanaethau Oedolion. Roedd y problemau hyn yn cael eu hail-adrodd ar draws y DU.

 

Fe eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu bod strwythur Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor wedi galluogi mwy o fonitro annibynnol o’r gwasanaeth.  Fe soniodd hi hefyd am y gefnogaeth wleidyddol gref ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn Sir y Fflint y sonnir amdano yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai cynnydd gyda’r cynllun gweithredu yn destun protocol adrodd.   Dywedodd fod perfformiad Sir y Fflint yn cymharu’n dda yn gyffredinol yn erbyn awdurdodau eraill a bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i nodi cyfleoedd ar gyfer  gwelliant ac adeiladu ar ei gryfderau.

 

Cafodd casgliadau’r archwiliad eu croesawu gan y Cynghorydd Christine Jones, yn benodol yr adborth cadarnhaol am waith partneriaeth a dosbarthu cyfarpar diogelu personol (PPE) yn ystod y pandemig.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i gwestiynau gan y Parchedig Brian Harvey am gynnal ymgysylltu da gyda’r Bwrdd Iechyd a sefydliadau trydydd sector trwy gydol y pandemig a datblygu darpariaeth gofal preswyl yn Sir y Fflint.

 

Wrth ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, fe eglurwyd y byddai gweithredoedd yn cael eu monitro’n agos yn cynnwys mynd i’r afael â phwysau recriwtio a oedd yn parhau i fod yn faes o bryder.  Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd am y dull adrodd perfformiad o fewn y Cyngor, dywedodd y Prif Swyddog bod dangosyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael ar gais.

 

Yn ystod yr eitem, fe ganmolodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor  gasgliadau’r adroddiad a chynnydd gyda’r cynllun gweithredu. Gofynnodd y Cynghorydd Banks bod diolchgarwch y Pwyllgor yn cael ei gyfleu i’r timau am eu hymdrechion yn ystod y pandemig.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael ei nodi, yn dilyn Gwiriad Sicrwydd ym mis Ebrill 2021; a

 

(b)       Bod diolchgarwch y Pwyllgor yn cael ei ymestyn i dimau Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith yn ymwneud  â’r archwiliad ac yn ystod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 pdf icon PDF 95 KB

Cefnogi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021/22 oedd yn rhoi sicrwydd am drefniadau llywodraethu a rheoli risg, i gyd-fynd â’r Datganiad Cyfrifon.  Gan egluro pwrpas a datblygiad y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, dywedodd y Prif Swyddog ei bod hi’n ddogfen gadarnhaol oedd yn adlewyrchu ar y cyfnod pontio o’r ymateb i adferiad y pandemig.  Yn rhan o’r adolygiad canol blwyddyn a pharatoadau ar gyfer Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23, fe fyddai yna gyfleoedd am ragor o gyfraniad gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg eglurhad o brif newidiadau a phrif adrannau yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a oedd yn dilyn fformat wedi’i ragnodi.

 

Gan ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, byddai gwybodaeth am adolygiad diweddar y Strategaeth Gwrth-dwyll Corfforaethol yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd Allan Rainford am effaith canllaw diweddar gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth am lywodraethu a chafodd wybod tra bod hyn wedi cael ei gyhoeddi ar ôl cwblhau’r  Datganiad Llywodraethu Blynyddol, byddai’n helpu i lywio’r adolygiad canol blwyddyn.  Cadarnhawyd hefyd y byddai materion llywodraethu sydd wedi’u nodi yn ystod 2021/22 yn ffurfio rhan o’r cynllun gweithredu rheoli risg.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a'u heilio gan y Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 yn cael ei atodi i’r Datganiad Cyfrifon ac argymell i’r Cyngor ei fod yn eu mabwysiadu; a

 

(b)       Ceisio barn Cadeiryddion pob Pwyllgor ar gyfer Datganiad Llywodraethu Blynyddol nesaf.

7.

Tystysgrif Grantiau a Ffurflenni 2020/21 pdf icon PDF 81 KB

Hysbysu Aelodau o'r ardystiad hawl grant gan Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad blynyddol Archwilio Cymru ar ardystiad hawl grant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021. Nid oedd yna addasiadau sylweddol i unrhyw un o’r tri hawl a dim ond un mân newid cadarnhaol i’r Ffurflen Cymhorthdal Budd-dal Tai. Ar ôl ystyried casgliadau gan y Tîm Rheoli Cyllid a’r meysydd gwasanaeth perthnasol, roedd cynnydd ar waith ar gamau i fynd i’r afael ag argymhellion ac i wella systemau ar gyfer archwiliad 2021/22.

 

Wrth grynhoi’r prif gasgliadau, dywedodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru fod y Cyngor wedi arddangos trefniadau cyffredinol digonol ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno hawliadau grant, gyda sgôp ar gyfer gwelliant. Roedd perfformiad cyffredinol yn dda a bu ymgysylltu a chydweithio da gan swyddogion trwy gydol yr archwiliad.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Parchedig Brian Harvey am risgiau’n ymwneud â phwysau ar weithlu, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i staff yn ogystal â rhoi mwy o bwyslais ar les o fewn y system werthuso gweithwyr gan gydnabod y mater pwysig yma.

 

Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, siaradodd Allan Rainford am gymhlethdod yr hawliadau cymhorthdal budd-dal tai, ac awgrymodd y byddai rhagor o fanylion yn helpu i ddarparu mwy o eglurder ar faint y llwyth achosion o’i gymharu ag achosion a brofwyd. Cafodd hyn ei nodi gan Mike Whiteley a roddodd drosolwg o’r dull profi sampl y mae Archwilio Cymru yn ei ddefnyddio.

 

Ar ôl sylw gan y Cadeirydd am yr hawliau grant cymwys, dywedodd Mike Whiteley er nad oedd yn arwyddocaol, roedd lefel debyg o ddiffygion yn cael eu nodi bob blwyddyn mewn meysydd tebyg. Fe ychwanegodd bod llwyth gwaith sylweddol wrth brosesu hawliadau cymhorthdal budd-dal tai a arweiniodd yn anochel at ddiffygion a effeithiodd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth am nifer yr achosion cymhorthdal budd-dal tai yn cael ei rannu er mwyn rhoi cyd-destun i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey a’r Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys adroddiad Ardystiad Hawl Grant ar gyfer 2020/21.

8.

Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2022 pdf icon PDF 85 KB

Adolygu Cynllun Archwilio - Archwilio Cymru 2022 ar gyfer y Cyngor sy’n nodi’r gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal ag amserlen, costau a’r timoedd archwilio sy’n gyfrifol am gynnal y gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2022 sy’n cynnwys gwaith archwilio ariannol a pherfformiad arfaethedig ar gyfer y Cyngor, yn cynnwys amserlenni, costau a thimau archwilio sy’n gyfrifol. 

 

Manteisiodd y Prif Weithredwr ar y cyfle i ddiolch i gydweithwyr o Archwilio Cymru am eu hymgysylltiad gyda swyddogion wrth lunio’r Cynllun.

 

Wrth grynhoi prif adrannau gwaith archwilio ariannol, fe dynnodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru sylw at y risgiau archwilio yn cynnwys gwrth-wneud rheoli rheoliadau a oedd yn risg sylweddol rhag osodedig a oedd yn bresennol ym mhob Cynllun Archwilio.  Rhoddodd Jeremy Evans drosolwg o raglen archwilio perfformiad a gymerodd  dull ar sail risg i bynciau cenedlaethol a lleol. Fe ddywedodd y byddai’r ail adolygiad thematig yn nogfen arddangos 2 yn ymwneud â gwasanaethau digidol a bod yr adolygiad lleol ar gomisiynu lleoliadau y tu allan i’r sir wedi newid i atal digartrefedd fel y cytunwyd gyda swyddogion.

 

Gan ymateb i’r ymholiadau gan Allan Rainford, fe eglurwyd bod unrhyw waith ychwanegol ar werthusiadau asedau o archwiliadau blynyddoedd blaenorol yn annhebygol o effeithio ar ffi archwilio arfaethedig ar gyfer eleni. Tra bod y ffioedd archwilio wedi’u seilio ar lefel o risg a’r gwaith sydd angen ei wneud, fe ellir dylanwadu arnynt gan waith ychwanegol sydd wedi’i nodi mewn archwiliadau yn ystod y flwyddyn. O ran yr heriau o gymharu data perfformiad gyda sefydliadau eraill yn ystod y pandemig, byddai angen  ailgychwyn gweithgareddau meincnodi wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi fersiwn ddrafft Cynllun Archwilio Cymru 2022.

9.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y bydd yna rywfaint o newid yn nhrefn y rhaglen er mwyn symud eitem rhif 14 i alluogi cynrychiolwyr trydydd parti i gymryd rhan.   Bydd gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn a ddangosir ar y rhaglen.

10.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

11.

Ysgol Gynradd Drury – Trefniadau Rheolaeth Ariannol

Hysbysu'r Pwyllgor am yr adolygiad Archwilio Mewnol o Ysgol Gynradd Drury.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad am adolygiad Archwilio Mewnol Ysgol Gynradd Drury - fel y gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) - roedd barn Coch (sicrwydd cyfyngedig) wedi cael ei roi.  Manylodd yr Uwch Archwilydd sgôp yr adolygiad oedd wedi cael ei gytuno gyda’r Prif Swyddog a’r ysgol, ynghyd â chrynodeb o’r prif gasgliadau ac argymhellion.

 

Roedd Mark Biltcliffe (Prifathro) a Simon Griffiths (Cadeirydd Llywodraethwyr) Ysgol Gynradd Drury yn bresennol i roi diweddariad am gynnwys o ran gweithredu’r argymhellion.

 

Gan ymateb i gwestiynau, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eglurhad am gyfathrebu ac ymgysylltu gyda’r ysgol trwy gydol y cyfnod ac roedd wedi gofyn am ddiweddariad rheolaidd am gamau gweithredu gan yr ysgol i roi sicrwydd o’r cynnydd.

 

Fe eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y bydd archwiliad dilynol yn cael ei gynnal a gallai tystiolaeth a adolygwyd cyn pob argymhelliad gael eu cau.  Bydd y tîm Archwilio Mewnol yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr Addysg a’r ysgol er mwyn sicrhau bod camau’n cael eu gweithredu ac mae adroddiad pellach wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr 2023.  Bydd cynnydd hefyd yn cael ei adrodd yn rhan o olrhain camau gweithredu.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’r cyfranwyr am fod yn bresennol, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ysgol a’r Prif Swyddog.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Glyn Banks a’r Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn ac adroddiad dilynol yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr 2023.

12.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 pdf icon PDF 89 KB

Rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad yr holl waith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2021/22 a rhoi’r farn Archwilio Mewnol flynyddol ar safon rheolaeth fewnol, rheoli risg a llywodraethu yn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad, a oedd yn rhoi crynodeb o’r canlyniadau yn sgil gwaith archwilio a wnaed yn ystod 2021/22, cydymffurfiaeth â’r Safonau a chanlyniadau’r rhaglen sicrhau ansawdd a gwella.

 

Ar sail y gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol, y sicrwydd uniongyrchol gan y rheolwyr a sicrwydd allanol gan Archwilio Cymru, ym marn yr archwilwyr roedd gan y Cyngor fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheoli mewnol ar gyfer y cyfnod. Wrth ddod i’r casgliad hwn, roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol wedi ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys canlyniadau’r gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol ac Archwilio Cymru. Ymysg y meysydd allweddol a amlygwyd roedd lefel cwmpas yr archwiliad yn ystod y flwyddyn, archwilio trydydd partïon a safle cyffredinol y farn sicrwydd a’r camau gweithredu a godwyd ar draws y portffolios.  Fe soniodd y Rheolwr Archwilio Mewnol hefyd am effeithiolrwydd perfformiad ei gwasanaeth, yn cynnwys ei rôl arweiniol hi ar Gr?p Tasg a Gorffen er mwyn adolygu a chydgasglu data meincnodi ar draws Cymru.

 

Croesawodd Allan Rainford yr adroddiad a chafodd wybodaeth am y dull o gynyddu’r nifer o holiaduron cleientiaid ôl-archwiliad a gwblhawyd tra’n blaenoriaethu olrhain camau gweithredu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am y tri adroddiad sicrwydd coch a chafodd wybod am drefniadau adrodd i’r Pwyllgor hwn a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chynlluniau gweithredu priodol.

 

Gan ymateb i sylwadau’r Cadeirydd ar dueddiadau, dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol nad oedd yna bryderon presennol a bod y Cynllun Archwilio yn canolbwyntio ar feysydd o risg uchel ar draws y sefydliad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhust a’r Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a barn flynyddol Archwilio Mewnol.

13.

Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 80 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Glyn Banks ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

14.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried, gan gynnwys cynigion ers yr adroddiad diwethaf.

 

Gan gynnwys y diweddariad am yr adroddiad archwilio coch cynharach, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, wrth ymgynghori â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

15.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 87 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd ar y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Rhoddwyd trosolwg o’r ddau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod ar Reoli Risg a Defnyddio Gweithwyr Asiantaeth, ac roedd yr adroddiad Coch yn unig (sicrwydd cyfyngedig) wedi’i gynnwys fel eitem ar wahân ar y rhaglen.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon am ddiffyg cynnydd ar rhai o’r camau blaenoriaeth uchel oedd yn hwyr yn cynnwys colli trwyddedau ‘O’.  Fe soniodd y Rheolwr Archwilio Mewnol am weithredoedd ers cyhoeddi’r adroddiad  a fyddai’n cael eu cau ar ôl i dystiolaeth gael ei adolygu.  Fe eglurodd bod y nifer cynyddol o weithredoedd coch am yr archwiliad ar gyfer Trefniadau Cytundebau Maes Gwern yn debygol o fod oherwydd yr ail ddyddiad targed wedi’i fethu.

 

Roedd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yn rhannu’r un pryderon â’r Cadeirydd. Fe soniodd am y dyddiadau targed diwygiedig.  Roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cydnabod bod angen rhagor o welliant er mwyn lleihau’r nifer o weithredoedd oedd heb eu cyflawni a oedd yn parhau’n flaenoriaeth i’r tîm.  Rhoddodd eglurhad am y broses yn cynnwys uwchgyfeirio camau gweithredu heb eu cyflawni i Brif Swyddogion ac adrodd am gynnydd yr oedd gan y Pwyllgor drosolwg ohonynt.

 

Gan ymateb i awgrym y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod trafodaethau wedi’u cynnal i osod targedau realistig i gwblhau camau gweithredu. Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod yn cymryd diddordeb personol yn y mater yma, gan gydnabod pwysigrwydd rheoli risg o fewn y sefydliad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a’r Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

16.

PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.