Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

33.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar gofnod rhif 44 (Trefniadau Contract Maes Gwern), datganodd Glyn Banks gysylltiad personol sy’n rhagfarnu fel aelod o Fwrdd NEW Homes a gadawodd y cyfarfod cyn yr eitem.

34.

Cofnodion pdf icon PDF 94 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Linda Thomas ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

35.

Diweddariad am y Datganiad o Gyfrifon 2021/22 pdf icon PDF 225 KB

Darparu diweddariad am y Datganiad o Gyfrifon 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar sefyllfa gyfredol Datganiad Cyfrifon y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.

 

Fel y nodwyd ym mis Gorffennaf, roedd y cyfrifon drafft wedi’u cwblhau a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) o fewn yr amserlen ac roedd y terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi’r cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio wedi’i ymestyn i 30 Tachwedd 2022. Tra bod y gwaith archwilio wedi’i gwblhau’n sylweddol, roedd mater cenedlaethol oedd yn ymwneud â chyfrifyddu  asedau isadeiledd wedi arwain at risg y gall datganiadau cyfrifon pob awdurdod lleol fod yn destun barn archwilio cymwys yn y maes hwn. Roedd swyddogion Cyllid ac Archwilio Cymru o'r farn na ellid rhoi barn ar y cyfrifon ac y dylid gohirio cymeradwyo'r cyfrifon yn ffurfiol hyd nes y bydd y  mater o ran asedau isadeiledd wedi'i ddatrys. 

 

Pan ofynnwyd iddo gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y mater o ran asedau isadeiledd yn fater cyflwyniadol heb unrhyw effaith sylweddol ar y cyfrifon.

 

Wrth roi cefndir, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod LlC wrthi’n llunio system ddiystyru statudol  fel datrysiad dros dro ac y byddai’n ymestyn y terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi’r cyfrifon terfynol i ddiwedd mis Ionawr 2023 yn dilyn ymgynghoriad.

 

Ategodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru’r sylwadau hyn, a chadarnhaodd ymgysylltiad parhaus gyda swyddogion Cyllid ar y mater. O ran cynnydd gydag archwilio’r cyfrifon, dywedodd nad oedd unrhyw faterion arwyddocaol a bod y ffigyrau diwygiedig ar gyfer prisiadau asedau (a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol) wedi'u hadlewyrchu'n briodol yn y cyfrifon.

 

Gan ymateb i bryderon a godwyd gan Allan Rainford, rhoddodd Mike Whiteley eglurder ar y dull i gwblhau’r archwiliad os na fyddai modd datrys y broblem. Fodd bynnag, roedd yn debygol y byddai system ddiystyru  statudol yn cael ei nodi ac roedd Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn chwilio am ddatrysiad derbyniol gyda’r effaith lleiaf posibl ar awdurdodau lleol.

 

Yn dilyn  ymholiad gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddwyd eglurhad ar ddiffiniad o asedau isadeiledd yn y cyfrifon.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad a'r rhesymau dros ohirio cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2021/22.

36.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2022/23 a Diweddariad Chwarterol 2 pdf icon PDF 358 KB

Cyflwyno drafft o’r Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 1 Ebrill-30 Medi 2022 am sylwadau ac argymhelliad i’w gymeradwyo i’r Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad canol blwyddyn drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23 i’w argymell i’r Cabinet, ynghyd â diweddariad ar weithgareddau Chwarter 2 er gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd crynodeb o’r prif bwyntiau at effaith digwyddiadau byd-eang, newidiadau yn llywodraeth y DU a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfraddau llog.  Cadarnhawyd bod swyddogaeth rheoli’r trysorlys wedi gweithredu’n llawn o fewn y cyfyngiadau a nodir yn y strategaeth ar gyfer 2022/23. Roedd y diweddariad chwarterol yn manylu ar y sefyllfa buddsoddiadau a benthyca fel ag yr oedd ar 30 Medi 2022, gyda nodyn atgoffa am y sesiwn hyfforddi blynyddol sydd i ddod.

 

Dywedodd Allan Rainford fod cydymffurfio â dangosyddion darbodus cymeradwy yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Cabinet yn ystod y cyfnod. Gan ymateb i gwestiynau, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod sefyllfa tan-fenthyca gyffredinol y Cyngor wedi aros yr un fath a bod penderfyniadau’n seiliedig ar ofynion, yr adnoddau sydd ar gael a lledaenu risg. Rhoddodd eglurhad ar gyd-bartïon buddsoddiad a sefydlogi cyfraddau’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus diweddar yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd.

 

Gan ymateb i gwestiwn ar bwysigrwydd trefniadau monitro cadarn ar gyfer rhagweld llif arian wrth weithio o bell, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sicrwydd y byddai cyswllt rheolaidd ar draws adrannau i helpu i gynllunio unrhyw ofynion benthyca yn y dyfodol. Fe soniodd am danwariant sylweddol yn dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn oherwydd na wnaed unrhyw fenthyca ar y cam hwn o'r flwyddyn ariannol ac incwm buddsoddi ychwanegol o gyfraddau llog cynyddol.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Andrew Parkhurst, byddai manylion graddfeydd asiantaethau credyd ar gyfer pob cyd-barti buddsoddi’n cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad, a oedd wedi’i ddiwygio i adlewyrchu’r drafodaeth, ei gynnig a’i eilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Canol Blwyddyn drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23 a chadarnhau bod y materion canlynol yn cael eu dwyn i sylw’r Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022:

 

  • Nodi cydymffurfiad â dangosyddion darbodus cymeradwy’r Cyngor;
  • Prif ystyriaethau sy’n llywio penderfyniadau benthyca; a
  • Sefydlogrwydd cyfraddau’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a oedd wedi bod yn destun amrywiadau.

37.

Gwaredu Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a gynhyrchwyd pdf icon PDF 147 KB

Adrodd ar waredu asedau a chyfalaf a dderbyniwyd ac a gynhyrchwyd yn ystod 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad blynyddol a oedd yn crynhoi gwarediadau tir a derbyniadau cyfalaf a gafwyd yn ystod 2021/22 a chymhariaeth â blynyddoedd blaenorol.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod derbyniadau cyfalaf wedi’u halinio i gyfrannu at raglen y Cyngor o gynlluniau cyfalaf ar draws pob portffolio. Roedd y diweddariad yn nodi lleihad parhaus yng nghefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf, trosolwg o’r strategaeth gwaredu a pholisi cyfredol y Cyngor ar ystadau amaethyddol.

 

O ran yr atodiad, cydnabu'r Cynghorydd Andrew Parkhurst y dylai'r dadansoddiad manwl o warediadau aros heb eu cyhoeddi ond gofynnodd a ellid rhannu'r rhain yn breifat gyda'r Pwyllgor i'w alluogi i gyflawni ei rôl.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr yr angen i gadw cyfrinachedd gan fod rhai achosion yn ymwneud â thrafodaethau parhaus a allai effeithio ar sefyllfa a chanlyniadau’r Cyngor. Dywedodd yr ymgynghorwyd ag Aelodau lleol ar warediadau yn eu wardiau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Parkhurst hefyd am sicrwydd ynghylch gwahanu dyletswydd rhwng Bwrdd y Rhaglen Cyfalaf ac Asedau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn cynnal annibyniaeth. Eglurodd y Prif Weithredwr mai rôl Bwrdd y Rhaglen fel corff nad yw’n gwneud penderfyniadau oedd edrych ar ddulliau gwaredu a bod tîm Prisiad annibynnol y Cyngor yn darparu annibyniaeth wrth herio prisiadau allanol ac yn gwneud y penderfyniad terfynol. Rhoddwyd hefyd eglurhad ar ran y Cabinet yn y broses mewn rhai amgylchiadau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Parkhurst ei siom yn yr ymateb i’w gais i fanylion am dderbyniadau cyfalaf gael eu rhannu’n breifat gyda’r Pwyllgor.

 

Yn ystod y drafodaeth, gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks beth fyddai’r posibilrwydd ar gyfer cysylltiadau yn y dyfodol rhwng Bwrdd y Rhaglen a’r Pwyllgor hwn. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yr adroddiad blynyddol yn adlewyrchu cydbwysedd o ran adrodd rhywfaint o fanylion wrth gynnal cyfrinachedd masnachol ar y trafodion hynny. Eglurodd bod gan aelodau’r Pwyllgor hawl i ofyn am wybodaeth gefndir ar adroddiadau cyfyngedig ar yr amod bod y wybodaeth yn cael ei rannu’n gyfrinachol. Rhoddodd swyddogion sicrwydd o'r rhwymedigaeth i wneud y mwyaf o’r gwerth gorau i'r Cyngor ar waredu asedau.

 

Gan ymateb, gofynnodd y Cynghorydd Parkhurst i aelodau’r Pwyllgor gael mynediad at ddadansoddiad o ragor o wybodaeth ar y derbyniadau cyfalaf sydd wedi’u crynhoi yn yr atodiad, yn gyfrinachol.[1]

 

Wrth gyfeirio at fwriad gwreiddiol yr eitem a gyflwynwyd i'r Pwyllgor rai blynyddoedd yn ôl, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y bydd rhagor o wybodaeth ar gael i’r Pwyllgor ar yr amod ei fod yn aros yn gyfrinachol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Glyn Banks ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.



[1] Gweler y cyfeiriad dan gofnod 47 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25/01/23

38.

Rheolau Gweithdrefnau Ariannol pdf icon PDF 92 KB

Darparu Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru i’r Pwyllgor i’w hargymell i’r Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Reolau Gweithdrefnau Ariannol diwygiedig i’w hardystio a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad i’w hargymell i’r Cyngor Sir. Rhoddodd drosolwg o'r ddau brif newid i symleiddio'r broses ar gyfer adennill gordaliadau cyflog ac i ddiwygio'r trothwyon ar gyfer cymeradwyo diddymu drwgddyledion, ynghyd â mân newidiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar newidiadau sy’n deillio o adolygiad 2019 a dywedodd y gall swyddogion ystyried lefelau trosglwyddiad ariannol cyllideb a osodwyd gan awdurdodau eraill er mwyn eu cymharu mewn adolygiadau yn y dyfodol. O ran diddymu drwgddyledion, rhoddodd sicrwydd bod proses drylwyr ar waith i'r tîm Refeniw adennill cymaint â phosibl o ddyledion.

 

O ran ymholiadau gan y Cynghorydd Glyn Banks, cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol i ddarparu eglurhad pellach ar y cyfeiriad i dderbyn ‘copi cywir’ o anfoneb ddilys gywir a gwirio nwyddau a gwasanaethau o dan ‘Rheolaethau Allweddol’.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Parch. Brian Harvey, eglurodd swyddogion y dull o godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau ar draws yr awdurdod trwy gysylltu â thimau rheoli portffolio, sesiynau hyfforddi a'u hatgyfnerthu trwy waith Archwilio Mewnol. Rhoddwyd sicrwydd hefyd ynghylch proses monitro ac uwchgyfeirio rheolaidd ar gyfer torri rheolau.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar gymalau contract gweithwyr a'r broses symlach i adennill gordaliadau cyflog.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey ac Allan Rainford.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi'u diweddaru a'u hargymell i'w cyflwyno i'r Cyngor ar 24 Ionawr 2023 i'w cymeradwyo yn dilyn ystyriaeth gan y  Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad ar 12 Ionawr.

39.

Fframwaith Rheoli Risg pdf icon PDF 89 KB

I gael sicrwydd bod y fframwaith rheoli risg diweddaraf yn gynhwysfawr ac yn weithredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad ar y Fframwaith Rheoli Risg diwygiedig yn dilyn diweddariad i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adolygiad Archwilio Mewnol.

 

Yn dilyn newidiadau i wella eglurder ar rolau a chyfrifoldebau, prosesau sgorio ac uwchgyfeirio, roedd gwaith yn mynd rhagddo i adolygu’r holl risgiau portffolio a datblygu’r system rheoli perfformiad a risg (InPhase) ymhellach cyn i’r fframwaith terfynol gael ei gyflwyno i wasanaethau ar y cyd â hyfforddiant a sesiynau ymwybyddiaeth, a her annibynnol risgiau portffolio.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd swyddogion eglurhad ar gyflwyno dangosfyrddau risg i ddangos proffil risg a'r broses ar gyfer adrodd am risgiau gweithredol i'r Cabinet gan gynnwys enghreifftiau o uwchgyfeirio a lliniaru.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai’r ddogfen yn cael ei diweddaru i gynnwys atgyfeiriadau risgiau coch i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol o fewn rolau a chyfrifoldebau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i gynnwys cyfeiriad at risgiau o Fodel Cyflawni Amgen a phartneriaethau eraill sydd wedi’u cynnwys ar Inphase. Rhoddwyd eglurhad ar rôl y tîm Perfformiad wrth fonitro cydymffurfiad drwy ystod o gamau gweithredu i ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau gyda thimau rheoli a’r gweithlu ehangach. Y nod oedd rhannu enghraifft o’r wybodaeth dangosfwrdd ym mis Ionawr 2023 i roi sicrwydd i’r Pwyllgor.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Fframwaith Rheoli Risg F3 2022 ar ôl cynnwys y ddau newid.

40.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 91 KB

I adrodd ar weithgareddau’r Pwyllgor yn ystod 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor ar gyfer 2021/22 i'w gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'w gymeradwyo yn y Cyngor. Wrth fodloni gofynion arfer gorau, byddai’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor ar ddangos meysydd atebolrwydd penodol.

 

Wrth grynhoi’r prif bwyntiau, diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg am ddrafftio’r adroddiad, lle’r oedd wedi ymhelaethu ar feysydd yn ymwneud â rôl y Pwyllgor o ran gwella perfformiad a fyddai’n cael ei archwilio ymhellach yn yr ymarfer hunanasesu arfaethedig.

 

Ategodd y Parchedig Brian Harvey ei sylwadau, a bu iddo sôn bod y Pwyllgor yn ystyried y ffordd orau o wneud y gorau o’i rôl hanfodol o ran bod yn ‘fwy effeithiol a gweladwy fel asiant ar gyfer gwelliannau yn y Cyngor’, a oedd yn gam gweithredu heb ei gwblhau yn yr adroddiad.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd ganddi unrhyw feysydd o bryder i’w codi am y cyfnod sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad

 

Wrth groesawu’r adroddiad, canmolodd y Cynghorydd Paul Johnson y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor ac ar draws y Cyngor i gyflawni’r barn Archwilio Mewnol ar effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Linda Thomas a’i eilio gan y Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22 yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 13 Rhagfyr 2022.

41.

Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 79 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Glyn Banks a’i eilio gan Allan Rainford.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

42.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 85 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol i’w hystyried, gan gynnwys cynnydd  ers yr adroddiad diwethaf. Gan ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddodd eglurhad ar y cylch adrodd ar gyfer polisïau gwrth-dwyll.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Andrew Parkhurst a Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

43.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y penderfyniad i wahardd y wasg a’r cyhoedd ei gynnig a’i eilio gan Allan Rainford a’r Cynghorydd Andrew Parkhurst.

 

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, gadawodd y Cynghorydd Glyn Banks y cyfarfod, ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

44.

Trefniadau Contract Maes Gwern

I roi’r newyddion diweddaraf am y cynnydd o ran y cynllun gweithredu.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar gynnydd gyda’r cynllun gweithredu yn ymwneud ag argymhellion a oedd yn deillio o adroddiad Archwilio Mewnol mis Hydref 2021 ar drefniadau contract ar gyfer datblygiad Maes Gwern. Gofynnwyd am yr adroddiad yn dilyn pryderon y Pwyllgor ynghylch diffyg cynnydd gyda chamau gweithredu, yn benodol y rhai a oedd wedi’u nodi fel risgiau coch.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflawni Strategol er bod rhywfaint o waith yn mynd rhagddo, roedd cynnydd sylweddol wedi’i wneud i sicrhau fframwaith cadarn ar gyfer mesur a chofnodi gwybodaeth newydd. Rhannodd wybodaeth ar amserlenni diwygiedig ar gyfer gwerth llawn y derbyniadau cyfalaf a datrysiad trefniadau contract.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyd-destun cefndirol i raddfa a chymhlethdod y prosiect a rhoddodd sicrwydd y byddai’r prosiect mynd i’r afael ag egwyddorion dysgu ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai elfen allweddol o ddysgu oedd addasu prosesau i adlewyrchu argymhellion rheoli a oedd yn deillio o adolygiadau Archwilio Mewnol. Ategwyd ei awgrym am gyfarfod adolygu ôl-prosiect ar y cyd i gasglu’r hyn a ddysgwyd gan y Cadeirydd, a bu iddo ei gynnig fel argymhelliad ychwanegol.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, roedd swyddogion yn rhagweld y byddai gwerth llawn y derbyniadau cyfalaf yn cael eu derbyn o fewn y terfyn amser a ddyfynnwyd ac y byddai’n rhannu gwybodaeth ar adnoddau cyfredol o fewn y tîm Cyllid.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd hyd yma, ac roedd trywydd archwilio ar eu cyfer. Ailadroddodd y Cynghorydd Parkhurst ei bryderon cynharach ynghylch y ffaith bod gan y Pwyllgor ddigon o arolygiaeth o wybodaeth fel y gellir sicrhau bod proses yn cael ei dilyn. Yn ystod y drafodaeth ar y pryderon hyn, rhoddodd swyddogion eglurder ynghylch y timau a oedd yn rhan o’r broses ar gyfer gwahanu dyletswyddau. O ran pryderon am dryloywder gwybodaeth, cytunodd swyddogion i ystyried ymhellach y ffordd orau i adrodd am dderbyniadau cyfalaf sy’n ymwneud â phrosiectau parhaus heb dorri cyfrinachedd masnachol.

 

Bu i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sôn am gyfarfod sydd ar y gweill gyda swyddogion Tai i bennu p’un a ellir cau unrhyw un o’r camau gweithredu.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i diwygiwyd eu cynnig a’u heilio gan y Parchedig Brian Harvey ac Allan Rainford.

 

Ar gais y Cadeirydd, bydd diweddariad byr ar gynnydd gyda’r cynllun gweithredu’n cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau; a

 

(b)       Bod cyfarfod adolygu ôl-prosiect ar draws awdurdod yn cael ei gynnal i sicrhau y tynnir sylw at yr holl ddysgu a’i fod yn cael ei gofnodi.

45.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG HEFYD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.