Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

17.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

18.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Mehefin 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Linda Thomas ac Andrew Parkhurst.

 

Cofnod Rhif 12 - Roedd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wedi rhannu pryderon y Pwyllgor mewn cyfarfod diweddar gyda’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddogion ynghylch camau gweithredu oedd heb gael sylw mewn adroddiadau sicrwydd coch. Cytunwyd ar nifer o gamau, yn cynnwys y posibilrwydd o wahodd yr uwch swyddog perthnasol i fynychu’r Pwyllgor i roi eglurhad ble bynnag yr oedd hynny’n briodol.  Byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cael eu gwahodd i gyfarfod â Thîm y Prif Swyddog eto i adolygu cynnydd.

 

 PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

19.

Datganiad Cyfrifon Drafft 2021/22 pdf icon PDF 96 KB

Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2021/22 er gwybodaeth yr Aelodau yn unig ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Strategol Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2021/22 (eto i’w harchwilio) er gwybodaeth yn unig am y tro.  Roedd y rhain yn cynnwys cyfrifon y Gr?p a’i is-gwmniau sydd mewn perchnogaeth lwyr, ynghyd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel y’i adolygwyd yn y cyfarfod blaenorol.  Unwaith eto byddai cyfnod ymgynghori agored yn ystod yr haf ar gyfer yr Aelodau er mwyn iddynt allu codi unrhyw agwedd ar y cyfrifon gyda swyddogion cyn i’r Pwyllgor dderbyn y fersiwn archwiliedig terfynol i’w gymeradwyo.

 

Cafwyd cyflwyniad ar y pryd ar y meysydd canlynol:

 

·         Pwrpas y chefndir y Cyfrifon

·         Cynnwys a Throsolwg

·         Cyfrifoldeb am y cyfrifon

·         Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb

·         Newidiadau i Ddatganiad Cyfrifon 2021/2

·         Materion ac Effeithiau Allweddol

·         COVID-19 – Cyllid Grant Argyfwng

·         Penawdau – Cronfa'r Cyngor (Refeniw), Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Symudiadau Arwyddocaol, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT)

·         Gr?p Llywodraethu Cyfrifon

·         Amserlen a’r Camau Nesaf

 

Cadarnhawyd bod y cyfrifon drafft wedi’u cwblhau a’u cyflwyno o fewn y terfyn amser a oedd wedi’i ymestyn gan Lywodraeth Cymru  mewn cydnabyddiaeth o effeithiau’r pandemig.  Roedd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno’r cyfrifon archwiliedig terfynol wedi’i ymestyn tan 30 Tachwedd 2022.

 

Tynnodd Mike Whiteley sylw at y risg posibl cysylltiedig â gallu Archwilio Cymru i gwrdd â therfyn amser y Pwyllgor i gymeradwyo’r cyfrifon terfynol yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2022.  Yng ngoleuni’r fframwaith estynedig a bennodd Llywodraeth Cymru a’r canllaw ar brisio asedau y disgwylir amdano o hyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) gofynnodd am farn y Pwyllgor ynghylch cyflwyno’r cyfrifon terfynol er cymeradwyaeth yng nghyfarfod mis Tachwedd neu bod yn dyddiad hwnnw’n cael ei ddwyn ymlaen er mwyn galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i gymeradwyo’r cofnodion o fewn y terfyn amser diwygiedig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Glyn Banks am gyfraniadau ariannol i Theatr Clwyd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y rhain yn ffurfio rhan o elfennau Cyllido Canolog a Chorfforaethol Monitro’r Gyllideb Refeniw.  Ar ôl cael eglurhad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar drefniadau adrodd sefydliadau partner allanol, cytunwyd y byddai’r swyddogion yn adolygu geiriad y cyfrifon terfynol i wahaniaethu’n glir rhwng y trefniadau ar gyfer Theatr Clwyd yn hytrach na NEW Homes a Newydd sy’n is-gwmnïau mewn meddiannaeth lwyr i’r Cyngor.  Cafwyd awgrym gan y  Cynghorydd Banks y gellid rhoi eglurhad byr o dan yr adran ar Gwmnïau Cysylltiol o fewn y ddogfen.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar y cynnydd mewn cronfeydd heb eu clustnodi, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y cefndir ar lefel sylfaenol y cronfeydd wrth gefn a gynhelir i ddiogelu yn erbyn amgylchiadau  nad oes modd eu rhagweld, yn ychwanegol at y cronfeydd sydd ar hyn o bryd yn uwch na’r arfer oherwydd bod LlC yn hwyr yn rhoi gwybodaeth am grantiau.  Siaradodd am bwysigrwydd diogelu cronfeydd wrth gefn i ddelio ag effeithiau anhysbys dyfarniadau cyflog a chynnydd chwyddiannol.  Wrth gymharu lefelau’r cronfeydd â chynghorau eraill, cyfeiriodd at adolygiad Archwilio Cymru  ar gynaliadwyedd ariannol sy’n cynnwys cymhariaeth o lefelau cronfeydd  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

Item 4 - Statement of Accounts presentation pdf icon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

20.

Gwybodaeth Ariannol Atodol I Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2021/22 pdf icon PDF 108 KB

Darparu gwybodaeth ariannol atodol i’r Aelodau i gyd-fynd â’r datganiad cyfrifon drafft, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn flaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y wybodaeth ariannol atodol sy’n cyd-fynd â Datganiad Cyfrifon drafft 2021/22, yn unol â’r cais a wnaed yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), eglurhad ar y broses ar gyfer awdurdodi penodi staff ac ymgynghorwyr dros dro.

 

 Gofynnodd y Cadeirydd am y cynnydd mewn gwariant ar staff dros dro a chymhariaeth â chynghorau eraill.  Awgrymodd swyddogion mai problem recriwtio a chadw staff genedlaethol yw hon o bosib.  Cytunwyd y dylid gofyn am ymateb gan y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) a bod hwn yn cael ei anfon at y Pwyllgor ar e-bost.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’i eilio gan y Parch Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

21.

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22 a’r Wybodaeth Ddiweddaraf ar Reoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2022/23 pdf icon PDF 120 KB

1.         Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 drafft i'r Aelodau am sylwadau ac argymhelliad i’w gymeradwyo i’r Cabinet.

 

2.         Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor at ddiwedd Mehefin 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys 2021/22 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet.  Rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli'r Trysorlys 2022/23 er gwybodaeth, ynghyd â'r cylch adrodd.  Yn unol a’r broses arferol, byddai sesiwn hyfforddi ar gyfer yr holl aelodau’n cael ei threfnu ar gyfer mis Rhagfyr 2022 cyn cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24

 

Rhoddwyd trosolwg o adrannau allweddol yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys effaith materion economaidd yn ystod y cyfnod.  Roedd y diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2022/23 yn rhoi’r wybodaeth diweddaraf am fuddsoddiadau ac ni chafwyd unrhyw adroddiadau am doriadau i’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.

 

Croesawodd Allan Rainford yr ymdriniaeth o ran lleihau risg ar fuddsoddiadau a chafwyd gwybodaeth ar y strategaeth fuddsoddi a oedd yn blaenoriaethu hylifedd a diogelwch wrth arallgyfeirio a lledaenu risg, ar y cyd â chyngor gan Arlingclose.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd bod Cynghorau eraill ar draws Cymru yn ymdrin â rheoli’r trysorlys mewn ffordd debyg gan ganolbwyntio ar fenthyca tymor byr.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Attridge ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Nodi Adroddiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol drafft 2020/21, heb unrhyw faterion i’w dwyn i sylw’r Cabinet ym mis Medi; a

 

(b)        Nodi diweddariad chwarter cyntaf Rheoli’r Trysorlys 2022/23.

22.

Presenoldeb aelodau o'r wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.