Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

15.

Dirprwyon

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu i’r Cynghorydd Bill Crease (a oedd wedi gwneud yr hyfforddiant gofynnol) ddirprwyo ar ran y Cynghorydd Andy Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu i’r Cynghorydd Bill Crease ddirprwyo yn y cyfarfod.

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ystod trafodaeth am gofnod rhif 24 (Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2024), datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel Cyfarwyddwr NEW Homes.

17.

Cofnodion pdf icon PDF 109 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Mehefin 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd pleidlais am gofnodion cyfarfod mis Mehefin 2024 ac fe’u cafwyd yn gywir.  Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Parkhurst, gofynnodd bod ei bleidlais yn erbyn cymeradwyaeth yn cael ei chofnodi.  Gofynnodd y Cynghorydd Thew am gael cofnodi'r ffaith iddi ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2024 yn gofnod cywir; a

 

(b) Bod y sylwadau a wnaed am fformat diwygiedig y cofnodion yn cael eu hadrodd yn ôl i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i’w hadolygu.

18.

Datganiad Cyfrifon Drafft 2023/24 pdf icon PDF 125 KB

Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Strategol Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2023/24a chafwyd cyflwyniad ar y materion allweddol.

 

Ymatebodd Swyddogion i amrywiaeth o gwestiynau a chytuno i adolygu sylwebaeth ar amrywiadau sylweddol yn adran naratif yr adroddiad terfynol.  Byddai copi o’r sleidiau yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Nodi Datganiad Cyfrifon drafft 2023/24 (sy’n cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol); a

 

(b) Bod yr Aelodau’n nodi’r cyfle i drafod unrhyw agwedd ar y Datganiad Cyfrifon drafft gyda swyddogion neu Archwilio Cymru yn ystod y cyfnod archwilio, cyn i’r fersiwn archwiliedig derfynol ddod yn ôl at y Pwyllgor i’w gymeradwyo’n derfynol ar 25 Tachwedd 2024.

Presentation slides - Statement of Accounts pdf icon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

19.

Gwybodaeth Ariannol Atodol i Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2023/24 pdf icon PDF 156 KB

Darparu gwybodaeth ariannol atodol i’r Aelodau i gyd-fynd â’r datganiad cyfrifon drafft, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn flaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiadam wybodaeth ariannol atodol sy’n cyd-fynd â Datganiad Cyfrifon drafft 2023/24, yn unol â’r cais a wnaed yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.

 

Yn ystod trafodaeth am reolyddion sy’n ymwneud â defnyddio gweithwyr asiantaeth, nodwyd y byddai canfyddiadau adolygiad Archwilio Mewnol yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor pan fyddent wedi’u cadarnhau.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

20.

Adroddiad a Chynllun Gweithredu Archwiliad Gwerthuso Perfformiad AGC o’r Gwasanaethau Cymdeithasol (Tachwedd 2023) pdf icon PDF 124 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniad Archwiliad Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru o’r Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd fis Tachwedd 2023, yn cynnwys y cynllun gweithredu sy’n seiliedig ar yr argymhellion yn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am gynnydd camau gweithredu a oedd yn deillio o’r arolwg gwerthuso perfformiad a gynhaliwyd ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad yr adroddiad a chefnogi’r Cynllun Gweithredu canlyniadol.

21.

Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 a Diweddariad Ch1 2024/25 pdf icon PDF 186 KB

1.      Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 drafft i'r Aelodau am sylwadau ac argymhellion i’r Cabinet ei gymeradwyo.

 

2.      Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion sy’n ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Mehefin 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i’w adolygu a’i argymell i'r Cabinet, ynghyd â sefyllfa Chwarter 1 2024/25 er gwybodaeth.

 

Nododd Swyddogion y cais a gafwyd bod y sesiwn hyfforddiant nesaf ar Reoli’r Trysorlys yn cynnwys rhagor o eglurder am y graff meincnod atebolrwydd.

 

Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Nodi Adroddiad Blynyddol drafft Rheoli'r Trysorlys 2023/24, heb unrhyw faterion i’w tynnu i sylw’r Cabinet ym mis Medi; a

 

(b) Nodi’r diweddariad chwarter cyntaf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2024/25.

22.

Tystysgrif Grantiau a Ffurflenni 2022/23 pdf icon PDF 81 KB

Hysbysu Aelodau o'r ardystiad hawl grant gan Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiadar ardystiad hawl grant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 a ddaeth i’r casgliad bod y Cyngor wedi dangos trefniadau digonol cyffredinol ar gyfer paratoi hawliadau grant a chefnogi gwaith ardystio, gyda rhywfaint o gwmpas ar gyfer gwelliant fel a adlewyrchwyd yn yr argymhellion penodol.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys adroddiad Ardystiad Hawl Grant ar gyfer 2022/23.

23.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24 pdf icon PDF 110 KB

Cefnogi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad am Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 fel rhan o’i gyfrifon terfynol, i nodi sut mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â’i God Llywodraethu Corfforaethol wrth sicrhau llywodraethu da a rheoli ei risgiau.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad, a nodwyd bod y Cynghorydd Andrew Parkhurst wedi ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl adolygu Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24 (sy’n ffurfio rhan o’r Datganiad Cyfrifon), bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cyngor yn ei fabwysiadu.

24.

Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2024 pdf icon PDF 85 KB

Adolygu Cynllun Archwilio - Archwilio Cymru 2024 ar gyfer y Cyngor sy’n nodi’r gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal ag amserlen, costau a’r timoedd archwilio sy’n gyfrifol am gynnal y gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a chydweithwyr Archwilio Cymru Gynllun Manwl 2024, Archwilio Cymru, a oedd yn nodi gwaith yr oedd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i’r afael â’r risgiau archwilio a nodwyd a meysydd canolbwynt allweddol eraill yn ystod 2024.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Archwilio Manwl 2024, Archwilio Cymru.

25.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol pdf icon PDF 88 KB

Rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad yr holl waith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2023/24 a rhoi’r farn Archwilio Mewnol flynyddol ar safon rheolaeth fewnol, rheoli risg a llywodraethu yn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol, a oedd yn rhoi crynodeb o ganlyniadau gwaith archwilio a wnaed yn ystod 2023/24, cydymffurfiaeth â safonau a chanlyniadau’r rhaglen sicrhau ansawdd a gwella.  Defnyddiwyd yr adroddiad a barn i lywio’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a barn flynyddol Archwilio Mewnol.

26.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 133 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd i’r Pwyllgor yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariad ar gynnydd camau gweithredu a oedd yn ymwneud â dau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) a gyhoeddwyd ers y diweddariad blaenorol.  Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) a’r Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yn bresennol i ymateb i gwestiynau a oedd yn ymwneud â’r adroddiad Coch (sicrwydd cyfyngedig) ar Dargedau Ailgylchu.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad, a nodwyd bod y Cynghorydd Crease, y Cynghorydd Parkhurst a’r Cynghorydd Thew wedi ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

27.

AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.