Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
Penodi Cadeirydd
Penodi Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn sydd i
ddod.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD:
Bod
Brian Harvey yn cael ei benodi yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer
blwyddyn y Cyngor 2024/25.
|
2. |
Dirprwyon
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn unol
â gofynion y Cyfansoddiad, cytunodd y Pwyllgor y dylid
caniatáu i’r Cynghorwyr Ryan McKeown, Allan Marshall a
Jason Shallcross (a oedd wedi cyflawni’r hyfforddiant
gofynnol) i ddirprwyo ar ran y Cynghorwyr Teresa Carberry. Andy
Hughes a Linda Thew.
PENDERFYNWYD:
Y
caniateir y Cynghorwyr McKeown, Marshall a Shallcross fel dirprwyon
ar gyfer y cyfarfod.
|
3. |
Penodi Is-Gadeirydd
Penodi Is-Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn sydd i
ddod.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD:
Bod
Sally Ellis yn cael ei phenodi’n Is-gadeirydd y Pwyllgor ar
gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.
|
4. |
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)
I dderbyn unrhyw
ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a
hynny.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
5. |
Cofnodion PDF 95 KB
I gadarnhau, fel
cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Ebrill 2024.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD:
|
Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2024 yn
gofnod cywir.
|
|
6. |
‘Gyda’n Gilydd Fe Aallwn Ni’ - Cydnerthedd a Hunanddibyniaeth Cymunedau PDF 111 KB
Darparu trosolwg o
adroddiad Archwilio Cymru ac amlinellu’r cynnwys a’r
argymhellion. Mae ymateb arfaethedig
i’r argymhellion wedi’i gyflwyno i’w
ystyried.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr
Gwasanaeth (Menter ac Adfywio)
adroddiad i geisio sicrwydd ar ymateb y Cyngor
i’r archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru.
Cefnogwyd yr argymhellion,
gan nodi bod y Cabinet eisoes wedi derbyn yr adroddiad ac yn
cydnabod cyfraniad y sector gwirfoddol i gymunedau Sir y
Fflint.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi
canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Archwilio Cymru
“Gyda’n Gilydd Fe Allwn Ni’ – Cydnerthedd a
Hunanddibyniaeth Cymunedau”.
(b) bod y Pwyllgor yn
nodi’r ymateb a argymhellir mewn perthynas ag argymhellion
Archwilio Cymru ac yn cefnogi bod hyn yn cael ei adrodd i’r
Pwyllgorau priodol ym mis Mehefin 2024; a
(c) Bod y Pwyllgor yn
cydnabod gwaith yr amryw o sefydliadau gwirfoddol ac unigolion ar
draws y Sir.
|
|
7. |
Strategaeth Ddigidol - Adolygiad Archwilio Cymru, Argymhellion a Chamau Gweithredu Arfaethedig PDF 125 KB
Cyflwyno canlyniad
yr archwiliad ar Strategaeth Ddigidol y Cyngor, er mwyn cael
cymeradwyaeth i’r cynllun gweithredu arfaethedig mewn ymateb
i argymhellion gan Archwilio Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog
(Llywodraethu)
adroddiad i geisio sicrwydd ar ymateb y Cyngor
i’r canfyddiadau yn yr archwiliad gan Archwilio
Cymru.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn
yr adroddiad, yn amodol ar gais y rhoddir sylw penodol i
weithredu’r camau gweithredu mewn perthynas ag Argymhellion
Archwilio 3 a 4 pan fydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan
Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
|
PENDERFYNWYD:
|
Bod y Pwyllgor yn
nodi’r cynllun gweithredu arfaethedig ac yn gofyn bod y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn talu sylw
penodol i weithrediad camau gweithredu mewn perthynas ag
Argymhellion Archwilio 3 a 4.
|
|
8. |
Archwilio Cymru - Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Persbectif a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth PDF 92 KB
Adolygu’r
Argymhellion ar gyfer Gwella, yn ogystal ag ymateb y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd
Perfformiad Strategol
adroddiadi geisio
sicrwydd ar ymateb y Cyngor i’r canfyddiadau yn yr archwiliad
gan Archwilio Cymru.
Mewn ymateb
i’r sylwadau, eglurodd y Prif Swyddog y byddai carreg filltir
gynharach i gymeradwyo’r Ymgynghoriad a’r Strategaeth
Ymgysylltu yn cael ei gynnwys yn y cynllun gweithredu.
Oherwydd pryderon
o ran cadernid y cynllun gweithredu a gwirio data, cytunwyd ar
argymhelliad diwygiedig, hefyd yn adlewyrchu’r sylwadau a
wnaed gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a
anfonwyd ymlaen at y Cabinet.
|
PENDERFYNWYD:
|
Bod y Pwyllgor yn
cefnogi’r cynllun gweithredu diwygiedig mewn perthynas
â’r argymhellion gwella.
|
|
9. |
Archwilio Cymru: Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio PDF 135 KB
Diweddaru ar
gynnydd i fodloni argymhellion adroddiad “Asesiadau o Effaith
ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio” Archwilio Cymru
ac argymell gwelliannau i sicrhau bod Asesiadau o Effaith
Integredig yn cael eu cynnal yn fwy cyson yn y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Rheolwr
Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau a’r Ymgynghorydd Perfformiad
Strategol
adroddiad i geisio sicrwydd ar ymateb y Cyngor
i’r canfyddiadau yn yr archwiliad gan Archwilio
Cymru.
Cefnogwyd yr
argymhelliad.
|
PENDERFYNWYD:
|
Bod y Pwyllgor yn
nodi’r cynnydd i ddiwallu’r argymhellion gan Archwilio
Cymru yn “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy
nag ymarfer blwch ticio?”
|
|
10. |
Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint PDF 84 KB
Derbyn y Crynodeb
Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodi ymateb
y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr
adroddiad ar y gwaith archwilio a rheoleiddio a gwblhawyd gan
Archwilio Cymru, ers yr adroddiad blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd
ym mis Mawrth 2023.
Cefnogwyd yr
argymhelliad.
|
PENDERFYNWYD:
|
Bod y Pwyllgor wedi’i
sicrhau gan gynnwys a sylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol
Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2023.
|
|
11. |
Siarter Archwilio Mewnol PDF 85 KB
Amlinellu’r
Siarter Archwilio Mewnol (sydd wedi ei ddiweddaru) i’r
Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif
Archwilydd
adroddiad ar y Siarter Archwilio Mewnol ddiwygiedig a
oedd yn cynnwys mân addasiadau yn dilyn yr adolygiad yn
ddiweddar. Mae wedi cytuno i
rannu sylwadau gyda’r Rheolwr Archwilio Mewnol o ran a
ddylai’r Siarter adlewyrchu gwybodaeth ar y linell amddiffyn
gyntaf a’r ail linell amddiffyn.
Cafodd yr argymhelliad yn yr
adroddiad ei gefnogi.
|
PENDERFYNWYD:
|
Bod y Pwyllgor yn
cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol ddiweddaraf.
|
|
12. |
Olrhain Gweithred PDF 80 KB
Rhoi gwybod
i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r
pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif
Archwilydd
adroddiad ar gynnydd y camau gweithredu o gyfarfodydd
blaenorol y Pwyllgor.
Cafodd yr argymhelliad yn yr
adroddiad ei gefnogi.
|
PENDERFYNWYD:
|
Bod y Pwyllgor yn derbyn yr
adroddiad.
|
|
13. |
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 84 KB
Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif
Archwilydd y
Rhaglen Waithgyfredol i’w hystyried.
Cefnogwyd yr argymhellion,
yn amodol ar y ceisiadau canlynol:
- Bod adroddiadau ar gyfer cyfarfod mis
Gorffennaf, yn cael eu rhannu cyn gynted â phosib’, yn
enwedig adroddiad Gwerthuso Perfformiad AGC.
- Bod adroddiad Archwilio Cymru ar
sefydlogrwydd ariannol yn cael ei drefnu’n briodol pan fydd
ar gael.
- Y rhoddir ystyriaeth ar gyfer eitem yn y
dyfodol ar fodel ‘y tair llinell
amddiffyn’.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a)Derbyn y Rhaglen Waith,
fel y’i diwygiwyd; a
(b)Rhoi awdurdod i’r
Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad
â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r
Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
|
|
14. |
AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD HEFYD YN BRESENNOL
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|