Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Penodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn eglurhad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) am ofynion deddfwriaethol, cynigiodd y Cynghorydd Glyn Banks bod Sally Ellis yn cael ei phenodi yn Gadeirydd am 12 mis er mwyn i’r swydd gael ei newid thwng y tri aelod lleyg dros dair blynedd. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Allan Rainford ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater. Ni chafwyd enwebiadau eraill.
PENDERFYNWYD:
Bod Sally Ellis yn cael ei phenodi yn Gadeirydd y Pwyllgor am 12 mis ac y bydd y rôl yn newid rhwng tri aelod lleyg dros dair blynedd. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Glyn Banks, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad o’r ddeddfwriaeth.
Enwebodd y Cynghorydd Banks Allan Rainford yn Is-Gadeirydd am 12 mis (cyn iddo fod yn Gadeirydd am y 12 mis nesaf) ac y bydd y rôl yn cylchdroi er mwyn i’r Parchedig Brian Harvey fod yn Is-gadeirydd am y 12 mis nesaf. Cafodd ei eilio gan y Parchedig Harvey. Nid oedd yna enwebiadau eraill, ac fe’i cymeradwywyd ar ôl cynnal pleidlais ar y mater.
PENDERFYNWYD:
Bod Allan Rainford yn cael ei benodi yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 12 mis ac y bydd y rôl yn newid rhwng tri aelod lleyg dros dair blynedd. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022, fel y’i cynigwyd a’u heiliwyd gan Sally Ellis ac Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) - Gwiriad Sicrwydd PDF 111 KB I nodi cynnwys y llythyr Perfformiad Blynyddol, asesiad AGC o berfformiad yr awdurdod yn ystod 2020/21 a Chynllun Adolygu Perfformiad AGC ar gyfer 2020/21. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i rannu casgliadau gwiriad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad y Cyngor yn ystod 2020/21. Cafodd yr adroddiad ei ystyried gan Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Cabinet yn unol â’r protocol adrodd rheoleiddio.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar sgôp eang yr archwiliad oedd wedi canfod cryfder mewn nifer o feysydd yn cynnwys effeithiolrwydd y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol oedd yn ymwneud â diogelwch a lles gofalwyr a’r rhai oedd yn derbyn gofal yn ystod y pandemig, yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer plant mewn gofal. Mae’r casgliadau hefyd yn adlewyrchu ansawdd staff a gwaith partneriaeth ynghyd â thystiolaeth o ‘arfer da iawn’ ar draws pob maes o Wasanaethau Cymdeithasol. Er bod y penawdau ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn gadarnhaol, rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad manwl am gynnydd gydag amrywiaeth o weithredoedd i fynd i’r afael â thri maes o welliant, yn cynnwys heriau recriwtio yn y Gwasanaethau Oedolion. Roedd y problemau hyn yn cael eu hail-adrodd ar draws y DU.
Fe eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu bod strwythur Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor wedi galluogi mwy o fonitro annibynnol o’r gwasanaeth. Fe soniodd hi hefyd am y gefnogaeth wleidyddol gref ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn Sir y Fflint y sonnir amdano yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru.
Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai cynnydd gyda’r cynllun gweithredu yn destun protocol adrodd. Dywedodd fod perfformiad Sir y Fflint yn cymharu’n dda yn gyffredinol yn erbyn awdurdodau eraill a bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant ac adeiladu ar ei gryfderau.
Cafodd casgliadau’r archwiliad eu croesawu gan y Cynghorydd Christine Jones, yn benodol yr adborth cadarnhaol am waith partneriaeth a dosbarthu cyfarpar diogelu personol (PPE) yn ystod y pandemig.
Ymatebodd y Prif Swyddog i gwestiynau gan y Parchedig Brian Harvey am gynnal ymgysylltu da gyda’r Bwrdd Iechyd a sefydliadau trydydd sector trwy gydol y pandemig a datblygu darpariaeth gofal preswyl yn Sir y Fflint.
Wrth ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, fe eglurwyd y byddai gweithredoedd yn cael eu monitro’n agos yn cynnwys mynd i’r afael â phwysau recriwtio a oedd yn parhau i fod yn faes o bryder. Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd am y dull adrodd perfformiad o fewn y Cyngor, dywedodd y Prif Swyddog bod dangosyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael ar gais.
Yn ystod yr eitem, fe ganmolodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor gasgliadau’r adroddiad a chynnydd gyda’r cynllun gweithredu. Gofynnodd y Cynghorydd Banks bod diolchgarwch y Pwyllgor yn cael ei gyfleu i’r timau am eu hymdrechion yn ystod y pandemig.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael ei nodi, yn dilyn Gwiriad Sicrwydd ym mis Ebrill 2021; a
(b) Bod diolchgarwch y Pwyllgor yn cael ei ymestyn i dimau Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith yn ymwneud â’r archwiliad ac yn ystod ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 PDF 95 KB Cefnogi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021/22 oedd yn rhoi sicrwydd am drefniadau llywodraethu a rheoli risg, i gyd-fynd â’r Datganiad Cyfrifon. Gan egluro pwrpas a datblygiad y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, dywedodd y Prif Swyddog ei bod hi’n ddogfen gadarnhaol oedd yn adlewyrchu ar y cyfnod pontio o’r ymateb i adferiad y pandemig. Yn rhan o’r adolygiad canol blwyddyn a pharatoadau ar gyfer Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23, fe fyddai yna gyfleoedd am ragor o gyfraniad gan Aelodau’r Pwyllgor.
Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg eglurhad o brif newidiadau a phrif adrannau yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a oedd yn dilyn fformat wedi’i ragnodi.
Gan ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, byddai gwybodaeth am adolygiad diweddar y Strategaeth Gwrth-dwyll Corfforaethol yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.
Gofynnodd Allan Rainford am effaith canllaw diweddar gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth am lywodraethu a chafodd wybod tra bod hyn wedi cael ei gyhoeddi ar ôl cwblhau’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, byddai’n helpu i lywio’r adolygiad canol blwyddyn. Cadarnhawyd hefyd y byddai materion llywodraethu sydd wedi’u nodi yn ystod 2021/22 yn ffurfio rhan o’r cynllun gweithredu rheoli risg.
Cynigiwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a'u heilio gan y Cynghorydd Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 yn cael ei atodi i’r Datganiad Cyfrifon ac argymell i’r Cyngor ei fod yn eu mabwysiadu; a
(b) Ceisio barn Cadeiryddion pob Pwyllgor ar gyfer Datganiad Llywodraethu Blynyddol nesaf. |
|
Tystysgrif Grantiau a Ffurflenni 2020/21 PDF 81 KB Hysbysu Aelodau o'r ardystiad hawl grant gan Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad blynyddol Archwilio Cymru ar ardystiad hawl grant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021. Nid oedd yna addasiadau sylweddol i unrhyw un o’r tri hawl a dim ond un mân newid cadarnhaol i’r Ffurflen Cymhorthdal Budd-dal Tai. Ar ôl ystyried casgliadau gan y Tîm Rheoli Cyllid a’r meysydd gwasanaeth perthnasol, roedd cynnydd ar waith ar gamau i fynd i’r afael ag argymhellion ac i wella systemau ar gyfer archwiliad 2021/22.
Wrth grynhoi’r prif gasgliadau, dywedodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru fod y Cyngor wedi arddangos trefniadau cyffredinol digonol ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno hawliadau grant, gyda sgôp ar gyfer gwelliant. Roedd perfformiad cyffredinol yn dda a bu ymgysylltu a chydweithio da gan swyddogion trwy gydol yr archwiliad.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Parchedig Brian Harvey am risgiau’n ymwneud â phwysau ar weithlu, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i staff yn ogystal â rhoi mwy o bwyslais ar les o fewn y system werthuso gweithwyr gan gydnabod y mater pwysig yma.
Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, siaradodd Allan Rainford am gymhlethdod yr hawliadau cymhorthdal budd-dal tai, ac awgrymodd y byddai rhagor o fanylion yn helpu i ddarparu mwy o eglurder ar faint y llwyth achosion o’i gymharu ag achosion a brofwyd. Cafodd hyn ei nodi gan Mike Whiteley a roddodd drosolwg o’r dull profi sampl y mae Archwilio Cymru yn ei ddefnyddio.
Ar ôl sylw gan y Cadeirydd am yr hawliau grant cymwys, dywedodd Mike Whiteley er nad oedd yn arwyddocaol, roedd lefel debyg o ddiffygion yn cael eu nodi bob blwyddyn mewn meysydd tebyg. Fe ychwanegodd bod llwyth gwaith sylweddol wrth brosesu hawliadau cymhorthdal budd-dal tai a arweiniodd yn anochel at ddiffygion a effeithiodd flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth am nifer yr achosion cymhorthdal budd-dal tai yn cael ei rannu er mwyn rhoi cyd-destun i’r Pwyllgor.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Parchedig Brian Harvey a’r Cynghorydd Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys adroddiad Ardystiad Hawl Grant ar gyfer 2020/21. |
|
Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2022 PDF 85 KB Adolygu Cynllun Archwilio - Archwilio Cymru 2022 ar gyfer y Cyngor sy’n nodi’r gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal ag amserlen, costau a’r timoedd archwilio sy’n gyfrifol am gynnal y gwaith. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2022 sy’n cynnwys gwaith archwilio ariannol a pherfformiad arfaethedig ar gyfer y Cyngor, yn cynnwys amserlenni, costau a thimau archwilio sy’n gyfrifol.
Manteisiodd y Prif Weithredwr ar y cyfle i ddiolch i gydweithwyr o Archwilio Cymru am eu hymgysylltiad gyda swyddogion wrth lunio’r Cynllun.
Wrth grynhoi prif adrannau gwaith archwilio ariannol, fe dynnodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru sylw at y risgiau archwilio yn cynnwys gwrth-wneud rheoli rheoliadau a oedd yn risg sylweddol rhag osodedig a oedd yn bresennol ym mhob Cynllun Archwilio. Rhoddodd Jeremy Evans drosolwg o raglen archwilio perfformiad a gymerodd dull ar sail risg i bynciau cenedlaethol a lleol. Fe ddywedodd y byddai’r ail adolygiad thematig yn nogfen arddangos 2 yn ymwneud â gwasanaethau digidol a bod yr adolygiad lleol ar gomisiynu lleoliadau y tu allan i’r sir wedi newid i atal digartrefedd fel y cytunwyd gyda swyddogion.
Gan ymateb i’r ymholiadau gan Allan Rainford, fe eglurwyd bod unrhyw waith ychwanegol ar werthusiadau asedau o archwiliadau blynyddoedd blaenorol yn annhebygol o effeithio ar ffi archwilio arfaethedig ar gyfer eleni. Tra bod y ffioedd archwilio wedi’u seilio ar lefel o risg a’r gwaith sydd angen ei wneud, fe ellir dylanwadu arnynt gan waith ychwanegol sydd wedi’i nodi mewn archwiliadau yn ystod y flwyddyn. O ran yr heriau o gymharu data perfformiad gyda sefydliadau eraill yn ystod y pandemig, byddai angen ailgychwyn gweithgareddau meincnodi wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Nodi fersiwn ddrafft Cynllun Archwilio Cymru 2022. |
|
AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y bydd yna rywfaint o newid yn nhrefn y rhaglen er mwyn symud eitem rhif 14 i alluogi cynrychiolwyr trydydd parti i gymryd rhan. Bydd gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn a ddangosir ar y rhaglen. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Ysgol Gynradd Drury – Trefniadau Rheolaeth Ariannol Hysbysu'r Pwyllgor am yr adolygiad Archwilio Mewnol o Ysgol Gynradd Drury. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad am adolygiad Archwilio Mewnol Ysgol Gynradd Drury - fel y gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) - roedd barn Coch (sicrwydd cyfyngedig) wedi cael ei roi. Manylodd yr Uwch Archwilydd sgôp yr adolygiad oedd wedi cael ei gytuno gyda’r Prif Swyddog a’r ysgol, ynghyd â chrynodeb o’r prif gasgliadau ac argymhellion.
Roedd Mark Biltcliffe (Prifathro) a Simon Griffiths (Cadeirydd Llywodraethwyr) Ysgol Gynradd Drury yn bresennol i roi diweddariad am gynnwys o ran gweithredu’r argymhellion.
Gan ymateb i gwestiynau, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eglurhad am gyfathrebu ac ymgysylltu gyda’r ysgol trwy gydol y cyfnod ac roedd wedi gofyn am ddiweddariad rheolaidd am gamau gweithredu gan yr ysgol i roi sicrwydd o’r cynnydd.
Fe eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y bydd archwiliad dilynol yn cael ei gynnal a gallai tystiolaeth a adolygwyd cyn pob argymhelliad gael eu cau. Bydd y tîm Archwilio Mewnol yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr Addysg a’r ysgol er mwyn sicrhau bod camau’n cael eu gweithredu ac mae adroddiad pellach wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr 2023. Bydd cynnydd hefyd yn cael ei adrodd yn rhan o olrhain camau gweithredu.
Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i’r cyfranwyr am fod yn bresennol, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ysgol a’r Prif Swyddog.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Glyn Banks a’r Parchedig Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn ac adroddiad dilynol yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr 2023. |
|
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 PDF 89 KB Rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad yr holl waith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2021/22 a rhoi’r farn Archwilio Mewnol flynyddol ar safon rheolaeth fewnol, rheoli risg a llywodraethu yn y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad, a oedd yn rhoi crynodeb o’r canlyniadau yn sgil gwaith archwilio a wnaed yn ystod 2021/22, cydymffurfiaeth â’r Safonau a chanlyniadau’r rhaglen sicrhau ansawdd a gwella.
Ar sail y gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol, y sicrwydd uniongyrchol gan y rheolwyr a sicrwydd allanol gan Archwilio Cymru, ym marn yr archwilwyr roedd gan y Cyngor fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheoli mewnol ar gyfer y cyfnod. Wrth ddod i’r casgliad hwn, roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol wedi ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys canlyniadau’r gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol ac Archwilio Cymru. Ymysg y meysydd allweddol a amlygwyd roedd lefel cwmpas yr archwiliad yn ystod y flwyddyn, archwilio trydydd partïon a safle cyffredinol y farn sicrwydd a’r camau gweithredu a godwyd ar draws y portffolios. Fe soniodd y Rheolwr Archwilio Mewnol hefyd am effeithiolrwydd perfformiad ei gwasanaeth, yn cynnwys ei rôl arweiniol hi ar Gr?p Tasg a Gorffen er mwyn adolygu a chydgasglu data meincnodi ar draws Cymru.
Croesawodd Allan Rainford yr adroddiad a chafodd wybodaeth am y dull o gynyddu’r nifer o holiaduron cleientiaid ôl-archwiliad a gwblhawyd tra’n blaenoriaethu olrhain camau gweithredu.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am y tri adroddiad sicrwydd coch a chafodd wybod am drefniadau adrodd i’r Pwyllgor hwn a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chynlluniau gweithredu priodol.
Gan ymateb i sylwadau’r Cadeirydd ar dueddiadau, dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol nad oedd yna bryderon presennol a bod y Cynllun Archwilio yn canolbwyntio ar feysydd o risg uchel ar draws y sefydliad.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhust a’r Parchedig Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a barn flynyddol Archwilio Mewnol. |
|
Olrhain Gweithred y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 80 KB Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Glyn Banks ac Andrew Parkhurst.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 82 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried, gan gynnwys cynigion ers yr adroddiad diwethaf.
Gan gynnwys y diweddariad am yr adroddiad archwilio coch cynharach, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, wrth ymgynghori â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 87 KB Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd ar y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol. Rhoddwyd trosolwg o’r ddau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod ar Reoli Risg a Defnyddio Gweithwyr Asiantaeth, ac roedd yr adroddiad Coch yn unig (sicrwydd cyfyngedig) wedi’i gynnwys fel eitem ar wahân ar y rhaglen.
Mynegodd y Cadeirydd bryderon am ddiffyg cynnydd ar rhai o’r camau blaenoriaeth uchel oedd yn hwyr yn cynnwys colli trwyddedau ‘O’. Fe soniodd y Rheolwr Archwilio Mewnol am weithredoedd ers cyhoeddi’r adroddiad a fyddai’n cael eu cau ar ôl i dystiolaeth gael ei adolygu. Fe eglurodd bod y nifer cynyddol o weithredoedd coch am yr archwiliad ar gyfer Trefniadau Cytundebau Maes Gwern yn debygol o fod oherwydd yr ail ddyddiad targed wedi’i fethu.
Roedd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yn rhannu’r un pryderon â’r Cadeirydd. Fe soniodd am y dyddiadau targed diwygiedig. Roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cydnabod bod angen rhagor o welliant er mwyn lleihau’r nifer o weithredoedd oedd heb eu cyflawni a oedd yn parhau’n flaenoriaeth i’r tîm. Rhoddodd eglurhad am y broses yn cynnwys uwchgyfeirio camau gweithredu heb eu cyflawni i Brif Swyddogion ac adrodd am gynnydd yr oedd gan y Pwyllgor drosolwg ohonynt.
Gan ymateb i awgrym y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod trafodaethau wedi’u cynnal i osod targedau realistig i gwblhau camau gweithredu. Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod yn cymryd diddordeb personol yn y mater yma, gan gydnabod pwysigrwydd rheoli risg o fewn y sefydliad.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst a’r Cynghorydd Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad. |
|
PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |