Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Janet Axworthy gysylltiad personol â’r Datganiad Cyfrifon Drafft (eitem 4 ar y rhaglen) gan ei bod yn aelod o Fwrdd NEW homes. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Mehefin 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2021, fel y’i cynigwyd a’u heiliwyd gan Sally Ellis ac Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Datganiad Cyfrifon Drafft 2020/21 PDF 93 KB Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2020/21 er gwybodaeth yr Aelodau yn unig ar hyn o bryd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Datganiad Cyfrifon Drafft ar gyfer 2020/21 (yn amodol ar archwiliad) er gwybodaeth yn unig ar hyn o bryd. Roedd y rhain yn cynnwys cyfrifon y Gr?p, gan gynnwys ei is-gwmnïau dan berchnogaeth lwyr, a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Yn dilyn cyfnod ymgynghori a fyddai'n agored i'r holl Aelodau, byddai'r Pwyllgor yn derbyn y cyfrifon archwiliedig i'w cymeradwyo'n derfynol ym mis Medi cyn eu cyhoeddi o fewn y dyddiad cau statudol. Rhoddwyd diweddariad hefyd ar newidiadau o fewn y tîm Cyllid.
Cafwyd cyflwyniad ar y cyd gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Rheolwyr Cyllid Strategol ar y canlynol:
· Pwrpas y chefndir y cyfrifon · Cynnwys a throsolwg · Cyfrifoldeb am y cyfrifon · Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb · Effaith Covid-19 · COVID-19 – Cyllid Grant Argyfwng · Penawdau – Cronfa'r Cyngor (Refeniw), Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) · Newidiadau i Gyfrifon 2020/21 · Gr?p Llywodraethu Cyfrifon · Amserlen a Chamau Nesaf
Talodd y Prif Weithredwr deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y tîm Cyllid wrth ymgysylltu â Llywodraeth Cymru (LlC) i wneud y mwyaf o hawliadau am arian grant Caledi trwy gydol y sefyllfa argyfwng. Roedd y canlyniad cadarnhaol ar gronfeydd wrth gefn refeniw yn rhannol oherwydd bod nifer o gynlluniau wedi'u gohirio oherwydd yr argyfwng a fyddai'n cael eu dwyn ymlaen i 2021/22 ynghyd â risgiau sylweddol yn ystod y flwyddyn fel penderfyniadau cenedlaethol heb eu hariannu ar ddyfarniadau cyflog.
Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i swyddogion am eu gwaith ar y cyfrifon ac am y gefnogaeth a roddwyd i breswylwyr yn ystod blwyddyn eithriadol o heriol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhannodd swyddogion Cyllid wybodaeth bellach ar gyfrifo hawliadau cyllid grant Caledi gan gynnwys enghreifftiau o grantiau wedi'u clustnodi a hawliadau ar gyfer y cynllun Profi, Olrhain ac Amddiffyn ar ran y rhanbarth. Rhoddwyd eglurhad hefyd ar y broses i amcangyfrif ffigur y cyfrif absenoldebau cronedig a chyflwyniad cyfraniadau o gronfeydd wrth gefn a drosglwyddwyd i Gyllid Canolog a Chorfforaethol yn y cyfrifon. Roedd enghreifftiau o gyfraniadau na chydnabuwyd fel incwm eto yn cynnwys rhwymedigaethau cynllunio Adran 106.
Cymeradwyodd Sally Ellis gyflawniadau ar y Rhaglen Gyfalaf er gwaethaf aflonyddwch oherwydd yr argyfwng. Nododd yr ansicrwydd ynghylch rhagolygon ariannol tymor canolig y Cyngor a gynyddwyd ymhellach gan yr argyfwng ac amlygodd ôl-ddyledion rhent ac ôl-ddyledion Treth y Cyngor fel meysydd risg penodol. Mewn ymateb, dywedodd swyddogion yr adroddwyd ar gario cyllid ymlaen ar y Rhaglen Gyfalaf wrth fonitro’r gyllideb a bod incwm a gollwyd o lefelau casglu Trethi Cyngor yn cael ei ategu gan gyllid grant ychwanegol gan LlC, a byddai'r balans yn cael ei ychwanegu at gronfeydd wrth gefn. Wrth gyfrifo grantiau cymorth busnes, mae nodyn 32 yn y cyfrifon yn nodi trefniadau lle'r oedd y Cyngor wedi gweithredu fel asiant ar ran trydydd partïon.
Wrth gydnabod yr heriau o'r argyfwng, dywedodd Matt Edwards fod swyddogion y Cyngor wedi cynnal ymgysylltiad cadarnhaol â chydweithwyr Archwilio Cymru yn ystod y broses archwilio ac y byddai'r Gr?p Llywodraethu Cyfrifon yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ... view the full Cofnodion text for item 15. |
|
Item 4 - Presentation slides PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Gwybodaeth Ariannol Atodol i Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2020/21 PDF 107 KB Darparu gwybodaeth ariannol atodol i’r Aelodau i gyd-fynd â’r datganiad cyfrifon drafft, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn flaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y wybodaeth ariannol atodol sy’n cyd-fynd â Datganiad Cyfrifon drafft 2020/21, yn unol â’r cais a wnaethpwyd yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.
Wrth ddarparu cefndir i'r Rhybudd o Gynnig, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o rolau dros dro a adlewyrchir yn y costau a ddangoswyd a chadarnhaodd nad oedd unrhyw bryderon.
Cynigiodd y Cynghorydd Sally Ellis y dylid cefnogi’r argymhelliad ac eiliwyd hynny gan Martin White.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Darparu adroddiad blynyddol Rheoli Trysorlys 2020/21 a'r diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys yn 2020/21 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. Rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli'r Trysorlys 2021/22 er gwybodaeth, ynghyd â'r cylch adrodd.
Rhoddwyd trosolwg o adrannau allweddol yr Adroddiad Blynyddol gan gynnwys effaith cyfraddau llog isel parhaus. Roedd y diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2021/22 yn rhoi diweddariad ar fuddsoddiadau a gweithgaredd benthyca fel y manylir yn yr adroddiad. Ni nodwyd am unrhyw dor-amodau yn y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys. Yn unol â threfniadau blynyddol, byddai'r holl Aelodau'n cael eu gwahodd i sesiwn hyfforddi Rheoli’r Trysorlys ym mis Rhagfyr cyn cymeradwyo'r Strategaeth ar gyfer 2021/22.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddwyd eglurhad ar gymeradwyo benthyciadau i NEW Homes yn 2018 a rhoddwyd sicrwydd o ymgysylltu ag ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys cyn cymryd unrhyw fenthyciadau newydd.
Cynigiwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a'u heilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Adroddiad Blynyddol drafft Rheoli'r Trysorlys 2020/21, heb dynnu sylw'r Cabinet at unrhyw faterion ym mis Medi; a
(b) Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn chwarter cyntaf 2021/22. |
|
Datblygu Model Hunanasesu PDF 90 KB Diweddaru'r Aelodau yngl?n â datblygu Model Hunanasesu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar ddatblygu Model Hunanasesu Corfforaethol i adolygu effeithiolrwydd y Cyngor wrth arfer ei swyddogaethau, ei ddefnydd o adnoddau a llywodraethu. I gefnogi hanes y Cyngor ar hunanasesu, nododd yr adroddiad y broses tri cham arfaethedig ar gyfer model ‘treialu’ i baratoi ar gyfer gweithredu’r ddyletswydd statudol o Ebrill 2022.
Siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am y potensial i'r Pwyllgor fod yn rhan o'r ail gam i brofi casgliadau cychwynnol yn ogystal â chyflawni ei rôl statudol i adolygu'r Model cyn i'r Cabinet ei ystyried yn y trydydd cam.
Wrth groesawu'r adroddiad, siaradodd Sally Ellis o blaid y trefniadau arfaethedig gan gynnwys monitro adnoddau priodol. Ar yr ail gam, nododd fod yr ymgysylltu cymunedol wedi'i dargedu yn cyd-fynd ag amcanion yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai defnyddio'r ymgynghoriad perthnasol presennol lywio cam cyntaf casglu tystiolaeth i helpu i nodi meysydd diffyg wrth symud ymlaen.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy a’r Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r model arfaethedig ar gyfer yr hunanasesiad corfforaethol cyntaf a'r treial ohono. |
|
Trefniadau Gwrth-Dwyll yn Sector Cyhoeddus Cymru PDF 90 KB Rhoi gwybod i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am ganlyniad yr adolygiad cenedlaethol gan Archwilio Cymru ar y Trefniadau Gwrth-Dwyll o fewn Sector Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad a oedd yn crynhoi canlyniad yr adolygiad cenedlaethol gan Archwilio Cymru ar drefniadau gwrth-dwyll yn Sector Cyhoeddus Cymru.
Mewn ymateb i'r argymhellion ar gyfer gwella ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru, roedd y Cyngor wedi datblygu cynllun gweithredu a oedd ar y gweill i wella trefniadau gwrth-dwyll. Byddai rhaglen waith i ymgysylltu ag adrannau ar draws y sefydliad yn helpu i lunio asesiad risg ar wrth-dwyll a allai lywio gwaith archwilio yn y dyfodol.
Ymatebodd y Rheolwr Archwilio Mewnol i gwestiwn gan Sally Ellis ar ei chanfyddiad o dwyll o fewn y sefydliad a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth gefnogol wirioneddol.
Cynigiodd y Cynghorydd Geoff Collett gefnogi’r argymhelliad ac fe’i eiliwyd gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn sicr bod y Cyngor yn cymryd camau priodol i wrthsefyll y risg o dwyll. |
|
PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |