Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

62.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

63.

Cofnodion pdf icon PDF 79 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 24 Ionawr 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2024, yn amodol ar ddiwygio cofnod rhif 59 i egluro'r drafodaeth ynghylch honiadau dienw.

 

Materion yn Codi

 

Ar gofnod rhif 55, ailadroddodd y Cynghorydd Glyn Banks ei gais am weithdy i Aelodau ar Leoliadau Allsirol.   Byddai'r cais yn cael ei drosglwyddo i'r tîm perthnasol i'w ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

64.

Datganiad Cyfrifon 2022/23 pdf icon PDF 166 KB

Cyflwyno fersiwn derfynol wedi’i harchwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2022/23 i gael eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2022/23 gan ymgorffori newidiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliad.  Fel yr adroddwyd yn flaenorol, roedd y terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi'r cyfrifon archwiliedig terfynol wedi'i ymestyn ymhellach fel yr eglurwyd yn yr adroddiad.   Ni nodwyd unrhyw gamddatganiadau nas cywirwyd yn yr archwiliad ac roedd y canfyddiadau wedi'u trafod yn fanwl gydag addasiadau wedi'u hymgorffori lle bo'n briodol.   Amlygodd crynodeb o faterion a gododd yn ystod yr archwiliad, a ddangosir yn Atodiad 2, y cyfrifon hanesyddol o asedau a oedd yn berthnasol i bob cyngor yng Nghymru.

 

Wrth grynhoi adroddiad Archwilio Cymru, cadarnhaodd Mike Whiteley y byddai barn archwilio ddiamod yn cael ei chyhoeddi ar y cyfrifon maes o law.  Diolchodd i'r tîm Cyllid am eu cefnogaeth wrth weithio drwy'r materion, yn enwedig y rhai'n ymwneud â'r materion cyfrifyddu cyfalaf cymhleth.  Tynnodd sylw hefyd at effaith oedi wrth ymateb gan dîm Prisio’r Cyngor i ymholiadau archwilio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am lefel y risg o Ddyledion Digwyddiadol yn adran 34 o'r cyfrifon.   Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gefndir ar hawliadau yn ymwneud â chyn Gyngor Sir Clwyd a oedd wedi lleihau mewn niferoedd ac nad oeddent yn peri risg sylweddol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Parkhurst bryderon hefyd am yr oedi wrth ymateb gan y tîm Prisio yn ystod yr archwiliad, yn enwedig o ystyried lefel y cywiriadau a sicrwydd blaenorol o drosolwg ar waredu asedau.

 

Mewn ymateb, rhoddodd Mike Whiteley grynodeb o'r diwygiadau ar wallau a hepgoriadau a nodwyd o'r gwaith prisio yn Atodiad 3.   Dywedodd ef a'r Cadeirydd nad oedd hyn yn adlewyrchu swm sylweddol o ystyried cyd-destun cyffredinol y cyfrifon.

 

I roi sicrwydd, dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn adolygiad o'r trefniadau, y byddai swyddog arweiniol o'r tîm Prisio bellach yn rhan o'r broses o lunio'r datganiad cyfrifon.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, ar ôl cael ei gwblhau ers cyhoeddi'r adroddiad, y byddai ymateb y rheolwyr i'r argymhellion yn cael ei rannu â'r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y mater yn ymwneud â'r tîm Prisio yn ystod yr archwiliad ac awgrymodd y dylid gwahodd swyddogion perthnasol i roi eglurhad i'r Pwyllgor.   O ran lefelau cynyddol dyledion ac ôl-ddyledion rhent, manteisiodd ar y cyfle i gydnabod y gefnogaeth gadarnhaol a roddwyd gan y Rheolwr Refeniw a'i dîm a gwnaeth sylwadau ar yr angen am ymyrraeth gynharach i helpu i fynd i'r afael ag ôl-ddyledion rhent cynyddol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am newidiadau yn y dull o leihau ôl-ddyledion rhent mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol sicrwydd yngl?n â chyfeiriad at ddarn o dir nad oedd yn eiddo i'r Cyngor.   O ran amserlen cyfrifon 2023/24, dywedodd Mike Whiteley mai’r nod oedd i Archwilio Cymru bennu’r terfyn amser ar gyfer adrodd ar lywodraeth leol ar gyfer diwedd mis Tachwedd 2024, yn amodol ar adnoddau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Rheolwr Cyllid Strategol a ddiolchodd  ...  view the full Cofnodion text for item 64.

65.

Adroddiad Archwilio Cymru: Gwasanaethau Digartrefedd - Cyngor Sir y Fflint pdf icon PDF 104 KB

Rhannu canfyddiadau adolygiad Archwilio Cymru ar Atal Digartrefedd yng Nghyngor Sir y Fflint gyda’r Pwyllgor a cheisio cymeradwyaeth i ddarparu ymateb sefydliadol ffurfiol i Archwilio Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai ac Atal adroddiad ar yr adolygiad o Wasanaethau Digartrefedd a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru.  Ar ôl derbyn yr adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2024, roedd y canfyddiadau ac ymateb y sefydliad i'r tri argymhelliad wedi'u hadolygu a'u cefnogi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai a'r Cabinet.

 

Canfu adroddiad Archwilio Cymru fod y Cyngor yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel a bod ganddo ddealltwriaeth dda o bwysau a rhagamcanion ar gyfer y dyfodol, gan gydnabod y risgiau o ran cynaliadwyedd ariannol wrth ddarparu gwasanaethau nad oeddent yn unigryw i Sir y Fflint.   Aeth y swyddog ymlaen i roi diweddariad ar gynnydd y tri argymhelliad.

 

Croesawodd Duncan Mackenzie o Archwilio Cymru y gwaith a wnaed gan y gwasanaeth a’r prosesau a roddwyd ar waith, gan gydnabod yr heriau ariannol hirdymor ar y mater cymhleth hwn sy’n effeithio ar bob cyngor.

 

Disgrifiodd Sally Ellis hwn fel adroddiad cadarnhaol a oedd yn adlewyrchu'n dda ar y gwasanaethau digartrefedd yn Sir y Fflint.   Pan ofynnwyd iddo ynghylch cwblhau'r camau gweithredu yn amserol, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth sicrwydd ynghylch gweithredu Argymhellion 2 a 3 a dywedodd y byddai Argymhelliad 1 angen cymorth ehangach gan gydweithwyr ar draws y Cyngor i gwrdd â'r terfyn amser.

 

Wrth gytuno â’r pryderon ynghylch anghynaladwyedd y sefyllfa ariannol a amlygwyd yn yr adroddiad, gwnaeth y Cynghorydd Glyn Banks sylw ar effaith penderfyniadau tai cenedlaethol.   Ar un o'r canfyddiadau, esboniodd Duncan Mackenzie y gallai'r gwasanaeth fod yn fwy rhagweithiol wrth ymdrin ag Aelodau etholedig mewnol ac allanol er mwyn helpu i reoli disgwyliadau a galwadau ar y gwasanaeth.

 

Gofynnodd Brian Harvey am ddiweddariad ar faterion TG a adroddwyd yn flaenorol a dywedwyd wrtho fod mwy o gymorth wedi'i ddarparu i ymdopi â galwadau ar y gwasanaeth.   Nodwyd hefyd bod canfyddiadau'r archwiliad penodol hwn o bosibl yn ystyried y system TG ar gyfer digartrefedd a chymorth tai fel arfer gorau.

 

Wrth ddiolch i'r Rheolwr Gwasanaeth a phawb a fu'n ymwneud â'r adroddiad cadarnhaol, gwnaeth y Cynghorydd Ian Roberts sylw ar yr angen am drosolwg cenedlaethol o'r heriau a amlygwyd.   Darparodd Charles Rigby esboniad ar drefniadau adrodd i Lywodraeth Cymru (LlC), megis yr astudiaeth genedlaethol sydd ar ddod gan Archwilio Cymru ar ddigartrefedd a fyddai’n helpu i amlygu materion cyffredin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am ymateb cyfunol posibl i LlC ar y pwysau ariannol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, er bod mwy o arian ar gyfer gwaith atal a gwasanaethau anstatudol, roedd y prif bwysau yn ymwneud ag arian y Cyngor ar gyfer swyddi staff a chostau llety brys yn uwch na'r dyraniad cyllid grant.   Aeth ymlaen i gyfeirio at yr ymrwymiad a roddwyd gan LlC i roi terfyn ar ddigartrefedd a rhoddodd sicrwydd bod cynrychiolaethau yn parhau i gael eu gwneud ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y gwasanaeth yn cael effaith gadarnhaol ar ddigartrefedd, fodd bynnag roedd y sefyllfa anghynaladwy yn creu pwysau ar bob cyngor, fel y cydnabuwyd gan Archwilio Cymru.   Ar awgrym y Cynghorydd Parkhurst, dywedodd, er bod  ...  view the full Cofnodion text for item 65.

66.

Adroddiad Adolygiad Asesu Risg a Sicrwydd Archwilio Cymru 2021-22 pdf icon PDF 120 KB

I grynhoi’r casgliadau i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o’r gwaith asesu risg a sicrwydd manwl a wnaed.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad Archwilio Cymru o feysydd gwaith Sicrwydd ac Asesu Risg.  O ran goblygiadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cadarnhawyd bod trefniadau yn cael eu rhoi ar waith i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth, heb unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.  O ran cynlluniau lleihau carbon y Cyngor, dywedwyd bod gan y Cyngor weledigaeth glir a chefnogaeth strategol ar gyfer ei ddull o ddatgarboneiddio a sero net erbyn 2030, gydag un argymhelliad i gostio ei gynllun gweithredu’n llawn ac alinio â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at gostau amcangyfrifedig ac arbedion carbon o gamau gweithredu allweddol a ystyriwyd gan y Cabinet, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd.

 

Eglurodd Charles Rigby mai adolygiad cenedlaethol blynyddol oedd hwn a bod newidiadau mewn adnoddau o fewn Archwilio Cymru wedi effeithio ar amseroldeb yr adroddiad.   Cydnabu’r heriau carbon niwtral ar draws y sector cyhoeddus, fel yr amlygwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Sally Ellis ar heriau a adroddwyd yn flaenorol gyda gwasanaethau caffael, esboniodd Charles Rigby fod hwn yn adroddiad lefel uchel ac y byddai'r casgliad ar ddatblygu’r data gorau yn adlewyrchu'r materion hynny.

 

Pan holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am darged 2030, ailadroddodd y Prif Weithredwr ymrwymiadau carbon y Cyngor a’r angen am gyfrifoldeb ar y cyd i gwrdd â’r terfyn amser.  Siaradodd hefyd am rôl busnesau lleol ac eglurodd fod y Cyngor yn ymgysylltu â'r grwpiau hynny.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen ar gyfer Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon y byddai’r gofyniad i adolygu’r strategaeth yn 2024/25 yn galluogi i dueddiadau data gael eu dadansoddi i adlewyrchu ar yr uchelgeisiau o fewn yr amserlen ac i ganolbwyntio ar ddylanwad y Cyngor ar y gymuned ehangach.

 

Soniodd y Cynghorydd Glyn Banks am weithgareddau gwrthbwyso carbon a'r defnydd o gerbydau hydrogen.

 

Yn unol â chais Brian Harvey, adroddodd y Rheolwr Rhaglen adborth cadarnhaol o weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf i geisio barn, hysbysu ac addysgu.  Byddai cyfle pellach i ymgynghori â'r cyhoedd ar yr adolygiad o'r Strategaeth Newid Hinsawdd.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cael ei sicrhau gan gynnwys a sylwadau adroddiad Adolygiad Sicrwydd ac Asesu Risg Archwilydd Cyffredinol Cymru.

67.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

I roi’r wybodaeth ddiweddaraf am archwiliad mewnol o adroddiad am wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), 07-2023/24 Adroddiad Terfynol - Ionawr 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y gofynnwyd ym mis Mawrth, roedd diweddariad wedi'i rannu ar gynnydd gyda chamau gweithredu o'r archwiliad mewnol o Wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) oherwydd pryderon a godwyd gan y Pwyllgor.

 

Roedd y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygiad Sefydliadol yn bresennol i roi diweddariad pellach i roi sicrwydd o gynnydd.  Atgoffodd yr Aelodau nad oedd yr archwiliad wedi cynnwys ysgolion gan y byddai hyn yn ffurfio rhan o archwiliad ar wahân.   Ar ôl blaenoriaethu ymchwilio i swyddi tair blynedd ac iau heb GDG, rhoddodd wybodaeth fanwl am y sefyllfa bresennol ar 9 Ebrill 2024.  Yn ogystal, roedd amrywiaeth o newidiadau wedi'u rhoi ar waith gan gynnwys diweddaru system iTrent â llaw ar gyfer gwiriadau GDG ar gyfer dechreuwyr newydd a throsglwyddo pan fydd cofnod newydd yn cael ei greu.   Roedd risg ynghylch rheolwyr gwasanaeth yn cynnal gwiriadau GDG ac roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ar y posibilrwydd o symud y cyfrifoldeb hwnnw yn ôl i'r tîm AD.   Wrth barhau â’r ymarfer glanhau, nodwyd nifer o gamau nesaf gan gynnwys cael gwared ar farcwyr ‘hanfodol’ yn erbyn swyddi nad ydynt yn bodloni’r meini prawf, datblygu nodiadau atgoffa adrannol ac archwilio arfer gorau.

 

Cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i rannu'r wybodaeth â'r Pwyllgor drwy e-bost ac aeth ymlaen i roi gwybod am y cyfrifoldebau datgelu a nodir yng nghontractau gweithwyr.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith sylweddol wedi'i wneud ers cyhoeddi'r adroddiad ac y byddai symud cyfrifoldeb am wiriadau GDG yn ôl o dan y tîm AD yn canoli'r gwasanaeth hwnnw ac yn gwella rheolaethau.

 

Croesawodd Sally Ellis y diweddariad a oedd yn rhoi sicrwydd ar gamau gweithredu a throsolwg.   Nodwyd ei chais i'r risg ar wiriadau GDG gael ei adlewyrchu ar gofrestr gan y Rheolwr Corfforaethol a gytunodd i weithredu.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Ted Palmer a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r diweddariad ar lafar; a

 

(b)       Bod y risg a nodwyd ar wiriadau GDG yn cael ei hadlewyrchu ar y gofrestr risg gorfforaethol.

68.

Chwarter 4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2023/24 pdf icon PDF 157 KB

Darparu diweddariad ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd Chwefror 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y diweddariad chwarterol ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Chwefror 2024.  Adroddwyd ar sefyllfa’r Cyngor yn ymwneud â buddsoddiad a benthyca hirdymor a thymor byr, ynghyd â diweddariad ar gyd-destun economaidd a’r rhagolygon o ran cyfraddau llog.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y rhagolwg benthyca ac ystyriaethau allweddol ar gyfer buddsoddiadau.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Glyn Banks am graff i gyd-fynd â’r daenlen benthyca hirdymor, cytunodd swyddogion i adolygu’r fformat ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo diweddariad chwarterol Rheoli’r Trysorlys 2023/24.

69.

Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 120 KB

Cyflwyno canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a fydd yn cyfrannu at Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ganlyniadau’r hunanasesiad a wnaed ym mis Chwefror yn ystod gweithdy ar-lein yn dilyn llenwi holiaduron.  Byddai’r canlyniadau cyffredinol yn bwydo i mewn i baratoadau ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023/24 ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor.

 

Yn dilyn diweddariad llafar ar holiaduron a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau, mynegodd y Cadeirydd ei siom gyda'r gyfradd ymateb, yn enwedig gan Gadeiryddion Trosolwg a Chraffu.

 

Fel yr awgrymwyd gan Brian Harvey, cytunwyd y byddai diweddariadau hanner blwyddyn ar gamau gweithredu yn cael eu hamserlennu.

 

Wrth gydnabod manteision y broses hunanasesu, dywedodd Sally Ellis fod angen mwy o waith i gryfhau cysylltiadau â Throsolwg a Chraffu.  Aeth ymlaen i gyfeirio at y cyfrifoldeb a rennir ar draws aelodaeth y Pwyllgor hwn i sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cwblhau.

 

Ategwyd ei sylwadau gan y Cadeirydd a ddywedodd y gofynnwyd i swyddogion Gwasanaethau Democrataidd gydgysylltu cyfarfodydd gyda Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu.  Ategwyd ei awgrym ar gyfer rhag-gyfarfod anffurfiol yn union cyn cyfarfod mis Mehefin i gydgysylltu cwestiynau a datrys problemau.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Brian Harvey a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, mae’r Pwyllgor yn cytuno:

 

(a)       Bod diweddariadau hanner blwyddyn ar y cynllun gweithredu yn cael eu hamserlennu yn y Rhaglen Waith;

 

(b)       Gwahodd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd i gyfarfodydd gyda'r Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu; a

 

(c)       Bod rhag-gyfarfod anffurfiol yn cael ei gynnal cyn y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin.

70.

Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus pdf icon PDF 93 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniadau’r asesiad mewnol  blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.   Roedd hyn, ynghyd â'r asesiad allanol a gynhaliwyd yn 2022/23 yn dangos bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r holl ofynion yn gyffredinol.  Roedd gwaith i fod i ddechrau ar oblygiadau’r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd i’w gweithredu o 2025.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Glyn Banks ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

71.

Sicrwydd Rheoleiddio Allanol 2023-24 pdf icon PDF 119 KB

Cefnogi’r crynodeb o’r holl adroddiadau rheoleiddio allanol a dderbyniwyd yn ystod 2023/24 ynghyd ag ymatebion y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i roi sicrwydd bod yr adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2023/24 wedi cael eu hystyried yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r cynnydd yn erbyn camau gweithredu ac yn nodi bod gwaith mapio sicrwydd yn cael ei wneud i nodi unrhyw reoleiddio allanol arall sy'n rhoi sicrwydd a/neu argymhellion ar gyfer gwella.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad Archwilio Cymru 2022 ‘Amser i Newid - Tlodi yng Nghymru’ a chafodd ei sicrhau bod camau gweithredu wedi’u datblygu ac y byddent yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor hwn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am sicrwydd ynghylch camau gweithredu o adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) mewn perthynas â sicrhau opsiynau tai priodol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal.  Cadarnhawyd bod hyn wedi'i drefnu ar gyfer y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ym mis Mehefin.   Yn unol â chais Sally Ellis, byddai'r adroddiad hefyd yn dod i'r Pwyllgor hwn ym mis Mehefin.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Andrew Parkhurst a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd gan ymateb y Cyngor i adroddiadau rheoleiddio allanol.

72.

Cynllun Strategol Archwilio Mewnol pdf icon PDF 90 KB

Cyflwyno’r Cynllun Archwilio Mewnol arfaethedig ar gyfer 2024/25 - 2026/27 er ystyriaeth yr Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol tair blynedd ar gyfer 2024/27 a oedd wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio mapio gwarant, canlyniadau gwaith archwilio blaenorol, risgiau newydd a rhai sy’n datblygu ac ymgynghori gydag uwch swyddogion ac Archwilio Cymru.  Cafodd yr holl archwiliadau blaenoriaeth uchel ac adolygiadau blynyddol/dwywaith y flwyddyn eu cynnwys i’w cwblhau yn 2024/25 gyda sgorau blaenoriaeth yn cael eu dangos.   Byddai'r dyddiad a ddangosir yn y cyflwyniad yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r cyfnod adrodd.

 

Yn ystod y drafodaeth ar adnoddau Archwilio Mewnol, dywedodd y Cadeirydd y gallai unrhyw ostyngiadau pellach mewn swyddi fod yn destun pryder.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried y meysydd dan sylw, gan gynnwys y rhai a flaenoriaethwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a lefel yr adnoddau archwilio o ystyried lefel y sicrwydd sydd ei angen, mae'r Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Strategol Archwilio Mewnol Sir y Fflint ar gyfer 2024-2027, yn amodol ar gywiro'r dyddiad yn adran 1.1.

73.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 139 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Ers y diweddariad diwethaf, roedd dau adroddiad ‘Oren Coch’ (peth sicrwydd) wedi’u cyhoeddi ar Gardiau Credyd Corfforaethol a Datganiad o Gysylltiadau.  Roedd adroddiad ‘Coch’ (sicrwydd cyfyngedig) wedi’i gyhoeddi ar Daliadau Gohiriedig a Rheoli Rhwymedigaethau Gofal Preswyl ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yr oedd swyddogion perthnasol yn bresennol yn y cyfarfod ar ei gyfer.

 

Ar yr olaf, rhoddodd yr Uwch Archwilydd gefndir ar gwmpas yr adolygiad a chanfyddiadau allweddol cyn eu trosglwyddo i'r Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) i adrodd ar gynnydd gyda'r cynllun gweithredu manwl a gwaith ychwanegol a nodwyd i wella prosesau.  Diolchodd i gydweithwyr Archwilio Mewnol am eu cefnogaeth ar yr adolygiad.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cadeirydd, eglurodd yr Uwch Reolwr bod defnyddio matrics (fel yr argymhellwyd gan Archwilio Mewnol) yn fodd o gasglu a chofnodi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ac y byddai'r system uwchraddedig yn gwella'r modd y caiff gwybodaeth reoli ei thrin.   Dywedodd hefyd y byddai ymgysylltu â chyfreithwyr allanol yn helpu i sicrhau gwybodaeth gyson am daliadau eiddo.

 

Diolchodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst i'r swyddog am yr ymateb cadarnhaol.   Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Uwch Reolwr tra bod yr archwiliad wedi canfod anghysondebau gyda goruchwyliaeth rheolwyr, nid oedd unrhyw effaith ariannol oherwydd gwaith diwyd ar adennill dyledion gan y tîm Gorfodaeth a chyngor cyfreithiol allanol.

 

Croesawodd Sally Ellis y cynllun gweithredu manwl a gofynnodd am gyfleoedd i rannu dulliau ag awdurdodau eraill a oedd yn defnyddio'r un systemau.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr fod trafodaethau wedi'u cynnal mewn cyfarfodydd rhwydwaith ac y byddai profi achosion mewn cyfarfodydd mewnol rheolaidd yn helpu i nodi gwelliannau pellach.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar yr adroddiad sicrwydd cyfyngedig ar gardiau Credyd Corfforaethol, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yn dilyn adolygiad gan y tîm rheoli Addysg, fod y defnydd o gardiau credyd mewn ysgolion wedi'i dynnu'n ôl.

 

Yn dilyn pryderon ynghylch yr olaf gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol gyd-destun ar y mathau o ddefnydd cardiau credyd corfforaethol sydd eu hangen ar draws yr awdurdod.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Brian Harvey a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

74.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 80 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Linda Thomas a Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

75.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 84 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Waith gyfredol i'w hystyried a byddai’n ei diweddaru yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod heddiw.

 

Darparodd Mike Whiteley a Charles Rigby eglurhad ar ohirio Cynllun Archwilio Cymru tan fis Gorffennaf ac adroddiadau sydd i ddod ar gynaliadwyedd ariannol.

 

Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Sally Ellis a Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Waith, a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

76.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Andrew Parkhurst a Brian Harvey ac i wahardd y wasg a’r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 14 ac 18 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

77.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Honiadau Dienw

I ymateb i ymholiadau a godwyd gan aelodau mewn sesiwn gaeedig.

Cofnodion:

Fel y gofynnwyd yn y cyfarfod blaenorol, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad llafar ar ganfyddiadau'r ymchwiliad a gynhaliwyd yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst.  Cyn y cyfarfod, roedd wedi dosbarthu gwybodaeth fanwl am sefydliadau trydydd parti sy'n derbyn cyllid strategol a hefyd wedi rhoi gwybod am baratoadau ar gyfer gweithredu'r adolygiad cyllid craidd.  Nid oedd ganddi unrhyw bryderon yn seiliedig ar gwmpas yr ymchwiliad.

 

Yn dilyn y diweddariad, rhoddodd y swyddog eglurhad i'r Cynghorydd Parkhurst ar ymholiadau pellach a dywedodd fod gwaith ar y gweill gyda'r tîm Cyfreithiol ar y contractau oedd yn weddill ac y byddai adroddiad i'r Cabinet yn ystod yr Haf yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor hwn yn ddiweddarach.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei gwaith ar y mater.

78.

AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD HEFYD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.