Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod

 

PENDERFYNWYD

Bod y Cynghorydd Hilary McGuill yn cael ei phenodi yn Gadeirydd ar gyfer y ydbwyllgor.

 

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:       I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cydnabod David Hytch a Rebecca Stark

Cydnabodcyfraniad David Hytch a Rebecca Stark i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, y daw eu tymhorau fel aelodau cyfetholedig o’r Pwyllgor i ben ym mis Mehefin, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod i roi ddweud rhywbeth am gyfraniad David Hytch a Rebecca Stark i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Daeth eu cyfnod yn y swydd fel aelodau cyfetholedig o’r Pwyllgor i ben ym mis Mehefin 2021. Dywedodd ei bod wedi gweithio gyda David a Rebecca dros nifer o flynyddoedd a’u bod yn bobl oedd yn llawn gwybodaeth a diolchodd iddynt am eu cyfraniadau.

 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Healey i David a Rebecca am fod yn aelodau gweithgar o’r pwyllgor ymhell cyn iddo ymuno â’r Cyngor. Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn bwyllgor cadarn ac roedd aelodau lleyg yn sicrhau ei fod yn parhau’n frwdfrydig ac effeithiol wrth herio. Fe gyfeiriodd at y cyfarfod diwethaf pan gafodd Aelodau y cyfle i ddiolch i David am ei gyfraniad dros y blynyddoedd yn enwedig fel Is-gadeirydd, ac roedd yn gwerthfawrogi ei gefnogaeth yn y swydd honno. Yna aeth ymlaen i ddiolch i Rebecca, gan nad oedd hi’n gallu mynychu’r cyfarfod hwnnw, am ei chefnogaeth a’i chyfraniad dros y blynyddoedd. Roedd Rebecca bob amser yn llawn gwybodaeth, yn cyfrannu’n ddilys i’r pwyllgor ac roedd hi’n gynorthwyol ac yn gefnogol pan oedd angen cynorthwyo ag arolygon Estyn ac roedd hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr.  Diolchodd y Cadeirydd i’r ddau ohonynt am eu cyfraniadau gwerthfawr yn y Pwyllgorau Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Chydbwyllgorau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

            Roedd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wrth ei bodd yn diolch i David a Becky a dywedodd ei bod wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw. Rhoddodd deyrnged i’w cefnogaeth a her enfawr dros y blynyddoedd ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Grwpiau Monitro Perfformiad Ysgolion, a dywedodd bod gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint mewn lle gwell yn sgil cyfraniadau’r ddau. Diolchodd i’r ddau ar ei rhan hi, y tîm o Uwch Swyddogion, ysgolion a’r portffolio cyfan.

               

4.

Plant sy'n Derbyn Gofal yn Sir y Fflint pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Plant sy’n Derbyn Gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) yr adroddiad ac eglurodd bod y fformat yn wahanol yn sgil lefel y data sydd ar gael. Yn yr adroddiad cafwyd drosolwg o’r gwaith a’r gefnogaeth a ddarparwyd i blant sy’n derbyn gofal yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20 sydd wedi cael ei effeithio’n drwm gan y pandemig.

               

Rhoddodd wybodaeth am gydweithwyr sydd wedi cefnogi plant sy'n derbyn gofal, diweddariad am y nifer o blant sydd angen cymorth mewn ysgolion a’r rhai sydd angen cymorth arbenigol mewn lleoliadau y tu allan i’r sir.  Rhoddwyd gwybodaeth am y nifer o ddisgyblion a gafodd Ddatganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig a sut mae hynny’n cymharu’n genedlaethol. Cyfeiriodd at ei gwaith gyda’r gr?p arian o fewn tîm ymateb i argyfwng sydd wedi gwella’r cydweithio rhwng Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod anghenion plant sy’n derbyn gofal a phlant diamddiffyn yn cael eu hadnabod a’u cefnogi drwy’r Canolfannau Cydnerthu. Cafodd gliniaduron eu dosbarthu i’r garfan yma’n gyflym ac ynghyd â’r gefnogaeth a roddwyd gan y Cydlynydd Dysgu Plant Diamddiffyn, fe sicrhawyd bod plant yn gallu cael mynediad at addysg ar-lein.  Fe gadarnhaodd bod gwasanaethau a phrosesau mewn cysylltiad ag AAA wedi symud ar-lein yn gyflym a’u bod yn parhau i gefnogi’r garfan yma gan fod ganddynt lefel uwch o angen.

 

            Yna cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at Adran 1.06 yn yr adroddiad gan ddweud bod hyfforddiant yn ffocws gwirioneddol ar gyfer addysg gyda sesiynau megis Ymarfer ar Sail Trawma a Theori Anogaeth ac Ymlyniad yn cael eu darparu. Mae’r Awdurdod wedi prynu Offeryn Proffilio ac Asesu Boxall sydd yn adnabod anghenion disgyblion gan sicrhau bod y gefnogaeth yn cael ei ddarparu i’w galluogi i ddatblygu. Mae ysgolion wedi cael trwyddedau a hyfforddiant i ddefnyddio’r offeryn yma’n effeithiol. Yna cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) trwy GwE, ynghyd ag eglurhad yngl?n â sut mae ysgolion wedi gweithio mewn clystyrau i gyflwyno i ceisiadau i ymgeisio am y grant.  Fe dynnwyd sylw at ffurfiau eraill o addysg gyda’r ffocws ar les gydag amrywiaeth o gymorth gan swyddogion ar gael i blant.  Fe orffennodd drwy roi gwybodaeth am ganlyniadau disgyblion blwyddyn 11. Roedd pob un ohonynt wedi cyflawni’r hyn oedd ei angen arnynt i fwrw ymlaen â’u dyheadau.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn adroddiad diddorol iawn a gofynnodd y cwestiynau canlynol:-

 

            Yn gyntaf ym mhwynt 1.07 ar dudalen 7, roedd yn deall sut roedd yr arian yma’n cael ei wario, ond gofynnodd a oedd y ffigur yn ddigonol ac os nad ydyw, a ddylid darparu adnoddau gwell? 

 

            Yn ail, ym mhwynt 2.01 ar dudalen 8 gyda’r newidiadau yn y ddeddfwriaeth a’r cyllid yn cael ei ddyrannu lle mae’r plentyn byw, a oedd gwybodaeth ar gael am faint o blant roedd yr Awdurdod yn ei golli neu ei ennill ac a oedd y sefyllfa yr un fath yn Lloegr gan bod yr awdurdod mor agos at y ffin.

 

Gan ymateb i’r pwynt cyntaf, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr bod  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu ac Addysg Ychwanegol (Cymru) 2018 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu’r Awdurdod ac unrhyw ddiweddariadau cenedlaethol / rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) yr adroddiad oedd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru. Roedd y Ddeddf yma fod i ddod i rym ym mis Medi 2020 ond cafodd ei ohirio tan fis Medi 2021. Rhoddodd wybodaeth am yr addasiadau mae LlC wedi’u gwneud o ran trawsnewid Datganiad AAA i Gynllun Datblygu Unigol a’i weithredu ar gyfer rhai Ôl-16 gyda’r ystod oedran bellach yn 0- 25 oed. Mae LlC wedi adnabod plant mewn grwpiau blwyddyn penodol sydd ag AAA a fyddai’n symud i’r system newydd ar bwynt arferol o drawsnewid gyda Datganiad AAA yn parhau yn ei le hyd nes bod y trawsnewid wedi digwydd.

 

             Roedd Paula Roberts yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu (ADY) wedi arwain Trawsnewid ADY ar gyfer Sir y Fflint gan sicrhau bod ysgolion a’r awdurdod lleol yn barod ar gyfer y newidiadau yma.Cyhoeddwyd y cod gweithredol ym mis Ebrill ac roeddynt dal yn aros am canllawiau ar gyflawni gan LlC, ond gobeithio y byddent yn eu derbyn erbyn diwedd y tymor ac roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt ynghylch ymatebion i nifer o gwestiynau   Roedd ysgolion yn cael eu cefnogi o ran “ymarferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn” oedd yn greiddiol i hyn, ac mae Paula Roberts wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddi mewn cysylltiad â’r cod er mwyn sicrhau bod ysgolion yn deall beth oedd ei angen ganddynt.      

           

            Ers 1 Ionawr 2021, roedd angen i bob ysgol fod â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ynghyd â Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yn y Cyngor, ac fe gadarnhaodd bod yr unigolion yma wedi dechrau gweithio. Rhoddodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad am waith aml asiantaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg oedd yn cynnwys Swyddog Arweiniol Clinigol Addysgol Dynodedig o’r Bwrdd Iechyd. Roedd gwybodaeth am y system newydd, amddiffyniad cyfreithiol i blant a chyllid grant a ddefnyddiwyd i alluogi Cydlynwyr ADY i gefnogi ysgolion wedi bod yn amhrisiadwy iddynt. Gorffennodd yr Uwch Reolwr drwy ddweud bod LlC yn ystyried hyn fel proses niwtral o ran cost ond roedd yna oblygiadau i’r awdurdod oedd wedi ymestyn lefel y swyddogion oedd eu hangen i weithredu’r ymatebion o fis Medi.    

 

            Roedd y Prif Swyddog yn ddiolchgar am waith caled yr Uwch Reolwr, yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu a’r tîm a fu’n gweithio mor galed i gefnogi ysgolion.Diolch i ymdrechion y tîm yma, roedd Sir y Fflint mewn sefyllfa gadarn o ran y Ddeddf newydd hon.

 

            Roedd Cynghorydd Mackie yn cytuno â’r Prif Swyddog a dywedodd y dylai’r pwyllgor hefyd ddiolch i’r Uwch Ymgynghorydd Dysgu am ei gwaith hi yn sicrhau bod yr awdurdod wedi cyrraedd lle mae r?an.Gofynnodd y Cynghorydd Mackie y cwestiynau canlynol:-

 

            Yn gyntaf ym mhwynt 1.03 yr adroddiad mynegodd bryderon bod LlC wedi gosod yr amserlen i’w gweithredu ond bod Awdurdodau Lleol dal yn aros am y canllawiau er mwyn cefnogi hyn. Dywedodd yr Uwch Reolwr bod LlC wedi gweithio’n galed i geisio bodloni’r dyddiad cau gyda phwysau gan ysgolion ac awdurdodau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Diogelu mewn Addysg pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) a rhoddodd ddiweddariad am gyflawni dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio Addysg gyda’r fformat yn wahanol eleni oherwydd y pandemig.

 

            Rhoddwyd gwybodaeth yngl?n â sut mae ysgolion yn edrych ar ddiogelu a’r newidiadau yn lle Gweithdrefnau Diogelu Cymru, Canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a gofynion Estyn.Canmolodd y modd y mae disgyblion a staff addysgu wedi addasu i’r ffyrdd gwahanol o ddysgu, boed yn yr ystafell ddosbarth neu ar y we, gydag athrawon yn cadw cysylltiad gyda phlant a rhieni ac roedd hyn yn fater o bryder a chyfrifoldeb i ysgolion.  Fe soniodd am y berthynas weithio agos gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant a’r Gr?p Tactegol Arian a dywedodd bod gan ysgolion heriau gwahanol bob blwyddyn gyda diogelu yn y rheng flaen.   

 

            Roedd yr ymateb i Covid 19 a Deddf ADY wedi arwain at weithdrefnau newydd ar gyfer diogelu a darparwyd hyfforddiant priodol i gefnogi hyn. Fe gyfeiriodd at yr heriau gyda dysgu o bell a dysgu cyfunol gyda phlant yn gorfod cael mynediad i’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol a chadarnhaodd y byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

Yna rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth fanwl am Weithdrefnau Cymru oedd wedi’u diweddaru, Diweddariad am Ganllawiau i Ysgolion, hyfforddiant dros y we a chefnogaeth broffesiynol i Benaethiaid, Llywodraethwyr ac ysgolion.  Fe gadarnhaodd bod Claire Sinnott wedi cydlynu hyn ac wedi darparu trosolwg o Ddiogelu yn y Panel Addysg a’i fod yn gysylltiedig gyda’r Panel Diogelu Corfforaethol. Bu’r panel yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod prosesau ar waith yn yr ysgolion, yn cael eu cefnogi, eu monitro a’u dwyn i gyfrif o ran diogelu. Nid yw hyn yn rhywbeth sefydlog ac mae’n newid yn gyson.  Rhoddodd sicrwydd i Aelodau bod hyn yn cael ei herio’n gyson ac yn symud ymlaen. Canmolodd yr Uwch Reolwr (Plant a Gweithlu) y gwaith cadarnhaol rhwng ysgolion, addysg a gwasanaethau cymdeithasol gyda phlant yn y rheng flaen a chafodd hyn ei atgyfnerthu gan waith y Gr?p Tactegol Arian. Roedd yn teimlo anrhydedd i fod yn rhan ohono.  Roedd y Prif Swyddog yn gwerthfawrogi cyfraniad yr Uwch Reolwr (Plant a Gweithlu) a alluogodd ymatebion cadarn i gefnogi plant a phobl ifanc diamddiffyn trwy gydol y pandemig.

 

            Cyfeiriodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol at y gwaith a wnaed gyda’r Panel Diogelu Corfforaethol sydd yn sicrhau bod pob plentyn cael ei gefnogi ac yn derbyn y gofal gorau ond roedd hyn wedi cael ei wneud yn wahanol. Yn ystod y pandemig, roedd adran Addysg a Gofal Cymdeithasol wedi sicrhau bod pob teulu’n cael ei fonitro dros y we ac yn bersonol er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth oedd ei angen arnynt. Roedd hi’n arbennig o falch o’r modd roedd Sir y Fflint wedi ymateb i ddiogelu a bob amser yn rhagweithiol wrth ddatblygu gweithdrefnau newydd, hyfforddiant a gwaith partneriaeth gwych ar gyfer plant  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Therapi Aml Systematig pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth aml-asiantaeth i ddarparu cefnogaeth therapiwtig ddwys i bobl ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol ac Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu). Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth aml-asiantaeth i ddarparu cefnogaeth therapiwtig ddwys i bobl ifanc. Llongyfarchodd Dîm Therapi Aml Systemig Gogledd Ddwyrain Cymru oedd wedi derbyn gwobr ar gyfer “Whatever it takes” am fynd yr ail filltir y tu hwnt i’r hyn oedd yn cael ei gydnabod drwy gydol Rhaglen Therapi Aml Systemig, a chafodd ei roi i unigolion yn y gymuned Therapi Aml Systemig sydd wedi arddangos gwasanaeth rhagorol a haeddiannol.  Fe eglurodd bod y tîm wedi cynllunio, cychwyn, cyflwyno a llwyddo trwy gydol y pandemig.

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr yr adroddiad sydd yn rhoi trosolwg o ddull partneriaeth y tîm a dywedodd bod Gogledd Cymru wedi sicrhau cyllid LlC i edrych ar greu prosiectau partneriaeth i drawsnewid y modd mae Gwasanaethau Plant yn gweithio. Roedd yr arian yn rhanbarthol ond daeth i mewn drwy ôl troed y Bwrdd Iechyd yn lleol ar gyfer Wrecsam, Sir y Fflint a BIPBC.  Roedd y prosiect newydd dderbyn gwerthusiad dros dro gan Brifysgol Brooks Rhydychen o ran sylfaen y dystiolaeth am y gwasanaeth yma.  Yr hyn oedd yn amlwg oedd y gwaith partneriaeth cadarnhaol gyda’r adran Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgolion i ddarparu cefnogaeth ddwys i blant a theuluoedd oedd ar fin derbyn gofal. Roedd hyn yn galluogi cefnogaeth ddwys, ataliol er mwyn osgoi’r angen i blant dderbyn gofal a sicrhau eu bod yn gallu aros gyda’u teuluoedd. 

 

 Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am:-

  • Asesiad Sylfaenol – Beth sy’n gweithio? - Nodweddion cyffredin – Amcanion
  • Pam Therapi Aml Systemig? - Yngl?n â Therapi Aml Systemig – Nod Therapydd Aml Systemig yw: 
  • Gweithredu
  • Y gefnogaeth hyd yn hyn
  • Gwerthuso – Canfyddiadau’r gwerthusiad
  • Canfyddiadau Allweddol
  • Cam 2

 

            Roedd y Cadeirydd yn credu bod hyn yn chwa o awyr iach yn enwedig y staff oedd yn gweithio bob awr o’r dydd a gofynnodd bod yr Uwch Reolwr yn rhoi gwybod iddynt bod y Pwyllgor yn canmol eu gwaith wrth gamu i’r adwy i gefnogi’r rhieni.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Mackie petai’r teuluoedd yma’n cael eu cefnogi i gyflawni newid gwirioneddol o ran rhianta, gobeithio y gallai hyn dreiddio lawr i’r genhedlaeth nesaf ac yn y blaen a oedd mor bwysig.  Roedd yn falch o ddarllen 1.08 o ran y tîm “Whatever it takes” a oedd yn gadarnhaol iawn.

 

            Cyfeiriodd at dudalen 34, y Dadansoddiad a’r paragraff olaf am Hanes Teulu, a gofynnodd a oedd yr awdurdod wedi cael pethau’n gywir yn y gorffennol tra’n gweithio gyda’r teuluoedd yma o ran ymyraethau, ac a fyddai symud i’r system newydd yma’n torri’r gylchred.  

 

             Wrth ymateb, fe eglurodd yr Uwch Reolwr bod ymddygiad rhai o’r teuluoedd roeddynt yn gweithio gyda nhw wedi’i hen sefydlu ac yn genedliadol, a gyda gwaith amddiffyn plant, roedd yn canolbwyntio meddyliau teuluoedd i greu newid.  Ar ôl i’r plant gael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant,  ...  view the full Cofnodion text for item 7.