Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Janet Kelly / 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham benodi Hilary McGuill yn Gadeirydd ar y cyfarfod. Eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Hilary McGuill yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Rhaglenni Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru (LlC) PDF 235 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar Raglenni Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru (LlC). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoes y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddisgrifiad manwl o’r rhaglenni llwyddiannus “Haf o Hwyl” a “Gaeaf Llawn Lles”, gan gadarnhau y rhannwyd y wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Rhagfyr 2021. Roedd yr adroddiad arfarnu cenedlaethol yn dangos mor bwysig oedd y rhaglenni hyn i bobl ifanc ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu ychwaneg o gyllid gydol y gaeaf ac eto ar gyfer y rhaglen eleni.
Rhoes y Prif Swyddog fraslun o’r prif amcanion a’r gweithgareddau a ddarparwyd, a soniodd am y cydweithio rhwng y Cyngor a phartneriaid (llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden Aura, gofalwyr ifanc, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Menter Iaith Sir y Fflint a Wrecsam, a Theatr Clwyd) yn ogystal â’r timau a fu’n cynorthwyo. Rhannodd wybodaeth yngl?n â’r modd y dosberthid y cyllid o £276,000 er mwyn anelu’r gefnogaeth at deuluoedd bregus, ac eglurodd sut y bwriedid hyrwyddo hyn i deuluoedd. Darparwyd y rhaglen ochr yn ochr â’r cynlluniau’r oedd y Cyngor eisoes wedi’u darparu ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned.
Gofynnodd y Cadeirydd gwestiynau yngl?n â darparu bwyd, hygyrchedd a chofrestru, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y darperid bwyd yn y digwyddiadau Haf o Hwyl ond nid yng nghynlluniau chwarae’r Cyngor, gan fod Llywodraeth Cymru wedi galluogi teuluoedd oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim i dderbyn taliadau uniongyrchol yn ystod y gwyliau. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno, serch hynny, i ddarparu rhywfaint o fwyd a byrbrydau yn y cynlluniau chwarae. Wrth sôn am hygyrchedd, dywedodd y Prif Swyddog y cynhelid y gweithgareddau ar wasgar ledled y sir, gyda’r nod o alluogi cynifer o deuluoedd â phosib i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol.
Wrth ateb cwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y darperid gweithgareddau ledled y sir a chytunodd y byddai’n dosbarthu gwybodaeth berthnasol ar ôl y cyfarfod. Cadarnhaodd fod y rhaglen yn targedu plant agored i niwed yn benodol gyda chymorth y timau Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Plant. Darparwyd gwybodaeth hefyd yngl?n â threfniant cyfeillio er mwyn galluogi plant i gymryd rhan mewn cynlluniau chwarae lleol.
Holodd y Cynghorydd Andy Hughes yngl?n â hyrwyddo’r digwyddiadau hyn a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol, y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd a phob dull posib arall i hyrwyddo’r rhaglen. Gofynnodd i’r Aelodau a fedrent gynorthwyo wrth drosglwyddo’r neges. Dywedodd y Cadeirydd fod manylion am y rhaglen ar wefan ei Chyngor Cymuned a bod ysgolion lleol yn cynnwys gwybodaeth yn eu newyddlenni.
Holodd y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â’r cynllun chwarae yn yr Hôb, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cysylltwyd â Chynghorau Tref a Chymuned yn gynharach yn y flwyddyn i gynnig cydweithio wrth gynnal cynlluniau chwarae yn yr haf, a chytunodd y byddai’n siarad â’r Cynghorydd Healey ar ôl y cyfarfod. Ni rannwyd gwybodaeth am yr Haf ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Diogelu mewn Addysg PDF 116 KB Diweddariad i’r Aelodau ar gyflawniad y dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio Addysg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoes yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu fraslun o’r prosesau diogelu’r oedd y Cyngor yn eu darparu a chyfraniad y Swyddogion at y Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid a’r Gwasanaethau Plant. Darparwyd gwybodaeth hefyd yngl?n â’r blaenoriaethau ar gyfer hyfforddiant diogelu a rhannu gwybodaeth allweddol ag ysgolion er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel.
Darparodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu wybodaeth yngl?n â phrif bwyntiau canllawiau Llywodraeth Cymru: Diogelu Addysg, a oedd yn cynnwys offeryn archwilio i ysgolion ei ddefnyddio, ac eglurodd fod gan yr holl ysgolion ddyletswyddau statudol, yn enwedig felly ym maes diogelu. Câi’r holl offerynnau archwilio ac adroddiadau eu hadolygu dros yr haf fel y gellid ymateb i’r themâu allweddol a hwyluso’r hyfforddiant. Rhoes fraslun o’r hyfforddiant proffesiynol a ddarperid ar y we; bu’r ymateb iddo’n gadarnhaol a defnyddiwyd y sylwadau wrth gynllunio rhaglenni hyfforddiant yn y dyfodol.
Darparwyd gwybodaeth am Gynllun Gweithredu’r Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid, a chadarnhawyd na dderbyniwyd Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru eto. Esboniwyd sut yr eid ati i sefydlu hyn mewn ysgolion yn barod ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.
Diolchodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) i’r Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu am ei gwaith. Rhoes sicrwydd i’r Aelodau fod y tîm yn darparu cyngor, hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ardderchog i ysgolion ac yn eu cyfeirio at wahanol asiantaethau. Roedd y Panel Diogelu Addysg ac Ieuenctid yn dod o dan y Panel Diogelu Corfforaethol gan sicrhau y dilynid yr holl brosesau diweddaraf.
Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry ei bod wedi gwneud yr hyfforddiant a’i bod yn ei ganmol. Yn dilyn awgrymiadau yngl?n â phynciau eraill y gellid darparu hyfforddiant ar-lein ar eu cyfer, cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu y byddai’n siarad â’r Cynghorydd Carberry wedi’r cyfarfod.
Argymhellodd y Cynghorydd Bill Crease fod yr holl Aelodau’n gwneud yr hyfforddiant, a rhoes ganmoliaeth i waith y Cyngor. Dywedodd yr Uwch-reolwr (Gwella Ysgolion) fod yr hyfforddiant newydd a’r hyfforddiant gloywi’n ffyrdd ardderchog o ddysgu. Byddai’n hapus i rannu rhywfaint o awgrymiadau ac roedd hi’n agored i unrhyw syniadau am hyfforddiant ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion. Drwy ddarparu’r hyfforddiant ar-lein bu modd darparu mwy o sesiynau.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden nad dim ond mater i ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol oedd hyn, ond yn hytrach yn rhywbeth i bawb a oedd yn gweithio yn yr awdurdod. Rhoes enghreifftiau o’r pryderon a godwyd mewn ysgolion yngl?n â chaethwasiaeth fodern, ymddygiad rheolaethol neu gam-drin oedolion bregus. Anogodd Gynghorwyr i fanteisio ar y cyfle i wneud yr hyfforddiant a magu gwell dealltwriaeth o’r materion perthnasol yn Sir y Fflint. Diolchodd i’r swyddogion a oedd yn ymdrin â’r materion hyn bob dydd mewn ysgolion a phob rhan o’r Cyngor.
|
|
Strategaeth Gomisiynu Lleoliadau (Plant) PDF 111 KB Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth Gomisiynu Lleoliadau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) y Strategaeth Comisiynu Lleoliadau a oedd yn pennu uchelgeisiau’r Cyngor a’i gynlluniau i gefnogi plant oedd yn derbyn gofal yn lleol, gan gynnwys rhoi cefnogaeth i rieni a theuluoedd i ddarparu cartrefi diogel a chariadus yn Sir y Fflint. Byddai angen gofal maeth a gofal preswyl ar rai plant a phe byddai modd eu cadw yn Sir y Fflint gallant gadw eu ffrindiau, aros yn yr un ysgolion a chadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd. Roedd hi hefyd yn haws i swyddogion yr awdurdod gynnal y gefnogaeth ac ennyn ymddiriedaeth os oedd y plant yn aros yn Sir y Fflint, ac arweiniai hynny at well canlyniadau. Byddai’n rhaid i rai plant, serch hynny, symud o Sir y Fflint er eu diogelwch a’u lles eu hunain.
Rhoes yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) wybodaeth fanwl am y dull “Mockingbird” o faethu ac eglurodd sut roedd y tair o ganolfannau’n dod â gofalwyr maeth ynghyd mewn clystyrau i gefnogi ei gilydd. Soniodd am broblemau recriwtio gofalwyr maeth a bod yr awdurdod yn dibynnu ar asiantaethau maethu annibynnol, masnachol. Roedd yr asiantaethau masnachol hynny’n recriwtio eu gofalwyr maeth eu hunain ac roedd yn rhaid i’r awdurdod brynu’r lleoliadau ganddynt am bris llawer drutach. Argymhellodd bod yr Aelodau’n ymweld ag Arosfa, cartref preswyl wedi’i reoli gan Action for Children, a oedd yn darparu gofal seibiant i blant ag anableddau, a soniodd am y gefnogaeth a ddarperid yno. Hon oedd yr unig ganolfan gofal preswyl a ddarperid yn fewnol ac roedd y Cyngor yn dibynnu’n llwyr ar y sector annibynnol. Soniodd am y lleoliadau yn y sector annibynnol yn Sir y Fflint a oedd wedi gweithio’n dda ac arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Rhoes fraslun o’r rhaglen ar gyfer datblygu cartrefi gofal preswyl, gan gynnwys dau ohonynt oedd ar y gweill yn yr Wyddgrug.
Roedd y Strategaeth yn pennu uchelgais y Cyngor ar gyfer y tair blynedd nesaf, a oedd yn gyson ag uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud i ffwrdd ag elw ym maes gofal cymdeithasol i blant. Darparwyd gwybodaeth yngl?n â chyllid, y templed a gweithio mewn partneriaeth, yn ogystal â nifer y gofalwyr maeth a lleoliadau a fyddai’n ofynnol i gyflawni hyn.
Holodd y Cynghorydd Gina Maddison pam fod pobl yn dewis asiantaethau annibynnol yn hytrach na’r Cyngor, a chadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod yr asiantaethau hynny’n codi mwy o arian ar yr awdurdod ac yn talu mwy i ofalwyr maeth. Roedd yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru’n cydweithio i ddatblygu brand a rhoes wybodaeth fanwl yngl?n â’r gwaith oedd yn mynd yn ei flaen.
Holodd y Cadeirydd yngl?n â gofalwyr a ddewisai ofalu am frodyr a chwiorydd, a chadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) y cynigid amryw gymhellion ar gyfer hynny gan fod y Cyngor yn gyflogwr oedd yn ystyriol o faethu, ac esboniwyd y rheiny ynghyd â chynlluniau eraill oedd ar gael i gefnogi brodyr a chwiorydd.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey gwestiwn yngl?n â therfyn oedran ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 PDF 100 KB Diweddariad i’r Aelodau ar weithrediad y cynllun ac unrhyw ddiweddariadau cenedlaethol/rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Eglurodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) y prif bwyntiau yn yr adroddiad, gan sôn fod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2008 wedi dod i rym yn 2008, ond heb ei gweithredu’n llawn nes Medi 2021.
Byddai’r cyfundrefnau Anghenion Addysgol Arbennig ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gweithredu ochr yn ochr am dair blynedd. Darparwyd gwybodaeth yngl?n â’r prosesau ar gyfer adnabod a oedd gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol a symud plentyn o un gyfundrefn i’r llall, ac esboniwyd y Cynlluniau Datblygu Unigol. Ers cyhoeddi’r Cod bu modd sefydlu prosesau a phaneli ar gyfer adnabod a oedd gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol a gweithredu’r Cynlluniau Datblygu Unigol.
Dywedodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) fod y Cod yn pennu nifer o swyddogaethau statudol, gan gynnwys creu swyddi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion a’r Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Blynyddoedd Cynnar â chyfrifoldeb am blant cyn ysgol. Rhoddwyd braslun o’r system ECLIPSE a oedd yn sicrhau bod ysgolion a’r awdurdod yn cyflawni eu cyfrifoldebau ac yn bodloni’r gofynion newydd ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Darparwyd gwybodaeth yngl?n â’r hyfforddiant a ddarperid i ysgolion, y gofynion newydd a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn ysgolion, yn ogystal â newidiadau ar gyfer dysgwyr ôl-16.
Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) ei bod yn aelod o’r Gr?p Llywio Cenedlaethol a sefydlwyd i gynorthwyo Cynghorau â’r Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg a sicrhau bod y gwaith o ddatblygu cynllun ariannu ôl-16 yn deg i’r holl awdurdodau lleol. Cadarnhaodd yr heriwyd Llywodraeth Cymru yngl?n â niwtraliaeth costau’r ddeddfwriaeth ADY newydd, gan gynnwys llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor hwn, ac yn sgil hynny bod Llywodraeth Cymru bellach yn darparu ychwaneg o gyllid am dair blynedd i gynghorau ac ysgolion. Rhannwyd mwy o wybodaeth hefyd am y modd y bwriedid defnyddio’r grant.
Soniodd yr Uwch-ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol fod teuluoedd ac ysgolion wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i’r system a’r prosesau newydd. Bu mwy o gydweithio â’r Cydlynwyr ADY, plant a phobl ifanc a rhieni, yn unol ag egwyddorion y Cyngor. Roedd yr ymateb yn galonogol.
Mynegodd y Cynghorydd Save Mackie bryderon y gallai hyn droi’n broses lafurus a drud i ysgolion. Soniodd am ganllawiau Llywodraeth Cymru yngl?n â’r prosesau ar gyfer dysgwyr ôl-16 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac awgrymodd bod y Cydbwyllgor yn derbyn adroddiad yngl?n â’r dull o adnabod anghenion a chomisiynu addysg ôl-16 ar gyfer pobl ifanc Sir y Fflint. Roedd y Pwyllgor o blaid yr awgrym hwn.
Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) y byddai’r cyllid dan adolygiad parhaus, a rhoes wybodaeth am gyfarfodydd y fforwm y bu swyddogion a gweinidogion Llywodraeth Cymru’n bresennol ynddynt er mwyn sicrhau fod hyn yn ganolog i’r trafodaethau. Rhoes wybodaeth fanwl am gyfarfodydd y gweithgor rhanbarthol ôl-16 a’r dull gweithredu ‘llifo drwodd’, a chytunodd i ddod ag adroddiad gerbron y Cydbwyllgor yn fuan.
Holodd Mrs Lynn Bartlett a oedd yr holl blant yn symud o un system i’r llall, ynteu a oedd rhai o’r plant nad ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Plant sy’n Derbyn Gofal yn Sir y Fflint PDF 126 KB Diweddariad i’r Aelodau ar y ddarpariaeth ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoes yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) fraslun o’r uchafbwyntiau yn y cyfnodau allweddol a’r cysylltiadau â gofal cymdeithasol. Nodwyd y ganran o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn y garfan dan sylw, ynghyd â nifer y disgyblion â Chynlluniau Datblygu Unigol yr oedd yr awdurdod yn gyfrifol amdanynt, a oedd wedi newid yn ddiweddar. Roedd y Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) â chyfrifoldeb am blant sy’n derbyn gofal wedi creu map ac amserlen ar gyfer y plant hynny er mwyn sicrhau fod yr awdurdod yn asesu eu hanghenion yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd. Soniodd am swyddogaethau’r Cydlynydd Dysgwyr Agored i Niwed a’r Rheolwr Gwasanaeth a oedd yn gweithio â phlant sy’n derbyn gofal, ysgolion a gofalwyr maeth er mwyn sicrhau fod y plant yn cael eu haddysg. Roedd y rhan helaeth o blant sy’n derbyn gofal yn cael eu haddysg mewn ysgolion prif ffrwd yn Sir y Fflint a dim ond mwyafrif bychan ag angen darpariaeth fwy arbenigol.
Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am goladu data canlyniadau’r plant hynny oedd wedi gadael yr ysgol y llynedd, ond cofnodwyd data pen y daith, a rhoes wybodaeth yngl?n â hynny. Manylodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) ynghylch y Gr?p Llywio a’r cyllid oedd ar gael i gefnogi’r plant dan sylw, yn ogystal â’r dull ysgol rithiol yr oedd Llywodraeth Cymru wrthi’n ei ystyried.
Soniodd y Cadeirydd am effaith darparu cyllid yn uniongyrchol i blant sy’n derbyn gofal wrth iddynt adael gofal, fel yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi, a holodd a oedd y swyddogion o’r farn y byddai hyn yn newid er gwell, ynteu a gredant y byddai’n cael effaith andwyol ar bobl ifanc. Awgrymodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod y Cydbwyllgor yn derbyn adroddiad ymhen 12 mis yngl?n â’r heriau a’r agweddau cadarnhaol ar y cynllun peilot, a’r modd y cefnogid pobl ifanc.
Holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r ganran o blant sy’n derbyn gofal ag anghenion addysgol arbennig, a dywedodd yr Uwch-reolwr (Ymgynnwys a Chynnydd) ei bod yn anodd barnu a oedd hi’n ofynnol i blant dderbyn gofal oherwydd eu hanghenion arbennig ynteu a oeddent yn datblygu anghenion arbennig oherwydd eu bod yn derbyn gofal, ac yn ôl pob tebyg ei bod yn gymysgedd o’r ddau. Cytunodd y byddai’n siarad â chydweithwyr yn y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a allai wybod am waith ymchwil perthnasol. Rhoes sicrwydd fod yno lawer o wasanaethau addysg a gofal cymdeithasol yn cynorthwyo plant a bod y gefnogaeth yn amrywio o un plentyn i’r llall.
Cynigiodd y Cynghorydd David Mackie ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Bill Crease y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau’n ymroi i fod yn Rhieni Corfforaethol i Blant sy'n Derbyn Gofal, gan hybu ymwybyddiaeth a herio’r ddarpariaeth yn sefydliadau addysgol Sir y Fflint; a
(b) Bod yr Aelodau’n mynd ati i annog yr holl staff addysgol i hyrwyddo lles addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal yn sefydliadau Sir y Fflint ar ‘lefel ysgol gyfan’.
|
|
Diweddariad i’r Aelodau ar gefnogaeth y Cyngor i’r cynllun Urddas Mislif. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu’r adroddiad, a oedd yn egluro sut y defnyddid cyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallai’r holl ddisgyblion gael gafael ar y nwyddau angenrheidiol. Rhoes fraslun o Gynllun Gweithredu Strategol Pum Mlynedd Llywodraeth Cymru a gyhoeddid cyn hir.
Rhoddwyd braslun o’r grantiau a ddarperid i awdurdodau lleol ac ysgolion a gwybodaeth am sut y dosberthid y nwyddau. Roedd y cyllid wedi cynyddu ac roedd gofyn bellach bod 50% o’r nwyddau’n rhai ecogyfeillgar, a darparwyd gwybodaeth hefyd am y contract a’r nwyddau a gyflenwyd.
Rhoes yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Iechyd, Lles a Diogelu wybodaeth am y contract “Hey Girls” a gomisiynwyd i ddarparu nwyddau’r oedd disgyblion yn eu dethol ac a gâi eu hanfon i’w cartrefi. Gosodwyd mwy na 2,000 o archebion ac roedd yr adroddiad yn cynnwys braslun o’r nwyddau dan sylw a’r grwpiau blwyddyn a dderbyniai gefnogaeth. Eglurodd fod nwyddau ecogyfeillgar ar gael a bod Llywodraeth Cymru’n mynnu fod 90% o’r holl nwyddau’n rhai ecogyfeillgar. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o hyblygrwydd eleni fel y gellid defnyddio’r cyllid i hyfforddi athrawon mewn ysgolion yngl?n â’r glasoed ac oedrannau addas. Byddai’r Cod ar gyfer perthnasoedd a rhywedd yn dod i rym ym mis Medi mewn ysgolion a threfnwyd nifer o weithdai i sicrhau fod yr athrawon yn barod. Rhoddwyd braslun o’r cyllid ar gyfer eleni gan gynnwys y cynlluniau i ymestyn y gwaith gyda “Hey Girls”. Roedd gwell darpariaeth hefyd ar gyfer clybiau ieuenctid, banciau bwyd, ffoaduriaid a chanolfannau cymunedol, ac roedd modd i blant a phobl ifanc 8 - 18 oed archebu ar-lein.
Rhoes y Cynghorydd Paul Cunningham ganmoliaeth i’r adroddiad a dywedodd y dylid rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i hyn er mwyn cefnogi disgyblion hynny na fedrent fforddio prynu’r nwyddau.
Dywedodd y Cynghorydd Teresa Carberry ei fod yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a bod mwy o drafodaeth agored am y mislif mewn ysgolion wrth addysgu pynciau mewn grwpiau cymysg eu rhyw. Roedd hi’n falch bod staff yn cael hyfforddiant i ddarparu hyn a dywedodd ei bod yn fendigedig bod y nwyddau ar gael yn yr ysgolion.
Rhoes y Cynghorydd Carolyn Preece ganmoliaeth i’r adroddiad ac roedd hi’n croesawu defnyddio nwyddau ecogyfeillgar.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Teresa Carberry y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cydbwyllgor yn fodlon y gwariwyd y grant yn briodol a’i fod wedi helpu i fodloni anghenion y rhai hynny yr anelwyd cynllun Llywodraeth Cymru atynt.
|
|
Aelodau o'r Wasg yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |