Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Margaret Parry-Jones 01352 702427 E-bost: margaret.parry-jones@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: I roi gwybod i’r Pwyllgor pwy yw’r Cadeirydd sydd wedi’i enwebu am weddill blwyddyn y Cyngor, yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 4 Rhagfyr 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2024, y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Llafur. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd David Evans wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd David Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigodd y Cynghorydd Bibby y Cynghorydd Ray Hughes fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lloyd.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Ray Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Tachwedd 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Bithell bod ei bresenoldeb yn cael ei gofnodi yn y cofnodion.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at ei gais am gostau gweithredu symud i fodel casglu ymyl palmant bob tair wythnos a nododd nad yw wedi derbyn y wybodaeth hon. Eglurodd y Prif Swyddog bod y wybodaeth wedi’i rhannu gyda’r Aelodau fel rhan o’r Rhaglen o’r cyfarfod galw i mewn a nododd y byddai’n sicrhau ei bod yn cael ei rhannu ar ôl y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2024 yn gofnod cywir. |
|
Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn Pwrpas: Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 19 Tachwedd 2024 yn ymwneud â Gweithredu Newidiadau i’r Casgliadau Gwastraff Gweddilliol ac Adolygu’r Polisi wedi cael ei alw i mewn. Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar ‘Weithredu Newidiadau i’r Casgliadau Gwastraff Gweddilliol ac Adolygu’r Polisi’ yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2024. Roedd y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 4307) wedi ei alw i mewn.
Roedd copïau oadroddiad y Cabinet, cofnod o’r penderfyniad a Chymeradwyo Galw i Mewn (eitem rhif 7 ar y rhaglen)wedi’u cynnwys ym mhecyn y rhaglen.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol (eitem rhif 6 ar y rhaglen) a oedd wedi’i chynnwys yn y rhaglen.
Gwahoddodd y Cadeirydd y llofnodwyr i gyflwyno’r rhesymau dros y galw i mewn i’r Pwyllgor. |
|
Gweithredu Newidiadau i’r Casgliadau Gwastraff Gweddilliol ac Adolygu’r Polisi Pwrpas: Adroddiad Prif Swyddog (Stryd a Chludiant) - Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant
Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:
· Copi o’r adroddiad - Gweithredu Newidiadau i’r Casgliadau Gwastraff Gweddilliol ac Adolygu’r Polisi · Copi o’r Cofnod o Benderfyniad · Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn - 1 · Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn - 2
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn
Ar ran y llofnodwyr, amlinellodd y Cynghorydd Swash y rhesymau dros Alw i Mewn, gan ehangu ar y rhesymau a amlinellwyd yn y rhaglen.
Ymatebion gan y Penderfynwyr
Ymatebodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth y byddai’r Polisi’n cael ei ddiwygio yn sgil y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Swash.
Gwahoddodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau i’r Penderfynwyr a’r llofnodwyr Galw i Mewn.
Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai a alwodd y penderfyniad i mewn i grynhoi.
Crynhodd y Cynghorydd Swash ar ran y rhai a alwodd y penderfyniad i mewn. Diolchodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i’r llofnodwyr am ddwyn y mater i’w sylw.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Aelodau o’r opsiynau ar gyfer gwneud penderfyniad fel y manylwyd yn eitem 6 ar y rhaglen.
Cynigodd y Cynghorydd Bibby Ddewis 3 ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peers.
Cafwyd pleidlais a chefnogwyd Opsiwn 3.
PENDERFYNWYD:
Bod, ar ôl ystyried y penderfyniad, y Pwyllgor yn atgyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried, gan nodi eu pryderon yn ysgrifenedig. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Peers, cytunwyd bod adolygiad ar ôl gweithredu’r model casglu gwastraff ymyl y palmant bob tair wythnos yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith ar gyfer mis Ionawr 2026.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Peers, cytunwyd y byddai eitem ar Wasanaethau Bws yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen Waith gan gynnwys y sefyllfa genedlaethol ac yn lleol, diweddariad ar y gwasanaeth bws Fflecsi a dibynadwyedd y gwasanaethau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Wakelam cytunwyd y byddai adroddiad ar Adolygiad Rhwystrau Mynediad yn aros ar y Rhaglen Waith.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau. |
|
Cynllun Gweithredu gorwariant yn ystod y flwyddyn 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y cynllun gweithredu yn ystod y flwyddyn, a oedd yn ceisio mynd i’r afael â sefyllfa gorwariant monitro’r gyllideb refeniw a ragwelir 2024/25 (mis 6) ar gyfer portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth.
Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Peers, awgrymodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y dylid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor yn 2025 ar arwyddion wedi’u goleuo.
Mewn ymateb i ymholiad o ran arbedion arfaethedig yn ymwneud ag ail-gaffael gwasanaeth bws lleol / newidiadau gwasanaeth i Wasanaeth 5, cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n ymdrin â’r mater gyda’r Cynghorydd Peers ar ôl y cyfarfod.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ibbotson ar awdurdodiad cyfreithiol a roddwyd gan y Cabinet i wario dros y gyllideb, gofynnwyd i’r Cynghorydd Ibbotson gyflwyno cais ysgrifenedig i’r Swyddog Adran 151 ar ôl y cyfarfod.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r mesurau o fewn cynllun gweithredu 2024/25 sy’n cael eu hystyried wrth wella’r sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. |
|
Adennill Costau am Gefnogi Digwyddiadau Cyhoeddus sy’n Effeithio ar y Briffordd Pwrpas: Cynghori am lefel y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i drefnwyr digwyddiadau, a’r angen am adennill costau cysylltiedig am ddigwyddiadau cyhoeddus sy’n effeithio ar y briffordd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) a Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) a oedd yn nodi’r fethodoleg ar gyfer adennill y costau'n llawn er mwyn diwallu’r gyllideb a gymeradwywyd.
Cytunwyd bod y cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad, nad oes cost am ddigwyddiadau coffa cenedlaethol, fel Sul y Cofio, yn cael eu cynnwys yn y ddogfen Bolisi.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Er mwyn cyflawni’r targed o ran arbedion a osodwyd yn y gyllideb ar gyfer 2024/25 gan y Cyngor, bod y Pwyllgor yn nodi:
i. cyflwyno’r polisi ffurfiol; a’r ii. fethodoleg ar gyfer adennill y costau’n llawn o ddigwyddiadau sy’n effeithio ar y briffordd. |
|
Cynlluniau gan Gomisiwn y Gyfraith i Ddiwygio Deddfwriaeth Claddu ac Amlosgi Pwrpas: Adolygu’r ffioedd tanysgrifiad gwastraff gardd arfaethedig ar gyfer tymor casglu 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) a Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) yn amlinellu papur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith a manylion o ran ymateb arfaethedig y Cyngor i’r ymgynghoriad, gan ddarparu trosolwg o’r cynigion i ddiwygio deddfwriaeth a’r risgiau a’r effeithiau posibl ar yr awdurdod lleol o ran dyletswyddau, costau ac adnoddau ychwanegol.
Cytunwyd y byddai’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu cynnwys yn yr ymateb i’r ymgynghoriad.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau arfaethedig i gyfraith claddu ac amlosgi sy’n destun ymgynghoriad gan Gomisiwn y Gyfraith; ac
(b) Yn amodol ar gynnwys y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor; bod y Pwyllgor yn cefnogi cyflwyno’r ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar ran Cyngor Sir y Fflint. |
|
Diweddariad Rhwystrau Mynediad Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar weithredu gwelliannau mynediad i’r Llwybr Arfordir Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a Rheolwr Gwasanaeth - Mynediad at Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol adroddiad (eitem rhif 12 ar y rhaglen) yn crynhoi’r dull fesul cam sydd ar y gweill i dynnu’r holl rwystrau mynediad “ffrâm A”.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bibby, eglurwyd i’r Pwyllgor y byddai’r aelodau lleol, ynghyd â budd-ddeiliaid eraill, yn cael gwybod am y cynigion yn ardal eu ward.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ac yn cefnogi’r gwaith i wella hygyrchedd Llwybr Arfordir Cymru. |
|
Aelodau O'r Wasg A'r Cyhoedd Yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |