Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

23.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

24.

Cofnodion pdf icon PDF 89 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Gorffennaf 2023.

.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2023.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod y cofnodion yn gywir gan y Cynghr. Roy Wakelam a Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

25.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ar yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a dywedodd fod y ddau gam gweithredu a oedd yn weddill wedi’u cwblhau. Cyfeiriodd hefyd at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd wedi’u rhestru dan gyfarfodydd nesaf y Pwyllgor ar 10 Hydref ac 14 Tachwedd 2023.

 

Gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig unrhyw eitem arall yr oeddent yn dymuno ei chynnwys ar y Rhaglen. Cynigiodd y Cyng. Mike Peers y dylid cael eitem ar orfodi er mwyn ystyried materion sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi a nododd parcio, mannau cyhoeddus, rheoli c?n a baw c?n fel enghreifftiau. Cytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn amodol ar y newidiadau uchod;

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

26.

Adolygu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf pdf icon PDF 125 KB

Ceisio argymhelliad Craffu ar gyfer cymeradwyo’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig sy’n cynnwys manylion ymateb y Cyngor yn ystod digwyddiadau tywydd anffafriol eraill mewn argyfwng.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf diwygiedig, sy’n cynnwys manylion ymateb y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd garw brys.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gofynnodd i Reolwr y Rhwydwaith Priffyrdd gyflwyno’r adroddiad a oedd yn amlinellu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf cyfredol (Atodiad 1), y gofynion deddfwriaethol wrth ddarparu gwasanaeth o’r fath, a’r camau a gymerir gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gefnogi gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn amlinellu ymateb y sir i achosion eraill o dywydd gwael megis glaw trwm a gwyntoedd cryfion.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Roy Wakelam at adran 3.3.1 y Polisi yngl?n â deunyddiau dad-rewi sy’n awgrymu bod y contract graeanu wedi dod i ben. Dywedodd Reolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod yna wall yn y Polisi ac y byddai’n rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ddyddiadau’r contract newydd. Ychwanegodd fod y contract yn cael ei drafod yn genedlaethol.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Mike Peers at y ddyletswydd i sicrhau, cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol, nad yw teithio'n ddiogel ar hyd priffordd yn cael ei beryglu gan eira neu rew(Deddf Priffyrdd 1980, Adran A1), a thynnodd sylw pawb at ffordd a aeth yn rhewllyd oherwydd d?r wyneb. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a phryderon pellach gan y Cyng. Peers ynghylch biniau gaean, gorsafoedd tywydd, trefn blaenoriaethu ffyrdd, a chontractwyr amaethyddol. Eglurodd y Prif Swyddog sut y defnyddir rhagolygon gorsafoedd tywydd, a sut caiff llwybrau pwysig a strategol eu blaenoriaethu.

 

Ymatebodd y swyddogion hefyd i gwestiynau’r Cyng. Richard Lloyd mewn perthynas â dyrannu biniau graean, dosbarthu bagiau tywod i ardaloedd gyda pherygl llifogydd, a recriwtio gyrwyr.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiwn gan y Cadeirydd ar effaith ddisgwyliedig terfyn cyflymder newydd Llywodraeth Cymru o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar draws Cymru ar ddarpariaeth y gwasanaeth.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghr. Mike Peers a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

a)         Nodi’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf diwygiedig fel y’i cyflwynir yn yr adroddiad hwn ac sydd ynghlwm wrth Atodiad 1;

(b)       Nodi ymateb y portffolio i’r tywydd garw a gafwyd yn ystod 2022-2023;

 

(c)        Cefnogi’r angen parhaus i gynnal y gyllideb refeniw fel y mae ynghyd â gwerth £250,000 o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi;

 

(d)       Cyflwyno adroddiad arall i’r Pwyllgor yn 2024 yn dilyn adolygiad y

darparwr rhagolygon tywydd o dymor 2023-2024 mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynghylch triniaethau lleoliadau penodol.

 

27.

Adolygu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) pdf icon PDF 105 KB

Adolygu’r PSPO cyfredol cyn i’r Cabinet ei ystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned yr adroddiad i adolygu’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol cyn i’r Cabinet eu hystyried. Darparodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ymchwiliadau Safonau Masnach a Diogelwch Cymunedol a Rheolwr Tîm (Gweinyddu a Gorfodi Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) gyflwyniad ar y cyd a oedd yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol:

 

  • Mapiau o’r mynediad newydd
  • Canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n
  • Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol – rheoli alcohol
  • Canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus – Alcohol
  • Gorfodi Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n
  • Camau Nesaf

 

Gwnaeth y Cyng. Richard Lloyd sylw ar yr angen am wella arwyddion a gorfodi mewn rhai ardaloedd.

 

Gwnaeth y Cyng. Mike Peers sylw ar yr anawsterau posibl y gall pobl h?n neu bobl anabl gyda symudedd gwael godi baw ci a dywedodd bod angen ystyried beth yw’r ffordd orau i ddelio â’r broblem hon. Ymatebodd y swyddogion i sylwadau’r Cyng. Peers yngl?n â’r ymateb a roddwyd i’r ymgynghoriad ar dudalen 72 a 73 yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cyng. Andrew Parkhurst a fyddai eithriadau yn cael eu gwneud i bobl sy’n defnyddio c?n tywys neu g?n cymorth eraill.

 

 

 

Hefyd, gofynnodd y Cyng. Andrew Parkhurst pan nad oedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn caniatáu i’r cyhoedd wneud sylwadau gan mai ymgynghoriad oedd yn hytrach na refferendwm, a dywedodd fod y sylwadau a anfonwyd ar wahân ar e-bost yn ei farn ef yn darparu mwy o wybodaeth nag edrych ar ganran yr ymatebion i bob cwestiwn. Derbyniodd y swyddogion y pwynt a dweud y bydd ymgynghoriadau eraill ynghylch Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn cynnwys cyfleuster i ychwanegu sylwadau. Gofynnodd y Cadeirydd i bob ymgynghoriad y Cyngor Sir gynnwys lle i wneud sylwadau.

 

Cytunodd y swyddogion i ymateb i’r Cyng. Mike Allport ar ôl y cyfarfod ar fater penodol a gododd yn ymwneud â darn o dir yn ward Higher Kinnerton.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cyng. Bill Crease a’u heilio gan y Cyng. Mike Peers. Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Estyn y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus i gynnwys rheoli c?n ac alcohol yn Sir y Fflint.

 

Bydd gofyn i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus sicrhau bod

unigolion sy’n gyfrifol am gi yn gwneud y canlynol:

 

(i)  Cael gwared ar wastraff eu ci o’r holl lefydd cyhoeddus yn Sir y Fflint.

(ii) Gwahardd cymryd, neu ganiatáu i’r ci fynd neu aros yn yr ardaloedd canlynol:

– ardal o fewn tir ysgol

– ardaloedd chwarae meysydd chwaraeon wedi’u marcio

– ardaloedd chwarae mewn ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tennis

– ardaloedd chwarae plant caeedig

– llwybr gyda ffensys o amgylch The Rosie, Parc Gwepra, Cei Connah, fel y nodir ar Fap 1 (Atodiad 3)

– Parc Coffa’r Wyddgrug, Maes Bodlonfa, yr Wyddgrug fel y nodir ar Fap 2 (Atodiad 4)

(iii) Cadw eu ci ar  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Y wybodaeth ddiweddaraf am glefyd coed ynn pdf icon PDF 2 MB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar sut mae Cyngor Sir y Fflint wedi mynd i’r afael â chlefyd coed ynn yn 2022/23 yn unol â Chynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar sut mae Cyngor Sir y Fflint wedi mynd i’r afael â chlefyd coed ynn yn 2022/23 yn unol â Chynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019. Darparodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. Bill Crease eglurodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol fod cwmpas cyfyngedig i ad-ennill cost torri coed.

 

Gofynnodd y Cyng. Mike Peers a yw Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw gymorth ariannol i awdurdodau lleol fynd i’r afael â chlefyd coed ynn, sy’n broblem genedlaethol a gwnaeth sylwadau ar y cynnydd posibl yn y gost yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol i sylwadau’r Cyng. Peers a darparodd wybodaeth ar gwestiwn arall a ofynnwyd yngl?n â’r rhaglen adfer i ailblannu coed yn lle’r coed a dorrwyd oherwydd y clefyd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghr. Richard Lloyd a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf a chefnogi swyddogion gyda’u gwaith parhaus i fynd i’r afael â chlefyd coed ynn.

 

29.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.32am)