Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

11.

Cofnodion pdf icon PDF 74 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Mai 2023.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai 2023.

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel cofnod cywir, fel y cynigiwyd gan y Cynghorydd Ian Hodge a’r Cynghorydd Dan Rose.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

12.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.  Nododd y byddai eitem ychwanegol, y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 11 Gorffennaf 2023.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod y camau a oedd yn weddill wedi eu cwblhau.  Tynnodd sylw at y gweithdai a gynhelir ar 18 Hydref 2023 ar yr Adolygiad o Strategaeth Gludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint.  

 

Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Chris Dolphin y dylid ychwanegu eitem ar gyfer darparu data ar nifer y cerbydau casglu gwastraff sy’n torri lawr at y Rhaglen.   Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) bod rhai problemau gweithredol wedi bod a dywedodd y byddai’r Rheolwr Gwasanaeth yn cysylltu â’r Cynghorydd Dolphin i drefnu cyfarfod i drafod y problemau a godwyd.  Cytunwyd i gyflwyno adroddiad ar gasgliadau a fethwyd ar ddibynadwyaeth fflyd yn y cyfarfod ym mis Hydref.  

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn amodol ar y newidiadau uchod;

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. 

 

13.

Cyflwyniad gan Reolwr y Rhaglen Ynni Uchelgais Gogledd Cymru

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa bresennol y prosiectau rhaglen Ynni carbon Isel.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr eitem i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa bresennol prosiectau’r rhaglen Ynni Carbon Isel.   Darparodd wybodaeth gefndirol a chyflwynodd Henry Aron, Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel Uchelgais Gogledd Cymru.

Rhoddodd Mr Aron gyflwyniad ar y Rhaglen ynni Carbon Isel a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

 

  • ein Partneriaid
  • amcanion
  • buddsoddiad
  • Bargen Dwf Gogledd Cymru - Rhaglen Ynni Carbon Isel
  • Cronfa Ynni Lleol Clyfar
  • Her Noddi Hydrogen 
  • Prosiect Trawsfynydd
  • Prosiect Cydnerth (Morlais)
  • Prosiect Egni 

 

Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel i’r sylwadau gan y Cynghorydd David Healey ar gynigion Porthladd Mostyn a rhoddodd wybod am y cyfle drwy gyllid diweddar gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau allweddol.  Nododd Reolwr y Rhaglen hefyd bod cynlluniau ar gyfer prosiectau gwynt sylweddol ym môr Iwerddon ac roedd Uchelgais Gogledd Cymru’n awyddus i ymgymryd â rôl allweddol ym mhorthladdoedd Gogledd Cymru o ran adeiladu, cynnal a chadw, a gweithredu’r prosiectau, yn arbennig ym mhorthladdoedd Caergybi a Mostyn.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am wybodaeth ynghylch sut fyddai preswylwyr yn Sir y Fflint yn elwa o’r prosiectau. Cynghorodd y Rheolwr Rhaglen bod nifer o brosiectau yn Sir y Fflint a nododd brosiect Warren Hall fel enghraifft.    Cyfeiriodd at y Rhaglen Ynni ac eglurodd y gallai’r Gronfa Ynni Lleol Clyfar gefnogi prosiectau yn Sir y Fflint a soniodd am y prosiect ‘Pobl y gallaf eu helpu’ a darparodd enghreifftiau o gynlluniau eraill a fyddai’n darparu cyfleoedd a buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol i ardal Sir y Fflint.

 

Nododd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) er efallai na fydd prosiect wedi’i leoli o fewn Sir y Fflint dan y Rhaglen Ranbarthol, roedd cadwyn gyflenwi i gynorthwyo â’r ddarpariaeth.     Soniodd hefyd am y cysylltiad uniongyrchol gydag ysgolion lleol, colegau a phrifysgolion i gefnogi gwaith Uchelgais Gogledd Cymru drwy ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen gan weithlu’r dyfodol i weithio ar y rhaglenni.  

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a oedd unrhyw gynlluniau i ailgylchu batris cerbydau.   Cydnabyddodd y Rheolwr Rhaglen y pwynt a wnaed gan y Cynghorydd McGuill a rhoddodd wybod y byddai’r Gronfa Ynni Lleol Clyfar yn hyrwyddo cyflwyniadau ac yn codi ymwybyddiaeth o unrhyw gyfleoedd posibl cyn gynted â phosibl.  

 

Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Chris Bithell ar brosiectau ynni llanw.   Ymatebodd hefyd i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Dan Rose mewn perthynas â chyllid Ynni Lleol Clyfar, a’r hwb hydrogen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a oedd unrhyw gyllid ar gael i alluogi perchnogion tai i gynhyrchu eu trydan domestig eu hunain drwy osod paneli solar ar eu heiddo.   Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen wybod na fyddai’r Gronfa Ynni Lleol Clyfar yn derbyn ceisiadau gan aelwydydd unigol yn sgil diffyg adnoddau ond y byddent yn ystyried ceisiadau gan brosiectau cymunedol.

 

PENDERFYNWYD:

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

Item 5 - Presentation slides pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

14.

Cynllun Dychwelyd Ernes Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 133 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y cynllun dychwelyd ernes arfaethedig gan Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar Gynllun Dychwelyd Ernes arfaethedig Llywodraeth Cymru.   Darparodd wybodaeth gefndirol a nododd fod y Cynllun Dychwelyd Ernes arfaethedig wedi derbyn cefnogaeth gref fel yr amlinellwyd yn ymateb y llywodraeth. Roedd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledigwedi cadarnhau y byddai’n gweithio gyda’r diwydiant, Llywodraeth Cymru, a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon, i sefydlu’r cynllun.  Y dyddiad dechrau disgwyliedig oedd Hydref 2025.   Darparodd yr adroddiad drosolwg o’r cynigion a’r diweddaraf ar y camau nesaf i ddarparu’r cynllun yng Nghymru.

 

Roedd y Cynghorydd Vicky Perfect yn cefnogi’r cynllun.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) i’r cwestiynau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dan Rose mewn perthynas â chyfraddau ailgylchu ac eglurodd mai bwriad y cynllun oedd cynyddu ailgylchu yn y dyfodol.   Cyfeiriodd hefyd at y Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig am ddiwygiadau Pecynnu a oedd yn destun ymgynghoriad ochr yn ochr â’r Cynllun Dychwelyd Ernes a dywedodd y byddai adborth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol unwaith y byddai rhagor o wybodaeth ar gael.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill p’un a oedd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn gynllun ‘ailgylchu’ neu ‘ailddefnyddio’ a gofynnodd sut fyddai’n cael ei weithredu a ph’un a fyddai’r taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’r defnyddiwr ar ôl dychwelyd yr eitem.   Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn glir ar hyn o bryd p’un a oedd y Cynllun Dychwelyd Ernes yn gynllun ‘ailgylchu’ neu ‘ailddefnyddio’ nes bydd rhagor o wybodaeth ar gael.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon am yr elfennau anhysbys mewn perthynas â gweithrediad y cynllun, yr adnoddau a oedd eu hangen, a pharodrwydd defnyddwyr i gymryd rhan.   Awgrymodd y gellid diwygio’r argymhelliad yn yr adroddiad fel a ganlyn: bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynigion i ddarparu Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru.   Eiliwyd hyn a chafodd ei gefnogi gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynigion i ddarparu  

Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru.                                                                                  

 

15.

AELODAU'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.15am)