Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Media

Eitemau
Rhif eitem

35.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

36.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Hydref a  15 Tachwedd 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Hydref a 15 Tachwedd 2022.

 

Materion yn Codi

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd a’r drafodaeth a gafwyd, fel yr oedd wedi’i chofnodi ar dudalen 15 ar y Rhaglen, yngl?n â thrwyddedau faniau.  Gofynnodd y Cynghorydd Peers am gadarnhad bod y Polisi wedi’i newid fel y cytunodd y Pwyllgor.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod y Polisi wedi’i newid gyda’r geiriad diwygiedig yn ôl y cais.

 

Cynigiwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Hydref a 15 Tachwedd 2022 gan y Cynghorydd Mike Peers ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ian Hodge.

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

37.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried.  Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u trefnu i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd i gael ei gynnal ar 10 Ionawr 2023 a soniodd am yr eitemau i’w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.  Rhoddodd yr Hwylusydd hefyd ddiweddariad ar gynnydd i drefnu gweithdy ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Chwefror i ystyried parcio y tu allan i’r ysgol.

 

Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill i’w cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen. 

 

Rhoddodd yr Hwylusydd ddiweddariad am waith ar y gweill ar yr eitemau oedd yn weddill yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y bwriad o gynnal gweithdy ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ym mis Chwefror i fynd i’r afael â pharcio cerbydau y tu allan i ysgolion a gofynnodd a fyddai modd cynnal hwn cyn cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Chwefror 2023.  Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod y cyfarfod ar y cyd ym mis Chwefror i roi gwybod i’r Pwyllgorau Craffu am y sefyllfa bresennol a phennu ffordd ymlaen. 

 

 Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

38.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

39.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.

Cofnodion:

Cynigiwyd symud i 2il Ran y cyfarfod gan y Cynghorydd Mike Peers ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ian Hodge.

                                                                                                                    

                      Darparwyd cyflwyniad ar y cyd gan Brif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), a Phrif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • pwrpas a chefndir
  • atgoffa am sefyllfa Cyllideb y Cyngor
  • pwysau costau Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
  • crynodeb o bwysau costau Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
  • toriadau i gyllideb Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
  • arbedion effeithlonrwydd Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn y gorffennol
  • her cyllideb 2023/24 – ein dull o ymdrin â hi
  • crynodeb – toriadau i gyllideb Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi
  • pwysau costau Gwasanaethau Stryd a Chludiant
  • crynodeb o bwysau costau Gwasanaethau Stryd a Chludiant
  • toriadau i gyllideb Gwasanaethau Stryd a Chludiant
  • arbedion effeithlonrwydd Gwasanaethau Stryd a Chludiant yn y gorffennol
  • her cyllideb 2023/24 – ein dull o ymdrin â hi
  • crynodeb – toriadau i gyllideb Gwasanaethau Stryd a Chludiant
  • camau nesaf ar gyfer y broses o osod cyllideb 2023/24
  • proses y gyllideb – Cam 2
  • proses y gyllideb – Cam 3 (Terfynol)

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Hodge yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dan Rose.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi pwysau costau portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi;

 

(b)       Nodi opsiynau portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i gwtogi cyllidebau;

 

(c)        Nodi pwysau costau’r portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant; a

 

(d)       Nodi opsiynau’r portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant i gwtogi cyllidebau.

 

 

40.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.40am)