Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Media

Eitemau
Rhif eitem

17.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Mike Peers, Tina Claydon, Chris Bithell ac Ian Hodge gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem rhif 10 ar y rhaglen: Adfywio Canol Trefi.

 

Datganodd y Cynghorydd Teresa Carberry gysylltiad personol ag eitem rhif 4 ar y rhaglen oherwydd ei bod yn rhan o brosiect ailgylchu gwisgoedd ysgol.

 

18.

Cofnodion pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Gorfennaf 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 5 Gorffennaf 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

 

19.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u trefnu i gael eu hystyried yn y dyfodol a gwahoddodd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen.

 

Gan gyfeirio at adran 1.07 yn yr adroddiad, awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylai’r eitem ar Barcio y Tu Allan i Ysgolion gael ei hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi. Cytunwyd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnal cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Gofynnodd y Cynghorydd Peers hefyd am gael cynnwys eitemau ar Wasanaethau Priffyrdd, Draenio a Phrofedigaeth ar y Rhaglen.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai’n rhaid symud yr eitem ar y Strategaeth Toiledau Lleol, a oedd i fod i gael ei hystyried yn y cyfarfod ar 15 Tachwedd, i’r cyfarfod ar 10 Ionawr 2023.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y gellid cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am Glefyd Coed Ynn i’r cyfarfod ar 15 Tachwedd.

 

Adroddodd yr Hwylusydd ar yr eitemau oedd yn weddill yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a rhoddodd ddiweddariad ar waith ar y gweill. Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) ddiweddariad cryno ar gynnydd yr Adolygiad o Rwydweithiau Bysiau. Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio ddiweddariad ar gynnydd mewn perthynas â ‘Gwirio Eich Diwrnod Casglu’.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers ac Ian Hodge.

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn amodol ar y newidiadau uchod;

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

20.

Cyflwyniad i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Adroddiad Chwarterol pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Cyflwyniad i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a diweddariad chwarterol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndir am Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Rhoddodd Hedd Vaughan Evans, David Matthews a Henry Aron, Uchelgais Gogledd Cymru, gyflwyniad ar y cyd ar Fargen Dwf Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

 

  • Bargen Dwf Gogledd Cymru - Ch1 a diweddariad diwedd blwyddyn
  • Ein gweledigaeth
  • Egwyddorion
  • Amcanion
  • Buddsoddiad
  • Ein strwythur
  • Cyflawniadau 2021-2022
  • 5 Rhaglen:

o   Bwyd Amaeth a Thwristiaeth

o   Cysylltedd Digidol

o   Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

o   Ynni Carbon Isel

o   Tir ac Eiddo

 

Croesawodd y Cynghorydd David Healey y prosiect a siaradodd o blaid y buddion y gellid eu cyflawni drwy greu cyfleoedd cyflogaeth, sgiliau ac amodau carbon niwtral.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y dyhead ar dudalen 36 yr adroddiad, sef bod Gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i ddod yn arweinydd byd-eang a gofynnodd a oedd y cynllun llanw yn cael ei gyflawni ac os oedd prosiectau eraill ar y gweill, gan nodi ffermydd gwynt a solar fel enghreifftiau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y datblygiad lleol ar dir maes glas ym Manor Lane, Brychdyn, a oedd wedi’i leoli ger Airbus ac yn agos at Barth Menter Glannau Dyfrdwy a gofynnodd pa fath o waith fyddai’n cael ei greu ar y safle.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Peers, cyfeiriodd Henry Aron at y gwaith gyda Llywodraeth Cymru ar Strategaeth Ynni Rhanbarthol Gogledd Cymru a oedd yn rhoi golwg gyfannol ar dechnolegau a mathau eraill o ynni a fyddai angen eu datblygu ar draws Gogledd Cymru. Rhoddodd ddiweddariad ar gynnydd y prosiect llanw hefyd. Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad lleol yn ymwneud â safle Warren Hall.

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y CynghorwyrDan Rose a Mike Peers.

PENDERFYNWYD:

Nodi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-22.

 

 

21.

Canlyniad yr Archwiliad Hyfforddiant Statudol pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i Craffu am ganlyniad yr archwiliad mewnol hyfforddiant statudol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau y cytunwyd arnynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i roi gwybod i Craffu am ganlyniad yr archwiliad mewnol hyfforddiant statudol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau y cytunwyd arnynt. Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio a’r Rheolwr Cydymffurfedd a Hyfforddiant i roi cyflwyniad ar y cyd a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:

 

  • gofynion hyfforddiant statudol
  • Trosolwg o’r Tîm Cydymffurfedd a Hyfforddiant
  • Cyfleuster Hyfforddiant y Cyngor
  • Archwiliad Hyfforddiant Statudol
  • Archwiliad Hyfforddiant Statudol - canlyniad
  • y camau a gytunwyd arnynt a diweddariadau

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at adran 1.05 yn yr adroddiad a’r 2,400 o ddigwyddiadau hyfforddiant a gofynnodd am eglurder yngl?n â beth yn union oedd yn cael ei ystyried yn ‘ddigwyddiad’. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio esboniad a dywedodd y byddai un person yn mynychu un cwrs yn cyfrif fel digwyddiad hyfforddi.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y camau allweddol a oedd wedi cael eu cytuno a gofynnodd a fyddai’r dangosydd perfformiad yn symud o oren-coch i wyrdd o ganlyniad, neu a oedd angen ail archwilio i gadarnhau’r camau gweithredu. Gofynnodd gwestiynau hefyd yngl?n â sut oedd gweithwyr cerbydau gwastraff yn cael eu hyfforddi. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at dudalen 97 yn yr adroddiad a gofynnodd gwestiynau pellach yngl?n â’r dyddiad cwblhau ar gyfer newid fflyd yr awdurdod i gerbydau trydan a thanwydd amgen (hydrogen ac ati), a cheisiodd eglurder ar y dasg ‘Datblygu rhwydwaith gwefru ceir trydan y Sir’. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd a gwahoddodd yr Aelodau i ymweld â’r cyfleuster hyfforddiant os oeddent yn dymuno gwneud hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Hodge yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi gwaith Tîm Cydymffurfedd a Hyfforddiant y Gwasanaethau Stryd a Chludiant; a

 

(b)       Chefnogi’r camau gweithredu a gymerwyd a’r rheolyddion a roddwyd ar waith mewn ymateb i argymhellion archwilio mewnol.

 

22.

Adolygu Amserlen Cynllun y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Adolygu amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 22/23 yn dilyn cais gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i adolygu’r amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dilyn cais gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr amlinelliad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022/23, yn cynnwys y chwe thema, eu blaenoriaethau a chamau gweithredu, wedi’u hatodi i’r adroddiad. Yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf, gofynnwyd bod yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn adolygu’r amserlenni gweithredu a rhai o’r diffiniadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y cwestiynau a oedd wedi’u codi ar dudalen 97 yr adroddiad yngl?n â’r dyddiad cwblhau ar gyfer newid fflyd yr Awdurdod i gerbydau trydan a thanwydd amgen (hydrogen ac ati) a gofynnodd a oedd y dasg ‘Datblygu rhwydwaith gwefru ceir trydan y Sir’ a Chyflawni targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru wrthi’n cael eu datblygu neu’n weithredol. Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybodaeth bellach wrth ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Peers. Gofynnodd y Cynghorydd Peers a fyddai’n bosib rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd y broses i newid fflyd yr Awdurdod i gerbydau trydan a thanwydd amgen, mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Mike Peers ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo amserlenni Rhan 1 Cynllun y Cyngor sydd wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru.

 

23.

Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I Cytuno y Blaenoriaethau, yr Is-flaenoriaethau a'r Amcanion Llesiant arfaethedig ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y blaenoriaethau, yr is-flaenoriaethau a’r amcanion lles ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd fod ‘uwch-strwythur’ y Cynllun yn cynnwys 7 blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y 7 blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar adfer, prosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf. Roedd y blaenoriaethau a’r is-flaenoriaethau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor ynghlwm wrth yr adroddiad. Byddai Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei hystyried gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2023/28 a’i fesurau a’u targedau.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Teresa Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi blaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

24.

Parc Arfordir Sir y Fflint pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i aelodau am y datblygiadau o ran y gwaith cwmpasu er mwyn sefydlu Parc Arfordir a chytuno ar yr argymhellion i’w gweithredu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol adroddiad i roi gwybodaeth yngl?n â chynnydd y gwaith cwmpasu i sefydlu Parc Arfordir ac i gytuno ar yr argymhellion ar gyfer gweithredu. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod y cydsyniad o Barc Arfordir Sir y Fflint wedi cael ei ail-archwilio drwy gomisiynu astudiaeth gwmpasu a oedd yn adolygu astudiaethau achos a chynseiliau cyn dadansoddi’r manteision a’r cyfyngiadau. Awgrymodd yr astudiaeth olion parc arfordir posibl a chamau ar gyfer gweithredu. Byddai Parc Arfordir i Sir y Fflint yn rhoi ysgogiad a ffocws newydd

i’r arfordir, gan godi proffil y blaendraeth a galluogi cymunedau a

busnesau i weithio’n gynaliadwy ac yn arloesol i helpu i ddarparu ffyniant amgylcheddol,

economaidd a chymdeithasol.

 

Tynnodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol sylw at y 4 dewis a amlinellwyd yn adran 1.07 yr adroddiad, y camau nesaf a’r amserlenni.

 

Siaradodd y Cynghorydd David Healey o blaid dewis 2.

 

Canmolodd y Cynghorydd Vicky Perfect waith y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’i dîm ar Lwybr yr Arfordir. Hefyd, diolchodd i Mike Taylor am atgyweirio amddiffynfeydd ar lwybr yr arfordir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 130, paragraff 2.27 yr adroddiad, a gofynnodd a fyddai’n bosib cyflwyno adroddiad pellach mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i roi gwybodaeth am y cyfleusterau a fydd yn cael eu darparu yn y Parc Arfordir. Mynegodd y Cynghorydd Peers bryderon bod y goblygiadau ariannol o ddarparu Parc Arfordir Sir y Fflint yn anhysbys ar hyn o bryd, a dywedodd y byddai’r holl brosiectau yn destun ystyriaeth drylwyr o ystyried y bwlch yng nghyllideb y Cyngor ar hyn o bryd.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Tina Claydon sicrwydd y byddai bywyd gwyllt yn cael ei ddiogelu yn y cynigion.

 

Soniodd y Cadeirydd am yr angen i uno’r llwybr rhwng Cei Connah a’r Fflint.

 

Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd.

         

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Roy Wakelam a Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys yr astudiaeth gwmpasu a symud ymlaen â Pharc Arfordir Sir y Fflint fel endid anffurfiol, lleol;

 

(b)       Dewis 2 oedd yr ôl troed a ffefrir ar gyfer y parc arfordir;

a

 

(c)      Bod y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol yn sefydlu Gr?p

Llywio Parc Arfordir Sir y Fflint er mwyn symud ymlaen â’r camau gweithredu nesaf.

 

25.

Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr ymatebion lleol sy’n cael eu cynllunio a’u darparu i adfywio canol trefi Sir y Fflint ac am fynd i’r afael ag eiddo gwag drwy gamau gorfodi. Argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Camau Gorfodi drafft a’r dull arfaethedig i ddatblygu Cynlluniau Bro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth gefndir ac adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyd-destun strategol ar gyfer adfywio canol trefi a’r rhaglenni gwaith sydd yn weithredol ar hyn o bryd. Ar ben hynny, roedd yn darparu manylion am ddatblygiad Cynlluniau Lleoedd a’r camau gorfodi angenrheidiol i fynd i’r afael ag eiddo gwag yng nghanol trefi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers os byddai adfywio canol trefi yn cynnwys ystyried yr uwchgynlluniau presennol neu a fyddai’r Cynlluniau Lleoedd yn disodli’r uwchgynlluniau. Cyfeiriodd hefyd at adran 1.14 yn yr adroddiad a gofynnodd pryd fyddai’r Cabinet yn cymeradwyo’r meini prawf i’w ddefnyddio i flaenoriaethu eiddo ar gyfer ymyrryd. Gofynnodd y Cynghorydd Peers a fyddai’n bosib darparu manylion yngl?n â chyfranogiad Aelodau Lleol wrth greu Cynlluniau Lleoedd ac amserlenni. Soniodd y Cynghorydd Peers am y broblem o eiddo masnachol gwag yng nghanol trefi a dywedodd mai’r adborth a gafwyd oedd bod y ffioedd rhent yn rhy uchel, a gofynnodd a fyddai modd edrych ar hyn. Ymatebodd y Rheolwr Menter ac Adfywio i’r pwyntiau a wnaed.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at dudalen 179, adran 2.01 yn yr adroddiad, a gofynnodd a fyddai’r arian cyfatebol yn dod o berchnogaeth breifat o eiddo neu gan y Cyngor. Soniodd y Cynghorydd Bithell am y bwlch yn y gyllideb i’w drafod gan y Cyngor. Wrth ymateb, eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y byddai angen i’r sector cyhoeddus ddarparu’r balans.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r gofynion i ddatblygu Cynlluniau Lleoedd ar gyfer y 7 tref

(Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton)yn Sir y Fflint, a chefnogi’r drefn y bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei gwblhau o fewn cyfyngiadau’r adnoddau sydd ar gael; a

 

(b)       Nodi’r gofyniad i fynd i’r adael ag eiddo gwag yng nghanol trefi drwy

gamau gorfodi, a chefnogi’r meini prawf a’r dull a ddefnyddir.

 

 

26.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 12.28 pm)