Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Jan Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

44.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

45.

Cofnodion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arChwefror 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2021.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at y paragraff olaf ar dudalen 6 a dywedodd fod ei gwestiwn mewn perthynas â darpariaeth untro o dywod a bagiau tywod i'w defnyddio gan y tîm ymateb yng Nghyngor Cymuned Penarlâg. Mewn ymateb, rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) esboniad pam y daeth y polisi bagiau tywod i rym, y costau dan sylw a hefyd amlinellu'r problemau storio posibl y gallai cymunedau eu hwynebu drwy storio'r bagiau a llawer iawn o dywod. Rhoddodd sicrwydd i’r Cynghorwyr y byddai cymorth yn cael ei ddarparu pe bai llifogydd.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at dudalen 8 o'r cofnodion a gofynnodd am gywiriad i'r cynigydd – cafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Chris Dolphin nid y Cynghorydd Chris Bithell.

Cafodd y cofnodion eu cynnig a'u heilio gan y Cynghorwyr Sean Bibby a Paul Shotton.

PENDERFYNWYD:

Ar ôl ychwanegu'r ddau gywiriad, y dylid cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

46.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd yr adroddiad a chyfeiriodd aelodau at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar dudalen 17. Rhoddodd ddiweddariad o'r eitemau a ddygwyd i gyfarfod 12 Mai ac esboniodd y byddai'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cynnwys gwybodaeth am ganlyniad yr Arbrawf Agregau a Thyllau yn y ffordd. Yna cyfeiriodd yr Hwylusydd at y cyfarfod ar 8 Mehefin gan gadarnhau yn ychwanegol at adroddiad Cynllun Diwedd y Flwyddyn, Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon, y byddai diweddariad ar Lifogydd a Cefnogaeth â Chymorth hefyd yn cael ei drafod yn y cyfarfod hwnnw. O ran cyfarfod 6 Gorffennaf, cadarnhaodd yr Hwylusydd y byddai'r adroddiad Hawliau Tramwy Cyhoeddus, fel y'i cyflwynwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin, a Dyheadau Tanwydd Hydrogen yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwn.

            Yna cyfeiriodd yr Hwylusydd at y tabl olrhain Camau Gweithredu a chadarnhaodd fod y mwyafrif bellach wedi'u cwblhau. Ar ôl cyfarfod mis Mai, yr adborth i’r pwyllgor ar yr Arbrawf Tyllau yn y ffordd a’r Clefyd Coed Ynn, gellid wedyn cau yr eitemau.

            Gofynnodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad i’r Cynghorydd Hardcastle a oedd yn hapus gyda’r ymateb a ddarparwyd gan y Prif Swyddog ar y Polisi Bagiau Tywod. Cadarnhaodd y Cynghorydd Hardcastle ei fod yn hapus gyda’r ymateb gan y Prif Swyddog.

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin a’r Cynghorydd Joe Johnson.

PENDERFYNWYD:

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

47.

Gwasanaethau Trên Lein Y Gororau - Gwasanaethau Ychwanegol ac Effaith Bosib ar Arosfannau (cyflwyniad) pdf icon PDF 805 KB

Pwrpas:        I dderbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod y cyflwyniad hwn wedi'i gynhyrchu yn dilyn cais gan y pwyllgor hwn a'i fod yn darparu gwybodaeth am ddatblygiad a dyheadau'r llinell yn dilyn gweithredu'r fasnachfraint newydd yn 2018. Cadarnhaodd nad oedd y Cyngor yn gyfrifol am y llinell ond wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau cyfagos, a'r gweithredwr Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu'r llinell. Gyda dyheadau a rennir, byddai'r gwaith yn cysylltu â chynlluniau Metro'r Cyngor. Cadarnhaodd mai Network Rail oedd yn berchen ar y trac a'r signalau, a’r fasnachfraint yn cael ei rheoli gan Drafnidiaeth Cymru, a oedd yn cynnal astudiaeth bwrdd gwaith o'r llinell i sefydlu pa gyfyngiadau a allai rwystro nodau a dyheadau'r llinell.

            Cyflwynodd y Prif Swyddog Alex Fortune, Noddwr Prosiect y Rheilffordd yng Nghymru dros Drafnidiaeth Cymru a weithiodd yn agos gyda Network Rail a chydweithwyr i helpu i gyflawni'r cynlluniau hyn. Dechreuodd Mr Fortune y cyflwyniad manwl i'r pwyllgor a oedd yn cynnwys sleidiau ar y canlynol: -

Ø  Metro Gogledd Cymru -

·         Trawsnewid gwasanaethau bws a thrên

·         Ei gwneud yn haws a chynt i deithio rhwng Arfordir Gogledd Cymru, Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a Glannau Mersi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

·         Gwell cyfnewidfa yn Shotton ar gyfer Llinell Arfordir Gogledd Cymru. 

·         Gorsaf newydd ym Mharcffordd Glannau Dyfrdwy

Ø  Isadeiledd

Ø  Gorsafoedd a’r Defnydd

Ø  Trenau Newydd

 

            Gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) sylwadau ar faterion lleol streiciau pontydd ac ar y cynigion a osodwyd y llynedd i gynorthwyo i ddelio â'r rhain. Roedden nhw’n digwydd yn rheolaidd ar y llwybr ac roedd yn rhaid delio â'r goblygiadau a achosodd hyn i gymudwyr pan fyddai’n digwydd. Cadarnhaodd mai dyhead y Cyngor oedd bod y llinell hon yn dod yn llinell o bwys i gymudwyr, ac roedd angen iddi fod yn ddibynadwy. Cyfeiriodd at y cais llwyddiannus i roi arwyddion rhyngweithiol ar hyd pob un o'r pontydd isel ar hyd y llwybr a oedd yn cynnwys Cefn-y-Bedd, Shotton a Padeswood ac eglurodd sut y byddai hyn yn gweithio i rybuddio gyrwyr cerbydau uchel.   Yna rhoddodd wybodaeth am y cais a wnaed i godi'r bont neu ostwng y ffordd ac i'r astudiaeth a gynhaliwyd ar y tri safle i ostwng y ffordd.  Nid oedd yn bosibl gostwng y ffordd yn Shotton a Cefn-y-Bedd ac oherwydd materion lleol roedd hyn yn bosibl yn Padeswood.

           

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at y ddau welliant i’r orsaf a dywedodd nad oedd Shotton mor ddatblygedig â gorsaf Parkway, a oedd yn rhan o'r Strategaeth Drafnidiaeth Metro. Dywedodd ei bod yn allweddol i ddatblygiad strategaethau integredig i ddatblygu llinell gymudwyr wedi'i chysylltu â Penyffordd gyda gwasanaeth parcio a theithio i annog cymudwyr i beidio â defnyddio eu ceir.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Sean Bibby i Mr Fortune a'r Prif Swyddog am y cyflwyniad a oedd yn gadarnhaol iawn. Cododd y cwestiynau canlynol:-

 

·         Y diweddaraf ar ailddatblygu Gorsaf Shotton.

·         Gan gyfeirio at Barcffordd Glannau Dyfrdwy, gofynnodd beth fyddai dyfodol Pont Penarlâg. 

·         O ran Mynediad i'r Anabl, adroddodd ar nifer o faterion a godwyd gan drigolion  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

DEUNYDDIAU Y GELLIR EU HAILGYLCHU AC EFFAITH Y PANDEMIG AR Y NIFEROEDD A GWERTHOEDD AILWERTHU pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar gynnydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a esboniodd y gofynnwyd am y wybodaeth hon gan y Pwyllgor i ddeall yr effaith helaeth yr oedd y pandemig wedi'i hachosi ar faint o ddeunyddiau a gasglwyd a'r gwerthoedd a gafwyd am y deunydd. Yna darparodd y Prif Swyddog wybodaeth fanwl am yr effaith gadarnhaol ar ailgylchu, a oedd wedi cynyddu 25%, a chasgliadau gwastraff bwyd a oedd wedi cynyddu o 10%. Yr effaith negyddol oedd bod gwastraff gweddilliol wedi cynyddu 7%, ac oherwydd bod safleoedd HRC wedi cau a chasgliadau gwastraff gardd wedi’u hatal dros dro, cafwyd effaith ar berfformiad ailgylchu cyffredinol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai'r perfformiad ailgylchu yn debygol o aros yr un fath ar oddeutu 66% a rhoddodd wybodaeth am darged LlC o 70% ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Cadarnhaodd y byddai hyn yn cael ei ddwyn yn ôl i'r pwyllgor ym mis Mehefin gyda'r Ymgyrch newydd, sef “Targed 70” i annog mwy o ailgylchu. Cyfeiriodd hefyd at yr ymgyrch deledu a chyfryngau newydd gan LlC o’r enw “Mighty Recycler” a fyddai’n cychwyn mewn cwpl o wythnosau i ymgysylltu â’r cyhoedd. Yna rhoddodd wybodaeth am yr effaith ariannol ar brisiau plastigau a'r pwysau sy'n deillio o hynny ar y gwasanaeth. Roedd LlC wedi bod yn gefnogol iawn gyda Sir y Fflint yn un o'r cynghorau cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cais am y gronfa caledi oherwydd cyfanswm y tunellau ychwanegol a cholled incwm, yn ogystal â gorwariant y gwasanaeth wedi gostwng dros y blynyddoedd oherwydd cefnogaeth LlC.

 

            Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at 1.08 yn yr adroddiad i roi sicrwydd i’r Aelodau o ran pryderon gyda Brexit a mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd ar gyfer cynhyrchion ailgylchu. Cadarnhaodd fod mynediad ar gael o hyd ond, ar hyn o bryd, roedd ein holl ddeunyddiau ailgylchu yn cael eu dosbarthu i fasnachwyr yn y DU gyda chyrchfannau terfynol yn cael eu monitro a'u hadrodd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hardcastle at gyfarfod Cyngor Cymunedol Penarlâg y noson flaenorol lle trafodwyd y materion parcio yn Yowley Road a Crossways yn Ewlo. Roedd Wagenni yn ei chael hi'n anodd llywio drwy'r ceir ac yn arwain at fethu casgliadau. Gofynnodd pa weithdrefnau oedd ar waith yn y sefyllfa hon i gasglu'r deunydd ailgylchu.  

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hwn yn broblem gyffredin ym mhob ward gyda mwy o geir wedi'u parcio gan fod pobl yn gweithio gartref, a bod hyn yn dod yn fater mawr i'r gwasanaeth.Roedd yn rhaid casglu’r deunydd ailgylchu ac nid bai’r preswylwyr oedd eu bod yn gweithio gartref. Adroddwyd am lythyrau a gafodd eu postio i annog preswylwyr i symud eu ceir ar ddiwrnodau casglu. Roedd cerbydau llai yn cael eu defnyddio ond roedd cost i hyn ac roedd yn fwy cost effeithiol casglu gyda'n cerbydau mwy. Cytunodd i roi adborth yn ôl i'r tîm ac anfon e-bost at y cynghorydd yng Nghyngor Cymunedol Penarlâg.   

Gwnaeth yr Aelod Cabinet sylwadau ar y ffigurau ailgylchu gan ddweud bod swm yr ailgylchu  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Adferiad Economaidd pdf icon PDF 320 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar newidiadau mawr ac ar ymatebion rhanbarthol a lleol sy’n cael eu sefydlu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a'r Rheolwr Menter ac Adfywio.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn rhan o gyfres o bapurau a ddaeth i'r pwyllgor ynghylch Adferiad Economaidd a bod yr adroddiad hwn yn amlinellu'r cynigion ar lefel ranbarthol ac o fewn Cynllun y Cyngor.

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod yr adroddiad yn egluro lle'r oedd y Cyngor ar hyn o bryd o ran yr economi yn Sir y Fflint, wedi tynnu sylw at risgiau posibl, y strwythurau llywodraethu sydd ar waith a'r rhaglen waith gyfredol i ymateb i'r risgiau hynny.  Darparodd wybodaeth ar y canlynol:-

 

·         Y sefyllfa ansicr o ran Brexit

·         Y gwaith a wneir gan Grant Thornton ar ran CLlLC, gan edrych yn benodol ar fasnach. Amlygodd nifer o risgiau sy'n benodol i Sir y Fflint gan fod ein heconomi yn seiliedig ar fasnach.

·         Nid oedd mwyafrif pencadlys cwmnïau wedi'u lleoli yn Sir y Fflint, a oedd yn rhoi Sir y Fflint mewn perygl gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud mewn man arall

·         Roedd gan Sir y Fflint lefel uchel o weithwyr sgiliau isel a oedd mewn perygl o golli swyddi

·         Sefyllfa Covid 19 - rydym yn dal yn ansicr gyda’r cynllun Ffyrlo yn dal i fodoli. Gallai guddio colledion swyddi posibl yn y dyfodol yn enwedig i bobl ifanc.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Menter ac Adfywio aelodau at y diagram ar dudalen 36 a baratowyd gan Grant Thornton. Amlygodd y risgiau o ran sut roedd gweithgynhyrchu a chyfanwerthu yn dibynnu ar ganlyniadau Brexit a Covid.   Adroddodd ar nifer y grwpiau a sefydlwyd gyda LlC a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a'r gwaith a wnaed i gynllunio'r broses adfer ar gyfer anghenion uniongyrchol ac i ail-lunio'r dyfodol.  Cafodd y blaenoriaethau eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor.

 

            Teimlai'r Cynghorydd Patrick Heesom fod hwn yn adroddiad pwysig iawn a'i fod yn ymwneud â diffyg cyfranogiad aelodau yn y gweithdrefnau. Cyfeiriodd at y strwythur ar dudalen 37 nad oedd ganddo fawr o le i gyfraniadau gan aelodau, yn enwedig gyda goblygiadau Brexit. Yna cyfeiriodd at gyfraniadau Adroddiad Hatch ac Adroddiad Grant Thornton a theimlai fod angen crynodeb o'r adroddiadau hynny ar aelodau er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth. Mewn ymateb, roedd y Rheolwr Menter ac Adfywio yn gobeithio y byddai'r wybodaeth yn darparu crynodeb o'r adroddiad hwnnw ac yn cadarnhau y cânt eu dosbarthu i aelodau pan fyddent ar gael.Byddai'n myfyrio ar y sylwadau ynghylch cynnwys aelodau ac roedd yn gobeithio y byddai'r cyfarfod yn darparu rhywfaint o gyfranogiad aelodau i alluogi trafodaeth a dwyn swyddogion i gyfrif.Roedd yn gobeithio y byddai hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ond yn hapus i dderbyn unrhyw sylwadau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y materion ym mhorthladd Caergybi oherwydd faint o waith papur yr oedd yn rhaid i gwmnïau ei gwblhau. Arweiniodd hyn at ddargyfeirio danfoniadau i borthladdoedd Ewropeaidd ac yn dod i’r DU drwy Eire ac yna i Ogledd Iwerddon.  Gofynnodd sut oedd hyn yn effeithio ar gwmnïau a chludwyr yn Sir y Fflint. Gofynnodd  ...  view the full Cofnodion text for item 49.

50.

Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a rhoddodd ddiweddariad rheolaidd ar strategaeth adfer y portffolio a blaenoriaethau adfer yn dilyn y pandemig. Tynnodd sylw at dair o'r naw blaenoriaeth a rhoddodd wybodaeth am oriau gwaith y Gweithlu, cyfleusterau Trin Gwastraff a'r Rhwydwaith Priffyrdd.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Chris Dolphin a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cefnogi’r cynnydd a wnaed i gefnogi’r Strategaeth Adferiad gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

51.

Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a rhoddodd ddiweddariad rheolaidd ar strategaeth adfer y portffolio a blaenoriaethau adfer yn dilyn y pandemig. Amlygwyd y prif amcanion yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys meysydd parcio mewn safleoedd cyrchfan fel Parc Gwepra a Thalacre a'r goblygiadau o ran ailagor busnesau nad ydynt yn hanfodol, adeiladau trwyddedig a lletygarwch.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr arolwg Clefyd Coed Ynn gan adrodd ar y bwriad i dynnu coed ar yr A541 Wyddgrug – Dinbych. Byddai’n rhaid cau’r ffordd am ddiwrnod wrth ddefnyddio’r offer sy'n tynnu coed i lawr ar unwaith, gan leihau aflonyddwch i'r cymunedau lleol. Byddai adroddiad yn cael ei ddychwelyd i’r pwyllgor ar hyn.  Yna tynnodd y Prif Swyddog sylw a darparu gwybodaeth am y risgiau i'r pwyllgor. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at eitem 1.01 yn yr adroddiad a gofynnodd beth oedd ystyr trefniadau trosglwyddo.   Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y Gr?p Strategaeth Cynllunio a oedd, yn ei farn o, yn becyn cymorth pwysig iawn, yn seiliedig ar aelodau etholedig. Awgrymodd y byddai’n ddefnyddiol adolygu’r strwythur hwnnw yn yr hinsawdd sydd ohoni. Yna cyfeiriodd at y Cynllun Datblygu Lleol a gofynnodd am ddiweddariad ar ble roeddem ni o ran hyn ac a allai bellach fynd yn ei flaen. Adroddodd y Cynghorydd Heesom ar yr anawsterau hirsefydlog i gysylltu â staff cynllunio, gydag unrhyw newyddion ar welliannau i'w croesawu'n fawr.

Mewn ymateb, cyfeiriodd y Prif Swyddog at dudalen 69 a gwrandawiad y Cynllun Datblygu Lleol, a oedd i fod i gychwyn ym mis Chwefror ond a oedd wedi ei ohirio ddwy waith, ond a oedd bellach i fod i ddechrau ar 13 Ebrill.Yr unig reswm am yr oedi oedd am nad oedd yr Arolygiaeth ar gael.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at gylch gorchwyl y Gr?p Strategaeth Cynllunio a adolygwyd yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf.Dwy swyddogaeth y gr?p hwn oedd arwain gwaith cynhyrchu'r Cynllun Datblygu Lleol, a delio ag unrhyw faterion mewn perthynas â'r broses gynllunio statudol. Nid oedd y Cylch Gorchwyl wedi newid dros y pedair blynedd diwethaf. Yr hyn a oedd wedi newid oedd bod y ffocws yn bennaf ar ddelio â'r Cynllun Datblygu Lleol ac roedd yn teimlo ei fod wedi treulio ei amser yn briodol ers i'r cylch gorchwyl gael ei ddiwygio. O ran cyfathrebu â'r portffolio Cynllunio, adroddodd ar e-bost a oedd yn cael ei anfon at yr holl Aelodau yr wythnos hon a fyddai, gobeithio, yn lleddfu pryderon aelodau.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at y trefniadau trosglwyddo ar gyfer adferiad a nododd fod y Cyngor mewn cyfnod ymateb 12 mis yn ôl pan oedd cyfnod clo Covid yn weithredol. Cafodd meysydd critigol eu blaenoriaethu gyda'r swyddogion hynny sy'n hanfodol i ddarparu gwasanaeth. Adroddodd ar swyddogion o fewn rolau diogelu Cymuned a Busnes a symudwyd i gefnogi ymateb Covid. Fodd bynnag, eglurodd na ddaeth yr un gwaith arall i ben, yn hytrach roedd yn achos o newid y ffordd yr ymgymerwyd â'r  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

52.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.