Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

31.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dim.

 

32.

EITEM YCHWANEGOL

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn derbyn eitem ychwanegol yn y cyfarfod i alluogi’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwasanaeth casglu gwastraff yn ystod cyfnod y Nadolig.   

 

33.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 83 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Eglurodd fod eitem ar Gynllun y Cyngor a drefnwyd ar gyfer ei hystyried yn y cyfarfod heddiw wedi’i gohirio tan ddyddiad yn y dyfodol gan fod y Cynllun yn cael ei ddatblygu. Tynnodd sylw at yr eitemau a restrwyd i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 9 Chwefror 2021 a dywedodd yr awgrymwyd bod yr eitemau ar yr arolygon Clefyd Coed Ynn a Gwasanaeth Trên Lein Y Gororau yn cael eu gohirio ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.    Roedd yr Hwylusydd hefyd yn cynghori bod diweddariadau ar y Cynllun Trafnidiaeth Integredig a Newid Hinsawdd wedi eu trefnu ar gyfer y rhaglen fel bo’n briodol. 

 

Gan gyfeirio at y camau o’r cyfarfodydd blaenorol, dywedodd yr Hwylusydd nad oedd yna ddiweddariad i adrodd ar y camau heb eu cymryd a bod cynnydd yn parhau. 

 

Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac

 

 (b)      Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

34.

Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Ymgynghoriad Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 123 KB

Ceisio sylwadau Craffu am ymateb Cyngor Sir y Fflint i Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Trafnidiaeth adroddiad ar ymateb y Cyngor i Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Dywedodd fod y Strategaeth Drafnidiaeth wedi dod i ben a bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth ddrafft newydd ‘Llwybr – Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Newydd ar gyfer Cymru gyda chais am sylwadau/awgrymiadau gan unrhyw un â diddordeb erbyn 25 Ionawr 2021.  Dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o gynnwys Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru tra hefyd yn rhannu manylion ymateb arfaethedig y Cyngor i’r broses ymgynghori ffurfiol ar gyfer sylw ac ychwanegiadau gan y Pwyllgor Craffu. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Trafnidiaeth wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Dywedodd yn dilyn adolygiad o’r strategaeth ddrafft newydd roedd y Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad wedi’i llenwi ac wedi’i hatodi i’r adroddiad er gwybodaeth ac ar gyfer sylwadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y Cyd Gynllun Trafnidiaeth Lleol (JLTP) a dywedodd y byddai’n ddefnyddiol os byddai darpariaeth bresennol y JLTP ar gael i’r Aelodau. Hefyd cyfeiriodd at baragraff 1.09 yn yr adroddiad a mabwysiadu Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig a dywedodd nad oedd y system drafnidiaeth bresennol yng Ngogledd Cymru yn addas i’r diben. Mynegodd nifer o bryderon am y mater o goridorau trafnidiaeth. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a fyddai’n paratoi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a gofynnodd am eglurhad yngl?n â rôl yr Awdurdod ar hwn.    Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai’n bosibl anfon copi gwag o Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad ato er mwyn iddo allu cyflwyno ei sylwadau a’i awgrymiadau ei hun ar yr ymgynghoriad. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) i’r pryderon lleol a strategol a fynegwyd gan y Cynghorydd Heesom. Rhoddodd eglurhad pellach am y JLTP, rôl y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a’r rhwydwaith Cefnffordd. Hefyd rhoddodd y Prif Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf ar y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Heesom yngl?n â’r llwybr Coch. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd bod yna gynrychiolaeth dda o’r Awdurdod ar y Grwpiau Rhwydwaith Trafnidiaeth Gogledd Cymru a dywedodd fod y gwaith a wnaed gan Sir y Fflint wedi’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel model ar gyfer arfer da ar draws Gogledd Cymru.   

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau pellach a ofynnwyd gan y Cynghorydd Heesom yn ymwneud ag ardal Doc Mostyn, eglurodd y Prif Swyddog fod cynllun trafnidiaeth yr Awdurdod wedi’i ymestyn i gynnwys pob ardal yn Sir y Fflint. Dywedodd y derbyniwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i edrych ar holl gysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd y Sir oedd yn cynnwys Dociau Mostyn. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton am y wybodaeth ddiweddaraf ar y partneriaethau Bws Ansawdd, trefniadau cynnal a chadw ac arwyddion ar Bont Sir y Fflint, a’r Llwybr Coch. Yn ei ymateb, eglurodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru yn cynnig fod Trafnidiaeth Cymru yn derbyn y rôl ar draws Cymru i gyflwyno partneriaethau o ansawdd ar rwydweithiau craidd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar gyfer ystyriaeth.  Dywedodd y Prif Swyddog y gofynnir am eglurhad ar  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR AILGYLCHU GWASTRAFF YN YSTOD CYFNOD Y NADOLIG

Cofnodion:

Cyn y diweddariad, gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am drosglwyddo ei diolch i’r tîm Gwasanaethau Stryd am eu gwaith rhagorol yn ystod cyfnod y Nadolig. Hefyd diolchodd i Swyddogion y Tîm Gwasanaethau Stryd am eu gwaith a’u proffesiynoldeb i’w hysbysu hi ac Aelodau yn rheolaidd am y trefniadau casglu gwastraff.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) am effaith Covid-19 ar draws y Gwasanaethau Stryd a Chludiant). Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd am drefniadau gwneud penderfyniadau a wnaed ym mis Medi 2020 a chasglu deunyddiau gwastraff (gan gynnwys gwastraff bwyd) drwy gyfnod y Nadolig (heb gynnwys Diwrnod Nadolig, Diwrnod San Steffan a Diwrnod y Flwyddyn Newydd). Dywedodd am ymdrech unedig y tîm i fynd i’r afael â’r cynnydd sylweddol mewn casgliadau gwastraff yn ystod cyfnod y Nadolig ac eglurodd y bu 130 o gerbydau casgliadau gwastraff bob dydd oedd 3 gwaith yn fwy na’r arfer.  Eglurodd y Prif Swyddog fod (gyda rhai eithriadau) holl wastraff wedi’i gasglu gan y Tîm Gwasanaethau Stryd erbyn 8 Ionawr. Roedd yn talu teyrnged i waith caled ac ymrwymiad ei staff oedd wedi gweithio mewn rolau gwahanol (rhai yn wirfoddol) ac oriau anghymdeithasol yn ystod y cyfnod i gefnogi cydweithwyr mewn amgylchiadau heriol iawn.   . 

 

Roedd yr Aelodau yn diolch i’r Prif Swyddog a’i holl Dîm am eu gwaith caled dros wyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd a gwerthfawrogwyd y gwasanaeth ardderchog a ddarperir.    Roedd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn sôn am yr anawsterau ychwanegol a brofwyd gan y Gwasanaethau Stryd a Chludiant yn sgil y tywydd gaeafol a’r pandemig difrifol presennol.   .

 

36.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.