Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 

Media

Eitemau
Rhif eitem

48.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

49.

Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 17 Ionawr 2023 yn ymwneud â Adolygiad Strategaeth Gwastraff wedi cael ei alw i mewn.  Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar yr ‘Adolygiad Strategaeth Gwastraff’ mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023.  Galwyd y penderfyniad i mewn (Cofnod Penderfyniad 4056) gan y Cynghorwyr Bernie Attridge, Helen Brown, David Richardson, Carol Ellis, Richard Jones a Glyn Banks.   Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Gymeradwyaeth o Alw i Mewn a oedd yn nodi tri rheswm dros y galw i mewn wedi’u cynnwys gyda phapurau’r rhaglen.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol a oedd wedi’i chynnwys yn y rhaglen.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y llofnodwyr i gyflwyno’r rhesymau dros y galw i mewn i’r Pwyllgor.

50.

Adolygiad Strategaeth Gwastraff pdf icon PDF 2 MB

Pwrpas:        AdroddiadPrif Swyddog (Stryd a Chludiant) - Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r strategaeth cludiant rhanbarthol

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o adroddiad Adolygiad Strategaeth Gwastraff

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn

 

Amlinellodd y Cynghorydd Richard Jones y rhesymau dros y galw i mewn fel y manylwyd yn y Rhaglen.  Wrth roi sylwadau ar y rhesymau’n ymwneud â’r cynllun peilot arfaethedig, fe amlinellodd y sylwadau a wnaed gan Aelodau’r Cabinet wrth ystyried yr adroddiad ar yr Adolygiad Strategaeth Gwastraff, a oedd yn ymwneud â’r angen am well addysg a’r ffaith fod preswylwyr wedi gweithio gyda’r Cyngor yn y gorffennol i sicrhau cyfraddau ailgylchu uchel ac y gallai hyn ddigwydd eto.  Nid oedd llofnodwyr yr alwad i mewn o blaid cyflwyno cynllun peilot heb wybod y costau, yn enwedig o ystyried sylwadau’r Prif Swyddog, sef y gallai hyn fod yn anodd, yn heriol yn logistaidd, byddai’n gost ychwanegol ac y gallai addysg ac ymwybyddiaeth i breswylwyr weithio eto.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y data a ddarparwyd i’r Aelodau yn ystod y Gweithdy ar y Strategaeth Wastraff a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022 a oedd yn dangos fod amlder casgliadau’r Cyngor yr un fath â dau Gyngor arall gyda’r cyfraddau ailgylchu uchaf ar draws Cymru.  Soniodd am y cyfraddau casglu gwastraff ailgylchu yng Nghyngor Wrecsam a oedd yn 68% ar hyn o bryd a bod ganddynt finiau 240lr a chasgliad bob pythefnos.  Teimlai fod hyn yn dangos nad oedd gan gyfradd ailgylchu well unrhyw beth i’w wneud ag amlder y casgliadau na maint y bin du a phopeth i’w wneud ag addysg yngl?n ag ailgylchu. 

 

Cydnabu’r Cynghorydd Glyn Banks fod y cyfraddau casgliadau ailgylchu yn siomedig ar hyn o bryd ond teimlai fod y targed o 70% nid yn unig yn gyraeddadwy ond y gellir rhagori arno drwy weithredu’r cynigion a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet yn ôl ym mis Medi 2021 a heb orfod newid amlder y casgliadau.  Wrth amlinellu’r holl gynigion a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ym mis Medi 2021, nid oedd yn credu eu bod wedi cael eu gweithredu’n llawn, yn enwedig mewn perthynas ag addysg a gorfodaeth uwch.  Dywedodd fod y Cyngor yn dilyn Strategaeth LlC yn union ond nid oedd yn ei gweithredu ac nid oedd yn teimlo y gallai LlC roi dirwy i’r Cyngor am beidio â chyrraedd y targed, yn enwedig o ystyried y cynnydd mewn gweithio gartref o ganlyniad i’r pandemig.

 

O ran Cynnyrch Hylendid Amsugnol, croesawodd y Cynghorydd Banks y casgliad o’r cynnyrch hyn ond mynegodd bryder eu bod yn cael eu hanfon i’r Parc Adfer ac nad oeddent yn cael eu hailgylchu.  Dywedodd y gallai pwysau’r casgliad hwn gael cynnydd cadarnhaol ar y cyfraddau ailgylchu gan nodi Cyngor Gwynedd fel enghraifft o Gyngor a oedd yn anfon eu cynnyrch i Dde Cymru i’w ailgylchu.  Teimlodd fod hwn yn faes y gallai’r Cyngor wella arno.  Soniodd hefyd am y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac er iddo ganmol y staff yn y canolfannau, roedd angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod yr holl wastraff cyffredinol yn cael ei wirio am wastraff ailgylchu.  Dywedodd, cyn y gellid rhoi unrhyw  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.