Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Media

Eitemau
Rhif eitem

60.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Teresa Carberry gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar y rhaglen: Strategaeth Toiledau Lleol.

 

61.

Cofnodion pdf icon PDF 104 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Ionawr, 1 Chwefror a 7 Chwefror 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 1 Chwefror a 7 Chwefror 2023.

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel cofnod cywir, fel y cynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Roy Wakelam a’r Cynghorydd Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

62.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 83 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.  Cyfeiriodd at gyfarfod nesaf y Pwyllgor, a gynhelir ar 23 Mawrth, a fydd yn gyfarfod ar y cyd gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i ystyried parcio y tu allan i ysgolion, a’r eitemau a restrwyd ar gyfer eu hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.  Tynnodd yr Hwylusydd sylw hefyd at y gweithdai ar y meini prawf eithriadau ar gyfer gweithredu deddfwriaeth 20mya sydd i’w cynnal ar 15 Mawrth 2023.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod yr holl eitemau a oedd yn weddill wedi eu cwblhau.

 

Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen. 

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Roy Wakelam.

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

(c)     Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

63.

Cyflwyniad gan Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol prosiectau’r Rhaglen Tir ac Eiddo a’r broses o ganfod prosiectau amgen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) eitem i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol prosiectau’r Rhaglen Tir ac Eiddo a’r broses o ganfod prosiectau amgen.  Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun gwaith Uchelgais Gogledd Cymru, a chyflwynodd David Matthews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, Uchelgais Gogledd Cymru.  Rhoddodd Mr Matthews gyflwyniad am Fargen Dwf Gogledd Cymru – Rhaglen Tir ac Eiddo, a oedd yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol:

 

  • ein Partneriaid
  • ein gweledigaeth
  • egwyddorion
  • amcanion
  • buddsoddiad
  • 5 rhaglen

o   Arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel

o   Bwyd-amaeth a thwristiaeth

o   Cysylltedd digidol

o   Tir ac eiddo

o   Ynni carbon isel

  • Neuadd Warren, Brychdyn
  • Porth y Gorllewin, Wrecsam
  • hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych
  • Parc Bryn Cegin, Bangor – symud cynnig Datblygiad Diwydiannol Ysgafn yn ei flaen
  • Porth Caergybi, Caergybi

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am wybodaeth yngl?n ag unrhyw fuddsoddiad a wnaed gan Gyngor Sir y Fflint yn y Rhaglen Tir ac Eiddo, a mynegodd bryderon yngl?n â’r datblygiad a’r effaith ar isadeiledd ffyrdd a thir yn Sir y Fflint a’r amserlenni. Ymatebodd Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo i gwestiynau a sylwadau’r Cynghorydd Attridge.  Darparodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ymateb pellach i’r sylwadau’n ymwneud â chynllun datblygu Neuadd Warren, Brychdyn.

 

PENDERFYNWYD:

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

64.

Safonau’r Gwasanaethau Stryd pdf icon PDF 164 KB

Nid yw Safonau’r Gwasanaethau Stryd wedi cael eu hadolygu ers 2019. Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r safonau presennol ac yn argymell diwygiadau i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gyflawni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad a oedd yn amlinellu’r bwriad i adolygu’r Safonau presennol ac argymell newidiadau sy’n cysylltu’n agosach i Gynllun y Cyngor a Chynllun Busnes portffolio.  Eglurodd mai’r bwriad oedd sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd a phreswylwyr, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.  Diben yr adroddiad oedd egluro diffygion y ddogfen bresennol a cheisio cefnogaeth gan Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Stryd a Chludiant i adolygu a chefnu ar y Safonau presennol. Byddai hyn yn creu cyfres o fetrigau perfformiad mwy cadarn a pherthnasol y gellid eu mesur, monitro ac adrodd amdanynt yn fwy effeithiol.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid cynnull Gr?p Tasg a Gorffen i gefnogi adolygu’r Safonau, a chefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylwadau ar yr angen i sicrhau bod y Safonau’n cael eu gweithredu, nid eu hanwybyddu.  Yr oedd yn cefnogi ffurfio Gr?p Tasg a Gorffen.  Wrth ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Peers, anogodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr Aelodau i roi gwybod am unrhyw broblemau neu ddiffygion o ran perfformiad yn uniongyrchol i Swyddogion, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, neu’r Ganolfan Gyswllt fel bod y mater yn cael ei gofnodi, ei neilltuo, a chamau gweithredu priodol yn cael eu cymryd.

 

Cododd y Cynghorydd Richard Lloyd bryderon yngl?n â’r oedi a brofwyd gan rai preswylwyr wrth gael mynediad at y gwasanaethau a ddarperir gan Ganolfannau Cyswllt, a gofynnodd i ddarpariaeth ychwanegol fod ar gael yn ward Saltney er mwyn galluogi preswylwyr lleol i dalu am wasanaethau.  Gwnaeth sylwadau hefyd yngl?n â glanhau llochesi bws, a chyfeiriodd at ddarpariaeth llochesi bws yn ei ward.  Gwnaeth Aelodau sylwadau yngl?n â’r angen i ddarparu gwybodaeth gyfredol am amserlenni mewn llochesi bws, a sicrhau bod amserlenni bysiau ar gael i’r cyhoedd mewn fersiwn wedi ei argraffu yn ogystal ag ar-lein.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnig i gefnu ar ddogfen bresennol Safonau’r Gwasanaethau Stryd, a chefnogi’r adolygiad arfaethedig i’w disodli gyda chyfres ddiwygiedig o fetrigau perfformiad sy’n ategu safonau gwasanaeth er mwyn mesur perfformiad yn ôl goblygiadau statudol presennol, Cynllun y Cyngor a pholisïau presennol;

 

(b)       Cyflwyno adroddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi ei gwblhau; a

 

(c)        Chynnull Gr?p Tasg a Gorffen i ystyried datblygiad y Safonau newydd.

 

65.

Polisi Torri Glaswellt pdf icon PDF 123 KB

Cynghori Craffu am y Polisi Torri Glaswellt diwygiedig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor am y Polisi Torri Glaswellt diwygiedig yn dilyn gweithdy i’r holl Aelodau, a gynhaliwyd ar y cyd ym mis Ionawr 2023 gan bortffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant a phortffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi.  Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd mai diben yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r gwaith a wnaed hyd yma gan y ddau bortffolio, ac i ystyried y cyfleoedd ar gyfer adolygu’r polisi yn y dyfodol.  Yn ogystal, yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaeth gweithredol torri glaswellt yn ystod 2022.

 

Adroddodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd a Goruchwyliwr Gwasanaethau Stryd ar y cyd am y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a’i thîm gan y Cynghorydd Bernie Attridge am y gwelliannau cyffredinol yn y gwasanaeth torri glaswellt.  Gwnaeth sylwadau hefyd ar rai o’r pryderon eraill a oedd ganddo yngl?n â gerddi tenantiaid a chyfeiriodd at dorri glaswellt mewn ardaloedd bychain yn perthyn i dai gwarchod fel enghraifft.

 

Wrth ymateb i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â chynnal a chadw ardaloedd wrth ymyl garejis, eglurodd y Prif Swyddog fod cynnal a chadw ardaloedd garejis sy’n perthyn i dai cymdeithasol yn dod o fewn cylch gwaith y Gwasanaeth Tai.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r gwaith a wnaed hyd yma a’r cyfleoedd i gynyddu bioamrywiaeth wrth reoli’r lleiniau ar ymyl ein ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder; a

 

(b)       Chefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r polisi torri glaswellt a’r gostyngiad wedi ei dargedu yn y defnydd o blaladdwyr.

 

 

66.

Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 129 KB

Cynghori Craffu bod y pwynt adolygu statudol ffurfiol nesaf ar gyfer ein Strategaeth Toiledau Lleol angen dilyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai 2022, a bod gennym flwyddyn o ddyddiad yr etholiadau i adolygu, diwygio, ymgynghori arno a chyhoeddi strategaethau diwygiedig ar gyfer ein hardal leol. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r dull a gymerir ac amserlenni’r adolygiad. Bydd y Strategaeth Toiledau Lleol diwygiedig yn cael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybodaeth gefndir a hysbysodd fod gofyn i Gyngor Sir y Fflint adolygu a darparu datganiad cynnydd ‘diwedd cyfnod’ ar gyfer y strategaeth toiledau lleol o fewn blwyddyn i bob etholiad cyffredin ar gyfer ei ardal.  Dyddiad etholiad llywodraeth leol yng Nghymru oedd 5 Mai 2022, a oedd yn golygu mai’r dyddiad hwyraf ar gyfer adolygiad oedd erbyn 4 Mai 2023. Diben yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r cefndir deddfwriaethol a nodi sut oedd y Cyngor yn bwriadu adolygu’r strategaeth bresennol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Ardal yr adroddiad a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau.  Tynnodd y Prif Swyddog sylw at amserlen arfaethedig yr adolygiad fel yr amlinellir ym mharagraff 1.07 yr adroddiad.  Adroddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd ar yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus statudol a oedd i’w gynnal.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon yngl?n â darpariaeth toiledau cyhoeddus mewn cymunedau lleol yn y dyfodol.  Gofynnodd a oedd mwy o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru neu ffrydiau cyllido amgen i wella’r cyfleusterau sydd ar gael ar hyn o bryd.  Ymatebodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Attridge, a dywedodd fod cyfleoedd newydd yn cael eu hystyried i gynnig darpariaeth ledled y Sir.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylwadau am y cyfleusterau sydd ar gael mewn Cynghorau Tref a Chymuned, a chyfeiriodd at ddatblygiad arfaethedig yn ward Mynydd Bwcle.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:      

 

(a)       Cefnogi adolygiad arfaethedig o’r strategaeth toiledau lleol; a

 

(b)       Chymeradwyo’r dull gweithredu a’r amserlenni y bwriedir eu dilyn, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

67.

Gwasanaethau Profedigaeth pdf icon PDF 130 KB

Hysbysu’r pwyllgor am y gwasanaethau a ddarperir a’r heriau a wynebir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybodaeth gefndir a dywedodd mai diben yr adroddiad oedd darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y capasiti claddu presennol ym mynwentydd Sir y Fflint a rhoi trosolwg o’r dewisiadau ar gyfer adolygu a chynyddu capasiti.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cludiant.  Gwahoddodd Reolwr y Gwasanaethau Profedigaeth i ddarparu trosolwg o’r capasiti claddu sydd ar ôl ym mynwentydd Penarlâg Rhif 2 a Bwcle, a oedd ar lefel ddifrifol – disgwylid y byddai’r ddwy fynwent yn llawn ymhen pedair blynedd yn unig.  Dywedodd fod dau brosiect ar wahân, sydd â’r nod o ddarparu capasiti ychwanegol yn y ddau leoliad, yn mynd rhagddynt a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.  Adroddodd hefyd am y datrysiadau amgen a allai gynorthwyo gyda’r pwysau a chyfyngiadau presennol sy’n gysylltiedig â’r gofyn am gladdu, a’r dewisiadau sy’n cynnig gwell buddion amgylcheddol.

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau am y capasiti sy’n weddill ym mynwentydd Penarlâg a Bwcle, a gofynnodd sawl cais am gladdu oedd yn “geisiadau newydd”, neu a oedd yn gysylltiedig â lleiniau teuluol presennol.  Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod.  Gofynnodd y Cadeirydd a oedd digon o dir ar gael yn y sir i ehangu’r ddarpariaeth, a mynegodd bryderon yngl?n â’r angen i brynu tir ychwanegol. Cyfeiriodd at y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac a oedd unrhyw safleoedd ynddo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell a oedd gan y Cyngor bolisi ar ‘bentyrru’ claddedigaethau a’r rhesymau dros ffafrio claddu yn hytrach nag amlosgi.  Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth hefyd i’r cwestiynau a sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Dan Rose am ddarpariaeth mewn awdurdodau cyfagos, costau angladdau a hyrwyddo’r dewisiadau sydd ar gael, y posibilrwydd o ddefnyddio tir mewn mynwentydd sydd wedi cau, cynllunio hirdymor yn ymwneud ag effaith demograffeg a datblygiadau tai newydd ac yn y dyfodol, ac amserlen ar gyfer defnyddio lleiniau claddu ar gyfer aelodau o’r teulu.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor Craffu’n nodi’r lefelau capasiti cyfredol ym mhob un o fynwentydd y sir, ac yn nodi’r angen i gynyddu capasiti mewn safleoedd lle mae’r sefyllfa’n ddifrifol;

 

(b)       Bod y Pwyllgor Craffu’n cefnogi cais am gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer symud ymlaen gydag ehangu mynwent Penarlâg Rhif 2;

 

(c)        Bod y Pwyllgor Craffu’n cefnogi cynigion i ddarparu capasiti claddu ychwanegol ym Mynwent Bwcle, ac yn cymeradwyo cyflwyno cais yn y dyfodol am gyllid cyfalaf; a

 

(ch)     Bod y Pwyllgor Craffu’n cymeradwyo ymchwilio mwy i ddewisiadau claddu ac amlosgi amgen fel ffordd o gynnal capasiti mynwentydd yn y dyfodol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.

 

68.

AELODAU'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 12.28pm)

 

 

 

 

…………………………

Y Cadeirydd