Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Sharon Thomas / Maureen Potter 01352 702324 / 702322 

Media

Eitemau
Rhif eitem

41.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

42.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022.

 

Materion yn codi

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at baragraff 37 ar dudalen 4 y cofnodion lle’r oedd yr Hwylusydd wedi cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.  Dywedodd nad oedd yn nodi’r pwrpas a oedd i fynd i’r afael â pharcio cerbydau y tu allan i ysgolion. 

 

Yna, cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at dudalen 5 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023/23 a oedd yn Rhan 2 a gofynnodd a fyddai Aelodau cael gweld y cwestiynau cyn trafod yng nghyfarfod y Cyngor Llawn.  

 

Wrth ymateb, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y Swyddogion Cyllid wedi nodi’r cwestiynau a godwyd yn y cyfarfodydd a oedd wedi cael eu casglu.   Gan fod y rhain yn Rhan 2 ac nad oedd modd eu cyhoeddi yn y cofnodion, cytunodd i siarad â’r Swyddogion perthnasol i holi a fyddai modd iddo gael copi.

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, fel a gynigiwyd ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Dan Rose a’r Cynghorydd Mike Allport.

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

 

43.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 83 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.  Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u cynnwys i’w trafod yng nghyfarfod mis Chwefror, sef y Strategaeth Coetir, y wybodaeth ddiweddaraf am Newid Hinsawdd, Cynllun Rheoli Adnoddau D?r drafft D?r Cymru 2024 (Ymgynghoriad Cyhoeddus), a Chynllun Rheoli Parc Gwepra.  Yna, cyfeiriodd at yr eitem Cymunedau am Waith a oedd wedi cael ei thynnu’n ôl a gwahoddodd y Prif Swyddog i ddarparu gwybodaeth am hyn.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr eitem hon wedi cael ei chynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol oherwydd pryderon yngl?n â chyllid Llywodraeth Cymru.  Roedd yn falch iawn o gyhoeddi bod cyllid wedi cael ei sicrhau ar gyfer y flwyddyn nesaf a dyna pam bod yr eitem yn cael ei thynnu   Dywedodd y byddai adroddiad yn cael ei ddarparu o fewn y flwyddyn nesaf yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan raglen gyflogadwyedd Cymunedau am Waith.

 

            Cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant wedi trefnu cyfarfod ar gyfer 2 Chwefror a fyddai’n cynnwys eitem ar y cyd ar Barcio Cerbydau Tu Allan i Ysgolion a Gorfodi. Byddai Aelodau o’r Pwyllgor hwn yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod hwnnw ar gyfer yr eitem.   Yna fe eglurodd bod y Polisi Profedigaeth yng Nghefn Gwlad yn awr wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod mis Chwefror. 

 

            Cyfeiriodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu at weithdy a oedd yn cael ei gynnal ar 24 Ionawr ar “Reoli Mannau Agored, Torri Gwair a Natur”.  Roedd yna hefyd y Meini Prawf Eithriadau ar gyfer gweithredu terfyn cyflymder 20mya ym mis Chwefror a’r Cynnydd o ran newid Fflyd CSFf i drydan neu danwyddau amgen ym mis Hydref.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a gwahoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r rhwydwaith gan Drafnidiaeth Cymru.  Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r ddeddfwriaeth fysiau yng Nghymru a oedd wedi cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor a dywedodd fod adolygiad o’r rhwydwaith yn rhan o hyn.  Roedd yn dal i fod yn aneglur pryd fyddai hyn yn cael ei weithredu ac y byddai hyn yn aros yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu nes y cynhaliwyd yr adolygiad.  Awgrymwyd y dylid cael gwared ar hyn am r?an nes yr oedd mwy o wybodaeth ar gael a chytunodd y Pwyllgor â hynny.

 

Yna, cyfeiriodd yr Hwylusydd at Farchnadoedd Canol Tref a dywedodd y byddai Niall Waller yn anfon papur briffio i aelodau’r Pwyllgor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.  Wrth gyfeirio at sbwriel o lefydd gwerthu bwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod hyn yn gyfarwyddyd LlC ac awgrymodd y dylid anfon llythyr gan y Pwyllgor hwn yn amlygu’r problemau sy’n cael eu profi.   Cytunodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor y dylai’r Prif Swyddog ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Yna, cyfeiriodd yr hwylusydd at y gweithdy ar roi  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Y Strategaeth Wastraff pdf icon PDF 191 KB

Adolygu Strategaeth Wastraff bresennol y Cyngor gyda’r amcan o gyflawni targedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) yr adroddiad a diolchodd i’r swyddogion am y gwaith sylweddol a wnaed ganddynt.   Cynhaliwyd tri adolygiad o’r Strategaeth Wastraff yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf ac roedd y pedwerydd adolygiad presennol yn canolbwyntio ar lefelau perfformiad is y Cyngor a chyflawni’r targedau hynny i osgoi cosbau ariannol.   Gosodwyd y targedau statudol ar gyfer awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru a dilynodd y Cyngor y glasbrint hwnnw, gydag un o’r targedau yn 64% eleni a 70% erbyn 2024/25.  Y nod oedd anfon 70% o’r holl wastraff a gynhyrchwyd i’w ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio gyda’r gwastraff gweddilliol (30%) yn cael ei anfon i gyfleuster creu ynni o wastraff. 

 

            Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) wybodaeth am lefelau perfformiad dros y blynyddoedd diwethaf, yr effeithiau yn dilyn y pandemig a’r dewisiadau ar gael i gyrraedd y targedau statudol.  Yna cyfeiriodd yr Aelodau at adrannau penodol o’r adroddiad ac amlinellodd y cefndir deddfwriaethol a’r targedau a osodwyd gan LlC a’r lefelau perfformiad a gyflawnwyd gan y Cyngor.  Rhoddwyd gwybodaeth am y dirwyon tordyletswydd, a oedd wedi’u hamlygu fel risg sylweddol i’r Awdurdod.  Yn 2021-2022 methodd y targed ailgylchu o 3,314 tunelli a ellir ei gymharu i ddirwy torri rheol posib o £662,888 os bydd Llywodraeth Cymru yn dewis cyflwyno cosb ariannol. 

 

            Darparwyd trosolwg o’r cyfarfod a gynhaliwyd y llynedd gyda’r Gweinidog gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) a oedd yn dilyn gostyngiad o ran perfformiad y flwyddyn flaenorol yn 2020-2021 o 17 tunnell ac fe awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) ei bod yn debygol y byddent yn cael eu galw eto eleni i esbonio pam nad oedd yr awdurdod wedi cyrraedd ei dargedau yn 2020-2021.   Roedd hyn yn risg sylweddol i’r gwasanaeth gan nad oedd cyllideb i dalu dirwy o’r fath a gallai effeithio ar sut y byddai gwasanaethau yn cael eu darparu yn y dyfodol.  Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 19 a oedd yn cynnwys rhagolygon ar berfformiad ar gyfer eleni, a oedd yn dangos pe bai’r awdurdod yn parhau ar y lefel hon, byddai’n cyfateb o 63.17%, a fyddai’n fyr i’r targed o 622 tunnell gyda dirwy bosibl o fwy na £124,000.  Darparwyd trosolwg o’r tunelli a gyflawnwyd dros yr haf a’r gaeaf ac nid oeddent yn gwella gyda gwastraff gweddilliol yn cynyddu.  Roedd cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu, ond roedd gwastraff gweddilliol wedi gwneud hefyd, ac nid oedd hyn yn helpu i gyflawni targedau.  Darparwyd gwybodaeth am y Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) a ddywedodd bod LlC yn ystyried y posibilrwydd o ddod â hwn yn grant economi gylchol a fyddai’n golygu risgiau ariannol ychwanegol i’r Awdurdod.  Cyfeiriwyd yr Aelodau at y tabl ar gyfraddau tunelli ar dudalen 20 ac Atodiad 2 a oedd yn cynnwys y sleidiau o’r gweithdai i Aelodau a chymhariaeth o berfformiad Sir y Fflint yn erbyn awdurdodau eraill gyda’r awdurdodau hynny ar y brig ac yn cyflawni’r targedau’n cyfyngu faint o sachau duon y gallai aelwydydd gael gwared arnynt.   Yn Sir y Fflint roedd aelwydydd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 44.

45.

Bargen Dwf Gogledd Cymru - Perfformiad Chwarter 2 pdf icon PDF 104 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’i weithgareddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad perfformiad canol blwyddyn gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ac atgoffodd yr Aelodau o’r sesiwn gyflwyno a gynhaliwyd ar ddechrau’r hydref y llynedd.   Roedd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd £240m o arian cyfalaf (£120m gan Lywodraeth Cymru a £120m gan Lywodraeth y DU) i’w wario ar draws pum rhaglen, sef Digidol, Ynni Carbon Isel, Tir ac Eiddo, Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth a Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel. Nodwyd bod y pum rhaglen yn ‘oren’ o ran cynnydd a darparodd wybodaeth fanwl am y prosiect Bodelwyddan a dynnwyd yn ei ôl, gyda £10m yn dychwelyd i gronfeydd y Bwrdd Uchelgais.   Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Ffyrdd, a oedd bellach yn ddisgwyliedig yn 2023, y Porth Gorllewinol a datblygiad Warren Hall.  Gobeithiwyd y byddai’r Swyddog Rhaglen ar gyfer Tir ac Eiddo yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod mis Mawrth ac y byddai Swyddogion Rhaglenni eraill yn gallu dod i gyfarfodydd yn y dyfodol.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn gyntaf at y cwestiwn am fuddsoddi yn y sector preifat ac fe gadarnhaodd fod hyn yn cael ei adolygu’n gyson a’i fod wedi cael ei nodi fel risg oren.  Derbyniodd y Swyddog Rhaglen bod angen ymgysylltu’n fwy â’r sector preifat.

 

            Wrth ymateb i’r cwestiwn a oedd yn holi a oedd unrhyw un o’r prosiectau mewn perygl, dywedodd mai’r ateb oedd na, ond bod hyn hefyd yn cael ei adolygu’n gyson.

 

            Gan gyfeirio at y cwestiwn am yr Adolygiad Ffyrdd mewn perthynas â safle Warren Hall, nid oedd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn deall pam fod ffordd fewnol ar safle Llywodraeth Cymru wedi cael ei chynnwys yng nghwmpas yr Adolygiad Ffyrdd.

 

            Gan symud ymlaen i’r sylw am 440 swydd, roedd yn hyderus y gallai safle Warren Hall ddarparu’r swyddi hyn, yn enwedig ar ôl rhyddhau’r tir ar gyfer tai.

 

            Yn olaf, wrth gyfeirio at y sylw am weithgynhyrchu ar ben uchaf y farchnad, fe amlinellodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) sut yr oedd y dechnoleg optig yn cael ei chanfod, ynghyd â’r technolegau gwyrdd a disgrifiodd pa dechnolegau oedd hefyd yn cael eu hyrwyddo.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Healey fod yr hyn yr oedd y chwe Chyngor wedi’i gyflawni, wrth gydweithio o fewn Bargen Dwf Gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i sicrhau cyllid a chanfod prosiectau mor gadarnhaol, yn gwbl anhygoel.  Soniodd am ymweliad trawiadol i’r Ganolfan Prosesu Signal Digidol ym Mangor a ariannwyd drwy’r fenter hon.   Roedd yn falch o weld cymaint o brosiectau ynni gwyrdd carbon isel, yn enwedig o fewn y sectorau bwyd-amaeth a thwristiaeth a oedd yn dda i gymunedau gwledig.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn nodi Perfformiad Chwarter 2.

 

46.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 116 KB

Adolygu’rlefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad canol blwyddyn hwn yn trafod y meysydd o Gynllun y Cyngor a oedd yn ymwneud â’r Pwyllgor hwn. 

 

Darparodd wybodaeth fanwl am y pedwar maes risg coch.

 

·      Caffael - ymgysylltwyd â chwmnïau llai i gyflawni prosiectau ynni neu arbedion ynni mewn eiddo a rhoddodd fanylion am y System Brosesu Ddeinamig.

·      Cysylltedd Digidol mewn Ardaloedd Gwledig - cyfeiriodd at y cyfarfod ym mis Rhagfyr lle nodwyd hyn fel pwysau gan nad oedd swyddog wedi cael ei benodi.  Gobeithiwyd penodi rhywun ar gyfer y rôl cyn y flwyddyn ariannol newydd.

·      Gwerth Cymdeithasol - roedd hyn yn rhywbeth a ddylai fynd i bob maes o’r Cyngor.

 

            Adroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) ar y risg goch ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.  Disgwyliwyd arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru ar sut yr oedd disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.  Cyhoeddwyd canllawiau drafft i awdurdodau lleol wneud sylwadau arnynt cyn y Nadolig ac roedd sylwadau’r awdurdod wedi cael eu dychwelyd iddynt.  Roedd hyn yn parhau i fod yn risg goch gan nad oedd cynllun pendant ar sut yr oedd am gael ei gyflawni.  Roedd yr awdurdod yn cynnig adolygu’r Strategaeth Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint i ddeall sut yr oedd hon yn bwydo i mewn i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ond nid oedd modd gwneud hyn nes yr oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu amlinelliad o’u disgwyliadau.

           

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Lloyd ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ac yn ffyddiog y cyflawnid blaenoriaethau canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23.

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ac yn cefnogi’r perfformiad cyffredinol yn ôl dangosyddion perfformiad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23.

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn fodlon ar yr esboniadau a roddwyd ar gyfer y meysydd lle bu tanberfformiad.

 

 

47.

Aelodau'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 11:42 am)

 

…………………………

Y Cadeirydd