Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.

Cofnodion pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Mai a 8 Mehefin 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai 2021. 

 

Materion sy'n codi

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell a gafwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r llythyr a anfonwyd ar ran y Pwyllgor i ofyn ynghylch ailsefydlu Cronfa'r Ardoll Agregau. Esboniodd yr Hwylusydd eu bod wedi derbyn ymateb ac y byddai’n ei anfon at y Cynghorydd Bithell, a dywedodd fod y Cynghorydd Carolyn Thomas wedi dweud y byddai hi’n symud hyn yn ei flaen gyda Llywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor.  

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, ac fe’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Owen Thomas.

 

 (ii)       Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021.

 

Materion sy'n codi

 

Manteisiodd y Cynghorydd George Hardcastle ar y cyfle i ddiolch i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) am ymateb i’r pryderon a godwyd ganddo yn ystod y cyfarfod ynghylch y costau a ysgwyddir er mwyn ymdrin â ch?n ar grwydr.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson ar y cyfle hefyd i ddiolch i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) am ymateb yn uniongyrchol ac esbonio’r pryderon a gododd yn ystod y cyfarfod ar 8 Mehefin.

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, ac fe’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Andy Hughes a Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

13.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 83 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Tynnodd sylw at daith rithiol o amgylch Parc Adfer a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod ar 12 Hydref, a gofynnodd i’r Aelodau gysylltu â hi gydag unrhyw awgrymiadau am eitemau yr hoffen nhw eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu a gododd o’r cyfarfodydd blaenorol. Dywedodd fod rhai camau gweithredu heb eu cwblhau hyd yma gan eu bod yn faterion hirdymor a byddai diweddariad yn cael ei roi ynghylch cynnydd ar y materion hyn. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

14.

Adroddiad Blynyddol a Pherfformiad Chwarter 4 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pdf icon PDF 88 KB

I gyflwyno Chwarter 4 (Ion-Maw) o adroddiad Bargen Dwf, Portffolio’r Gofrestr Risg wedi’i Ddiweddaru ac Adroddiad Blynyddol Portffolio Swyddfa Rheoli ar gyfer 2020-21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ionawr - Mawrth) y Fargen Dwf, Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolios ar gyfer 2020-21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac atgoffodd yr Aelodau mai set o ymyriadau tymor canolig i’r hirdymor yw Bargen Dwf Gogledd Cymru sy’n gysylltiedig â chryfderau Gogledd Cymru, gan nodi Economi Werdd a Chynhwysol yn benodol a diwydiannau blaengar craidd. Dywedodd ei bod yn rhaglen ranbarthol sy’n cynnig cydbwysedd rhwng y Gorllewin a Dwyrain Canol y rhanbarth. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, a Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau, ac estynnodd wahoddiad i’r ddau roi cyflwyniad ar y cyd i’r Pwyllgor ar Fargen Dwf Gogledd Cymru, a oedd yn ymwneud â’r prif bwyntiau canlynol:

 

  • Portffolio’r Fargen Dwf:
  • y 5 Rhaglen:
    • Rhaglen Ddigidol
    • Rhaglen Tir ac Eiddo
    • Rhaglen Ynni
    • Arloesi yn y Rhaglen Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth
    • Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth
  • Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 (Ionawr-Mawrth 2021) Bargen Dwf Gogledd Cymru
  • Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 2020-21

 

Cyfeiriodd Paul Shotton at lacio cyfyngiadau Covid a gofynnodd a ellid dwyn unrhyw rai o’r prosiectau ymlaen cyn 2023. Gofynnodd hefyd am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect uwchsgilio.  Esboniodd y Rheolwr Gweithrediadau fod y gwaith ar gyflawni’r prosiect yn mynd yn ei flaen mor gyflym â phosibl, serch hynny, prosiectau cyfalaf cymhleth tymor canolig/hirdymor oedden nhw a byddai’n cymryd amser i’w datblygu a’u hadeiladu. Esboniodd y byddem yn debygol o weld buddiannau’r prosiectau gweithredol cyntaf o 2023 ymlaen, serch hynny, disgwylir i’r cyfnodau adeiladu ddechrau tua diwedd 2021/dechrau 2022. Dywedodd y Cyfarwyddwr Portffolio y byddai’r holl fuddsoddiad cyfalaf angen y sgiliau a’r bobl gywir i wasanaethu’r buddsoddiad a soniodd am y gwaith gyda’r bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, diwydiannau, colegau ac ysgolion, o ran y sgiliau a’r cyfleoedd gwaith sydd eu hangen i gadw gwerth yn yr economi leol.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andy Hughes pa strategaethau sydd yn eu lle i hyrwyddo’r Fargen Dwf ymhlith y cyhoedd. Esboniodd y Cyfarwyddwr Portffolio fod gwefan yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac y byddai’n cael ei lansio yn y misoedd nesaf. Bydd y wefan yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr a manylion cyswllt ar gyfer pob prosiect. Yn ogystal â’r wefan, bydd hunaniaeth brand hefyd yn cael ei lansio. Soniodd am yr angen i ddylanwadu ar bobl ifanc a’u hysbrydoli ynghylch y cyfleoedd a’r swyddi uchel eu gwerth y byddai’r Fargen Dwf yn eu creu. 

 

Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn ehangu ei rôl yn y dyfodol er mwyn cael effaith ehangach y tu hwnt i’r Fargen Dwf. Yn nhermau ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r Fargen Dwf, soniodd y byddai diddordeb mawr mewn rhai prosiectau a dywedodd eu bod wedi ymgysylltu’n sylweddol gyda’r sector busnes a’r sector academaidd a byddai hynny’n treiddio trwodd.  Dywedodd fod Gogledd Cymru yn cael ei ystyried yn rhanbarth cydlynol ac uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a dywedodd fod angen magu diddordeb ymhlith  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Marchnadoedd Canol Tref pdf icon PDF 89 KB

I dderbyn adroddiad yn ôl cais y Pwyllgor ar 12 Mai, 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am farchnadoedd lleol yn Sir y Fflint. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Soniodd am heriau ac effeithiau parhaus y pandemig ar farchnadoedd stryd a rhai dan do a busnesau lleol dros y 12 mis diwethaf. Esboniodd fod y Cyngor wedi cefnogi busnesau marchnad yn ystod y pandemig a hyrwyddo pwysigrwydd busnesau lleol a siopa’n lleol i’r trigolion. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n croesawu safbwyntiau Aelodau ar fuddsoddi mwy o arian mewn marchnadoedd stryd lleol.

 

                        Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cwestiynau a gafodd gan fasnachwyr marchnadoedd stryd yn Nhreffynnon a dywedodd nad oedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu trin yr un fath â masnachwyr marchnad yn Yr Wyddgrug a rhoddodd enghraifft.  

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a ellid denu masnachwyr marchnad sy’n llwyddiannus mewn ardaloedd eraill i fasnachu yn Sir y Fflint. Derbyniodd y Prif Swyddog y pwynt ac esboniodd fod rhai marchnadoedd yn cael eu cynnal ar safle parhaol a’u bod ar agor i’r cyhoedd ar fwy o ddyddiau ac am gyfnodau hirach na’r marchnadoedd lleol, serch hynny, gellid edrych yn fanylach ar y posibiliadau. 

 

Yn sgil y pandemig, dywedodd y Cynghorydd Vicky Perfect fod yn well gan nifer o bobl siopa’r tu allan ac yn lleol ac awgrymodd y gellid ystyried ailgyflwyno marchnad yn Y Fflint.

 

Soniodd y Cynghorydd Chris Bithell am y diffyg mannau parcio ar gyfer masnachwyr marchnad yn Yr Wyddgrug a dywedodd fod angen cydweithredu rhwng adran y marchnadoedd a gwasanaethau stryd i ddatrys y problemau presennol. Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i drafod y mater gyda’r meysydd gwasanaeth perthnasol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle pa ffioedd a godir am fasnachu mewn marchnadoedd lleol. Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n dosbarthu copi o ffioedd presennol yr Awdurdod i’r Pwyllgor cyn y cyfarfod nesaf.

 

                        Siaradodd y Cynghorydd Owen Thomas o blaid marchnad Yr Wyddgrug. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a ellid cynnwys Bwcle yn yr adolygiad o’r marchnadoedd presennol yn Sir y Fflint gan obeithio y gellid sefydlu marchnad yn yr ardal honno er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â’r dref.

 

Soniodd y Cynghorydd Bithell bod angen cyflwyno busnesau newydd ac annog entrepreneuriaeth i fasnachu mewn marchnadoedd lleol ac, os byddai’n llwyddiannus, gallai greu cyfleoedd ar gyfer masnach a swyddi parhaol yn yr ardal leol. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Joe Johnson a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Adolygu sefyllfa bresennol y marchnadoedd yn Sir y Fflint a nodi’r gwaith mae’r Cyngor wedi ei wneud i’w cefnogi.

16.

Y diweddaraf ar Brosiect Hwb Hydrogen Glannau Dyfrdwy pdf icon PDF 155 KB

Yn dilyn cais gan y Pwyllgor ym mis Chwefror 2021, mae'r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y gwaith a wnaed hyd yma gan Jacobs i ddatblygu Achos Busnes Strategol ar gyfer hwb hydrogen newydd yng Nglannau Dyfrdwy ac yn ceisio sylwadau gan yr Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd wedi’i wneud gan Jacobs hyd yma i ddatblygu Achos Busnes Strategol ar gyfer hwb hydrogen newydd yng Nglannau Dyfrdwy. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y rhaglen ynni carbon isel yn cynnig cyfle i sefydlu Gogledd Cymru fel lleoliad blaenllaw ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel yn y DU. Dywedodd fod y Fargen Dwf, sydd ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru i gyd, wedi neilltuo £11.4 miliwn ar gyfer prosiect Hwb Hydrogen Glannau Dyfrdwy.Er mai Sir y Fflint yw canolbwynt prosiect yr Hwb Hydrogen, mae’n cynnig cyfleoedd enfawr i bob rhan o Ogledd Cymru.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y pwyntiau allweddol fel sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at destun cerbydau trydan a gafodd ei drafod yn ystod y cyfarfod ac oherwydd y gwaharddiad ar werthu ceir a faniau petrol a diesel newydd yn 2030 mae cerbydau trydan yn cael eu hyrwyddo a byddai hyn yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol cludiant. Dywedodd fod cynllun pontio yn cael ei ddatblygu, yn dilyn y strategaeth a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trydan a gwefru cerbydau, ac mae’r Awdurdod yn gweithio’n agos gyda thimau ynni Llywodraeth Cymru ar sut i’w roi ar waith.

 

Wrth ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Paul Shotton i gefnogi manteision y prosiect hydrogen, dywedodd y Prif Swyddog fod y rheolwr prosiect wedi cysylltu â nifer o ddiwydiannau/busnesau lleol i drafod sut gallen nhw fod yn rhan ohono yn y dyfodol. Dywedodd fod yr achos busnes strategol ar hyn o bryd yn asesu’r galw am hydrogen ar draws y rhanbarth a dywedodd fod angen datblygu isadeiledd i roi hyder i gwmnïau fuddsoddi mewn cerbydau. Wrth ymateb i’r sylwadau pellach gan y Cynghorydd Shotton, dywedodd y Prif Swyddog mai dim ond hydrogen “gwyrdd” sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, wedi dweud hynny, mae potensial i ddefnyddio hydrogen “glas” i ddechrau ac yna symud ymlaen at yr un “gwyrdd” ac mae hyn yn cael ei ystyried.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y cynnig i greu hwb hydrogen yng Nglannau Dyfrdwy (y cyfeirir ato fel cyfleuster cyflenwi hydrogen mewn bynceri) a gofynnodd a ellid adeiladu un mwy, o dan y ddaear.  Esboniodd y Prif Swyddog y byddai maint y byncer yn dibynnu ar y galw, sy’n anhysbys ar hyn o bryd, ond byddai’n dod yn amlwg wrth i’r achosion busnes gael eu datblygu. Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r cwestiwn arall a godwyd gan y Cynghorydd Banks ynghylch defnyddio hydrogen “glas” a “gwyrdd” ac esboniodd y gwahaniaeth rhwng y ddau. Dywedodd mai’r hydrogen “gwyrdd” sy’n cael ei ffafrio ar gyfer prosiect Glannau Dyfrdwy gan nad yw’n cynhyrchu’r isgynnyrch carbon sydd angen ei storio neu ei symud i rywle arall.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma mewn partneriaeth â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.