Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

21.

Cofnodion pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Hydref a 10 Tachwedd 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylid cymeradwyo’r cofnodion ac eiliwyd gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2020.

 

Diolchodd y Cynghorydd Owen Thomas i’r Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) am ei ddiweddariad ar y cynnydd yn ymwneud â llwybr beiciau Rhydymwyn – yr Wyddgrug.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Owen Thomas y dylid cymeradwyo’r cofnodion ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir i’w llofnodi gan y Cadeirydd.

 

22.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad am y sefyllfa bresennol a chyfeiriodd at y rhaglen frechu ranbarthol. Esboniodd fod disgwyl rhagor o newyddion ar 17 Rhagfyr gan Brif Weinidog Cymru yngl?n ag addasu’r cyfyngiadau presennol ar y sector lletygarwch.  Dywedodd fod y cynnydd diweddar mewn achosion newydd o Covid ar draws Cymru (yn enwedig yn ne Cymru) yn destun pryder a gallai hyn arwain at ragor o gyfyngiadau yn dod i rym yn ystod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.  Gan gyfeirio at ddadansoddiad o’r data, esboniodd fod Sir Fflint wedi gweld cynnydd graddol yn nifer yr achosion o’r haint dros y dyddiau diwethaf ond nid oedd yn gynnydd sylweddol, a dywedodd fod y rhan fwyaf o brofion positif yn deillio o leoliadau yn y gymuned. 

 

Roedd capasiti’r GIG yng ngogledd Cymru yn sefydlog ac roedd nifer y bobl oedd yn mynd i’r ysbyty oherwydd Covid yn sefydlog ar raddfa wythnosol. Rhoddodd ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol a’r capasiti yn Ysbyty’r Enfys, Glannau Dyfrdwy, a dywedodd mai’r bwriad oedd defnyddio’r ysbyty fel canolfan ar gyfer y rhaglen frechu torfol gyda chymorth gan nifer o ganolfannau brechu lleol ar draws gogledd Cymru. Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar yr wybodaeth a’r trefniadau diweddaraf yngl?n â’r rhaglen frechu yng Nghymru ac ar hyn o bryd roedd disgwyl y byddai’n cymryd 6-8 mis i’w chwblhau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd George Hardcastle, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar y sefyllfa yn Ysbyty’r Enfys, Glannau Dyfrdwy, gan gyfeirio at y sylwadau cadarnhaol a dderbyniwyd gan staff a chleifion. Dywedodd fod yr holl gleifion sydd yn Ysbyty’r Enfys ar hyn o bryd yn bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty ac sy’n gwella.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Nodwyd y sylwadau uchod. 

 

23.

AMRYWIO TREFN BUSNES

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai eitem 10 ar y rhaglen: ‘Adborth ar Gynigion Llywodraeth Cymru i Gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol’ yn cael ei symud ymlaen. Cynigiwyd hyn gan y Cynghorydd George Hardcastle ac eiliwyd gan y Cynghorydd Owen Thomas

 

24.

Adborth ar Gynigion Llywodraeth Cymru i Gyflwyno Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        I dderbyn sylwadau gan Craffu ar gynigion Llywodraeth Cymru i gynnwys yr adolygiad o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’u cynigion i gyflwyno Cydbwyllgorau Corfforaethol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn gofyn am sylwadau ar gynigion Llywodraeth Cymru i gynnwys yr adolygiad o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol  a’r cynigion i gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Cyflwynodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at adran 1.12 yn yr adroddiad gan ddweud nad oedd yr Awdurdod yn gwrthwynebu mewn egwyddor y cynnig i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol, fel dewis gwell ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru a’r cost a’r amhariad fyddai’n deillio o hynny. Fodd bynnag, roedd pryderon yngl?n â chylch gorchwyl a swyddogaeth y Cyd-bwyllgorau ar y dechrau ac unrhyw bwerau yn y dyfodol, a’r effaith ar gapasiti lleol i gyflawni a rheoli swyddogaethau a chynlluniau lleol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ymatebion pellach y Cyngor i’r papur ymgynghorol ar y cynigion fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cyd-bwyllgorau oedd 4 Ionawr 2021.  Dywedodd y byddai’r Cyd-bwyllgorau yn cynnwys y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri. Esboniodd y byddai gan y Cyd-bwyllgorau y swyddogaethau cysylltiedig canlynol: gwella Datblygu Economaidd a Lles; Cynllunio Strategol, a Chynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol. Cyflwynodd drosolwg o’r ddwy swyddogaeth gyntaf a dywedodd fod y Cyngor yn cefnogi’r cynigion mewn egwyddor ond ei fod yn pryderu yngl?n ag amserlenni, cyllid a materion eraill. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) wybodaeth gefndir gan adrodd ar sefyllfa’r Cyngor mewn ymateb i’r cynigion o safbwynt cynllunio trafnidiaeth. Roedd y Cyngor yn gefnogol mewn egwyddor i’r cynigion fel model rhanbarthol ond roedd ganddo rywfaint o bryderon fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod y Strategaeth Drafnidiaeth Newydd wedi cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Dywedodd ei bod hi wedi mynegi pryderon yn rheolaidd yngl?n â chadw arian ac adnoddau yn lleol, ond roedd yn cefnogi ymagwedd ranbarthol ar gyfer llwybrau rheilffyrdd a bysiau strategol. Hefyd, mynegodd ei phryderon yngl?n â’r goblygiadau wrth benodi swyddogion ar gyfer y Cyd-bwyllgorau o’r awdurdodau lleol ar gyfer pob rhanbarth, a disgwyliad Llywodraeth Cymru oedd y byddai’r rolau yn gofyn am ymrwymiad o 1-5 diwrnod yr wythnos. Pwysleisiodd yr angen i gadw gwybodaeth gwerthfawr y swyddogion lleol.  

 

Mynegodd y Cynghorydd Chris Bithell bryderon yngl?n ag amserlenni ac anawsterau posibl a fyddai’n gysylltiedig â datblygu Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n â’r angen am seilwaith trafnidiaeth i fodloni gofynion economaidd a chymdeithasol Sir y Fflint.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr i sylwadau’r Aelodau a chytunodd fod angen osgoi dyblygu gweinyddiaeth a chostau a rhoddodd enghraifft o sut gellid osgoi hyn. 

 

Ategodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr angen i adrodd pryderon yr Awdurdod am y cynigion yn ôl i Lywodraeth Cymru ar faterion adnoddau, ariannu, a’r angen i gadw gwybodaeth a phrofiad swyddogion lleol. 

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n ag effaith Brexit ar borthladd Caergybi, esboniodd y Prif Weithredwr fod gwaith mawr yn cael ei wneud ar lefel rhanbarthol yn  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol. Cyfeiriodd at y Gweithdai Ffosydd a Chyrsiau D?r a gynhelir ar 16 Rhagfyr, a dywedodd y byddai’r Gweithdai Rhaglen Ddigidol o’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cael eu cynnal ar 12 Ionawr 2021. Soniodd am yr eitemau a restrir i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 12 Ionawr 2021 a dywedodd y byddai eitem ychwanegol ar Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnwys ar raglen y cyfarfod.   

 

Dywedodd yr Hwylusydd fod cais wedi cael ei wneud i ychwanegu eitem i’r Rhaglen ar bwyntiau gwefru ceir trydan yn y Sir i’w ystyried yn y dyfodol.  

 

Gan adrodd ar y cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol dywedodd yr Hwylusydd fod tri cham gweithredu yn dal heb eu cwblhau ac roedd cynnydd yn parhau. 

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Chris Dolphin ac eiliwyd gan y  Cynghorydd Paul Shotton. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill.

 

26.

Diweddariad ar Gynllun Beicio yr Wyddgrug i Frychdyn a Datblygu Rhwydwaith Beicio Craidd y Sir pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        I dderbyn diweddariad ar gynnydd. (Craffu i wedi gwneud cais am Adroddiad)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Rheolwr Trafnidiaeth mai amcan cychwynnol yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar Gynllun y Llwybr Beicau o’r Wyddgrug i Frychdyn, fodd bynnag, oherwydd y diddordeb a fynegwyd yn ystod y cyfnod Craffu ar ddyheadau Teithio Llesol strategol ehangach y Cyngor, ehangwyd ar yr adroddiad i gynnwys diweddariad ar gynnydd a wnaed i ddatblygu Rhwydwaith Llwybrau Beiciau ‘craidd’ y Sir. Cyfeiriodd hefyd at y cyfle i ehangu cylch gorchwyl Cynllun Llwybr Beicau yr Wyddgrug i Frychdyn i gynnwys Caer fel pen draw’r daith ac i ofyn am gefnogaeth y Pwyllgor i gyflwyno cais i ailfrandio’r cynllun a’i alw yn ‘Cynllun Llwybr Strategol yr Wyddgrug i Gaer’ fel cais Teithio Llesol Strategol i Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trafnidiaeth wybodaeth gefndir a rhoddodd drosolwg byr o’r rhwydwaith llwybrau beiciau cenedlaethol a diweddariad ar gynllun beicio’r Wyddgrug. Esboniodd fod datblygu rhwydwaith beicio strategol fel yr amlinellir yn gwneud teithio llesol yn ddewis ymarferol a oedd yn galluogi pobl i deithio i’w gwaith, a chael mynediad at gyfleusterau hamdden a thwristiaeth, nid yn unig yn y Sir ond yn Lloegr hefyd. Ategodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) y sylwadau a fynegwyd gan y Rheolwr Trafnidiaeth o ran y cyfleoedd a ddaw yn sgil datblygu rhwydwaith beicio cenedlaethol a dywedodd mai’r gobaith oedd y byddai’n dod mor gyfarwydd ac yn cael ei ddefnyddio i’r un graddau â’r map ffordd yn Sir y Fflint.

 

Mynegodd y Cynghorydd George Hardcastle bryderon yngl?n â thorri coed yn ardal Aston Hill. Hefyd, mynegodd ei bryderon nad oedd unrhyw rwystrau i amddiffyn defnyddwyr y llwybr beiciau ar Aston Hill. Roedd y Prif Swyddog yn derbyn y pryderon a fynegwyd a dywedodd y byddai’n siarad yn uniongyrchol gyda’r Asiantaeth Cefnffyrdd i sicrhau bod yr un broses ymgynghorol yn cael ei dilyn â’r un a ddilynwyd gan yr Awdurdod.  

 

Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i’r swyddogion am eu gwaith ar y strategaeth drafnidiaeth. Roedd yn cytuno â’r safbwyntiau a fynegwyd gan y  Cynghorydd Hardcastle ar yr angen i’r Asiantaeth Cefnffyrdd ymgynghori’n llawn.

 

Hefyd, mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson ei ddiolchiadau i swyddogion am eu gwaith caled ar Rwydwaith Llwybrau Beiciau Craidd y Sir, a dywedodd hefyd ei fod am gydnabod cymorth a chydweithrediad Alistair Stubbs, Pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed, ar y cyngion ar gyfer datblygu. Mynegodd y Cynghorydd Hutchinson bryderon yngl?n â phriffordd leol yn ei Ward. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pwyntiau a wnaed a dywedodd y byddai’n rhoi ymateb mwy manwl i’r Cynghorydd Hutchinson yn dilyn y cyfarfod ar y cynigion ar gyfer creu llwybr cyswllt o Fwcle at lwybr beicio dynodedig ar y ffordd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at y Llwybrau Beiciau Cyswllt Strategol rhwng yr Wyddgrug a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a gofynnodd am eglurder o ran sut byddai’n bosibl cael mynediad ar draws Pont Sir y Fflint os mai dyma’r llwybr bwriedig. Siaradodd o blaid y cynigion lleol pellach a oedd yn cael eu croesawu. Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar y broses ymgynghori  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi trosolwg o’r cynllunio adferiad ar gyfer meysydd portffolio’r Pwyllgor. Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac esboniodd fod fersiynau wedi’u diweddaru o’r gofrestr risg a chamau lliniaru risg ar gyfer y Portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ynghlwm â’r adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod diweddariad hefyd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o 14 amcan adferiad y portffolio. Cyfeiriodd at gynnydd ym maes cydymffurfiaeth gyda’r Cynllun Datblygu Newydd, cefnogaeth i amddiffyn canol trefi lleol, cymunedau a busnesau gyda dyletswyddau statudol a gorfodaeth mewn perthynas â Covid-19, lladdwr yr ynn, ac adfer y swyddogaeth Rheoli datblygu.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth am y newidiadau i’r gofrestr risg ddiweddaraf a oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad a chyfeiriodd at y risgiau canlynol:  PE02, PE13, PE14, a PE16.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson ac eiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynllunio adferiad ar gyfer y portffolios Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi;  a

 

(b)       Bod cynnwys cofrestr risg ddiweddaraf y portffolio a’r camau lliniaru wedi’u nodi. 

 

 

28.

Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith cynllunio adferiad ar gyfer maes portffolio’r Pwyllgor. Cyflwynodd wybodaeth gefndir ac esboniodd fod y fersiwn ddiweddaraf o’r gofrestr risg a set o gamau i liniaru risg ar gyfer y portffolio Strydlun a Thrafnidiaeth ynghlwm â’r adroddiad. 

 

Hefyd, dywedodd y Prif Swyddog fod diweddariad yn yr adroddiad ar gyfer pob un o 9 amcan adferiad y portffolio. Cyfeiriodd at gynnydd ym mherfformiad ailgylchu, datblygu seilwaith gwastraff i gefnogi’r potensial i gynyddu ailgylchu, a chynnal y rhwydwaith priffyrdd dros y gaeaf.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar y newidiadau yn y gofrestr risg ddiweddaraf a fyddai’n cael ei chylchredeg i aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod, a chyfeiriodd at arian gan Lywodraeth Cymru am golli incwm o feysydd parcio oherwydd cyfyngiadau Covid-19; lles gweithwyr cyflogedig, materion yn ymwneud â chydymffurfiaeth wrth ailgylchu defnyddiau gwastraff, a pharatoadau i ymateb i sefyllfaoedd brys.

 

Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i’r holl staff yn yr adran Strydlun a Thrafnidiaeth am eu gwaith caled yn ystod y pandemig. Roedd y Cadeirydd hefyd yn dymuno diolch i’r Prif Swyddog a’i staff am eu gwaith o dan amodau anodd iawn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson am ddiweddariad ar yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol, a dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r tir yn wag cyn y Nadolig gyda’r gobaith o gael adeilad  newydd erbyn mis Mehefin/Gorffennaf a fyddai’n weithredol cyn diwedd yr haf 2021. Byddai’r cyfleuster newydd yn cynnwys canolfan addysg a byddai Aelodau’r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i ymweld â’r ganolfan ar ôl iddi gael ei chwblhau.

 

Mewn ymateb i bryderon pellach a godwyd gan y Cynghorydd Hutchinson yngl?n â marciau ffordd, esboniodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw ddiffygion yn cael eu nodi gan gydlynwyr stryd lleol yn ystod archwiliadau o’r priffyrdd ac y byddai contractwr arbenigol yn dod i mewn i gyflawni rhaglen waith. Awgrymodd y dylai’r Cynghorydd Hutchinson godi’r diffygion penodol roedd yn gwybod amdanynt gyda’i gydlynydd Strydlun lleol er mwyn gweithredu arnynt. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd George Hardcastle, rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar drefniadau cynnal y gaeaf, a chadarnhaodd fod stoc o halen carreg yn weddill ar gyfer cyfnod y gaeaf. Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled yn ystod misoedd y gaeaf.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Christopher Dolphin ac eiliwyd gan y  Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i gefnogi Strategaeth Adferiad y portffolio Strydlun a Thrafnidiaeth.

 

29.

Diweddariad ar Storfa Depo Alltami pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I roi gwybod i Craffu o’r rheolaethau yn eu lle i reoli’r storfeydd depo yn Alltami.  Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn dilyn yr adroddiad ym mis Chwefror 2020. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau adroddiad i roi diweddariad ar y cynnydd yn dilyn adroddiad blaenorol a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020 yn unol ag argymhellion y Pwyllgor.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at ddatblygu system rheoli stoc electronig newydd gyda’r nod o symleiddio materion yn ymwneud â rheoli stoc a rhoi mwy o atebolrwydd a swyddogaethau adrodd.  Y disgwyl oedd y byddai’r system newydd yn weithredol erbyn diwedd mis Mawrth 2021 ac yn y cyfamser byddai’r gwaith o reoli stoc yn parhau i gael ei gyflawni ar system bapur i sicrhau bod yr holl eitemau stoc yn cael eu cyflenwi a’u cofnodi ar y system Tranman. 

 

Hefyd, cyflwynodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau adroddiad ar y gwaith a wnaed i nodi lleoliad yr holl beiriannau ac offer, gan gynnwys offer a gedwir ar safleoedd pell, a dywedodd fod rhestr eiddo ganolog o’r holl beiriannau yn cael ei diweddaru’n ddyddiol a bod yr holl eitemau’n cael eu cofrestru a’r defnydd ohonynt yn cael eu hawdurdodi gan Oruchwylwyr. Fel rhan o’r gwaith hwn, esboniodd fod y gwasanaeth wedi defnyddio gr?p o gydrannau caledwedd a meddalwedd a oedd yn golygu bod modd casglu, trefnu, a dadansoddi data yngl?n â risgiau i iechyd o ddirgryniad llaw-braich (HAV:Hand Arm Vibration) yn gysylltiedig â’r defnydd o offer dirgrynol. Roedd y feddalwedd yn sicrhau bod y Cyngor yn glynu at ofynion cyfreithiol ym maes iechyd a diogelwch yn y gweithle, a bod modd pennu maint dirgryniadau sy’n cynrychioli’r gwir allyriadau dirgyniad sy’n gymwys wrth ddefnyddio offer. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau fod cynllun gweithredu (a oedd ynghlwm â’r adroddiad) wedi cael ei gyflwyno i sicrhau bod trefniadau a phrosesau gwaith yn dal i gael eu dilyn yn y Gwasanaeth a chyfeiriodd at y camau gweithredu allweddol a nodir yn yr adroddiad. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Christopher Dolphin ac eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y trefniadau gwaith parhaus yn storfeydd depo Strydlun a Thrafnidiaeth yn cael eu nodi a bod y camau a gymerwyd i reoli defnyddiau, peiriannau ac offer a gedwir yn y storfeydd yn cael eu cefnogi. 

 

 

30.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG A OEDD YN BRESENNOL

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.