Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

61.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

62.

Cofnodion pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 9 Tachwedd 2021 a 11 Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021 ac 11 Ionawr 2022 i'w hystyried.

9 Tachwedd 2021

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton ac eiliodd y Cynghorydd Joe Johnson y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021.

11 Ionawr 2022

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton ac eiliodd y Cynghorydd Joe Johnson y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2022.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021 ac 11 Ionawr 2022 fel cofnod cywir.

63.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Mae’r cyfarfod am 10.00 am ar 8 Mawrth wedi’i newid i Sesiwn Friffio ar y System Hyblyg. Bydd cyfarfodydd nesaf y Pwyllgor ar 7 Mehefin a 5 Gorffennaf.

            Gan symud ymlaen at yr adroddiad ar olrhain camau gweithredu, darparodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu a chadarnhaodd y byddai’r eitem ar Farchnadoedd Canol Tref y Fflint a Bwcle yn aros ar yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Cytunodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd i siarad efo’r Cynghorydd Thomas ar ôl y cyfarfod yngl?n â’i bryderon am yr adolygiad o drefniadau torri gwair.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oes modd cynnwys eitem ar farciau strydoedd. Awgrymodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ei fod yn siarad efo’r Cynghorydd Hutchinson ar ôl y cyfarfod i drafod y lleoliadau sy’n achosi problemau. Eiliodd y Cynghorydd Hardcastle gais y Cynghorydd Hutchinson i gynnwys hyn ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd;

 

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd yn ôl yr angen; a

 

(c)     Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r camau gweithredu sy’n weddill.

64.

Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Ym mis Rhagfyr 2019, ymrwymodd y Cyngor i ddatblygu cynllun gweithredu i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae ein Rheolwr Rhaglen yn cyflwyno’r ddogfen strategaeth ddrafft sy’n cynnwys manylion am ein cynllun i gyflawni’r targed hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr awdurdod wedi penderfynu bod yn garbon niwtral yn 2019. Mae Alex Ellis wedi’i benodi’n Rheolwr Rhaglen i ddatblygu’r Strategaeth Newid Hinsawdd. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf ac yna i’r Cyngor Sir.

 

            Dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod Llywodraeth Cymru, yn 2019, wedi galw ar awdurdodau sector cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Ym mis Rhagfyr 2019 penderfynodd y Cabinet ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd sy’n nodi cynigion y Cyngor i fod yn gyngor carbon niwtral erbyn 2030. Mae’r Cyngor wedi darparu gweithgareddau datgarboneiddio ers sawl blwyddyn, yn cynnwys cynlluniau ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae’r Strategaeth Newid Hinsawdd yn nodi amcanion y Cyngor i symud tuag at y nod sero net a darparodd drosolwg o’r gwaith ymgysylltu sydd wedi’i wneud a’r adborth a dderbyniwyd. Gan gyfeirio at y strategaeth, darparodd wybodaeth am ffigyrau allyriadau gwaelodlin ac amlygodd y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma a’r amcanion arfaethedig i leihau allyriadau uniongyrchol yn y sir. Mi fydd yna oblygiadau ariannol yn nhermau refeniw a chyfalaf a bydd angen rhoi sylw pellach i’r camau gweithredu dan bob thema er mwyn deall y goblygiadau o ran adnoddau. Mae’r Cyngor wedi defnyddio sawl ffynhonnell ariannu a rhagwelir y bydd cyllid ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen at y strategaeth ac amlygodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Dan bwynt 6.7 ar dudalen 53 – gwybodaeth am ffigyrau gwaelodlin allyriadau carbon yn seiliedig ar ddata allyriadau 2018/19. Cadarnhaodd fod yna ostyngiad o 17% yn y waelodlin honno yn 2021.

 

·         Dan bwynt 7.1 ar dudalen 55 – mae’r siart yn rhagfynegi’r gostyngiadau y gallai’r camau gweithredu eu cyflawni ond mae hynny’n gadael bwlch o 20,000 mewn C02 erbyn 2030. Eglurodd fod mesurau nad ydynt ar gael eto ac y byddai hyn yn cael ei fonitro a’i ystyried pan fydd y strategaeth yn cael ei hadolygu ymhen dwy flynedd. Mae mantoli allyriadau gyda phlannu coed wedi’i amlinellu a byddai ar y Cyngor angen blaenoriaethu sut mae asedau tir yn cael eu neilltuo ar gyfer hyn.

 

·         Dan bwynt 7.10 ar dudalen 57 – mae hyn yn amlygu’r targedau dros dro dan y themâu allyriadau carbon uniongyrchol.

 

·         Dan bwynt 8.1 ar dudalen 58 – darparwyd crynodeb o’r nodau allweddol dan bob thema.

 

·         Mae bioamrywiaeth wedi’i integreiddio yn y strategaeth, gan roi ystyriaeth i newid hinsawdd a datgarboneiddio. Darparwyd gwybodaeth am sut mae’r rhain yn cael eu cynnwys a’r hyfforddiant sydd ei angen.

 

            Eglurodd Rheolwr y Rhaglen y byddai’r Cyngor, drwy gyrraedd y nodau hyn, yn gallu cyrraedd ei dargedau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r targed Cymru Sero Net erbyn 2050. Byddai’r Cyngor hefyd yn cyrraedd ei nodau dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol a Llesiant a Deddf yr Amgylchedd. Gorffennodd drwy ddweud fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf a bod gwaith yn cael ei wneud dan bob thema i nodi’r statws presennol a’r goblygiadau o ran adnoddau.

 

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan  ...  view the full Cofnodion text for item 64.

65.

Cais am Arian Grant i Hybu Mentrau Atgyweirio ac Ailddefnyddio pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Cynghori’r Pwyllgor Craffu o’r bwriad i gyflwyno cais am grant i ddarparu prosiect peilot i weithredu mentrau atgyweirio ac ailddefnyddio ar draws Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad amlinellodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y cynnig ar gyfer y cais ariannol ar y cyd ar gyfer prosiect ailddefnyddio gyda Refurbs Sir y Fflint, sydd wedi’i gyflwyno i’r Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Gan nad yw’r cyllid hwn ar gael i’r Cyngor darparwyd cymorth i helpu Refurbs Sir y Fflint i gyflwyno cais. Roedd hyn yn dod o dan Lleihau Gwastraff a Dargyfeirio Gwastraff o Safleoedd Tirlenwi.

 

            Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod hyn wedi derbyn sylw yn 2019 ac, yn dilyn trafodaethau gyda thrigolion a sylwadau mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ei fod yn cael ei adolygu. Roedd yna lawer o eitemau y gellir eu hailddefnyddio a’u hailgylchu yn cael eu gwaredu. Cysylltwyd ag elusennau i ddod i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i siarad gyda phreswylwyr er mwyn atal eitemau o ansawdd rhag cael eu taflu. Roedd llawer o elusennau yn awyddus i gymryd rhan ond yna fe darodd y pandemig a rhoddwyd stop ar y gwaith. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal unwaith eto gyda’r elusennau i fwrw ymlaen â hyn ac mae cynigion ar gyfer y cynllun peilot, gyda Refurbs yn y lle cyntaf, yn cael eu datblygu. Cyfeiriodd at 1.05 yn yr adroddiad sy’n manylu ar y cynigion a’r trefniadau ar gyfer y cynhwysydd storio. Byddai’r eitemau hyn yn cael eu casglu o bob safle a’u danfon i ganolfan sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor. Byddai’r eitemau wedyn yn cael eu didoli i gategorïau fel teganau a bric-a-brac ac ati i elusennau eu gwerthu. Byddai llyfrgell hefyd yn cael ei chreu yn y ganolfan ar gyfer deunyddiau wedi’u recordio a llyfrau. Unwaith y mae popeth yn ei le, rhagwelir y byddai eitemau yn cael eu danfon yn uniongyrchol i’r ganolfan yn hytrach na’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae yna hefyd gynigion ar gyfer casgliadau wrth ymyl y ffordd, ar gyfer tecstilau yn y lle cyntaf. Os llwyddir i gael y cyllid byddai ymgyrch hysbysebu yn cael ei chynnal gyda gwirfoddolwyr Refurbs ac elusennau eraill sy’n gweithio yn y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd a hyrwyddo’r cynllun. Darparodd drosolwg o’r eitemau y byddai’r cynllun peilot yn edrych arnynt.

 

            Gan gyfeirio at y cyllid grant cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod yna gystadleuaeth frwd ac mai dim ond un ymgeisydd llwyddiannus sydd yna bob blwyddyn. Mae’r cynnig yn un beiddgar ac uchelgeisiol iawn, er mwyn gwneud yn si?r ei fod yn sefyll allan. Os yw’n aflwyddiannus, bydd y gwaith i ganfod cyllid ychwanegol yn parhau. Os yn llwyddiannus, byddai’r prosiect yn cael ei gynnal o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2023, yn dibynnu ar y cyllid. Mae isadeiledd, adeiladau a cherbydau wedi derbyn sylw ond y prif ffocws yw hyrwyddo hyn a chodi ymwybyddiaeth. Mae yna fuddion i’r elusennau a byddai’r cyhoedd yn llai tebygol o daflu eitemau defnyddiol. Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y byddai pobl yn llai tebygol o waredu’r eitemau  ...  view the full Cofnodion text for item 65.

66.

Casgliadau Gwastraff Swmpus pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu ar ddarparu gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad yn dilyn cais gan y Pwyllgor ym mis Tachwedd y llynedd. Mae’r pandemig wedi effeithio ar gasgliadau eitemau swmpus ac mae’r camau gweithredu a’r heriau sy’n wynebu Refurbs wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

            Darparodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio drosolwg o’r gwasanaeth casglu eitemau swmpus, sy’n ffordd i bobl waredu eitemau sy’n rhy fawr i’r casgliadau wrth ymyl y ffordd. Darparwyd trosolwg o’r eitemau a ystyrir yn wastraff swmpus. Mae Refurbs Sir y Fflint yn casglu eitemau y mae modd eu hailddefnyddio, eu trwsio a’u hailwampio ac yna’n eu gwerthu am brisiau rhesymol yn eu hystafell arddangos yn y Fflint. Cedwir cofnod o’r holl eitemau sy’n cyd-fynd â’n perfformiad a’n targed ailgylchu o 70%. Mae Atodiad 1 yn cynnwys yr eitemau y mae Refurbs yn eu casglu ond cadarnhaodd nad oes modd ailgylchu gwastraff ailwampio cartrefi, fel ceginau, ystafelloedd ymolchi ac eitemau gardd, drwy’r gwasanaeth hwn. Gofynnir i drigolion waredu’r eitemau hyn yn briodol drwy gontractwr gwastraff cymeradwy. Mae’r Cyngor yn casglu nwyddau gwyn fel oergelloedd yn rhad ac am ddim.

            Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio at amserlenni casgliadau Refurbs, sydd fel rheol o fewn 6 diwrnod gwaith gyda’r eitemau yn cael eu gadael o fewn ffiniau eiddo. Mae Refurbs yn helpu pobl ar gais. Mae yna ffi o £40 am hyd at 5 eitem a £5 am bob eitem ychwanegol a £65 am 10 eitem. Mae yna ostyngiad i bobl sy’n derbyn budd-daliadau (£20 a £5 am bob eitem ychwanegol) a gellir trefnu’r gwasanaeth hwn ddwywaith y flwyddyn. Mae’r ffioedd hyn yn cael eu hadolygu o fewn y Polisi Ffioedd a Thaliadau yn flynyddol.

 

            Mae adran 1.06 yr adroddiad yn nodi nifer y ceisiadau a’r tunelli a gasglwyd, ond fe gafodd y gwasanaeth hwn ei atal yn ystod y pandemig a bu’n rhaid cau’r safleoedd ailgylchu gwastraff y cartref. Yn anffodus fe arweiniodd hyn at ffyniant gwasanaethau “dyn mewn fan” ar y cyfryngau cymdeithasol, ond nid yw’r unigolion hyn wedi’u rheoleiddio ac nid oes gan drigolion unrhyw syniad i ble mae’r gwastraff yn mynd. Anogwyd trigolion i holi ble mae’r eitemau yn cael eu gwaredu.

 

            Roedd archebion Refurbs wedi cronni ar ôl y pandemig ac os oedd y dyddiad yn rhy bell i drigolion roeddynt yn cael eu hargymell i ddefnyddio gwasanaeth cofrestredig. Roedd gan Refurbs hefyd lai o staff, oherwydd gofynion hunan-ynysu neu ddulliau gweithio cyfyngedig, ac roedd recriwtio hefyd yn broblem gan fod hon yn fenter gymdeithasol. Roedd trigolion yn cael gwybod pryd y byddai’r tîm yn casglu’r nwyddau a’r staff yn darparu diweddariadau iddynt. Mae’r amser casglu wedi’i ymestyn i 10 i 15 diwrnod gwaith. Mae yna oedi o hyd ond wrth symud yn ein blaenau mae’r gwasanaeth ar y trywydd cywir bellach.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a oes modd rhannu’r wybodaeth yn 1.05 am ffioedd gwastraff swmpus gyda phob Aelod er gwybodaeth. Cytunwyd ar hyn.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Sean Bibby i’r swyddogion am ddarparu eglurhad manwl am yr eitemau sy’n cael eu casglu. Cyfeiriodd at ei  ...  view the full Cofnodion text for item 66.

67.

Effaith y pandemig a ffactorau eraill ar wasanaethau cludiant a chostau gweithredu pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn dilyn argymhelliad yng nghyfarfod y Pwyllgor Adfer a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2021, a amlygodd fod costau gweithredu trafnidiaeth yn cynyddu tra bod nifer y gweithredwyr trafnidiaeth sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau yn lleihau. Mae’r adroddiad yn amlinellu sut mae gwasanaethau bws cyhoeddus wedi eu hariannu yn ystod y pandemig ynghyd ag effaith ar weithwyr a lefelau gwasanaeth, yn ogystal â datblygiadau yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y Pwyllgor Adfer, ym mis Tachwedd, wedi argymell cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor. Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar wasanaethau cludiant cyhoeddus. Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg o’r hyn a ddigwyddodd, a’r mesurau lliniaru a roddwyd ar waith i gefnogi gweithredwyr mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

 

            Eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig fod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar gludiant ysgol a gwasanaethau cludiant cyhoeddus ar draws y wlad. Roedd colli teithwyr ynghyd â chadw pellter cymdeithasol a chostau COVID wedi ychwanegu at y pwysau sydd ar y gwasanaethau. Roedd yn rhaid i weithredwyr atal gwasanaethau a bu newidiadau i’r canllawiau, ond fe ddarparwyd cefnogaeth i liniaru effaith y gwasanaethau a ataliwyd. Cyflwynodd Lywodraeth Cymru’r Gronfa Galedi ac mae trosolwg o hon, a’r ffioedd consesiwn yr oedd yn rhaid i deithwyr eu talu, wedi’u darparu. Cyflwynwyd y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau fis Gorffennaf 2020, gan barhau i gadw incwm cwmnïau ar lefelau hanesyddol. Sir y Fflint oedd yr awdurdod cynnal yng ngogledd Cymru, gan ddyrannu a phrosesu’r cyllid gyda chefnogaeth swyddogion rhanbarthol. Roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i weithredwyr gyfrannu a gwella rhwydweithiau rhanbarthol, a oedd yn rhan o’r cytundeb ar gyfer Sir y Fflint ac ar draws y gogledd. Eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig fod y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 1.5 wedi’i gyflwyno i helpu gweithredwyr i ddychwelyd i gynnig y gwasanaeth llawn, yn enwedig o ystyried mesurau cadw pellter cymdeithasol pan oedd angen dau fws er mwyn cludo plant i’r ysgol. Darparwyd cyllid y cynllun brys i sicrhau eu bod yn gweithredu. Bydd cytundeb ariannu hirdymor Cynllun Brys 2 gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn para tan fis Gorffennaf 2022, oni bai bod amodau’r farchnad wedi gwella’n sylweddol ac asesiad o’r cyllid sydd ei angen wedi’i gynnal yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Mae gweithredwyr bysiau yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i gynnal gwasanaethau gyda nifer y teithwyr wedi lleihau yn ystod y deunaw mis diwethaf. Ym mis Gorffennaf 2020 cafodd gwasanaeth 5 o’r Wyddgrug i Ellesmere Port, oherwydd diffyg refeniw, ei drosglwyddo’n ôl gan y gweithredwr. Gan fod y gwasanaeth hwn yn rhan o rwydwaith craidd y Cyngor cafodd y contract ei roi ar dendr ac roedd y cynigion a ddaeth i law deirgwaith yn fwy na phris y darparwr blaenorol. Defnyddiwyd cyllid y cynllun brys i gwrdd â’r cynnydd ond roedd pwysau o £100,000 ar y gyllideb oherwydd hyn. Pan gaiff llwybrau eu cynnig ar dendr mae gan weithredwyr ddau ddewis, tendro ar gostau net neu dendro ar gostau gros, ac eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig y gwahaniaeth. Mae’r rhan fwyaf o gontractwyr yn defnyddio’r broses contract gros, sy’n rhoi’r risg yn ôl ar y Cyngor o ran refeniw prisiau. Mae gweithredwyr hefyd wedi dweud bod yna gynnydd aruthrol yn eu costau gweithredu – tanwydd/yswiriant/cyflogau a phrinder darnau i gerbydau, colli gyrwyr (HGV a rolau eraill) a hyfforddi gyrwyr, sydd hefyd wedi’i effeithio.  ...  view the full Cofnodion text for item 67.

68.

Croesfannau Cwrb Isel hygyrch i Gerddwyr pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i gais gan Bwyllgor Craffu’r Amgylchedd a’r Economi ym mis Tachwedd 2021.  Mae’r adroddiad yn nodi sut rydym yn delio gyda darpariaeth cwrb isel i gerddwyr o fewn y briffordd dan sylw mewn perthynas â mannau croesi heb eu rheoli, oherwydd nad oes yna gyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer y ddarpariaeth hon.    Mae’r adroddiad yn amlinellu’r broses ar gyfer derbyn ceisiadau, nodi safleoedd, cydnabod yr ateb priodol, defnyddio’r adnoddau sydd ar gael ac mae’n nodi dulliau cyllid posibl ar gyfer cyrbiau isel hygyrch i gerddwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn dilyn cais gan y Pwyllgor. Mae’n darparu gwybodaeth am geisiadau am groesfannau heb eu rheoli a darparu palmentydd botymog.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd at y newidiadau diweddar yn Rheolau’r Ffordd Fawr, sydd wedi’u nodi dan 1.02 yn yr adroddiad. Amlinellodd resymau a manteision gosod croesfannau gyda chyrbau isel i helpu cerddwyr i groesi’r ffordd fawr yn ddiogel a’r safonau sydd yn rhaid eu cyrraedd. Mae Teithio Llesol yn edrych ar ystyriaethau awdurdodau lleol, ond mae darparu’r rhwydwaith integredig llawn yn mynd i gymryd blynyddoedd. Ystyrir croesfannau gyda chyrbau isel pan wneir gwelliannau i briffyrdd neu waith cynnal a chadw, ac mae manylion y broses o wneud cais ar gael yn yr adroddiad. Nid oes cyllid refeniw ar gyfer y ddarpariaeth hon ond fe archwilir cyfleoedd am gyllid grant. Cyfeiriodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd at y broses flaenoriaethu, sy’n dryloyw, a’r matrics sgorio a ddisgrifir yn yr adroddiad.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd George Hardcastle am ddyrannu cyllid, eglurodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod ceisiadau am gyrbau isel yn cael eu hariannu drwy’r grant Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid craidd Teithio Llesol yn darparu hyblygrwydd i’r Cyngor fynd i’r afael â llwybrau sydd wedi’u nodi ar y Map Teithio Llesol Integredig a’r rhwydwaith. Hefyd, os gwneir cynlluniau cyllid grant ar gyfer gwelliannau neu waith cynnal a chadw, yna bydd y Cyngor yn edrych ar unrhyw gais a wneir am groesfannau gyda chyrbau isel yn yr ardaloedd hynny a bydd y rheiny’n cael eu darparu ar yr un pryd.

 

            Cyfeiriodd Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio at 1.07 ar dudalen 135 sy’n nodi ei bod yn drosedd rhwystro neu barcio ar gyrbau isel i gerddwyr. Soniodd am achosion o bobl yn parcio ar hyd croesfannau isel yn ei ward a gofynnodd pwy sy’n gyfrifol am orfodi hyn. Mewn ymateb, eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y tîm gorfodi yn gallu gweithredu os yw’r bobl wedi parcio ar linellau. Os nad oes llinellau, yna byddai’n rhaid galw’r heddlu gan mai rhwystr yw hynny. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod hyn yn aneglur mewn ardaloedd preswyl ac nad oes gan y Cyngor bwerau oni bai ei fod mewn ardal orfodi benodol a’r tîm gorfodi yn gallu cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig. Byddai angen deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i orfodi ymhob ardal lle ceir rhwystr ar groesfannau gyda chyrbau isel. Cadarnhaodd fod rhai Rhybuddion Cosb Benodedig wedi’u cyflwyno ond mae’n anodd gan fod yn rhaid i swyddogion fod yn bresennol yno ar y pryd. Gofynnodd i’r Aelodau nodi ardaloedd er mwyn iddi eu rhannu â’r tîm gorfodi er mwyn iddynt gynnal patrôl yn yr ardaloedd problemus. Ychwanegodd Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio fod angen sgwrs gadarn gyda Llywodraeth Cymru a’r Heddlu gan nad yw hyn yn cael ei orfodi ac yn anaddas i’r diben os yw pobl yn parcio wrth eu hymyl yn anystyriol.

 

            Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth)  ...  view the full Cofnodion text for item 68.

69.

Parc Arfordir Sir y Fflint pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Mae’r Cabinet yn croesawu barn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar y cynnig i ddatblygu Parc Rhanbarthol Arfordir Sir y Fflint, gan godi proffil y blaendraeth a galluogi cymunedau a busnesau i weithio’n gynaliadwy ac yn arloesol i helpu i ddarparu ffyniant amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Cabinet yn gofyn am farn y Pwyllgor ar ddatblygu parc arfordir.

 

            Cadarnhaodd Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol fod y Rhaglen Mynediad at yr Arfordir, a ddechreuwyd yn 2006, wedi arwain at agor Llwybr Arfordir Cymru. Mae gwaith wedi’i wneud i sefydlu’r cyfeiriad strategol ar gyfer mynediad i’r blaendraeth gyda’r syniadau yn cynnwys parc arfordir (y mae TEP Consultancy wedi cynhyrchu prosbectws ar ei gyfer yn 2014). Darparodd drosolwg o’r fframwaith a’r chwe chanolbwynt, ond ni cheir manylion o ran sut y bydd hyn yn cael ei weithredu, ei ariannu a dan ba bortffolio y bydd. Ers 2014 mae sawl prosiect dan nawdd grant wedi bod yn llwyddiannus, a dywedodd fod awch o hyd i’r datblygiad, yn enwedig ar ôl y pandemig, a theimlwyd bod angen archwilio’r parc arfordir eto, gyda’r posibilrwydd o fwrw ymlaen â’r cynlluniau i greu parc rhanbarthol ffurfiol. Amlinellodd fanteision parc arfordirol a beth sydd wedi’i gyflawni yn ystod y degawd diwethaf. Byddai angen ailedrych ar y prosbectws i ddeall beth sydd wedi newid ac mae’r Cyngor wedi cysylltu â’r cwmni a greodd y prosbectws i ymgymryd â’r gwaith cwmpasu yma. Soniodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol am gyfarfodydd a gynhaliwyd gyda swyddogion sydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith diweddar yng Nghymoedd y De, a darparodd wybodaeth am y testunau amrywiol a drafodwyd. Mae dadansoddiad o’r buddion, y meini prawf ar gyfer cynnwys, canfod cyfleoedd wedi’u hariannu gan grantiau a sut y byddai hyn yn bwydo i mewn i gefnogi’r cais i’r Gronfa Ffyniant Bro, oll yn cael eu hystyried.

 

            Roedd ar y Cynghorydd Patrick Heesom eisiau sicrhau bod hyn yn deg ac yn dod â budd i’r sir gyfan. Mewn ymateb, cytunodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol fod yna adnodd gwych o’r Fflint i Dalacre i Saltney, ac ased i’r sir gyfan. Byddwn yn ailedrych ar y chwe chanolbwynt a nodwyd ym mhrosbectws 2014 fel rhan o’r astudiaeth gwmpasu newydd. Eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y ddogfen strategaeth sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yr un fath â’r un ym mhrosbectws 2014. Mae hyn yn derbyn sylw i sicrhau ei fod yn decach ac yn cynnwys yr arfordir cyfan.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai modd i’r Pwyllgor arwain hyn. Mewn ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r Cyngor Sir yn arwain y cynnig gan gydweithio gyda phob cyngor cymuned ac aelod lleol ar hyd yr arfordir. Byddai’r Cabinet a’r Pwyllgor hwn yn gallu craffu ar unrhyw ddatblygiad a gynigir, a dyna pam bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’w ystyried.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y Gronfa Ffyniant Bro a gofynnodd a fyddai cost i fusnesau. Canmolodd waith ardderchog ceidwaid yr arfordir a chyfeiriodd at waith yn nociau Cei Connah i dorri’r prysgwydd a’i ymweliad gwych i blannu coed ffrwythau gyda disgyblion uwchradd.

 

            Teimlodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd fod y sir wedi tanwerthu ei hun yn y gorffennol ond, gyda’r  ...  view the full Cofnodion text for item 69.

70.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 12.24 pm)

 

 

…………………………

Y Cadeirydd