Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol a’r Camau Gweithredu i’w Holrhain, er mwyn eu hystyried, a rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariadau cryno ar rai o’r eitemau.
Mewn ymateb i geisiadau gan Gynghorwyr, fe wnaeth yr Hwylusydd Craffu gadarnhau y byddai adroddiadau ar y Strategaeth Trafnidiaeth Integredig a Newid Hinsawdd yn cael eu dwyn gerbron y Pwyllgor pan geir unrhyw wybodaeth berthnasol bellach i’w chyflwyno, a chadarnhaodd y gellid ychwanegu Gorfodaeth Cynllunio. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y gellid sefydlu cyfarfod rhithwir gyda’r Tîm Rheoli a Rheolwr y Prosiect o Barc Adfer, oherwydd bod yr ymweliad safle wedi’i ohirio yn y flwyddyn newydd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), fod yna gynlluniau am lwybr beicio o Rydymwyn i’r Wyddgrug a oedd wedi’u cyflwyno, ac roedd Swyddogion yn edrych ar y llwybr gyda’r opsiwn i ddefnyddio tir yr hen reilffordd segur, ond yn anffodus, nid oedd llawer o’r tir hwnnw ym mherchnogaeth y Cyngor. Byddai angen ei hysbysebu fel rhan o Fap Rhwydwaith, a fyddai yna’n disgyn i’r broses ymgeisio ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y byddai hynny ychydig o flynyddoedd i ffwrdd gan fod llawer o waith ynghlwm wrth gaffael y tir a chael cefnogaeth i’r llwybr gan Lywodraeth Cymru.
Gofynnodd y Cynghorydd Evans beth oedd yr amserlen ar gyfer llwybr beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn. Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybod fod yna gyfres lawn o gynlluniau ar gyfer y llwybr nawr, a’i fod wedi bod yn sgwrsio gyda Llywodraeth Cymru am y cyllid posibl yr oeddent yn fodlon ei roi ar gyfer darnau o’r Wyddgrug i Fwcle a Sandycroft i Airbus, yn hytrach na’r hyd i gyd, a byddai’n rhannu’r cynlluniau mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Roedd gan y Cynghorydd Hutchinson ddiddordeb mewn gwybod a oedd llwybr gwreiddiol llwybr beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn a Chaer yn bwriadu bod ar hyd Dyffryn Alun drwy Long a Phenyffordd.Teimlai y byddai’r llwybr hwn yn gwneud beicwyr yn amharod i fynd arno am iddynt orfod beicio i fyny Warren Hill, neu a fyddai’n dilyn y rheilffordd ar hyd Dyffryn Alun, sydd fwy neu lai yn wastad i Frychdyn a thu hwnt, i Saltney a Chaer.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybod mai dyma fyddai’r llwybr a ffefrir, ond yn anffodus nid yw’r tir bellach ym mherchnogaeth y Cyngor. Roedd trafodaethau’n digwydd gyda’r perchennog tir i ddefnyddio darnau o’r rheilffordd wrth iddi ddod allan o’r Wyddgrug drwy Wylfa, lle mae gennym broblemau yn cael lôn feiciau benodol.Cyfeiriodd at lwybr arall sy’n defnyddio’r ymylon, heibio Gwaith Sment Padeswood, hyd at Dobshill. Byddai hon yn lôn feiciau benodol ac nid yn lôn feiciau ar ffordd, felly byddai’n gallu dilyn y rheilffordd am ei hyd i gyd. Byddai manylion yn cael eu rhannu mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod yna gyfres o ymgynghoriadau i fod i ddigwydd ym ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar) Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai o a’r Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol eto i ailgyflwyno’r briffiadau sefyllfaol a gafodd eu rhoi i Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.
PENDERFYNWYD:
Nodwyd. |
|
Trosolwg Adfywio Pwrpas: Ymgyfarwyddo Aelodau'r Pwyllgor â'r ychwanegiadau newydd i'r Cylch Gorchwyl i gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, Datblygu Economaidd a Menter Twristiaeth, Partneriaethau Adfywio, Cynllun Datblygu Gwledig a Croeso Cymru (fel y cytunwyd yn y Pwyllgor ar 21 Medi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y Pwyllgor eu bod wedi trafod y newid i’r Cylch Gorchwyl yn y cyfarfod diwethaf, drwy ddod â Menter ac Adfywio i mewn, a oedd yn adrodd gerbron Cymuned a Menter yn flaenorol.
Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio drosolwg o’r Gwasanaeth Menter ac Adfywio i ymgyfarwyddo’r Pwyllgor â’i agweddau gwaith ef:-
Swyddogaethau Gwasanaeth · Datblygu Busnes · Adfywio Tai · Rhaglenni Cyflogadwyedd · Gwerth Cymdeithasol · Cysylltedd Digidol · Adfywio · Llywodraethu Economaidd
Holodd y Cynghorydd Heesom faint o Aelodau a allai oruchwylio a chyfranogi yn y broses adferiad economaidd. Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod fod craffu ar y broses adferiad economaidd yn swyddogaeth bwysig o’r Pwyllgor hwn. Dywedodd ei fod yn agored i awgrymiadau gan Aelodau ynghylch sut y gellid gwella cyfathrebu.
Rhoddodd y Cynghorydd Shotton sylw ar faint o bwysau sy’n gorfod bod ar y Tîm Gwaith Cymunedol, a holodd a oedd Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth gan y byddai sawl swydd dan fygythiad. Ychwanegodd mai ailhyfforddi oedd yr allwedd i ennill cyflogaeth a gofynnodd a oedd gwaith yn dal yn mynd rhagddo, gan roi esiampl o faint oedd wedi’i wneud gyda’r Sector Gofal. Cytunodd Menter ac Adfywio ei fod yn amser anodd ar y funud, ond nid oedd hyn yn disgyn ar y Tîm Pwyllgorau dros Waith yn unig, roedd yn ymdrech a rennir, ac ni ellid rhagweld niferoedd, ond roedd sgwrs yn parhau i fod, i ddeall y pwysau cyfredol, ac fe roddwyd hyn yn adborth i Lywodraeth Cymru. Roedd rhai rhaglenni dal yn digwydd drwy ddysgu rhithwir, ond nid oedd modd anfon pobl i weithleoedd am brofiad gwaith.
Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod fod pwynt y Cynghorydd Shotton am Gysylltedd Digidol yn gywir, yn y modd bod rhai darparwyr yn buddsoddi, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf poblog, ond ar draws Gogledd Cymru, nid oedd yn digwydd yn aml, gan nad oedd yn ardal ddeniadol i fuddsoddi ynddi’n naturiol. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o raglen cynnig Twf i gysylltedd digidol.
Rhoddodd y Cynghorydd Hutchinson wybod fod yr hen Factory Shop ym Mwcle, a oedd yn eiddo i’w osod yn flaenorol, bellach ar werth, a chwestiynodd beth y gellid ei wneud i’r siop i ddenu cwmnïau, gan ei fod yn troi’n ddolur llygad. Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybod ei fod yn ymwybodol ei fod ar werth ac y gallai’r pris gwerthu ddenu diddordeb, gan nad oedd y pris gosod wedi llwyddo i wneud hynny. Rhoddodd wybod eu bod mewn cysylltiad â’r perchennog i roi cefnogaeth a deall eu hamcanion tymor hwy ar gyfer yr uned.
Cododd y Cynghorydd Hardcastle bryder am y diffyg ymgynghori am leoliadau’r polion gan BT Openreach. Ymatebodd y Rheolwr Menter ac Adfywio drwy ddweud bod gan y Cwmni Cyfleustodau rymoedd a hawliau sylweddol, o ran gosod eu hisadeiledd. Rhoddodd wybod eu bod yn siarad â’r Cyngor, ond bod gan y Cyngor reolaeth gyfyngedig dros beth maent yn ei wneud ac ni allant fynnu eu bod yn ymgynghori. Rhoddodd wybod y bydd adborth yn cael ... view the full Cofnodion text for item 13. |
|
Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) PDF 93 KB Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariad cryno ar y ddwy elfen o’r adroddiad:-
Holodd y Cynghorydd Paul Shotton pa gynlluniau a oedd yn eu lle i symud y broses orfodaeth ymlaen, gan ei fod â nifer o faterion a oedd angen eu datrys. Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybod eu bod wedi cael ymgynghorwyr i gynorthwyo gyda’r ôl-groniad, gyda 160 o achosion yn cael eu trosglwyddo iddynt. Rhoddodd wybod, dim ond 30% o gapasiti oedd gan y tîm yn gynharach yn y flwyddyn, a oedd wedi effeithio’n sylweddol ar eu perfformiad. Roedd y tîm bellach yn ôl yn gweithio i’w gapasiti llawn ac yn gweithio trwy’r achosion a oedd yn weddill, wrth lynu wrth y blaenoriaethau sefydledig o fewn y Polisi Gorfodaeth Cynllunio. Rhoddodd y Prif Swyddog wybod fod 160 achos wedi’i drosglwyddo iddynt.
Holodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Dolphin, pa ganlyniadau a oedd wedi dod yn ôl gan Gontractwyr, a chyfeiriodd at ddau safle yr oeddent wedi bod iddynt, gydag adroddiadau eu bod wedi gyrru heibio heb oedi. Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) drwy ddweud, heb wybod yr achosion unigol ei fod yn anodd rhoi sylw, ond i gadw mewn cof y gellid cael tystiolaeth heb orfod mynd i safle, gan fod angen gofal wrth fynd ar y safleoedd, a’r risgiau a allai wynebu Swyddogion a’r Ymgynghorydd. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi’i feirniadu am beidio ag ymweld â safleoedd oherwydd y risg o achosion Covid, ac yn ddiweddar, roedd un safle â niferoedd uchel o Covid.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed i gefnogi’r Strategaeth Adferiad gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant. |
|
Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) PDF 87 KB Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) ddiweddariad cryno ar y ddwy elfen o’r adroddiad.
Gofynnodd y Cynghorydd Evans a ellid ymestyn oriau agor y Canolfannau Ailgylchu a Thai heibio 5.00 pm i ddarparu ar gyfer pobl sy’n gweithio, a gofynnodd hefyd a oedd staff yn gallu eich cynorthwyo chi fel y mae’n ei ddweud ar y wefan.Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), drwy ddweud bod yr oriau agor yn newid yn y gaeaf, a bod cau am 5.00 pm yn seiliedig ar nifer y cwsmeriaid, gan nad yw’r ffigurau’n cyfiawnhau bod yn agored yn hwyrach.Ychwanegodd y byddai’n fodlon gwneud ymgynghoriad lleol gyda’r ymwelwyr. Hefyd, nid oedd cefnogaeth yn cael ei rhoi i ddefnyddwyr ar hyn o bryd, ond os oedd angen cefnogaeth, gellid ei harchebu drwy’r Ganolfan Gyswllt. Byddai’r wefan yn cael ei diweddaru unwaith y byddai trefniadau wedi’u hadolygu.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Owen Thomas, rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybod, pan oedd angen trwsio cerbyd sbwriel, a bod hyn yn arwain at lai o gerbydau ar rownd, y gellid rhoi gwybod i Aelodau lleol yn y dyfodol. Cytunodd hefyd y byddai coed ar hyd yr A541 yn cael eu hasesu yn dilyn y cyfarfod.
Cwestiynodd y Cynghorydd Hardcastle a oedd y llwybr beiciau rhwng Ewlo ac Aston yn mynd yn ei flaen.Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybod mai cynnig cefnffordd oedd hwn, ac mai eu cyfrifoldeb nhw oedd ei adeiladu.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Hutchinson am nodi darpariaeth ychwanegol i safleoedd claddu, adroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), fod safle’r Hôb wedi’i brynu gan y Cyngor a bod astudiaethau amgylcheddol yn cael eu cynnal, cyn y gellid ei agor o bosibl yn y 3 i 4 mis nesaf. Ychwanegodd fod Penarlâg yn her oherwydd y problemau gyda’r perchennog tir ddim eisiau gwerthu, er bod safle arall wedi’i nodi a oedd yn lleol i’r safle presennol, gyda digon o le am nifer o flynyddoedd. Roedd Bwcle yn fwy o her ond roedd yn ymroddedig i ddod o hyd i ateb. Nid oedd yr un mewn cam critigol lle nad oedd yr un ddarpariaeth.
Cynigiodd y Cynghorydd David Evans yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cefnogi’r cynnydd a wnaed i gefnogi’r Strategaeth Adferiad gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant. |
|
Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus PDF 113 KB Gofyn i’r Pwyllgor Craffu argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r trefniadau adnewyddu ar gyfer rheoli c?n ac yfed alcohol ar y stryd (Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus) yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gyflwyniad byr ar yr ymgynghoriad a wnaed ar y ddau Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) yn ymwneud â Rheoli C?n a Rheoli Alcohol, ac yn ceisio barn, cyn eu hystyried yn y Cabinet, 20 Hydref.
Cyflwynodd Arweinydd Tîm Safonau Masnach yr adroddiad, gan amlinellu’r gofynion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Eglurodd nad oedd PSPO’s â’r hawl i gael effaith am fwy na thair blynedd, oni bai y cânt eu hymestyn o dan Bennod 2, Adran 60 o’r Ddeddf.
Roedd yr ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 3 Awst a 4 Medi 2020, ac roedd y canlyniadau wedi'u rhestru yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys sylwadau a gafwyd drwy e-bost nad oedd modd eu cynnwys wrth lenwi’r arolwg electronig.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio wybod, pan gyflwynwyd y Gorchymyn yn wreiddiol, roedd arwyddion wedi’u gosod i ddechrau, ond yn anffodus, dros amser roeddent wedi cael eu symud oddi yno. Roedd adolygiad llawn o’r arwyddion eisoes wedi digwydd a bydd arwyddion mwy cadarn yn cynnwys mapiau o’r ardal, yn dangos ardaloedd dan waharddiad. Byddai ardaloedd a oedd wedi’u hamlygu fel problem sylweddol, fel Maes Chwarae Lôn y Felin ger Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle, y cyntaf ar y rhestr a phe bai’r estyniad hwn yn cael cymeradwyaeth, symudir ymlaen ag ef ar unwaith, a byddai’n cymryd 3 mis i gwblhau’r prosiect llawn. O ran gorfodaeth o fewn ardaloedd dan waharddiad, mae’r Tîm yn gwirio arwyddion yn y lleoliad cyn iddynt gymryd unrhyw gamau, yn gyntaf drwy siarad â’r bobl, fel rhan o’r broses o ymgysylltu ac addysgu, i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o ba gyfyngiadau sydd yn y lleoliad hwnnw. Os nad ydynt yn cymryd y cyngor hwnnw, yna byddai Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei roi.
Ychwanegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas eu bod yn ymwybodol bod Gr?p Pysgota Rosie ym Mharc Gwepra wedi gofyn am PSPO o amgylch y llyn, i eithrio c?n o’r ardal honno. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton fod yr ardal wedi’i dosbarthu fel ardal hamdden.
Holodd y Cynghorydd Hughes ynghylch pam bod nifer y rhybuddion cosb benodedig yn isel, gan ei fod yn un o’r problemau mwyaf yr oedd pobl yn cysylltu ag ef amdanynt ar ei ward.Ynghyd â’r Cynghorydd Shotton, hoffai weld rhywbeth penodol yn y gorchymyn sy’n targedu perchnogion c?n sy’n methu cael gwared ar wastraff yn y biniau a roddwyd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio nad oedd llwyddiant y tîm gorfodaeth yn cael ei fesur ar faint o rybuddion cosb benodedig a roddwyd, ond eu bod yn edrych ar ymgysylltiad ac addysg.Yn dilyn ymadawiad Kingdom, mae mwy o bwyslais wedi’i roi ar y tîm yn bod yn fwy gweladwy ac yn ymgysylltu a siarad â pherchnogion c?n. O dan Ddeddf yr Amgylchedd, gellir gweithredu camau gorfodi o dan ‘taflu sbwriel’ os yw’r Tîm yn gweld rhywun sydd ddim yn cael gwared ar fagiau gwastraff c?n yn gywir.
|
|
Attendance by members of the press and public Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |