Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

19.

Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 23 Gorffennaf 2024 yn ymwneud â Trosglwyddo’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cyfyngedig wedi cael ei alw i mewn.  Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cynghori fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar ‘Trosglwyddo’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cyfyngedig’ yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2024.  Y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 4236) wedi cael ei alw i mewn ar ddau achlysur gwahanol ac wedi’u dangos yn Hysbysiad Galw i Mewn 1 a Hysbysiad Galw i Mewn 2 ar y Rhaglen.

Copïau o adroddiad y Cabinet, Cofnod o’r Penderfyniad a Chymeradwyo Galw i Mewn 1 a 2 wedi’u cynnwys ym mhecyn y rhaglen.

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol a oedd wedi’i chynnwys yn y rhaglen.

Gwahoddodd y Cadeirydd y llofnodwyr i gyflwyno’r rhesymau dros y galw i mewn i’r Pwyllgor. 

20.

Trosglwyddo’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cyfyngedig pdf icon PDF 1 MB

Pwrpas:        AdroddiadPrifSwyddog (Stryd a Chludiant) - DirprwyArweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o’r adroddiad - Trosglwyddo’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cyfyngedig

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn - 1

·         Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn - 2

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn

Y Cynghorwyr: Alastair Ibbotson, Bill Crease, Marion Bateman, Carol Ellis, Helen Brown a Richard Jones yn amlinellu’r rhesymau ar gyfer y Galw i Mewn, gan egluro’r rhesymau wedi’u hamlinellu yn y Rhaglen.

Ymatebion gan y Penderfynwyr

Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio gyflwyniad manwl yn ymateb i’r pryderon wedi’u mynegi gan y llofnodwyr Galw i Mewn.

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor a’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Stryd a Chludiant i’r sylwadau a gafodd eu gwneud gan y llofnodwyr Galw i Mewn.

Gwahoddodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau i’r penderfynwyr a’r llofnodwyr Galw i Mewn.

Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai a alwodd y penderfyniad i mewn i grynhoi.

Cafwyd crynodeb o’r penderfyniad gan y Cynghorwyr Alasdair Ibbotson a Richard Jones ar ran y llofnodwyr Galw i Mewn.

Cafwyd crynodeb o’r rhesymau dros y cynigion gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyda’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Stryd a Chludiant hefyd yn crynhoi ei gefnogaeth i benderfyniad y Cabinet.

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Aelodau o’r dewisiadau ar gyfer gwneud penderfyniad fel y manylwyd yn eitem 3 ar y rhaglen.

Cynigodd y Cynghorydd Richard Lloyd Opsiwn 2 gyda’r Cynghorydd Simon Jones yn eilio’r cynnig.

Cynigodd y Cynghorydd Roy Wakelam Opsiwn 4, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Coggins-Cogan.  Cafwyd eglurhad na fyddai’n bosib cyflawni’r ail gynnig cyn y bleidlais ar y cynnig cyntaf. 

Cafwyd pleidlais a chefnogwyd Opsiwn 2.

PENDERFYNWYD:

Ar ôl ystyried y penderfyniad nid oedd y Pwyllgor ‘bellach yn bryderus’ ar ôl derbyn yr eglurhad, ond eto ddim o blaid dynodi ei fod yn ‘fodlon gyda’r eglurhad’ ac felly roedd y Pwyllgor yn derbyn ond nid yn cymeradwyo’r penderfyniad.

 

21.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.