Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Gr?p Llafur yn cadeirio’r cyfarfod Hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd David Evans yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd cadarnhad yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd David Evans wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd David Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Chris Dolphin y Cynghorydd Mike Allport fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Hodge. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Mike Allport yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gysylltiad personol ag eitem 9 ar y Rhaglen: Adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Ebrill 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2023.
Cynigiwyd ac eiliwyd bod y cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Richard Lloyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Roy Wakelam.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.
Darparodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariad ar y Gorchmynion Gwarchod Gwasanaethau Cyhoeddus (PSPOs) a oedd wedi ei drefnu ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2023. Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Lloyd, dywedodd y Prif Swyddog y bydd y meysydd a oedd yn cael eu cynnig, yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau cyn yr adolygiad a’r ymarfer ymgynghori.
Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson ar y broblem o faw c?n a gorfodi PSPO. Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a Phrif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) i’r cwestiynau gan y Cynghorydd Hilary McGuill ar faw c?n, arwyddion, a darparu biniau ar gyfer baw c?n.
Gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig unrhyw eitem arall yr oeddent yn dymuno ei chynnwys ar y Rhaglen.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar gynnydd hyd yma.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Hodge a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill. PENDERFYNWYD (a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; (b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a (c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gau’r rhaglen Cymunedau am Waith ledled Cymru, wedi i raglenni Cronfa Strwythurol Ewrop ddod i ben. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gau’r rhaglen Cymunedau am Waith ledled Cymru, wedi i raglenni Cronfa Strwythurol Ewrop ddod i ben. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd ym mis Rhagfyr 2022 y cyhoeddwyd y byddai Sir y Fflint yn derbyn cyllid digonol gan Lywodraeth Cymru i barhau i ddarparu cefnogaeth Cymunedau am Waith a galluogi’r Cyngor i gadw’r tîm llawn o staff i wneud hynny. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a’r newidiadau a gyflawnwyd a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Rhoddodd Rheolwr C4W/C4W+ drosolwg o’r pwyntiau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy (C4W+), rhaglenni llwybrau, ffeiriau swyddi, llwybrau gofal cymdeithasol , gwaith partneriaeth gyda chyflogwyr lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge sut oedd unigolion yn cael eu hatgyfeirio i’r rhaglenni gwaith. Hefyd gofynnodd am ddiweddariad ar waith gyda Waites. Dywedodd Rheolwr C4W/C4W+ bod gwaith gyda Waites yn parhau a rhoddodd sylw ar y canlyniadau llwyddiannus. Hefyd eglurodd bod unrhyw unigolyn o fewn Sir y Fflint 16+ oed sydd yn ddi-waith yn gallu cael mynediad at y Rhaglen C4W+.
Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson sylw ar yr angen i godi ymwybyddiaeth ymysg Aelodau a’r cyhoedd o’r cyfleoedd sydd ar gael gyda’r Rhaglen.
Cododd y Cynghorydd Hilary McGuill gwestiynau ynghylch y goblygiadau ariannol i bobl sydd yn cael taliadau cymorth cymdeithasol. Hefyd gofynnodd a yw ffoaduriaid/ ceiswyr lloches sy’n byw yn Sir y Fflint yn gymwys i gael mynediad at y Rhaglen. Eglurodd Rheolwr C4W/C4W+ bod y Gwasanaeth yn gweithio gydag unrhyw unigolyn sydd yn byw yn Sir y Fflint, a bod pob unigolyn gydag adolygiad mentor cadarn i asesu anghenion, cefndir a sefyllfa ariannol. Cadarnhaodd bod ffoaduriaid yn dod i mewn i’r Sir yn cael eu cefnogi.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Roy Wakelam a’i eilio gan y Cynghorydd Dan Rose.
PENDERFYNWYD I gefnogi cau’r rhaglen Cymunedau am Waith a’r trefniadau newydd i gefnogi pobl ddi-waith hirdymor,
|
|
Benthyciadau Adfywio Canol Trefi PDF 167 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid Benthyciad Canol Tref gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael i’r Cyngor ei weinyddu fel rhan o raglen adfywio canol tref Sir y Fflint Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio gwybodaeth gefndir a chynghorwyd bod yr adroddiad yn rhoi manylion o gyllid benthyciad adfywio canol trefi a ddyfarnwyd i Gyngor Sir y Fflint, a’r meini prawf arfaethedig i’w defnyddio i reoli a gweinyddu’r cyllid i gefnogi darpariaeth o’r rhaglen gwaith adfywio ar draws canol trefi yn Sir y Fflint.Soniodd y Rheolwr Menter ac Adfywio am y pwyntiau allweddol fel y nodir yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Lloyd, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod y benthyciadau ad-daladwy heb log, ond bod ffi weinyddol yn cael ei gynnwys i gyflenwi cost gweinyddu’r benthyciad i’r Cyngor. Gan gyfeirio at y 7 tref a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer datblygiad yn y rhaglen Cynllun Creu Lleoedd, eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio os bydd tref arall yn mynegi diddordeb a chyda chynllun addas yna gellir ei drafod gyda Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Hilary McGuill ynghylch eiddo masnachol, dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y gellir gwneud ceisiadau am fenthyciad drwy’r tenant neu’r landlord, fodd bynnag, roedd y benthyciad yn cael ei sicrhau gan fridiant cyfreithiol ar yr eiddo, felly byddai rhaid cael caniatad y landlord.
PENDERFYNWYD
(a) Nodi’r dyfarniad cyllid benthyciad ad-daladwy ar gyfer adfywio canol trefi yn Sir y Fflint; a
(b) Cymeradwyo’r meini prawf a’r ymagwedd arfaethedig ar gyfer gweinyddu a rheoli cyllid benthyciad ad-daladwy canol trefi ar draws Sir y Fflint.
|
|
Adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig Cyngor Sir y Fflint PDF 480 KB Pwrpas: Cynnal adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad i gyflawni adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd i sicrhau bod Sir y Fflint yn y lle gorau i fwydo a siapio datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTP), cynigiwyd bod adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig y Cyngor yn cael ei gyflawni i helpu penderfynu ar flaenoriaethau cludiant y Sir ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Pwrpas yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r adolygiad a diweddariad ar y “sefyllfa bresennol” ynghylch datblygiadau cludiant cenedlaethol a rhanbarthol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cododd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon ynghylch y Cyd-bwyllgorau Corfforedig a rhoddodd sylw ar y cynnig i gynnal gweithdy ym mis Hydref. Awgrymodd bod cam gweithredu mwy brys ei angen, a bod angen cynnal cyfarfod gyda phob Aelod i gael safbwyntiau ar yr adolygiad o’r Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint.
Siaradodd y Cynghorydd Dave Hughes (Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Cludiant Rhanbarthol) i gefnogi cynnal gweithdy i holl Aelodau ym mis Hydref 2023, a phwysleisiodd y bydd rhagor o fanylion manwl ar gael i’w rhannu ar y pryd. Rhoddodd sicrwydd bod y mater o dagfeydd traffig yn Sir y Fflint wedi ei gydnabod, a bod pryderon parhaus yn cael eu codi gyda Llywodraeth Cymru.
Rhoddodd y Cynghorydd Hilary McGuill ar effaith gwaith atgyweirio ffyrdd ar dwristiaeth, ac amhariad i ymwelwyr sydd yn teithio i Gymru, a gofynnodd a ellir gohirio gwaith ffyrdd/ rheilffyrdd yn ystod penwythnosau G?yl y Banc.
Cododd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gwestiynau ynghylch cymorth i gyflwyno cynnig pellach ar gyfer cyllid Ffyniant Bro. Hefyd mynegodd bryderon ynghylch y gwasanaeth rheilffordd Wrecsam i Bidston, a’r gwasanaeth amgen oedd wedi’i ddarparu.
Mynegodd y Cynghorydd Chris Dolphin bryderon ynghylch y gwyriadau o ganlyniad i waith atgyweirio ffyrdd ar yr A55, a’r difrod a achosir i rwydweithiau ffyrdd lleol ac amhariad i breswylwyr a chymunedau lleol yn Sir y Fflint.
Soniodd y Cynghorydd Roy Wakelam am y diffyg darpariaeth cludiant cyhoeddus mewn rhai ardaloedd a oedd yn atal pobl rhag gallu gweithio. Awgrymodd y Cynghorydd Hilary McGuill ddatrysiadau amgen a allai alluogi pobl i gysylltu â chludiant cyhoeddus mewn lleoliadau allweddol.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr aelodau am eu sylwadau a chadarnhaodd y byddai’r materion a godwyd yn cael eu croesawu yn y gweithdy sydd wedi ei drefnu ar gyfer diweddarach yn y flwyddyn.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Roy Wakelam a’r Cynghorydd Dan Rose.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r datblygiadau cenedlaethol a rhanbarthol sydd yn digwydd yn cael eu nodi, a bod cynnig i gyflawni adolygiad o Strategaeth Cludiant Integredig y Cyngor i helpu hysbysu datblygiad RTP.
(b) Cytuno ar y cynnig i gynnal gweithdy i aelodau i adolygu’r Strategaeth Cludiant Integredig y Cyngor yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.
|
|
AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.30am) |