Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Mawrth 2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023.
Cywirdeb Tudalen 9: Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers fod y datblygiad arfaethedig y cyfeiriodd ato yn Ward Mynydd Bwcle a gofynnodd i’r cofnodion gael eu diwygio i gywiro hyn.
Yn amodol ar y diwygiad uchod, cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel cofnod cywir, fel y cynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Roy Wakelam a’r Cynghorydd Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo’r cofnodion a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.
|
|
NEWID YN NHREFN Y RHAGLEN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod eitem 6: Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28, yn cael ei ddwyn ymlaen.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Dywedodd fod eitem ychwanegol ar y Strategaeth Cludiant Integredig wedi cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 16 Mai, a bod eitem ar y Cynllun Pontio Cerbydau Allyriadau Isel wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod i’w gynnal ar 11 Gorffennaf 2023. Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ar yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd ynghlwm yr adroddiad a dywedodd fod gwaith yn parhau i gwblhau’r ddau gam gweithredu oedd yn weddill.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Mike Peers am ddiweddariad ar y mater o barcio tu allan i ysgolion a gafodd ei ystyried ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), dywedodd fod y gwaith ar ddrafftio cylch gorchwyl yn mynd rhagddo ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yn fuan i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ac Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i’w gymeradwyo.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mike Peers. PENDERFYNWYD: (a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; (b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a (c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
|
|
Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28 PDF 96 KB Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ar gynnwys drafft Cynllun y Cyngor 2023-28, Rhan 1 a Rhan 2, ar gyfer adolygiad ac adborth cyn ei gymeradwyo gan y Cabinet.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd. Roedd strwythur y Cynllun yn cynnwys saith blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y saith blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar adfer, prosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd Cynllun y Cyngor 2023-28 yn cael ei gyhoeddi mewn fformat tebyg i’r blynyddoedd blaenorol, gan nodi camau gweithredu gyda’r nod o gyflawni’r amcanion lles, blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau. Bydd materion/risgiau cenedlaethol a rhanbarthol a all effeithio ar gyflawniad y blaenoriaethau hynny yn cael eu hadnabod a’u monitro. Bydd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei hystyried gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2023-28 a’i fesurau a’u targedau.
Wrth gyd-gyflwyno’r adroddiad, gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) sylw ar strategaethau hirdymor, dyheadau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a phwysleisiodd fod y Cynllun yn cymryd golwg hirdymor ar adferiad dros y 5 mlynedd nesaf.
Siaradodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi o blaid Cynllun y Cyngor a dywedodd ei fod yn ddogfen weledol a oedd yn cefnogi gwaith y Cyngor hyd at 2028 a llongyfarchodd y Swyddogion ar eu gwaith i ddatblygu’r Cynllun. Tynnodd sylw at bwysigrwydd yr is-flaenoriaeth newydd o fewn Cynllun y Cyngor i gomisiynu adolygiad data ar gyfer Sir y Fflint gwledig a chynnal ymgynghoriad cymunedol i ddeall anghenion cymunedau gwledig yn well erbyn Mawrth 2024.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Atodiad 1 -Trosolwg o’r Amcanion Lles, Blaenoriaethau, Is-flaenoriaethau a’u diffiniadau, a gwnaeth sylw ar y blaenoriaethau canlynol: lliniaru ffosffad, cyngor di-garbon net, ffyniant bro, adfywio gwledig ac adfywio canol trefi. Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at Atodiad 2, yr is-flaenoriaeth i leihau diweithdra, a’r diffiniad - gweithio gyda’n partneriaid i gefnogi unigolion i gael cyflogaeth. Trwy wneud sylw ar y camau cyflawni, gofynnodd a oedd y diffiniad yn gymwys i holl unigolion neu grwpiau dan anfantais yn unig.
Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r cwestiynau a phwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers. Eglurodd y byddai adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd yn ymwneud â lliniaru ffosffad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Gr?p Llywio Cynllunio yn y dyfodol. Cyfeiriodd at rôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd a dywedodd fod cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r angen i gyflawni carbon niwtral erbyn 2030 a gallai gael ei ddarparu i’r Aelodau pe dymunent. Gan gyfeirio at y cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Peers ar dynnu’r Ffyniant Bro, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd dyfodol Ffyniant Bro yn hysbys ond gallai prosiectau gael ei halinio pe byddai cyllid ar gael. Hefyd ymatebodd y Prif ... view the full Cofnodion text for item 73. |
|
Polisi grantiau a benthyciadau adfywio tai PDF 129 KB Gofyn i’r Pwyllgor Craffu adolygu’r Polisi Grantiau a Benthyciadau Adfywio Tai diwygiedig ac argymell bod y Cabinet yn ei gymeradwyo Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad i adolygu’r Polisi Grantiau a Benthyciadau Adfywio Tai gan argymell ei gymeradwyo i’r Cabinet. Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith y tîm, yn nodi cyfres o flaenoriaethau a argymhellir ar gyfer y tîm yn y dyfodol, ac yn cynnig y dylai’r Polisi Grantiau a Benthyciadau Sector preifat sydd wedi dyddio gael ei amnewid gydag atodlen syml o grantiau a benthyciadau sydd ar gael i ddeiliaid tai yn Sir y Fflint.
Cyfeiriodd y Rheolwr Menter ac Adfywio at yr ystyriaethau allweddol fel y manylir yn yr adroddiad a thynnodd sylw at y blaenoriaethau fel y nodwyd yn adran 1.13. Roedd yr atodlen presennol o grantiau a benthyciadau gan y gwasanaeth wedi’i atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Gan gyfeirio at yr atodlen o grantiau a benthyciadau ar gael, gofynnodd y Cynghorydd Peers am ragor o wybodaeth ar gyfanswm y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, nifer y grantiau unigol a oedd wedi’u darparu i ymgeiswyr, a manylion ar y broses ymgeisio. Awgrymodd fod angen mwy o wybodaeth er mwyn cynghori unrhyw oedd â diddordeb mewn gwneud cais am fenthyciad neu grant ar sut i wneud cais. Hefyd cododd y Cynghorydd Peers bryderon fod rhai eiddo yn parhau i fod yn wag yn sgil oedi i gael ‘gwarant gwaith’ gan ddatblygwyr tra bo tenantiaid yn cael eu lletya mewn llety dros dro.
Ymatebodd y Rheolwr Menter ac Adfywio at y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers ac eglurodd fod cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer benthyciadau gwelliannau tai o hyd at £35,000 mewn amgylchiadau penodol, ar gael i ddeiliaid tai ac i’w dalu yn ôl erbyn 2030. Dywedodd fod gwybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan y Cyngor a hefyd yn cael ei hyrwyddo’n uniongyrchol. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Peers ar y mater o ‘warant gwaith’, rhoddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio sicrwydd fod Swyddogion yn mynd i’r afael â’r mater.
Cynigiodd y Cynghorydd Mared Eastwood yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dan Rose.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith y tîm Adfywio Tai a chefnogi blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol; a
(b) Nodi’r atodlen grantiau a benthyciadau a chefnogi’r broses ar gyfer addasiad gydag awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Aelod Cabinet Datblygiad Economaidd a Chefn Gwlad a’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i amrywio’r atodlen wrth i argaeledd cyllid neu ofynion newid.
|
|
Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a Chynllun Ynni Ardal Leol PDF 142 KB Mabwysiadu Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Rhanbarthol a chefnogi datblygiad Cynlluniau Ynni Ardal Leol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i ystyried a chefnogi mabwysiadu’r Strategaeth Ynni Rhanbarthol a Chynllun Gweithredu a cheisio cefnogaeth ar gyfer datblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol.
Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd yr adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru, a Chynllun Ynni Ardal Leol, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd bod y gwaith ar yr LAEP wedi dechrau ym mis Ionawr 2023, ac er fod angen cadarnhau’r llinell amser, roedd yn debygol y byddai LAEP Sir y Fflint yn cael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2023. Cynigwyd y byddai diweddariadau blynyddol ar gynnydd yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a’r Cabinet er mwyn sicrhau goruchwyliaeth democrataidd effeithiol o gynnydd ac i ddylanwadu a phenderfynu ar gamau gweithredu wrth symud ymlaen. Roedd Cynllun Gweithredu Strategaeth Ynni Gogledd Cymru a chasgliad o gamau gweithredu lle roedd Awdurdodau Lleol wedi’u canfod fel yr Arweinwyr o fewn y Cynllun Gweithredu Strategaeth Ynni Gogledd Cymru, wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylw ar y diffyg manylion o ran LAEP Sir y Fflint yn yr adroddiad a chyfeiriodd at y dyddiad cwblhau arfaethedig o Ragfyr 2023. Eglurodd y Rheolwr Rhaglen mai dim ond newydd ddechrau oedd datblygiad LAEP Sir y Fflint ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y data i ddatblygu’r Cynllun yn Sir y Fflint a chanfod budd-ddeiliaid mewnol ac allanol oedd angen bod ynghlwm. Eglurodd fod y diweddariadau ar gynnydd y cyfeiriwyd atynt yn adran 1.11 yr adroddiad ar gyfer y Cynllun Rhanbarthol a’r LAEP.
Diolchodd y Cynghorydd Peers i’r Rheolwr Rhaglen am y diweddariad ar lafar a gofynnodd fod cynllun gweithredu ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno i ddarparu manylion o gysylltiadau, llinellai amser a chynnydd ar gyfer LAEP Sir y Fflint. Cytunodd y Rheolwr Rhaglen i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig cyn gynted â phosibl. Awgrymodd y Prif Swyddog y gallai LAEP Sir y Fflint gael ei gynnwys fel eitem ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y gallai drafft o’r Cynllun lleol gael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru atodedig; a
(b) Nodi dechrau Cynllunio Ynni Ardal Leol yn y sir.
|
|
AELODAU'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 10.55am)
|