Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Teresa Carberry gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar y rhaglen: Strategaeth Toiledau Lleol.
|
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Ionawr, 1 Chwefror a 7 Chwefror 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 1 Chwefror a 7 Chwefror 2023.
Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel cofnod cywir, fel y cynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorydd Roy Wakelam a’r Cynghorydd Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 83 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Cyfeiriodd at gyfarfod nesaf y Pwyllgor, a gynhelir ar 23 Mawrth, a fydd yn gyfarfod ar y cyd gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i ystyried parcio y tu allan i ysgolion, a’r eitemau a restrwyd ar gyfer eu hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Tynnodd yr Hwylusydd sylw hefyd at y gweithdai ar y meini prawf eithriadau ar gyfer gweithredu deddfwriaeth 20mya sydd i’w cynnal ar 15 Mawrth 2023.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad, a dywedodd fod yr holl eitemau a oedd yn weddill wedi eu cwblhau.
Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Roy Wakelam. PENDERFYNWYD: (a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; (b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac (c) Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
|
|
Cyflwyniad gan Reolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru Cael y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol prosiectau’r Rhaglen Tir ac Eiddo a’r broses o ganfod prosiectau amgen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) eitem i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol prosiectau’r Rhaglen Tir ac Eiddo a’r broses o ganfod prosiectau amgen. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun gwaith Uchelgais Gogledd Cymru, a chyflwynodd David Matthews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, Uchelgais Gogledd Cymru. Rhoddodd Mr Matthews gyflwyniad am Fargen Dwf Gogledd Cymru – Rhaglen Tir ac Eiddo, a oedd yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol:
o Arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel o Bwyd-amaeth a thwristiaeth o Cysylltedd digidol o Tir ac eiddo o Ynni carbon isel
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am wybodaeth yngl?n ag unrhyw fuddsoddiad a wnaed gan Gyngor Sir y Fflint yn y Rhaglen Tir ac Eiddo, a mynegodd bryderon yngl?n â’r datblygiad a’r effaith ar isadeiledd ffyrdd a thir yn Sir y Fflint a’r amserlenni. Ymatebodd Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo i gwestiynau a sylwadau’r Cynghorydd Attridge. Darparodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ymateb pellach i’r sylwadau’n ymwneud â chynllun datblygu Neuadd Warren, Brychdyn.
PENDERFYNWYD: Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
Safonau’r Gwasanaethau Stryd PDF 164 KB Nid yw Safonau’r Gwasanaethau Stryd wedi cael eu hadolygu ers 2019. Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r safonau presennol ac yn argymell diwygiadau i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gyflawni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad a oedd yn amlinellu’r bwriad i adolygu’r Safonau presennol ac argymell newidiadau sy’n cysylltu’n agosach i Gynllun y Cyngor a Chynllun Busnes portffolio. Eglurodd mai’r bwriad oedd sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd a phreswylwyr, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael. Diben yr adroddiad oedd egluro diffygion y ddogfen bresennol a cheisio cefnogaeth gan Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Stryd a Chludiant i adolygu a chefnu ar y Safonau presennol. Byddai hyn yn creu cyfres o fetrigau perfformiad mwy cadarn a pherthnasol y gellid eu mesur, monitro ac adrodd amdanynt yn fwy effeithiol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Awgrymodd y Cynghorydd Bernie Attridge y dylid cynnull Gr?p Tasg a Gorffen i gefnogi adolygu’r Safonau, a chefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylwadau ar yr angen i sicrhau bod y Safonau’n cael eu gweithredu, nid eu hanwybyddu. Yr oedd yn cefnogi ffurfio Gr?p Tasg a Gorffen. Wrth ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Peers, anogodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr Aelodau i roi gwybod am unrhyw broblemau neu ddiffygion o ran perfformiad yn uniongyrchol i Swyddogion, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, neu’r Ganolfan Gyswllt fel bod y mater yn cael ei gofnodi, ei neilltuo, a chamau gweithredu priodol yn cael eu cymryd.
Cododd y Cynghorydd Richard Lloyd bryderon yngl?n â’r oedi a brofwyd gan rai preswylwyr wrth gael mynediad at y gwasanaethau a ddarperir gan Ganolfannau Cyswllt, a gofynnodd i ddarpariaeth ychwanegol fod ar gael yn ward Saltney er mwyn galluogi preswylwyr lleol i dalu am wasanaethau. Gwnaeth sylwadau hefyd yngl?n â glanhau llochesi bws, a chyfeiriodd at ddarpariaeth llochesi bws yn ei ward. Gwnaeth Aelodau sylwadau yngl?n â’r angen i ddarparu gwybodaeth gyfredol am amserlenni mewn llochesi bws, a sicrhau bod amserlenni bysiau ar gael i’r cyhoedd mewn fersiwn wedi ei argraffu yn ogystal ag ar-lein.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Roy Wakelam.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnig i gefnu ar ddogfen bresennol Safonau’r Gwasanaethau Stryd, a chefnogi’r adolygiad arfaethedig i’w disodli gyda chyfres ddiwygiedig o fetrigau perfformiad sy’n ategu safonau gwasanaeth er mwyn mesur perfformiad yn ôl goblygiadau statudol presennol, Cynllun y Cyngor a pholisïau presennol;
(b) Cyflwyno adroddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi ei gwblhau; a
(c) Chynnull Gr?p Tasg a Gorffen i ystyried datblygiad y Safonau newydd.
|
|
Polisi Torri Glaswellt PDF 123 KB Cynghori Craffu am y Polisi Torri Glaswellt diwygiedig Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor am y Polisi Torri Glaswellt diwygiedig yn dilyn gweithdy i’r holl Aelodau, a gynhaliwyd ar y cyd ym mis Ionawr 2023 gan bortffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant a phortffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd mai diben yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r gwaith a wnaed hyd yma gan y ddau bortffolio, ac i ystyried y cyfleoedd ar gyfer adolygu’r polisi yn y dyfodol. Yn ogystal, yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaeth gweithredol torri glaswellt yn ystod 2022.
Adroddodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd a Goruchwyliwr Gwasanaethau Stryd ar y cyd am y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a’i thîm gan y Cynghorydd Bernie Attridge am y gwelliannau cyffredinol yn y gwasanaeth torri glaswellt. Gwnaeth sylwadau hefyd ar rai o’r pryderon eraill a oedd ganddo yngl?n â gerddi tenantiaid a chyfeiriodd at dorri glaswellt mewn ardaloedd bychain yn perthyn i dai gwarchod fel enghraifft.
Wrth ymateb i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â chynnal a chadw ardaloedd wrth ymyl garejis, eglurodd y Prif Swyddog fod cynnal a chadw ardaloedd garejis sy’n perthyn i dai cymdeithasol yn dod o fewn cylch gwaith y Gwasanaeth Tai.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r gwaith a wnaed hyd yma a’r cyfleoedd i gynyddu bioamrywiaeth wrth reoli’r lleiniau ar ymyl ein ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder; a
(b) Chefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r polisi torri glaswellt a’r gostyngiad wedi ei dargedu yn y defnydd o blaladdwyr.
|
|
Strategaeth Toiledau Lleol PDF 129 KB Cynghori Craffu bod y pwynt adolygu statudol ffurfiol nesaf ar gyfer ein Strategaeth Toiledau Lleol angen dilyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai 2022, a bod gennym flwyddyn o ddyddiad yr etholiadau i adolygu, diwygio, ymgynghori arno a chyhoeddi strategaethau diwygiedig ar gyfer ein hardal leol. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r dull a gymerir ac amserlenni’r adolygiad. Bydd y Strategaeth Toiledau Lleol diwygiedig yn cael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybodaeth gefndir a hysbysodd fod gofyn i Gyngor Sir y Fflint adolygu a darparu datganiad cynnydd ‘diwedd cyfnod’ ar gyfer y strategaeth toiledau lleol o fewn blwyddyn i bob etholiad cyffredin ar gyfer ei ardal. Dyddiad etholiad llywodraeth leol yng Nghymru oedd 5 Mai 2022, a oedd yn golygu mai’r dyddiad hwyraf ar gyfer adolygiad oedd erbyn 4 Mai 2023. Diben yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r cefndir deddfwriaethol a nodi sut oedd y Cyngor yn bwriadu adolygu’r strategaeth bresennol.
Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Ardal yr adroddiad a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at amserlen arfaethedig yr adolygiad fel yr amlinellir ym mharagraff 1.07 yr adroddiad. Adroddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd ar yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus statudol a oedd i’w gynnal.
Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon yngl?n â darpariaeth toiledau cyhoeddus mewn cymunedau lleol yn y dyfodol. Gofynnodd a oedd mwy o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru neu ffrydiau cyllido amgen i wella’r cyfleusterau sydd ar gael ar hyn o bryd. Ymatebodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Attridge, a dywedodd fod cyfleoedd newydd yn cael eu hystyried i gynnig darpariaeth ledled y Sir.
Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylwadau am y cyfleusterau sydd ar gael mewn Cynghorau Tref a Chymuned, a chyfeiriodd at ddatblygiad arfaethedig yn ward Mynydd Bwcle.
Cafodd yr argymhellion, fel y nodir yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Mike Allport.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi adolygiad arfaethedig o’r strategaeth toiledau lleol; a
(b) Chymeradwyo’r dull gweithredu a’r amserlenni y bwriedir eu dilyn, fel y nodir yn yr adroddiad.
|
|
Gwasanaethau Profedigaeth PDF 130 KB Hysbysu’r pwyllgor am y gwasanaethau a ddarperir a’r heriau a wynebir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybodaeth gefndir a dywedodd mai diben yr adroddiad oedd darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y capasiti claddu presennol ym mynwentydd Sir y Fflint a rhoi trosolwg o’r dewisiadau ar gyfer adolygu a chynyddu capasiti.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cludiant. Gwahoddodd Reolwr y Gwasanaethau Profedigaeth i ddarparu trosolwg o’r capasiti claddu sydd ar ôl ym mynwentydd Penarlâg Rhif 2 a Bwcle, a oedd ar lefel ddifrifol – disgwylid y byddai’r ddwy fynwent yn llawn ymhen pedair blynedd yn unig. Dywedodd fod dau brosiect ar wahân, sydd â’r nod o ddarparu capasiti ychwanegol yn y ddau leoliad, yn mynd rhagddynt a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau. Adroddodd hefyd am y datrysiadau amgen a allai gynorthwyo gyda’r pwysau a chyfyngiadau presennol sy’n gysylltiedig â’r gofyn am gladdu, a’r dewisiadau sy’n cynnig gwell buddion amgylcheddol.
Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau am y capasiti sy’n weddill ym mynwentydd Penarlâg a Bwcle, a gofynnodd sawl cais am gladdu oedd yn “geisiadau newydd”, neu a oedd yn gysylltiedig â lleiniau teuluol presennol. Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd digon o dir ar gael yn y sir i ehangu’r ddarpariaeth, a mynegodd bryderon yngl?n â’r angen i brynu tir ychwanegol. Cyfeiriodd at y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac a oedd unrhyw safleoedd ynddo.
Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell a oedd gan y Cyngor bolisi ar ‘bentyrru’ claddedigaethau a’r rhesymau dros ffafrio claddu yn hytrach nag amlosgi. Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth hefyd i’r cwestiynau a sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Dan Rose am ddarpariaeth mewn awdurdodau cyfagos, costau angladdau a hyrwyddo’r dewisiadau sydd ar gael, y posibilrwydd o ddefnyddio tir mewn mynwentydd sydd wedi cau, cynllunio hirdymor yn ymwneud ag effaith demograffeg a datblygiadau tai newydd ac yn y dyfodol, ac amserlen ar gyfer defnyddio lleiniau claddu ar gyfer aelodau o’r teulu.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Roy Wakelam.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor Craffu’n nodi’r lefelau capasiti cyfredol ym mhob un o fynwentydd y sir, ac yn nodi’r angen i gynyddu capasiti mewn safleoedd lle mae’r sefyllfa’n ddifrifol;
(b) Bod y Pwyllgor Craffu’n cefnogi cais am gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer symud ymlaen gydag ehangu mynwent Penarlâg Rhif 2;
(c) Bod y Pwyllgor Craffu’n cefnogi cynigion i ddarparu capasiti claddu ychwanegol ym Mynwent Bwcle, ac yn cymeradwyo cyflwyno cais yn y dyfodol am gyllid cyfalaf; a
(ch) Bod y Pwyllgor Craffu’n cymeradwyo ymchwilio mwy i ddewisiadau claddu ac amlosgi amgen fel ffordd o gynnal capasiti mynwentydd yn y dyfodol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
|
|
AELODAU'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 12.28pm)
………………………… Y Cadeirydd |